Arberth

Asesiad Seilwaith Gwyrdd Sir Benfro: Paratowyd gan LUC Chwefror 2023

Cynnwys Tudalen:

 

Portread o Seilwaith Gwyrdd Arberth

Prosiectau Cicdanio

Rhestr Hir o Brosiectau

 

Arberth

 

Ffigur 5.1: Arberth

 

Portread o Seilwaith Gwyrdd Arberth

 

5.1 Tref farchnad fechan ag ychydig dros 2,000 o drigolion yw Arberth, yn ne-ddwyrain Sir Benfro. A’i wreiddiau’n dyddio’n ôl i’r Oesoedd Canol, mae canol y dref wedi’i ddynodi’n Ardal Gadwraeth ac mae’n cynnwys nifer o adeiladau rhestredig ar hyd y Stryd Fawr. Mae Castell Arberth o’r 13eg ganrif, a ddynodwyd yn Heneb Gofrestredig, ychydig i’r de o ganol y dref o fewn man cyhoeddus coediog. Mae ehangder de-ddwyreiniol Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Afonydd Cleddau yn tarddu i’r de o ganol y dref ym Mhont Arberth. Daw’r cwrs dŵr troellog bach hwn drwy gaeau bugeiliol a dyffrynnoedd afon coediog cyn ymuno ag afon Cleddau Ddu ym Mhont Canaston. Mae hyn yn ei dro yn uno ag ACA Forol Sir Benfro ym Mhont Pwll-du.

5.2 Ceir mannau agored mawr tuag at ymyl canol y dref ac maent yn cynnwys caeau hamdden agored yn bennaf heb lawer o gysylltiadau i gerddwyr. Yn hytrach, mae llwybrau cyhoeddus yn ymestyn i’r de o ganol y dref, gan ymuno â’r ardaloedd coediog ar hyd afon Cleddau Ddu. Prin iawn yw cysylltiadau â’r dirwedd ehangach o fewn gogledd y dref. Er nad yw llwybrau’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol (NCN) yn cysylltu’n uniongyrchol â’r dref, bydd cynlluniau ar gyfer llwybr oddi ar y ffordd rhwng Arberth a Hwlffordd yn cysylltu’r dref â llwybr 4 NCN. Agorwyd darn cychwynnol yn ddiweddar, sy’n cysylltu gorllewin Arberth yng Ngwaun y Dref â Phont Canaston.

5.3 Ceir crynhoad o flociau coetir mwy o faint i’r de o’r dref, ar ymylon mannau agored ac yn cysylltu â lleiniau coetir llinol ar hyd coridor yr afon. Mae’r ardaloedd coetir hyn yn cynnig cyfleoedd i gryfhau ymhellach y rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus ar gyrion y dref.

 

Ffigur 5.2: Cyfleoedd SG yn Arberth


Yn ôl i’r top

 

Prosiectau Cicdanio

 

NAR 3 – Gwella gwerth bioamrywiaeth Gwaun y Dref

5.4 Mae Gwaun y Dref yn faes pentref cofrestredig ac yn lle hamdden a ddefnyddir yn helaeth, gan ddarparu offer chwarae, llwybrau teithio llesol a mannau gwyrdd hygyrch i’r cyhoedd.

5.5 Ar hyn o bryd, nodweddir argloddiau mwy serth i’r de, sydd heb fawr o werth hamdden, gan laswellt hir. Fodd bynnag, prin yw amrywiaeth rhywogaethau’r glastir. Gellid gwella hyn drwy hau hadau blodau gwyllt neu blannu plygiau gyda phlanhigion brodorol sy’n cynnig llawer o neithdar i gynnal peillwyr, gan barhau â threfn torri gwair dôl blodau gwyllt. Gellid plannu planhigion blodeuol brodorol, fel cennin Pedr Dinbych-y-pysgod, hefyd o gwmpas gwaelod coed mawr aeddfed er mwyn cynyddu’r adnodd peillwyr ymhellach. Dylid ystyried llacio’r drefn torri gwair o fewn perimedr y maes parcio yn ogystal â defnyddio pren marw, llwybrau a llennyrch achlysurol wedi’u torri ar gyfer seddi a chwarae anffurfiol. Dylid canolbwyntio darparu amrywiaeth o gynefinoedd ar gyfer bwyd a chysgod i’r de o’r safle oherwydd llai o bwysau hamdden. Gallai gerddi glaw bioamrywiol gael eu gosod hefyd yn rhannau dirlawn maes y pentref i ddarparu cynefinoedd ychwanegol a chyfrannu at reoli llifogydd.

