Gweledigaeth a Nodau
Gweledigaeth gyffredinol yr Asesiad SG yw cynllunio’n strategol ar gyfer rhwydwaith SG Sir Benfro trwy nodi a rheoli ymyriadau ledled y sir.
2.1 Mae ffocws y cynigion ar gyflawni a rheoli yn y dyfodol, gan ddarparu map trywydd ar gyfer buddsoddi yn y dyfodol mewn SG. Trwy ganolbwyntio ymyriadau o fewn 11 anheddiad allweddol yn Sir Benfro, atgyfnerthir rhwydwaith strategol SG, fel y dangosir ar y ffigur isod.
Ffigur 2.1: Rhwydwaith Seilwaith Gwyrdd Strategol Sir Benfro
2.2 Cefnogir gweledigaeth yr Asesiad SG gan gyfres o chwe nod, fel y’u hamlinellir isod:
- Nod 1 – Creu lleoliad ar gyfer ffyniant trefol a gwledig
- Nod 2 – Gwella’r profiad i ymwelwyr a’r economi
- Nod 3 – Adeiladu cymunedau iachach
- Nod 4 – Cynnal a gwella ansawdd lle
- Nod 5 – Sicrhau bod ardaloedd trefol a gwledig yn gallu gwrthsefyll newid yn yr hinsawdd
- Nod 6 – Diogelu a gwella bioamrywiaeth a rhwydweithiau naturiol
2.3 Mae’r chwe nod hyn yn cydredeg yn agos â Themâu Datganiad Ardal De-orllewin Cymru (Agor mewn ffenest Newydd ) (gweler isod) a byddant yn helpu i ddarparu’r rhwydwaith SG ac yn sail i fonitro ei lwyddiant. Bydd eu cyflawniad yn dibynnu ar ddosbarthu arweinyddiaeth ar draws ystod eang o adrannau CSP / APCAP a phartneriaid allanol trwy broses gydweithredol a arweinir gan SG. Trwy gyflwyno dull integredig o sicrhau SG ledled y sir, galluogir amrywiaeth fwy o fuddion amlswyddogaethol ar gyfer ystod ehangach o dderbynyddion. Ar ben hynny, bydd y nodau’n hyrwyddo dull strategol, ond cyfannol, o gynllunio, dylunio a rheoli SG.
Mae Lleihau Anghydraddoldebau Iechyd yn cydredeg â’r nodau canlynol:
- Nod 1 – Creu lleoliad ar gyfer ffyniant trefol a gwledig
- Nod 3 – Adeiladu cymunedau iachach
Mae Sicrhau rheoli tir cynaliadwy yn cydredeg â’r nodau canlynol:
- Nod 1 – Creu lleoliad ar gyfer ffyniant trefol a gwledig
- Nod 2 – Gwella’r profiad i ymwelwyr a’r economi
- Nod 4 – Cynnal a gwella ansawdd lle
Mae Gwrthdroi dirywiad bioamrywiaeth, a gwella bioamrywiaeth, yn cydredeg â’r nodau canlynol:
- Nod 5 – Sicrhau bod ardaloedd trefol a gwledig yn gallu gwrthsefyll newid yn yr hinsawdd
- Nod 6 – Diogelu a gwella bioamrywiaeth a rhwydweithiau naturiol
Mae Lliniaru newid hinsawdd ac addasu i hinsawdd sy’n newid yn cydredeg â’r nodau canlynol:
- Nod 2 – Gwella’r profiad i ymwelwyr a’r economi
- Nod 4 – Cynnal a gwella ansawdd lle
- Nod 5 – Sicrhau bod ardaloedd trefol a gwledig yn gallu gwrthsefyll newid yn yr hinsawdd
- Nod 6 – Diogelu a gwella bioamrywiaeth a rhwydweithiau naturiol
Ffigur 2.2: Themâu Datganiad Ardal De-orllewin Cymru
Pennod flaenorol:
Throsolwg o’r Asesiad Seilwaith Gwyrdd Sir Benfro
Pennod nesaf:
Sut i ddefnyddio’r Asesiad Seilwaith Gwyrdd
Dychwelyd i’r hafan:
Hafan