Cynnwys tudalen:
Prosiectau Graddfa Strategol Sir Benfro
SP1 – Defnyddio atebion seiliedig ar natur i wella llifogydd ac ansawdd dŵr
SP2 – Gwella afonydd Sir Benfro ar gyfer pysgod a bioamrywiaeth
SP3 – Ail-gydbwyso draeniad trefol i wella ein hafonydd
Prosiectau Graddfa Strategol Sir Benfro
5.1 Mae tri phrosiect strategol lefel uchel wedi’u nodi ledled Sir Benfro. Nid yw’r rhain yn benodol i leoliad ond maent yn berthnasol ar draws y raddfa dirwedd a dalgylch. Nod y tri phrosiect hyn yw mynd i’r afael â phwysau allweddol sy’n wynebu Sir Benfro heddiw, gan gynnwys llifogydd, ansawdd dŵr a dirywiad bioamrywiaeth, yn enwedig o fewn afonydd Sir Benfro.
Ffigur 5.1: Trosolwg o brosiectau SG strategol yn Sir Benfro
SP1 – Defnyddio atebion seiliedig ar natur i wella llifogydd ac ansawdd dŵr
5.2 Oherwydd ymyriadau dynol hanesyddol, newidiwyd llawer o’r dirwedd yn Sir Benfro i gynorthwyo draenio tir. Mae hyn wedi golygu defnyddio draeniau tir, ffosydd caeau yn ogystal â newidiadau ffisegol i afonydd a nentydd. Gall arferion defnydd tir effeithio’n andwyol ar risg llifogydd, ansawdd dŵr ac amgylcheddau dyfrol. O ganlyniad, mae rhai o afonydd Sir Benfro dan fygythiad oherwydd lefelau maetholynnau dŵr – y rhai sy’n peri gofid penodol yw Afonydd Cleddau, sy’n cael eu gwarchod fel Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) a Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA). Er mwyn osgoi gwaethygu’r sefyllfa, rhaid i bob datblygiad newydd o fewn dalgylchoedd afonydd ACA ddangos nad ydyn nhw’n cynyddu llwythi maethol yn yr afonydd er mwyn cael caniatâd cynllunio. Mae hyn yn arwain at argyfwng yn y diwydiant datblygu.
5.3 Gall ymyriadau a newidiadau syml i arferion amaethyddol a defnydd tir wneud gwelliannau sylweddol i risg llifogydd, gwytnwch ac ansawdd dŵr. Mae’r enghreifftiau canlynol i gyd yn synergaidd o ran sicrhau gwelliannau yn y ddwy agwedd – mae cadw dŵr o fewn y dirwedd yn fanteisiol o ran lleihau dŵr ffo sy’n llawn o faetholion gwella gwytnwch rhag llifogydd.
5.4 Mae enghreifftiau o ymyriadau posibl yn cynnwys:
- Creu lleiniau clustogi torlannol, gan leihau pori’n agos at gyrsiau dŵr
- Ffurfioli ardaloedd dyfrhau da byw, gan alluogi codi ffensys ar hyd cwrs dŵr i’w hamddiffyn rhag erydiad glannau, potsian y glannau ac effaith tail
- Plannu ymylon caeau a lleiniau cysgodi â choed / prysglwyni er mwyn cadw mwy o ddŵr o fewn plannu coed a phrysglwyni
- Defnyddio technegau ffermio adfywiol i leihau aredig ac felly lleihau’r ardal a’r amser pan fydd daear foel yn y dirwedd
- Creu argaeau naturiol o fewn cyrsiau dŵr bychain, arafu llif a chynyddu amrywiaeth cynefinoedd o fewn y dirwedd
- Cymryd tir allan o amaethyddiaeth ddwys, naill ai drwy fentrau dad-ddofi, neu drwy welliannau i arferion amaethyddol i leihau’r mewnbwn maethol i’r tir
5.5 Mae ‘Partneriaeth Menter Ecosystem – Adeiladu Atebion Naturiol’ yn brosiect sydd eisoes yn bodoli, dan arweiniad Fforwm Arfordirol Sir Benfro, gyda’r nod penodol o ddatgloi’r cyfyngder presennol yn y diwydiant datblygu sy’n gysylltiedig â llwytho maetholion mewn afonydd. Cyfunwyd canlyniadau’r prosiect hwn yn Offeryn Cynllunio Defnydd Tir Partneriaeth Natur Sir Benfro. Mae hwn yn mapio ardaloedd o risg a chyfleoedd yn y dirwedd o ran dŵr ffo maethol i gyrsiau dŵr. Mae hefyd yn fodd o fapio ardaloedd lle mae cyfle i wella rheolaeth naturiol ar lifogydd. Dylid defnyddio’r adnoddau mapio hyn i hadu proses o adnabod, blaenoriaethu a darparu ymyriadau i sicrhau buddion yn y dirwedd a fyddai’n gwella gwytnwch rhag llifogydd ac ansawdd dŵr.
