Telerau ac Amodau Tocyn Blwyddyn
- Mae tocyn blwyddyn yn caniatáu i’r personau a enwir arno i gael mynediad i Gastell a Melin Heli Caeriw ac i Bentref Oes Haearn Castell Henllys hyd at ac yn cynnwys y dyddiad terfynol a ddangosir ar y tocyn yn ystod yr oriau agor a hysbysebir.
- Bydd tocyn blwyddyn yn ddilys am 12 mis o ddyddiad ei gyhoeddi.
- Nid yw tocyn blwyddyn yn cynnwys mynediad i ddigwyddiadau â thocyn y telir amdanynt, digwyddiadau gyda’r nos neu ddigwyddiadau a gynhelir ar y safleoedd gan drydydd parti. Gweler hysbyseb y digwyddiad penodol am fwy o fanylion.
- Mae ein tocyn blwyddyn teulu yn ddilys ar gyfer dau oedolyn (17-64 oed) a dau blentyn (4-16 oed).
- Mae rhaid i bob plentyn dan 14 mlwydd oed gael eu hebrwng gan oedolyn cyfrifol bob amser.
- Mae tocyn blwyddyn consesiynol yn ddilys ar gyfer pobl 65 oed a throsodd ac ar gyfer myfyrwyr sy’n berchen ar gerdyn myfyriwr dilys.
- Bydd deiliaid tocyn blwyddyn ond yn derbyn mynediad trwy gyflwyno tocyn blwyddyn dilys (ni dderbynnir copïau digidol neu ffotograffau).
- Gellir cyhoeddi tocyn blwyddyn newydd os collwch eich un chi. Codir tâl gweinyddol bychan am y gwasanaeth hwn.
- Ni ellir trosglwyddo unrhyw docynnau blwyddyn.
- Efallai y gofynnir ichi gyflwyno dogfen adnabod pan fyddwch yn defnyddio eich tocyn blwyddyn.
- Bydd unrhyw gais i ddefnyddio’r tocyn blwyddyn gan berson heblaw’r deiliad a enwir, waeth beth fo’r rheswm, yn golygu na chewch fynediad i’r safle.
- Ni ellir rhoi ad-daliad am docynnau blwyddyn.
- Bydd ad-daliad am docynnau dydd yn erbyn cost prynu tocynnau blwyddyn yn ddilys ar ddiwrnod eu prynu’n unig a byddant ond o werth cyfwerth.
- Cofiwch wirio ein horiau agor cyn ymweld â ni.
- Rydym yn cadw’r hawl i newid ein horiau / dyddiadau agor a chau.
- Ni allwn dderbyn cyfrifoldeb am wybodaeth wallus ar wefannau allanol, felly cofiwch wirio ar ein gwefan ni bob amser.
- Wrth brynu tocyn blwyddyn, mae deiliad y tocyn blwyddyn yn cydnabod bod prosesu eu data personol yn angenrheidiol ar gyfer oes ein cytundeb gyda hwy. Am fanylion llawn sut a pham y byddwn yn prosesu’r data yma, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd – Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
- Os yw tocyn blwyddyn yn cael ei brynu ar gyfer unigolyn dan 16 mlwydd oed, bydd y rhiant / gwarcheidwad sy’n prynu’r tocyn yn rhoi caniatâd inni brosesu data’r plentyn.