5.6 Dylid plannu coed ychwanegol gan ddefnyddio teipoleg amrywiol; gan gynnwys plannu rhodfeydd coed, coed sbesimen, coed ffrwythau a chnau, gwrychoedd, gwrychoedd bwytadwy a llwyni, er enghraifft ar hyd llwybrau teithio llesol. Dylid plannu gwrychoedd a llwyni hefyd ar hyd yr ardaloedd anffurfiol gerllaw eiddo preswyl i’r gogledd-orllewin o Waun y Dref. Byddai hyn yn diffinio ffin Gwaun y Dref, gan wella ei golwg a chyfrannu at gysylltedd cynefinoedd. Byddai cysylltiadau â’r llain goetir i’r de-orllewin hefyd yn cael eu gwella, gan gryfhau ei rôl fel coridor fforio a chymudo ar gyfer ystlumod.

5.7 Byddai’r ymyriadau hyn yn ategu cynigion i uwchraddio llwybrau presennol i lwybrau cyd-ddefnyddio yn ardal Gwaun y Dref.

 

Ffigur 5.3: NAR3

 

Buddion y prosiect

5.8 Ymhlith buddion y prosiect, fel y’u darlunnir yn Ffigur 5.4 isod, mae:

  • Lleihau risg llifogydd
  • Buddsoddiad a gwell profiad i ymwelwyr
  • Lle i fywyd gwyllt a gwytnwch ecolegol
  • Chwarae, addysg a rhyngweithio â natur
  • Atgyfnerthu ymdeimlad o le
  • Oeri trefol
  • Gwella iechyd a lles
  • Dal a storio carbon a lliniaru effeithiau newid hinsawdd

 

Ffigur 5.4: Buddion

 

Mecanweithiau cyflawni

5.9 Dylid cyflenwi dolydd blodau gwyllt, perllannau cymunedol a gwrychoedd llawn rhywogaethau yn unol ag adran gyflawni’r Strategaeth Peillwyr.

5.10 Dylid plannu coed yn unol ag adran gyflawni’r Strategaeth Plannu Coed Trefol.

5.11 Dylid cynnwys toriadau blynyddol o’r ddôl blodau gwyllt yn rhaglen waith Tîm Cynnal a Chadw Amwynderau / Gofal Stryd Cyngor Sir Penfro (CSP).

 

Partneriaid posibl
  • Tîm Cynnal a Chadw Amwynderau / Gofal Stryd CSP
  • Partneriaeth Natur Sir Benfro
  • Arberth Gwyllt / Wild Narberth

 

Cost amlinellol

 

Cost isel = <£250k

5.12 Mae hadau blodau gwyllt yn gymharol rad a byddai arbedion yn cael eu gwneud oherwydd llai o dorri gwair. Mae nifer y coed a blannir gyda nhw yn cael dylanwad ar y gost gyffredinol.

 

Cyfleoedd ariannu posibl
  • Cronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur
  • Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

 

Amserlen

 

Tymor canolig = 1-5 mlynedd

5.13 Gall yr ymyriadau amrywiol gael eu gweithredu fesul dipyn dros dymhorau plannu i gydredeg â’r capasiti a’r adnodd sydd ar gael. Byddai blodau gwyllt yn sefydlu’n gyflym os yw ffrwythlondeb pridd yn isel.

 

Cyfyngiadau posibl

5.14 Byddai angen i ddyluniad y gwelliannau sicrhau cydbwysedd rhwng yr angen i adfer natur a darparu cynefin i fywyd gwyllt a’r gofyniad i gael mynediad i’r safle a’i fwynhau. Dylid cyflawni hyn drwy ddylunio’r lle’n sensitif i ddarparu llwybrau penodol ar gyfer mynediad teithio llesol, cyfleoedd i archwilio natur yn ogystal ag ardaloedd ar gyfer bioamrywiaeth.