5.6 Ymhlith buddion y prosiect, fel y’u darlunnir yn Ffigur 5.2 isod, mae:
- Lleihau risg llifogydd
- Gwella ansawdd dŵr
- Lle i fywyd gwyllt a gwytnwch ecolegol
- Dal a storio carbon a lliniaru newid hinsawdd
Ffigur 5.2: Buddion y prosiect
Darparu atebion seiliedig ar natur a gwasanaethau ecosystemau
5.7 Mae rheoli defnydd tir ers yr Ail Ryfel Byd wedi golygu mwy o ddraenio’r tir, mewn ymgyrch i sicrhau bod tir fferm mor effeithlon ag sy’n bosibl. Mae hyn wedi arwain at leihau amrywiaeth cynefinoedd, a cholli gwlyptiroedd, glaswelltir gwlyb a chynefinoedd daearol gwlyb cysylltiedig. Mae hefyd wedi cynyddu risg llifogydd, am ei fod yn cynyddu cyflymder a maint y dŵr sy’n llifo i lawr dalgylchoedd, gan leihau effaith glustogi’r dirwedd yn ystod glaw trwm a maith. Mae draeniad cynyddol priddoedd gwlyb hefyd yn cael effaith andwyol ar allu’r pridd hwnnw i ddal a storio carbon. Mae mwy o ddŵr ffo o dir amaethyddol sy’n cael ei ffermio’n ddwys hefyd yn cynyddu’r llwytho maethol ar afonydd a nentydd.
5.8 Trwy ddefnyddio technegau megis lleiniau clustogi torlannol, lleihau erydiad a photsian y glannau, plannu lleiniau cysgodi ac ymylon caeau a chreu argaeau naturiol o fewn cyrsiau dŵr bychain, gellir cynyddu’n sylweddol allu’r dirwedd i amsugno glawiad a chlustogi rhag glawiad. Gall cyflwyno arferion ffermio adfywiol neu systemau dwysedd isel gynyddu gallu priddoedd ac ecosystemau i gadw dŵr a dal a storio carbon. Byddai hyn yn cael effaith fuddiol gydredol ar risg llifogydd, ansawdd dŵr ac ar fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.
Mecanweithiau cyflawni
5.9 Gwnaethpwyd gwaith sylweddol eisoes gan Fforwm Arfordirol Sir Benfro a Phartneriaeth Natur Sir Benfro i gymhathu data a gedwir yn yr Offeryn Cynllunio Defnydd Tir. Y cam cyntaf i’r prosiect hwn felly fyddai meithrin perthynas â’r sefydliadau hyn er mwyn gallu bwrw ymlaen â’r camau nesaf ar y cyd.
5.10 Ar ôl sicrhau partneriaid i’r prosiect, cynigir dau gam cyntaf i’r prosiect:
- Cymryd y set ddata bresennol a’i defnyddio i groes-gyfatebu yn erbyn perchnogaeth tir partneriaid a rhanddeiliaid prosiect, gan ddarparu ardaloedd o’r sir ar gyfer prosiectau ymyrryd cyfnod cynnar y gall trafodaethau tirfeddiannwr neu berchennog torlannol ar eu cyfer fod yn llai beichus.
- Er mwyn cynnal ymarfer cwmpasu cyllid, nodi modd o ariannu ehangiad y prosiect o’r prosiectau cychwynnol sy’n seiliedig ar dir sy’n eiddo i randdeiliaid i ddarpariaeth ehangach, ar raddfa sirol neu ddalgylch. Un opsiwn ar gyfer cyllid parhaus yw cynllun masnachu maetholion, lle mae datblygwyr yn gwneud cyfraniadau at gronfa y gellir wedyn ei defnyddio i ariannu newidiadau i ddefnydd tir ac arferion amaethyddol sy’n lleihau mewnbynnau maetholion yn yr un dalgylch lle mae’r datblygiad i ddigwydd.
