Trosolwg o Gynlluniau Rheoli Anheddiad

Asesiad Seilwaith Gwyrdd Sir Benfro: Paratowyd gan LUC Chwefror 2023

Cynnwys Tudalen:

 

Cyflwyniad

Egwyddorion Seilwaith Gwyrdd

 

Cyflwyniad

 

1.1 Mae’r Cynlluniau Rheoli Anheddiad Seilwaith Gwyrdd (SG) yn integreiddio a diweddaru’r meddylfryd a’r mentrau cyfredol a gyflwynwyd yng Nghynllun Gweithredu SG Sir Benfro (a ddisodlwyd bellach).

1.2 Mae pob un o’r 11 Cynllun Rheoli Anheddiad yn darparu dull symlach o adnabod a darparu ymyriadau SG. Eu nod yw helpu llunwyr polisi, datblygwyr, grwpiau cymunedol a thrigolion i ddarparu SG priodol, amlswyddogaethol a gwydn ar draws 11 anheddiad yn Sir Benfro.

1.3 Ym mhob Cynllun Rheoli Anheddiad, mae rhestr hir o brosiectau wedi’u nodi drwy ymgynghoriad cyhoeddus, ymgynghoriad â rhanddeiliaid, ymweliadau safle a barn broffesiynol. Mae’r rhestr hir yn darparu amrywiaeth o fathau, graddfeydd a chostau prosiectau, a’r bwriad yw ei chyflawni gan bartneriaid amrywiol pan fydd cyllid ar gael. Drwy ddarparu amrywiaeth o brosiectau, bydd yr amrywiaeth o fuddion a gwasanaethau ecosystemau a geir ar draws pob anheddiad yn tyfu.

1.4 Dewiswyd tri phrosiect ‘cicdanio’ o’r rhestr hir hon ar gyfer pob anheddiad. Bwriadwyd i’r tri phrosiect hyn fod yn esiamplau o SG a dylid eu cyflwyno’n gyntaf i’w cyflawni. Y gobaith yw y dylai darparu’r prosiectau cicdanio hyn sbarduno’r SG o fewn pob anheddiad, a hefyd helpu i fagu awydd y cyhoedd a rhanddeiliaid am brosiectau yn y dyfodol. Ar gyfer pob anheddiad, mae un o’r tri phrosiect cicdanio yn ymwneud â’r amgylchedd dŵr, gan amlygu bod angen dulliau rheoli llifogydd naturiol ac atebion seiliedig ar natur i ansawdd dŵr ledled Sir Benfro.

1.5 Roedd y rhesymeg i nodi’r prosiectau cicdanio yn cynnwys:

  • Poblogrwydd gyda’r cyhoedd
    • Gofynnwyd i’r cyhoedd sgorio eu hoff brosiectau trwy arolwg ar-lein. Adolygwyd y prosiectau mwy poblogaidd ar gyfer pob anheddiad a rhoddwyd blaenoriaeth iddynt.
  • Natur amlswyddogaethol ac ystod o fuddion
    • Cyflwynwyd prosiectau sy’n darparu buddion lluosog ac sy’n cyd-fynd â nifer o’r egwyddorion SG (gweler isod).
  • Amserlenni
    • Cyflwynwyd amrywiaeth o amserlenni, gan gynnwys camau cyflym ymlaen, prosiectau tymor canolig a hirdymor, i ganiatáu ar gyfer bodloni amrywiaeth o raddfeydd, mecanweithiau cyflenwi ac uchelgeisiau.
  • Y Gallu i Gyflawni
    • Cyflwynwyd prosiectau y tybiwyd bod ‘mwy o allu i’w cyflawni’, er enghraifft, bod ar dir sy’n eiddo i’r Cyngor, bod yn gysylltiedig â ffrwd ariannu glir, neu gydredeg ag uchelgeisiau grŵp cymunedol presennol.
  • Barn broffesiynol
    • Lluniwyd y rhestr derfynol o brosiectau ‘cicdanio’ gan ddefnyddio barn broffesiynol i sicrhau bod y meini prawf uchod yn darparu rhestr amlswyddogaethol a chynrychioladol o brosiectau i’w datblygu yn gyntaf.

1.6 Mae’r Strategaethau Plannu Coed Trefol a Pheillwyr yn atodol i’r Cynlluniau Rheoli Anheddiad a dylid eu darllen ar y cyd â’r Cynlluniau. Bwriad eu rôl yw rhoi arweiniad ychwanegol wrth gyflawni prosiectau plannu coed trefol neu brosiectau sy’n ymwneud â pheillwyr.