5.15 Byddai’n rhaid i raddau’r plannu blodau gwyllt sicrhau nad yw’n rhwystro digwyddiadau cymunedol o fewn y man gwyrdd presennol.

5.16 Gall dôl blodau gwyllt ddenu cwynion gan aelodau’r cyhoedd o bryd i’w gilydd sy’n ystyried bod yr ardaloedd yn flêr neu heb eu rheoli. Gall arwyddion a dehongli helpu i gyfleu bwriad pwrpasol y ddôl a hybu ymwybyddiaeth am beillwyr.

5.17 Mae angen ystyried sut i gasglu’r toriadau a’u gwaredu o ardal y ddôl er mwyn atal cyfoethogi’r pridd. Y ffordd fwyaf effeithlon o wneud hynny yw defnyddio peiriant torri a chasglu gwair ond mae angen buddsoddiad cyfalaf ar hyn.

5.18 Byddai angen archwilio coed ar hyd llwybrau teithio llesol yn rheolaidd er mwyn sicrhau nad ydynt yn rhwystro mynediad nac yn achosi unrhyw bryderon iechyd a diogelwch.

 

Cynnal a chadw a stiwardiaeth

5.19 Mae angen torri a chodi dôl blodau gwyllt ar ddiwedd y tymor. Fel arfer ym mis Medi y mae hyn yn digwydd. Yn ddelfrydol, dylid gadael y sgil-gynhyrchion am saith diwrnod i daflu hadau cyn cael eu gwared. Efallai y bydd angen torri a chodi eildro tua dechrau’r gwanwyn i gael gwared ar dyfiant y gaeaf.

5.20 Byddai angen gofal dyfrio a sefydlu fel rhan o gyfnod cynnal a chadw 60 mis er mwyn sicrhau y gall coed ddod yn annibynnol yn y dirwedd.

5.21 Byddai angen archwilio a gwaredu gardiau coed pan nad oes risg o ddifrod bellach.

 

Monitro ar gyfer llwyddiant

5.22 Dylid monitro cyfradd oroesi planhigion newydd a sefydlu dolydd blodau gwyllt ar gyfer dangosyddion llwyddiant. Ar ôl i’r holl welliannau bioamrywiaeth gael eu gweithredu, gellid trefnu BioBlitz cymunedol blynyddol i gofnodi’r amrywiaeth o fywyd ar y safle.

 

Camau nesaf

5.23 Adolygu adran gyflawni’r Strategaethau Plannu Coed Trefol i bennu’r broses ar gyfer plannu coed ac i ddeall y cydrannau allweddol ar gyfer sefydlu coed yn llwyddiannus.

5.24 Adolygu adran gyflawni’r Strategaeth Peillwyr i benderfynu ar y broses ac adolygu astudiaethau achos yn ymwneud â chreu dolydd blodau gwyllt.

5.25 Canfod parodrwydd Arberth Gwyllt neu grŵp cymunedol arall i fod yn rhan o’r gwaith o reoli a chynnal a chadw coed newydd a blannwyd.

 

Ffigur 5.5: Arberth


Yn ôl i’r top

 

NAR 7 – Hyrwyddo gwyrddu canol tref Arberth

5.26 Nodweddir canol tref Arberth gan gymysgedd ddeniadol o siopau, adeiladau ac asedau treftadaeth, gan gynnwys Neuadd y Dref neilltuol Arberth a Chofeb Ryfel Arberth. Ar hyn o bryd, cerbydau yw’r brif nodwedd ar y Stryd Fawr, gyda lleoedd parcio ar y stryd yn cael eu darparu’n rheolaidd ar ddwy ochr y stryd unffordd. Mae cyfle i hawlio rhywfaint o’r lle hwn yn ôl gan gerbydau a darparu amgylchedd mwy diogel a mwy deniadol i gerddwyr.