5.11 Pan fydd ardaloedd o gyfle allweddol wedi bod yn destun dilysu daearol ac wedi’u diffinio, byddai angen ymgysylltu â thirfeddianwyr a deiliaid / porwyr tir er mwyn cyflwyno’r cyfleoedd hyn a thrafod eu heffeithiau ar ddefnydd tir presennol. Gall hyn arwain at golli rhai cyfleoedd am resymau cyfyngiadau amaethyddol masnachol a ffisegol.
5.12 Gallai’r ymyriadau a’r newidiadau ffisegol arfaethedig i reoli tir gael eu darparu gan y tirfeddianwyr eu hunain, neu gan gontractwyr amaethyddol allanol.
Partneriaid posibl
- Fforwm Arfordirol Sir Benfro
- Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru
- Afonydd Cymru
- Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)
- Clybiau a chymdeithasau pysgota
- Dŵr Cymru / Welsh Water
- Amber International
- Tirfeddiannwyr
Cost amlinellol
£: <250k
5.13 Byddai astudiaeth ddichonoldeb a blaenoriaethu gychwynnol yn ogystal â darparu prosiectau ymyrryd cynnar ar raddfa fechan sy’n gam cyflym ymlaen yn golygu buddsoddiad cyfalaf cyfyngedig. Dylid ymchwilio hefyd i ddichonoldeb datblygu cynllun masnachu maetholion.
£££: £1m – £5m
5.14 Byddai ehangu dilynol i ffurfio prosiect sir gyfan gyda nifer o brosiectau yn cynyddu costau.
Cyfleoedd ariannu posib
- Cronfa Adfywio Cymunedol y DU
- Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU
- Cynllun pwrpasol i ddefnyddio cyfraniadau datblygwyr i ddarparu prosiectau rheoli maetholion (cynllun masnachu maetholion)
- Cronfa Rhwydweithiau Natur (a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac a weinyddir gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru)
- Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
- Cronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur
- Grantiau CNC
- Cronfa Cymuned Dŵr Cymru
- Cronfa Arloesi Ofwat
- Cynllun Ffermio Cynaliadwy gan Lywodraeth Cymru sy’n dod i’r amlwg
- Coedwig Genedlaethol Cymru – Y Grant Buddsoddi mewn Coetir (Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol – Cylch 1)
Amserlen
Cam cyflym ymlaen (<1 flwyddyn)
5.15 Byddai astudiaeth dichonoldeb a blaenoriaethu gychwynnol, yn ogystal â darparu prosiectau ymyrryd ar raddfa fechan yn gymharol syml i’w darparu.
Tymor canolig (1-5 mlynedd)
5.16 Byddai ehangu dilynol i brosiectau sir gyfan yn mynnu cynllunio, dylunio ac ymgynghori cynhwysfawr.
Cyfyngiadau posibl
5.17 Un cyfyngiad allweddol ar gyfer y prosiect fyddai cytundebau tirfeddiannwr / deiliad tir / porwr, gan y gallai fod risg canfyddedig i hyfywedd fferm sy’n gysylltiedig â cholli rhywfaint o dir i ymylon torlannol / lleiniau cysgodi / plannu ymylon caeau ac ati. Gall hefyd fod gwrthwynebiad i newid cyrsiau dŵr o ran pryderon perchennog glan yr afon a draenio tir. Dylid gwrthddadlau’r pryderon hyn ag argaeledd taliadau amaethyddol ar gyfer nwyddau a gwasanaethau amgylcheddol, ac felly mae’r oedi cyn lansio Cynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru yn gyfyngiad posibl yn hyn o beth. Gall cychwyn cynllun masnachu maetholion leddfu’r risg hon drwy ddarparu ffynhonnell gynaliadwy, barhaus o gyllid.
Cynnal a chadw a stiwardiaeth
5.18 Efallai y bydd angen ychydig o waith cynnal a chadw cychwynnol ar ymylon afonydd sydd newydd eu plannu, neu lannau neu sianeli afonydd sydd newydd eu hail-ddatgelu.
5.19 Byddai angen cynnal a chadw’r gwaith meddal fel rhan o’r cyfnod sefydlu 60 mis, gan gynnwys disodli coed aflwyddiannus. Os gosodir ffensys i gadw da byw allan o gyrsiau dŵr, byddai angen cynnal a chadw parhaus. Byddai angen cynnal newidiadau i arferion ffermio i’r tymor hir, ac felly mae cynaliadwyedd ariannol y model ffermio hwn yn allweddol.