1.7 Dylid datblygu pob prosiect SG i sicrhau cysondeb â chynigion teithio llesol sydd wedi’u cynnwys ar y Mapiau Rhwydwaith Integredig (INM) (Agor mewn ffenest Newydd) ar gyfer Sir Benfro.

Yn ôl i’r top

 

Egwyddorion Seilwaith Gwyrdd

 

1.8 Datblygwyd cyfres o Egwyddorion SG sy’n berthnasol i’r holl SG ledled Sir Benfro, ac sydd felly’n rhychwantu pob un o’r 11 Cynllun Rheoli Anheddiad. Mae’r egwyddorion yn seiliedig ar ‘5 Egwyddor SG’ Cyfoeth Naturiol Cymru, sydd wedi’u creu i sicrhau bod SG wedi ei ddylunio’n dda yn darparu amrywiaeth o fuddion i bobl a bywyd gwyllt fel ei gilydd. Mae egwyddor ychwanegol ‘Cyflawni llwyddiannus’ wedi’i chynnwys i sicrhau bod syniadau a dyluniadau o ansawdd da yn cael eu datblygu a bod eu hirhoedledd yn cael ei sicrhau trwy drefniadau stiwardiaeth wedi’u cynllunio’n dda. Rhannwyd y chwe egwyddor gyffredinol hyn yn is-egwyddorion er mwyn rhoi mwy o arweiniad ar brosesau penodol dylunio a chyflawni SG llwyddiannus o ansawdd da ledled Sir Benfro.

 

Ffigur 1.1: Chwe egwyddor gyffredinol ar gyfer Seilwaith Gwyrdd llwyddiannus

 

1. Amlswyddogaethol

1.9 Sicrhau bod yr holl SG ledled Sir Benfro yn sicrhau cynifer o fuddion ag sy’n bosibl.

  • 1a – Amlswyddogaethol
    • Wrth wraidd pob SG da mae natur amlswyddogaethol. Dylai pob SG fod yn amlswyddogaethol a darparu ystod o wasanaethau ecosystem i gefnogi bioamrywiaeth, targedau hinsawdd, iechyd a lles a ffyniant economaidd.
  • 1b – Amrywiol
    • Dylai SG fod yn amrywiol a darparu cymysgedd o fathau o asedau, gan gynnwys cynefinoedd a hamdden. Dylai hyn hefyd fod ynghyd â’i gyflawni ar amrywiaeth o raddfeydd.
  • 1c – Ymateb i gymeriad lleol
    • Dylai SG ymateb i’w gyd-destun lleol a chyfrannu tuag at ymdeimlad penodol o le, yn enwedig os yw’n rhan o Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Dylai ystyried cymeriad tirwedd, golygfeydd allweddol, rhywogaethau brodorol, cynefinoedd a’r defnydd tir cyfredol.

 

2. Wedi’i addasu ar gyfer newid hinsawdd

1.10 Sicrhau bod pob SG yn lliniaru effeithiau newid hinsawdd ac yn addasu iddynt.

  • 2a – Dal a storio carbon
    • Dylai pob SG gyfrannu tuag at dynnu carbon o’r atmosffer a’i storio yn y tymor hir, i ryw raddau.
  • 2b – Annog bywydau egnïol
    • Dylai SG helpu i gyfrannu tuag at leihau’r ddibyniaeth ar gerbydau personol ac yn hytrach annog ffyrdd egnïol o fyw.
  • 2c – Rheoli llifogydd yn naturiol
    • Dylai pob SG ddarparu rhai cyfleoedd ar gyfer rheoli llifogydd yn naturiol, gan gynnwys o darddiadau afonol, morol, dŵr daear a dŵr wyneb.
  • 2d – Addasadwy a gwydn
    • Dylai cynigion SG fod yn addasadwy ac yn wydn i symud gyda phwysau newidiol newid hinsawdd. Dylid dylunio SG gyda rhagamcanion newid hinsawdd yn y dyfodol mewn golwg.