5.27 Dylid ailddefnyddio neu uwchraddio cafnau plannu uwch presennol i greu ardaloedd mwy o faint a mwy effeithiol o blannu sy’n denu peillwyr, gyda mannau wedi’u cynnwys ar gyfer seddi a pharcio beiciau. Lle nad yw mannau a gwasanaethau tanddaearol yn gyfyngiadau, dylid gwaredu rhywfaint o dirwedd galed i greu ardaloedd mwy o blannu a gerddi glaw. Gellid cael gwared ar leoedd parcio achlysurol er mwyn gwneud lle i blannu coed stryd ychwanegol neu barciau bach. Dylai hyn ganolbwyntio ar un ochr o’r stryd i greu mwy o le i gerddwyr a lle gorlif i fusnesau. Lle mae lle a gwasanaethau tanddaearol yn caniatáu, dylid ystyried cyflwyno coed stryd ychwanegol.

5.28 Mae’r cyfleoedd hyn hefyd yn berthnasol ar gyffordd Heol yr Orsaf a’r A478 lle mae llawer iawn o dirlunio caled gyda chafnau plannu presennol. Mae gan Stryd y Farchnad a’r ardal o amgylch y Gofeb Ryfel hefyd y potensial i adennill lle o leoedd parcio ceir ac integreiddio ardaloedd o fannau gwyrdd o fewn amgylchedd cyhoeddus presennol. Dylid hefyd edrych ar gyflwyno safleoedd bws gwyrdd ledled Arberth drwy ddefnyddio toeau gwyrdd, planhigion dringo a chafnau plannu uwch.

5.29 Dylid ymchwilio i’r Stryd Fawr fel lleoliad posibl ar gyfer llwybr cyd-ddefnyddio. Gallai hyn gysylltu â’r cysylltiad beicio a gyflwynwyd yn ddiweddar tuag at Goed Canaston a Hwlffordd.

 

Ffigur 5.6: NAR7

 

Buddion y prosiect

5.30 Ymhlith buddion y prosiect, fel y’u darlunnir yn Ffigur 5.7 isod, mae:

  • Lleihau risg llifogydd
  • Darparu cyfleoedd teithio llesol
  • Gwella ansawdd dŵr
  • Buddsoddiad a gwell profiad i ymwelwyr
  • Lle i fywyd gwyllt a gwytnwch ecolegol
  • Chwarae, addysg a rhyngweithio â natur
  • Gwella ansawdd aer a rheoleiddio sŵn
  • Rhyngweithio cymdeithasol a chydlyniant cymunedol
  • Atgyfnerthu ymdeimlad o le
  • Oeri trefol
  • Gwella iechyd a lles
  • Dal a storio carbon a lliniaru effeithiau newid hinsawdd

 

Ffigur 5.7: Buddion

 

Mecanweithiau cyflawni

5.31 Dylid cyflawni ymyriadau fel plannu coed mewn cydweithrediad â thrigolion a busnesau lleol. Trwy ganiatáu i drigolion gael dweud eu dweud ym mha rywogaethau yr hoffent eu gweld y tu allan i’w cartrefi / busnesau, ac ymhle yr hoffent eu plannu, byddai’n annog mwy o stiwardiaeth o’r sbesimenau drwy’r cyfnod sefydlu a’r tu hwnt. Mae dyluniad pyllau coed, y dyfnder a’r pridd a ddefnyddir a’r dyfrio a’r gwaith cynnal a chadw parhaus yn hanfodol er mwyn sicrhau sefydlu llwyddiannus.

5.32 Lle bo’n bosib, dylid cyrchu coed a deunydd plannu yn lleol.

5.33 Dylai arferion plannu ddilyn y canllawiau cyflenwi sydd wedi’u nodi o fewn y Strategaeth Plannu Coed Trefol a’r Strategaeth Peillwyr.

 

Partneriaid posibl
  • Tîm Cynnal a Chadw Amwynderau / Gofal Stryd Cyngor Sir Penfro (CSP)
  • Busnesau lleol;
  • Y gymuned leol;
  • Wardeniaid coed Sir Benfro; a
  • Chyngor Tref Arberth

 

Cost amlinellol

 

Cost ganolig = <£250k – £1 miliwn

5.34 Mae’r prosiect hwn yn agored iawn i newid a gellid gwneud gwelliannau am <£250k. Fodd bynnag, argymhellir bod y Stryd Fawr, Stryd y Farchnad a’r gyffordd â Ffordd yr Orsaf yn cael eu hadolygu a’u dylunio yn eu cyfanrwydd i helpu i greu canol tref mwy swyddogaethol a chydlynol.