Monitro ar gyfer llwyddiant
5.20 Yn amodol ar argaeledd cyllid, dylid monitro llwyddiant y prosiect drwy wyddoniaeth dinasyddion syml, gan ddefnyddio’r corff presennol o wyddonwyr-ddinasyddion, clybiau pysgota a rhanddeiliaid eraill i helpu i fonitro effaith ymyriadau. Gallai technegau gynnwys monitro ansawdd dŵr gan ddefnyddio offer llaw syml, neu osod mesurydd ffrwd syml i fonitro llif ffrwd, er enghraifft.
5.21 Gallai gorsafoedd monitro presennol CNC hefyd ddarparu gwybodaeth am yr effeithiau ar lif y cwrs dŵr, ansawdd dŵr afonydd ac ymateb y cwrs dŵr i ddigwyddiadau glaw.
Camau nesaf
5.22 Sefydlu gweithgor gyda’r rhai sydd eisoes yn ymgymryd â’r gwaith hwn yn y sir – gan gynnwys Partneriaeth Natur Sir Benfro a Fforwm Arfordirol Sir Benfro.
5.23 Adolygu cyflwr gwybodaeth yn nalgylchoedd Sir Benfro a nodi ardaloedd ar gyfer arolwg pellach er mwyn hysbysu gwaith dichonoldeb a blaenoriaethu ar gyfer prosiectau cam cyflym ymlaen. Dylai hyn ddigwydd hefyd ar gyfer cam cyntaf ymarfer cwmpasu cyllid.
Ffigur 5.3: Sir Benfro
SP2 – Gwella afonydd Sir Benfro ar gyfer pysgod a bioamrywiaeth
5.24 Mae gweithgarwch dynol wedi arwain at newidiadau i afonydd a nentydd Sir Benfro yn y gorffennol, ac yn gysylltiedig yn bennaf â chynhyrchu pŵer, mordwyo ac amddiffyn rhag llifogydd. O ganlyniad, mae llawer o rannau o afonydd a nentydd y sir wedi’u nodweddu gan strwythurau artiffisial megis coredau, argaeau, llifddorau neu wedi’u cyfyngu o fewn strwythurau caled megis cylfatiau a muriau afonydd. Gall y strwythurau hyn rwystro symudiad rhywogaethau dyfrol, a mudo pysgod yn benodol. Mae hyn yn effeithio ar rywogaethau fel eogiaid a gleisiaid, llysywod a lampreiod. Gallant hefyd fod yn niweidiol i rywogaethau a chynefinoedd eraill, gan gynnwys y dyfrgi. Mae llawer o strwythurau y bwriadwyd iddynt wella’r amgylchedd wedi cael effaith andwyol yn anfwriadol ar y cynefinoedd hyn ac wedi arwain at fwy o risg llifogydd.
5.25 Mae Afonydd Cymru a Phrifysgol Abertawe wedi dechrau ar brosiect, Ailgysylltu Afonydd Eog Cymru, gyda’r nod o gael gwared â 17 o rwystrau i fudo pysgod ledled Cymru, gan gynnwys rhai yn Sir Benfro ac ar afonydd Cleddau Ddu a Chleddau Wen. Ceir cyfle i adeiladu ar y prosiect hwn i archwilio’r potensial ar gyfer gwelliannau pellach i afonydd a nentydd ar draws Sir Benfro. Trwy eu Hatlas o Rwystrau ac Ap Rhwystrau, mae Amber International wedi cynnull gwyddonwyr-ddinasyddion i fapio rhwystrau ar afonydd ledled Ewrop. Mae eu ffocws yn bennaf yn y Balcanau a Dwyrain Ewrop, ond mae eu gwaith yn estyn ledled Cymru hefyd. Mae’r Atlas o Rwystrau yn rhestru o leiaf 30 o rwystrau (coredau, argaeau neu lifddorau) ar gyrsiau dŵr yn y sir, ac mae llawer o ddarnau o afonydd a nentydd lle mae cylfatau a muriau a allai elwa ar ddefnyddio peirianneg feddal ac atebion eraill sy’n seiliedig ar natur i wella cynefin, lleihau rhwystrau rhag mudo pysgod ac efallai gwella risg llifogydd i lawr yr afon.
5.26 Byddai’r prosiect hwn yn meithrin ymhellach y corff o dystiolaeth sydd eisoes wedi’i gasglu a’i gadw gan Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru, Afonydd Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ac eraill i lunio atlas sirol o rwystrau a strwythurau o fewn cyrsiau dŵr ac ar eu hyd. Yna byddai’n defnyddio’r gwaith hanesyddol hwn, ynghyd ag asesiadau newydd lle bo angen, yn sail i flaenoriaethu ymyriadau yn seiliedig ar angen, y gallu i gyflawni a chost. Yna dylid bwrw ymlaen â chynigion i gyflwyno gwelliannau’n ymarferol mewn ardaloedd blaenoriaeth uchel neu gam cyflym ymlaen a / neu i lunio ceisiadau am gyllid ar gyfer gwelliannau mwy sylweddol i’r sianel.