 

3. Lach

1.11 Sicrhau bod pob SG yn cyfrannu tuag at greu cymunedau sy’n iachach yn gorfforol ac yn feddyliol.

  • 3a – Ar gael i bawb
    • Dylid dylunio SG yn gynhwysol ar gyfer pob demograffeg, beth bynnag fo’u hoedran, rhywedd, mamolaeth, ethnigrwydd a gallu corfforol neu feddyliol. Dylai pob man gwyrdd ymateb i anghenion defnyddwyr llai symudol a demograffeg anghofiedig, megis merched yn eu harddegau neu bobl â dementia. Dylai mannau gwyrdd deimlo’n ddiogel i bawb a chysylltu gwahanol gymunedau.
  • 3b – Cefnogi cymunedau llewyrchus
    • Dylid defnyddio SG fel offeryn ar gyfer buddsoddi ac felly dylid ei gynnwys fel rhan allweddol o unrhyw gynlluniau adfywio.
  • 3c – Cysylltu pobl â natur
    • Dylid dylunio mannau gwyrdd a SG bob amser i ganiatáu rhywfaint o ryngweithio â natur, waeth pa mor fach, yn ogystal â llenwi bylchau diffyg mannau gwyrdd.
  • 3d – Hyrwyddo tyfu bwyd cymunedol a lleol
    • Dylid hyrwyddo gerddi cymunedol, coridorau bwytadwy a thyfu bwyd lleol yn gynaliadwy am eu buddion iechyd meddwl a chorfforol, yn ogystal â’r effeithiau cadarnhaol y gallant eu cael ar fywyd gwyllt a chydlyniant cymunedol.
  • 3e – Mynd i’r afael ag ansawdd aer gwael
    • Lle nodir ansawdd aer gwael, dylid defnyddio SG fel ateb seiliedig ar natur i gael gwared ar ronynnau ochr yn ochr â lleihau dibyniaeth ar ddulliau trafnidiaeth llygredig.

 

4. Bioamrywiol

1.12 Sicrhau bod pob SG yn cynnal amrywiaeth o rywogaethau brodorol wrth ddarparu cyfleoedd am fwyd, lloches a symudiad.

  • 4a – Gwarchod
    • Yn bennaf oll, dylai prosiectau SG weithio i warchod a gwella asedau bioamrywiaeth pwysig presennol, gan gynnwys cynefinoedd dynodedig a rhywogaethau nodedig. Dylid rhoi blaenoriaeth i helpu cymunedau bywyd gwyllt sy’n cael trafferth a chynefinoedd sydd mewn cyflwr gwael i adfer.
  • 4b – Cysylltiedig
    • Dylid defnyddio SG o bob maint i helpu i gysylltu cynefinoedd a lleihau darnio. Dylai hyn gynnwys adfer ac ail-gysylltu nodweddion cynefinoedd llinol, gan gynnwys ymylon ffyrdd, coridorau torlannol a gwrychoedd. Gweithio gyda thirfeddianwyr a ffermwyr lleol i hyrwyddo hyn, ochr yn ochr â chynlluniau amaeth-amgylchedd sy’n dod i’r amlwg.
  • 4c – Cyfrannu tuag at ofynion dyletswydd Adran 6
    • Mae adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn gosod dyletswydd gyffredinol ar awdurdodau cyhoeddus i, “geisio cynnal a gwella bioamrywiaeth wrth arfer swyddogaethau… ac wrth wneud hynny hyrwyddo gwytnwch ecosystemau”. Mae Cynllun Gweithredu Adfer Natur Sir Benfro yn gosod y cyd-destun strategol ar gyfer camau gweithredu i warchod a gwella bioamrywiaeth ac ecosystemau yn y sir.
  • 4d – Ansawdd dŵr
    • Dylid archwilio gallu SG i ddarparu atebion seiliedig ar natur i ansawdd dŵr bob amser, er enghraifft trwy wlyptiroedd gerllaw gorlif carthffos gyfun, SDC a chlustogfeydd torlannol. Fodd bynnag, dylai rheoli ansawdd dŵr wrth darddiad y broblem fod yn flaenoriaeth bob amser.
  • 4e – Blaenoriaethu rhywogaethau brodorol
    • Dylai dyluniad SG ddefnyddio rhywogaethau brodorol, yn enwedig rhai o darddiad lleol. Dylai bob amser gyd-fynd ag anghenion cynefinoedd a rhywogaethau lleol, yn ogystal ag archwilio opsiynau ar gyfer peillwyr bob amser.

 

5. Clyfar a chynaliadwy

1.13 Sicrhau bod pob SG yn mynnu cyn lleied â phosibl o waith cynnal a chadw, gan leihau llygredd a defnyddio cymaint â phosibl o ddeunyddiau o ffynonellau cynaliadwy.