 

Cost uchel = >£1 miliwn

5.35 Pe bai llwybr cyd-ddefnyddio yn cael ei weithredu ar hyd y Stryd Fawr, yna byddai hyn yn cynyddu costau.

 

Cyfleoedd ariannu posibl
  • Cronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur
  • Nawdd busnes
  • Cyngor Sir Penfro
  • Y Gronfa Ffyniant Gyffredin

 

Amserlen

 

Tymor canolig = 1-5 mlynedd

5.36 Mae’r prosiect hwn yn agored i newid, a gellid gweithredu ymyriadau ar lawr gwlad yn gymharol gyflym. Fodd bynnag, os cymerir dull cydlynus sy’n edrych ar ganol tref Arberth yn ei gyfanrwydd, gallai’r prosiect gymryd nifer o flynyddoedd i’w gyflenwi.

 

Cyfyngiadau posibl

5.37 Gall busnesau wrthwynebu’r cynigion os ydyn nhw’n credu y byddai nifer yr ymwelwyr yn lleihau oherwydd prinder parcio. Felly, byddai angen i’r broses ddylunio fod yn gydweithredol, gan ddarparu enghreifftiau cynsail o fannau lle mae ymyriadau gwyrddu wedi arwain at effeithiau cadarnhaol yng nghanol pentrefi / trefi eraill. Byddai angen ymgysylltu tebyg gyda grwpiau hygyrchedd, a dylid egluro o’r cychwyn cyntaf y byddai lleoedd parcio bathodyn glas yn parhau.

5.38 Gallai gwasanaethau a chyfleustodau tanddaearol gyfyngu ar faint yr ymyriadau ‘yn y ddaear’, gan gynnwys gerddi glaw a choed mewn tirweddau caled.

5.39 Mae sefydlu llystyfiant, yn enwedig coed, o fewn tirweddau caled yn llawer anoddach nag mewn tirweddau meddal a byddai angen cynnal a chadw parhaus yn ystod y cyfnod sefydlu (60 mis) i sicrhau y gall y coed fod yn annibynnol yn y dirwedd. Dylid defnyddio adran gyflawni’r Strategaeth Coed Trefol i arwain y gwaith plannu a chynnal a chadw priodol.

 

Cynnal a chadw a stiwardiaeth

5.40 Dylai Tîm Cynnal a Chadw Amwynderau / Gofal Stryd CSP fod yn gyfrifol yn y pen draw am sefydlu coed ac unrhyw ddeunydd plannu. Fodd bynnag, byddai cydweithio ac ymgysylltu â’r gymuned a busnesau o ddechrau’r prosiect yn helpu i gyflawni mwy o stiwardiaeth hirdymor o’r cynllun. Dylai busnesau allu noddi coed, cafnau plannu neu barciau bach a gallent hefyd gyfrannu tuag at eu gwaith cynnal a chadw parhaus. Gallai hyn gynnwys dyfrio yn ystod cyfnodau sych neu roi gwybod am unrhyw fethiannau i CSP.

5.41 Adolygu adrannau ‘cyflawni’ y Strategaeth Coed Trefol a’r Strategaeth Peillwyr.

 

Monitro ar gyfer llwyddiant

5.42 Byddai deall effaith y prosiect gwyrddu hwn ar nifer yr ymwelwyr a ffyniant busnes yn arf defnyddiol i annog buddsoddiad mewn mannau eraill ac i benderfynu a ddylid efelychu cynlluniau fel hyn. Dylid defnyddio arolygon rheolaidd gyda busnesau lleol, arolygon traffig a chyfrifiadau cerddwyr er mwyn deall sut mae’r defnydd o ganol y dref yn newid cyn ac ar ôl gweithredu’r prosiect.

 

Camau nesaf

5.43 Ymgynghori â Thîm Cynnal a Chadw Amwynderau / Gofal Stryd CSP.

5.44 Ymgynghori â busnesau lleol, yn enwedig lle byddai lleoedd parcio ceir yn lleihau, er mwyn deall yr awydd am y cynllun ac i sicrhau bod unrhyw bryderon yn cael eu datrys cyn y broses ddylunio.