5.27 Ymhlith buddion y prosiect, fel y’u darlunnir yn Ffigur 5.4 isod, mae:
- Lleihau risg llifogydd
- Darparu cyfleoedd teithio llesol
- Gwella ansawdd dŵr
- Lle i fywyd gwyllt a gwytnwch ecolegol
- Dal a storio carbon a lliniaru newid hinsawdd
Ffigur 5.4: Buddion y prosiect
Darparu atebion seiliedig ar natur a gwasanaethau ecosystemau
5.28 Ar hyn o bryd, mae rhywogaethau pysgod mudol o dan bwysau oherwydd nifer o ffactorau. Mae rhwystrau rhag mudo yn gryn broblem o fewn y sir, y gellir mynd i’r afael â nhw drwy eu gwaredu neu fel arall drwy ôl-osod y rhwystrau hyn gyda llwybrau amgen addas i fywyd dyfrol. Byddai gosod glannau naturiol ac ymylon wedi’u plannu yn lle strwythurau peirianneg galed – gan ailgysylltu’r cwrs dŵr â’i amgylchoedd – yn darparu mwy o amrywiaeth o gynefinoedd o fewn y cwrs dŵr ac ar y glannau. Gall ecosystemau mwy gwydn yn eu tro ddarparu mwy o wasanaethau ecosystemau, o ran gwrthsefyll newid hinsawdd a sicrhau mwy o werth ar gyfer hamdden a mwynder (er enghraifft trwy well stociau pysgod).
5.29 Byddai peirianneg galed yn parhau’n rhan o’r blwch offer i reoli rhyngweithio dynol o fewn ein hafonydd a’n nentydd, ond cydnabyddir mwyfwy fod nodau gwarchod a gwella bioamrywiaeth, a lleihau risg llifogydd, yn mynnu dulliau sy’n gweithio gyda phrosesau naturiol, nid yn ceisio cyfyngu arnynt. Mae llawer o’r strwythurau o fewn afonydd a nentydd Sir Benfro yn cael effaith andwyol ar risg llifogydd i lawr yr afon, yn enwedig lle mae darnau wedi’u sianelu, eu sythu a’u camlesu. Byddai ailgysylltu darnau o afon â’u glannau a’u gorlifdiroedd yn helpu i ddarparu dull seiliedig ar natur o reoli llifogydd.
Mecanweithiau cyflawni
5.30 Mae gwaith a wnaed eisoes gan Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru, Afonydd Cymru a CNC wedi darparu rhywfaint o’r gwaith dichonoldeb a blaenoriaethu, ond rhagwelir y byddai angen rhagor o waith desg a dilysu daearol er mwyn llywio astudiaeth y gellir ei defnyddio i flaenoriaethu ardaloedd ar gyfer ymyriad a nodi ardaloedd lle gall cyfuno graddfa prosiect a chydweithrediad rhanddeiliaid alluogi camau cyflym ymlaen.
5.31 Gall ymyriadau posibl gynnwys gwaith cymharol syml i gael gwared ar rwystrau ar raddfa fach fel argaeau a llifddorau malurion neu rannau o furiau afon. Fodd bynnag, byddai gwaith peirianneg mwy cymhleth yn golygu cael gwared ar goredau mwy o faint neu ôl-osod tramwyfeydd pysgod. Gall prosiectau llai o faint fod yn gyraeddadwy o fewn cwmpas y cyllid cychwynnol, gyda’r disgwyl y bydd gofyn cyllid sbarduno ar brosiectau mwy o faint drwy’r prosiect hwn er mwyn ennill momentwm a ffurfio prosiectau annibynnol, ar wahân.
Partneriaid posibl
- Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru
- Afonydd Cymru
- CNC
- Clybiau a chymdeithasau pysgota
- Dŵr Cymru / Welsh Water
- Amber International
- Tirfeddiannwyr
Cost amlinellol
5.32 Ni fyddai angen llawer iawn o fuddsoddiad cyfalaf ar astudiaeth ddichonoldeb a blaenoriaethu gychwynnol, yn ogystal â darparu prosiectau cam cyflym ymlaen yn gynnar i waredu rhwystrau / dad-ddofi glannau / gwaredu strwythurau. Fodd bynnag, byddai angen cryn gyllid ar gyfer prosiectau dilynol ar raddfa fwy i waredu rhwystrau / dad-ddofi glannau / gwaredu strwythurau.
