Mae cadeiriau olwyn y traeth ac offer pob tir yn helpu i wella mynediad i draethau arobryn Sir Benfro a mannau awyr agored eraill yn y Parc Cenedlaethol. Mae gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro amrywiaeth o offer gwahanol, y gallwch eu llogi am ddim o wahanol leoliadau yn y Parc Cenedlaethol.
Dolenni cyflym
Ewch i’r wefan archebu i archebu offer symudedd ymlaen llaw ar-lein (yn agor mewn ffenestr newydd)
Gadewch adborth – dywedwch wrthym am eich profiadau (yn agor mewn ffenestr newydd)
Cynllun Symudedd Awyr Agored: Gwella Mynediad ar Hyd Arfordir Penfro
Mae’r Cynllun Symudedd Awyr Agored, dan arweiniad Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, yn fenter arloesol sy’n gwella hygyrchedd a chynhwysiant i breswylwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd.
Mae’r cynllun hwn yn grymuso unigolion ag anawsterau symudedd drwy ddarparu cyfleoedd iddynt archwilio a mwynhau arfordir godidog Sir Benfro a mannau ehangach y Parc Cenedlaethol. Mae’n cynnig:
-
Mynediad trwy gydol y flwyddyn at rai o leoliadau mwyaf godidog yr arfordir a’r Parc Cenedlaethol yn Sir Benfro.
-
Cyfleoedd i unigolion ag anawsterau symudedd brofi a mwynhau mannau naturiol na fyddent fel arall yn hygyrch iddynt.
Ble i Ddod o Hyd i Offer Symudedd
Opsiynau Amrywiol o ran Offer
Gan adeiladu ar 19 mlynedd o ddarparu cadeiriau olwyn pob tir a chadeiriau olwyn y traeth, mae’r cynllun bellach yn cynnig ystod ehangach o adnoddau hygyrchedd, gan gynnwys:
-
Traciau rholio – i hwyluso symud dros arwynebau anwastad.
-
Rolatwyr pob tir – yn darparu sefydlogrwydd ychwanegol ar dir garw.
-
Hoistiau symudol – i gynorthwyo gyda throsglwyddiadau diogel a hawdd.
-
Rhampau symudol – i wella mynediad i lety wedi’i rentu.
-
Dolenni sain cludadwy – i alluogi unigolion i gymryd rhan lawn mewn gweithgareddau gyda ffrindiau a theulu.
Mae’r fenter hon yn sicrhau bod mwy o bobl yn gallu profi harddwch tirweddau Sir Benfro, gan feithrin amgylchedd awyr agored mwy cynhwysol a hygyrch i bawb.
Gallwch logi offer symudedd o’r lleoliadau canlynol, sydd hefyd wedi’u dangos ar y map isod:
Mynediad i Bawb – dewch o hyd i wybodaeth am lwybrau cerdded a thraethau sydd â mynediad hawdd