5.45 Ymgynghori â grwpiau hygyrchedd.

5.46 Cyfarwyddo pensaer tirwedd i ddatblygu dyluniadau cysyniadol ar gyfer canol y dref.

 

Ffigur 5.8: Arberth

Yn ôl i’r top

 

NAR14 – Cyflwyno gwlyptiroedd a phlannu coed torlannol ym Mhont Arberth

5.47 Mae ardal o dir pori rhwng Pont Arberth a Gwaith Trin Dŵr Gwastraff Gorllewin Arberth yn cynnig cyfle i gynnal gwalau gwlyptir a phlannu coed torlannol ychwanegol. Byddai’r ymyriad hwn yn darparu gwell cysylltedd cynefinoedd o fewn Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) ehangach Afonydd Cleddau. Byddai manteision ychwanegol y prosiect yn cynnwys storio llifddwr a darparu clustog ar gyfer gollyngfa garthion mewn cyfnodau o law mawr. Byddai’r cynnig hefyd yn arwain at well ansawdd dŵr, llai o risg o lifogydd yn ogystal â llai o risg siltio cyrff dŵr cyfagos.

5.48 Byddai creu cynefin gwlyptir yn cynorthwyo i stripio maetholion o’r ollyngfa, gan helpu i leddfu rhyddhau’r llwyth maethol a lleihau’r effaith ar ACA ehangach Afonydd Cleddau. Mae Afon Cleddau ei hun yn destun prosiect parhaus ‘Pedair Afon LIFE’ a arweinir gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i ddiogelu, gwella a helpu i adfer y cwrs dŵr. Mae cynigion i blannu coed torlannol a chreu gwlyptir, felly, yn cyd-fynd yn gryf ag amcanion y prosiect.

 

Ffigur 5.9: NAR14

 

Buddion y prosiect

5.49 Ymhlith buddion y prosiect, fel y’u darlunnir yn Ffigur 5.10 isod, mae:

  • Lleihau risg llifogydd
  • Gwella ansawdd dŵr
  • Lle i fywyd gwyllt a gwytnwch ecolegol
  • Atgyfnerthu ymdeimlad o le
  • Dal a storio carbon a lliniaru effeithiau newid hinsawdd

 

Ffigur 5.10: Buddion

 

Darparu atebion seiliedig ar natur a gwasanaethau ecosystemau

5.50 Mae rheoli defnydd tir am y 90 mlynedd ddiwethaf wedi golygu mwy o ddraenio’r tir, mewn ymgyrch i sicrhau bod tir fferm mor effeithlon ag sy’n bosibl. Arweiniodd hyn at leihau amrywiaeth cynefinoedd, a cholli gwlyptiroedd, glaswelltir gwlyb a chynefinoedd daearol gwlyb cysylltiedig. Mae hefyd wedi cynyddu risg llifogydd, am ei fod yn cynyddu cyflymder a chyfaint y dŵr sy’n llifo i lawr dalgylchoedd, gan leihau effaith glustogi’r dirwedd yn ystod glaw trwm a maith. Mae draeniad cynyddol priddoedd gwlyb hefyd yn cael effaith andwyol ar allu’r pridd hwnnw i ddal a storio carbon.

5.51 Trwy ddefnyddio technegau megis lleiniau clustogi torlannol, sy’n lleihau erydu a sathru’r glannau gan dda byw, plannu lleiniau cysgodi ac ymylon caeau, gellir cynyddu’n sylweddol allu’r dirwedd i amsugno glawiad a chlustogi rhag glawiad. Byddai hyn yn cael effaith fuddiol ar risg llifogydd, ansawdd dŵr a dal a storio carbon. Byddai ail-wlychu’r priddoedd gwlyptir hefyd yn cynyddu eu gallu i amsugno a chloi carbon.