Cyfleoedd ariannu posib
- Cronfa Rhwydweithiau Natur (a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac a weinyddir gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru)
- Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
- Cronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur
- Grantiau CNC
- Cronfa Gymunedol Dŵr Cymru Welsh Water
- Cronfa Arloesi Ofwat
- Cynllun Ffermio Cynaliadwy gan Lywodraeth Cymru sy’n dod i’r amlwg
Amserlen
Cam cyflym ymlaen (<1 flwyddyn)
5.33 Byddai astudiaeth ddichonoldeb a blaenoriaethu gychwynnol, yn ogystal â darparu prosiectau cam cyflym ymlaen yn gynnar i waredu rhwystrau / dad-ddofi glannau / gwaredu strwythurau yn gymharol syml i’w cyflawni.
Tymor canolig (1-5 mlynedd)
5.34 Wedi hynny, byddai angen cynllunio, dylunio ac ymgynghori cynhwysfawr ar brosiectau ar raddfa fwy i waredu rhwystrau / dad-ddofi glannau / gwaredu strwythurau.
Cyfyngiadau posibl
5.35 Mae cyfyngiadau cychwynnol wedi’u cyfyngu i argaeledd data presennol ac astudiaethau presennol ar rwystrau, strwythurau a glannau artiffisial o brosiectau presennol – y gobaith yw y byddai hyn ar gael gan sefydliadau partner i helpu i egino’r prosiect.
5.36 Byddai cyfyngiadau ynghylch cyflawni yn gysylltiedig i raddau helaeth â’r angen i gynnwys tirfeddianwyr a chael eu caniatâd. Ar gyfer strwythurau ar afonydd mwy o faint, efallai y bydd gofyn hefyd cael caniatâd cynllunio, Trwydded Gweithgarwch Risg Llifogydd a modelu hydrolegol.
Cynnal a chadw a stiwardiaeth
5.37 Efallai y bydd angen ychydig o waith cynnal a chadw cychwynnol ar ymylon afonydd sydd newydd eu plannu, neu lannau neu sianeli afonydd sydd newydd eu hail-ddatgelu.
Monitro ar gyfer llwyddiant
5.38 Defnyddio’r corff presennol o wyddonwyr-ddinasyddion, clybiau pysgota a rhanddeiliaid eraill i helpu i fonitro effaith ymyriadau. Gallai gorsafoedd monitro presennol CNC hefyd ddarparu gwybodaeth am yr effeithiau ar lif y cwrs dŵr, ansawdd dŵr afonydd ac ymateb y cwrs dŵr i ddigwyddiadau glaw.
Camau nesaf
5.39 Sefydlu gweithgor gyda’r sawl sydd eisoes yn ymgymryd â’r gwaith hwn yn y sir – Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru, Afonydd Cymru, Prifysgol Abertawe ac eraill.
5.40 Adolygu cyflwr gwybodaeth yn nalgylchoedd Sir Benfro a nodi ardaloedd ar gyfer arolwg pellach er mwyn hysbysu gwaith dichonoldeb a blaenoriaethu.
Ffigur 5.5: Sir Benfro
SP3 – Ail-gydbwyso draeniad trefol i wella ein hafonydd
5.41 Mae Sir Benfro wedi dioddef o broblemau deuol yn y gorffennol, ar ffurf digwyddiadau llifogydd dŵr wyneb a hefyd digwyddiadau lle mae carthion budr wedi gorlifo ac arwain at lifogydd (a elwir yn Orlifoedd Storm Cyfun). Mae’r gorlifoedd hyn yn tarddu o bwysau cynyddol ar systemau carthffosydd oherwydd dŵr storm yn dod i mewn i hen systemau carthion sy’n cymryd dŵr glaw a charthffrydiau. Mae ardaloedd mawr o ddefnydd tir anathraidd, sy’n cael eu draenio’n uniongyrchol trwy bibellau i’r carthffosydd ac yna’r afonydd, yn gwaethygu’r ddau fater hyn. Gallai gweithredu ymyriadau Systemau Draenio Cynaliadwy (SDC) sy’n dargyfeirio dŵr storm o garthffosydd cyfun leihau’r pwysau ar seilwaith, gan helpu i leihau dylanwad afonol adeg llifogydd.
