Os ydych am ffilmio yn y Parc Cenedlaethol, darllenwch ein Canllaw Ymholiadau Ffilmio cyn cysylltu â ni, oherwydd y gallai ateb nifer o'ch cwestiynau. Os ydych chi'n bwriadu defnyddio drôn, darllenwch ein canllaw dronau.
Fe allwch chi ffilmio ar dir cyhoeddus, sy’n cynnwys priffyrdd cyhoeddus. Ond, os ydych chi am ffilmio ar dir preifat, mae angen i chi ofyn am ganiatâd perchennog y tir.
Mae’r map rhyngweithiol isod yn dangos tir sy’n eiddo i Awdurdod y Parc Cenedlaethol. Sylwch fod y map hwn yn ddangosol yn unig; cysylltwch â ni i drafod eich cais ffilmio.
I weld tir sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ewch i wefan y National Trust (agor mewn ffenest newydd).
Mae mapiau Arolwg Ordnans yn dangos tir sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda symbolau yng nghanol ardaloedd sydd wedi eu nodi gan ffin borffor.
Os oes unrhyw ymholiadau gennych ynglŷn â ffilmio neu ffotograffiaeth ar dir sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ewch i www.nationaltrust.org.uk/film-hire.
Os hoffech chi ffilmio ar dir Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, ebostiwch y Tîm Cyfathrebu neu ffoniwch ni ar 01646 624800.
Map rhyngweithiol