  • 5a – Dylunio ar gyfer cynnal a chadw isel
    • Dylid dylunio SG i sicrhau nad yw’n mynnu llawer o gynnal a chadw, ac i sicrhau y bydd yr atebion rheoli syml hyn yn parhau i ddwyn y buddion a fwriadwyd gan yr ased SG. Mae angen i’r gwaith rheoli fod yn hirdymor a chael ei sicrhau o ddechrau prosiect, er enghraifft trwy ymgysylltu â chymunedau.
  • 5b – Defnyddio deunyddiau naturiol a chynaliadwy
    • Rhaid i ddeunyddiau a dodrefn stryd a ddefnyddir o fewn dyluniad SG, er enghraifft, meinciau ac arwyddion, ddefnyddio deunyddiau o ffynonellau cynaliadwy a naturiolaidd, sydd eto’n gadarn.

 

6. Darpariaeth a stiwardiaeth sicr

1.13 Sicrhau bod gan bob prosiect SG ei darpariaeth lwyddiannus a’i stiwardiaeth hirdymor o’r cychwyn cyntaf.

  • 6a – Cynnwys y gymuned o’r cychwyn
    • Cynnwys pob demograffeg o’r gymuned leol yn y broses o gyd-ddylunio a chyd-gynllunio prosiect SG, gan sicrhau bod ardaloedd yn yr angen mwyaf yn cael eu blaenoriaethu yn gyntaf. Lle bo’n bosibl, dylid archwilio perchnogaeth gymunedol.
  • 6b – Cynnwys amrywiaeth o randdeiliaid a phartneriaid cyflenwi
    • Ochr yn ochr â dinasyddion, dylid cynnwys yr holl dirfeddianwyr priodol, busnesau, datblygwyr, grwpiau amgylcheddol, awdurdodau lleol, aelodau a swyddogion cyngor, ymgyngoreion statudol ac anstatudol, a chwmnïau cyfleustodau priodol, a’r rhai sy’n gyfrifol am reoli asedau SG, o fewn y gwaith cynllunio, dylunio, darparu a stiwardiaeth barhaus SG. Sicrhau bod pob parti yn cyd-fynd â’r weledigaeth a rennir ac yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd.
    • Oherwydd ffabrig hanesyddol yr aneddiadau, argymhellir ymgynghori’n gynnar â Cadw, Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed (DAT), tirfeddianwyr a deiliaid tir er mwyn deall ystyriaethau amgylchedd hanesyddol allweddol safleoedd unigol. Dylai prosiectau SG sicrhau nad yw cynigion yn arwain at effeithiau niweidiol ar asedau treftadaeth, gan gynnwys newidiadau niweidiol i leoliadau henebion cofrestredig neu ardaloedd cadwraeth.
    • Am fod nifer o’r aneddiadau o fewn Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro neu gerllaw, argymhellir ymgynghori’n gynnar ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Mae hyn hefyd yn berthnasol i Cyfoeth Naturiol Cymru oherwydd nifer sylweddol y dynodiadau ecolegol cenedlaethol a rhyngwladol o fewn yr holl aneddiadau a gerllaw.
  • 6c – Deall y buddion
    • Sicrhau bod parti dan sylw, gan gynnwys rhanddeiliaid a’r gymuned, yn deall buddion y prosiect, yn ansoddol ac yn feintiol. Gallai hyn hefyd ffurfio’r waelodlin ar gyfer monitro parhaus a mesur a yw prosiectau mor llwyddiannus â’r hyn a feddyliwyd gyntaf.
  • 6d – Amrywiaethu mecanweithiau cyflenwi ac ehangu cynhwysiant mewn polisi
    • Sicrhau bod SG wedi’i integreiddio ar draws amrywiaeth o fachau cynllunio, gan gynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol, Canllawiau Cynllunio Atodol dilynol, strategaethau iechyd, strategaethau newid hinsawdd, a chynlluniau economaidd neu adfywio.
  • 6e – Cynllunio ar gyfer monitro parhaus
    • Wrth gynllunio ymyriadau SG, ystyried sut y bydd yr ased yn cael ei fonitro’n barhaus a sut y bydd y data hwn yn cael ei ddefnyddio i gydnabod llwyddiannau neu ddiffygion.

Yn ôl i’r top

 

Pennod nesaf:

Abergwaun ac Wdig

 

Dychwelyd i’r hafan:

Hafan