5.42 Mae enghreifftiau o SDC y dylid eu cyflwyno ar sail safle-benodol yn cynnwys:
- Defnyddio plannu coed stryd o fewn pyllau coed, sy’n cael eu bwydo gan rediadau carthffosydd storm, gan dynnu dŵr allan o’r system garthffosiaeth ehangach
- Adnabod ardaloedd lle mae dŵr wyneb (nentydd hanesyddol, ffosydd a draeniau tir) yn mynd i garthffosydd cyfun ac yn bwydo i mewn i gyrsiau dŵr neu suddfannau dŵr
- Adnabod ardaloedd lle gellir draenio llif carthffosydd storm i’r ddaear mewn suddfannau dŵr
- Creu gwlyptiroedd, gerddi glaw, pantiau, basnau gwanhau a nodweddion eraill y gellir bwydo dŵr storm iddynt, gan ddarparu ffordd o arafu llif yn ystod digwyddiadau glawiad a lleihau llif cyflym tuag at nentydd ac afonydd
- Adnabod ardaloedd lle mae carthffosydd dŵr storm yn rhyddhau i garthffosydd sy’n cario carthffrydiau brwnt, gan ddal yr arllwysiad hwn a’i gario i suddfannau dŵr, gerddi glaw, pantiau, basnau gwanhau neu gyrsiau dŵr gan leihau risg gorlifoedd storm cyfun felly
- Ôl-osod ardaloedd sydd â chanran uchel o orchudd anathraidd â cherrig athraidd, pantiau a gerddi glaw
5.43 Mae Dŵr Cymru wedi gwneud gwaith i fapio ardaloedd o orchudd anathraidd uchel, gan gynnwys mannau hysbys lle mae dŵr wyneb yn mynd i mewn i garthffosydd sy’n cario carthffrydiau brwnt. Mae cofnodion manwl o ddigwyddiadau gorlif storm cyfun wedi’u cymhathu, gan ddarparu dangosyddion o ardaloedd lle mae llifoedd dŵr wyneb yn effeithio ar berfformiad y seilwaith carthffosiaeth frwnt. Dylid trosoli’r setiau data hyn, ynghyd â mapiau risg llifogydd, i helpu i nodi ardaloedd lle gallai ymyriadau SDC gael eu targedu orau ar draws y sir. Dylid nodi cyfres o brosiectau peilot blaenoriaeth yn seiliedig ar yr angen am ymyrraeth ac ar ddichonoldeb cyflawni. Byddai arfarniad opsiynau ar gyfer prosiectau blaenoriaeth yn nodi cyfleoedd SDC posibl i’w cyflawni.
5.44 Ymhlith buddion y prosiect, fel y’u darlunnir yn Ffigur 5.6 isod, mae:
- Lleihau risg llifogydd
- Gwella ansawdd dŵr
- Lle i fywyd gwyllt a gwytnwch ecolegol
- Gwella ansawdd aer a rheoleiddio sŵn
- Atgyfnerthu ymdeimlad o le
- Oeri trefol
- Dal a storio carbon a lliniaru newid hinsawdd
Ffigur 5.6: Buddion y Prosiect
Darparu atebion seiliedig ar natur a gwasanaethau ecosystemau
5.45 Mae ymyriadau SDC yn dynwared draeniad ym myd natur lle mae gwlybaniaeth yn cael ei hamsugno i’r ddaear, wedi’i harafu gan lystyfiant. Felly mae maint ac ansawdd y dŵr sy’n cyrraedd cyrsiau dŵr lleol yn y pen draw yn cael eu gwella, gan helpu i liniaru llifogydd a lleihau gorlifoedd storm cyfun. Mae rheoli dŵr yn gynaliadwy mewn ardaloedd trefol hefyd yn sicrhau bod trefi yn fwy gwydn rhag pwysau newid hinsawdd a thwf yn y boblogaeth.
Mecanweithiau cyflawni
5.46 Mae gwelliannau perfformiad mewn perthynas â gorlifoedd storm cyfun yn rhan o rwymedigaethau Dŵr Cymru er mwyn darparu gwelliant amgylcheddol parhaus. Mae’r cyfrifoldeb am garthffosiaeth dŵr storm yn nwylo Dŵr Cymru neu’r Awdurdod Lleol ac felly byddai angen partneriaeth i gyflawni’r prosiect yn llwyddiannus. Un enghraifft o bartneriaeth felly sy’n gweithio’n dda yw Prosiect GlawLif yn Llanelli.
5.47 Dylid casglu a chyfuno setiau data presennol sy’n ymwneud â’r seilwaith carthffosydd i greu map risgiau a chyfleoedd SDC. Byddai angen data gan Dŵr Cymru a Chyngor Sir Penfro (CSP). Dylid cynnal proses sgorio i greu rhestr o brosiectau peilot blaenoriaeth, lle canfyddir y buddion cyflenwi posibl o ôl-osod SDC i’r seilwaith carthffosydd.
5.48 Yna, dylid symud ymlaen at broses arfarnu opsiynau ar gyfer pob prosiect peilot blaenoriaeth, gan asesu pa ymyriad(au) SDC y dylid ei ddatblygu.
Partneriaid posibl
- Dŵr Cymru / Welsh Water
- Adran Priffyrdd a Thrafnidiaeth CSP
- Tîm Cynnal a Chadw Amwynderau / Gofal Stryd CSP
- Perchnogion eiddo / landlordiaid / rhydd-ddeiliaid (lle ceir cyfleoedd ar barciau diwydiannol neu fanwerthu mawr, er enghraifft)
- Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru ac Afonydd Cymru
- Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)
Cost amlinellol
5.49 Byddai’r broses o fapio risgiau a chyfleoedd, rhestru prosiectau peilot blaenoriaeth ac arfarnu opsiynau yn golygu cost gymharol isel. Fodd bynnag, byddai ôl-osod SDC yn gofyn buddsoddi cyfalaf sylweddol, yn ddibynnol ar faint a nifer yr ymyriadau.
Cyfleoedd ariannu posib
- Cyllid Dŵr Cymru / Welsh Water
- Cronfa Adfywio Cymunedol y DU
- Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU
- Cronfa Rhwydweithiau Natur (a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac a weinyddir gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru)
- Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
- Cronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur
- Grantiau CNC
- Cronfa Arloesi Ofwat
Amserlen
Cam cyflym ymlaen (<1 flwyddyn)
5.50 Byddai’r gwaith o fapio risgiau a chyfleoedd, rhestru prosiectau peilot blaenoriaeth ac arfarnu opsiynau yn gymharol syml i’w gyflawni.
Tymor canolig (1-5 mlynedd)
5.51 Byddai ôl-osod SDC yn dilyn hynny yn gofyn cynllunio, dylunio ac ymgynghori cynhwysfawr.
Cyfyngiadau posibl
5.52 Byddai cydweithredu â Dŵr Cymru yn hanfodol i gyflawni’r prosiect hwn yn llwyddiannus, felly byddai ymrwymiad cynnar yn hollbwysig. Byddai cyfyngiadau wedi hynny’n canolbwyntio ar y gallu ffisegol i gyflawni atebion ôl-osod mewn canolfannau trefol sy’n aml wedi’u gosod yn dynn, ymhlith y myrdd o gyfyngiadau uwchlaw ac islaw’r ddaear.
Cynnal a chadw a stiwardiaeth
5.53 Byddai pob ymyriad SDC yn arwain at elfen o waith cynnal a chadw dros ei oes (degawdau). Rhagwelir y byddai’r nodweddion hyn yn cael eu mabwysiadu gan naill ai Dŵr Cymru neu CSP ac yn dod yn rhan o’u cofrestr barhaus o asedau i’w cynnal a’u cadw.
Monitro ar gyfer llwyddiant
5.54 Yn amodol ar argaeledd cyllid, gellid monitro llwyddiant y prosiect drwy wyddoniaeth ddinasyddion syml, gan ddefnyddio’r corff presennol o wyddonwyr-ddinasyddion, clybiau pysgota a rhanddeiliaid eraill i helpu i fonitro effeithiolrwydd ymyriadau. Gallai technegau gynnwys monitro ansawdd dŵr gan ddefnyddio offer llaw syml, neu osod mesurydd ffrwd syml i fonitro llif ffrwd.
5.55 Byddai gorsafoedd monitro presennol CNC hefyd yn darparu gwybodaeth am yr effeithiau ar lif y cwrs dŵr, ansawdd dŵr afon ac ymateb y cwrs dŵr i ddigwyddiadau glaw.
Camau nesaf
5.56 Sefydlu cytundeb cydweithredu neu debyg gyda Dŵr Cymru.
5.57 Casglu’r gwahanol setiau data a luniwyd eisoes gan Dŵr Cymru a CSP yn set ddata ddigidol gyfunol a fydd yn sail i’r prosesau gwerthuso risgiau, cyfleoedd ac opsiynau.
Ffigur 5.7: Sir Benfro
Pennod flaenorol:
Seilwaith Gwyrdd Strategol Sir Benfro
Dychwelyd i’r hafan:
Hafan