5.52 Gellid defnyddio’r broses o greu gwlyptiroedd i gyfyngu ar y ffosfforws a nitrogen sy’n mynd i mewn i’r afon, drwy amsugno a dal a storio maetholion wrth i ddŵr basio trwy’r system, gan hidlo’r dŵr yn y bôn. Mae’r dŵr ffo o gyfleusterau trin carthion fel arfer yn llawn maetholion a gellir defnyddio gwlyptiroedd i helpu i leddfu’r mater hwn, yn ogystal â chyfrannu at wasanaethau ecosystem eraill.

 

Mecanweithiau cyflawni

5.53 Dylid cynnal arolwg cychwynnol o’r safle a chwmpasu gan wyddonwyr dinasyddion hyfforddedig, staff Cyngor Sir Penfro (CSP) neu ymgynghorwyr hyfforddedig. Byddai angen ymgysylltu â thirfeddianwyr a deiliaid / porwyr tir er mwyn cyflwyno’r prosiect hwn a thrafod unrhyw effeithiau ar ddefnydd tir presennol. Yn ogystal, byddai trafod gyda Dŵr Cymru (sef gweithredwr y gwaith trin carthion), Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru a CNC hefyd yn fuddiol. Byddai’r drafodaeth hon gyda phartneriaid posibl yn llywio natur y prosiect, gyda’r cydbwysedd posibl rhwng creu gwlyptir a phlannu coed i’w benderfynu gan gostau, dewisiadau rhanddeiliaid a buddion posibl.

5.54 Rhagwelwn y gallai’r ymyriadau a’r newidiadau ffisegol arfaethedig i reoli tir gael eu darparu gan y tirfeddianwyr eu hunain, neu gan gontractwyr amaethyddol allanol.

5.55 Ceir cyfle i ddefnyddio’r prosiect i greu credydau masnachu maetholion yn fodd o ariannu’r ymyriad yn gyfan gwbl neu’n rhannol, gyda chynllun peilot yn cael ei weithredu gan EEP-Ecobank ar gyfer credydau maetholion sy’n gweithredu o fewn dalgylch Aberdaugleddau (er bod statws y prosiect hwn yn aneglur ar hyn o bryd).

 

Partneriaid posibl
  • Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru;
  • CNC;
  • Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru;
  • Deiliaid tir; a
  • Dŵr Cymru

 

Cost amlinellol

 

Cost isel = <£250k

5.56 Byddai’r costau’n cynnwys ychydig o gyngor arbenigol cyfyngedig, ffioedd asiantau tir, ffensio, costau plannu coed a pheiriannau posibl ar gyfer creu gwalau gwlyptir. Os bydd ateb gwlyptir wedi’i beiriannu’n fwy i helpu i wella elifion carthion yn cael ei ffafrio yn dilyn ymgynghoriad, byddai’r costau’n cynyddu.

 

Cyfleoedd ariannu posibl
  • Cynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru sy’n dod i’r amlwg
  • Coedwig Genedlaethol Cymru – Y Grant Buddsoddi mewn Coetir (Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol – Cylch 1)
  • Dŵr Cymru
  • CNC
  • Credydau maetholion mewn partneriaeth ag EEP Ecobank, Fforwm Arfordirol Sir Benfro neu CSP o bosibl.

 

Amserlen

 

Cam cyflym ymlaen (<1 flwyddyn)

5.57 Gellid plannu coed torlannol a chreu lleiniau cysgodi ac ymylon caeau mewn ambell leoliad allweddol yn y tymor plannu nesaf, gyda gwaith cynnal a chadw tirwedd yn ofynnol ar draws y cyfnod sefydlu 60 mis. Un o’r prif bethau anhysbys ar gyfer y prosiect fyddai’r amser a gymerir i ennill cytundeb / caniatâd y tirfeddiannwr / deiliad / porwr a chyrchu cyllid.

 

Tymor canolig (1-5 mlynedd)

5.58 Dylid gwneud mwyafrif y gwaith plannu coed ar draws y pum tymor plannu nesaf er mwyn caniatáu ar gyfer digon o gynllunio ac ymgysylltu.

 

Cyfyngiadau posibl

5.59 Un cyfyngiad allweddol ar gyfer y prosiect fyddai cytundebau tirfeddiannwr / deiliad tir / porwr, gan y gallai fod risg canfyddedig i hyfywedd fferm sy’n gysylltiedig â cholli rhywfaint o dir i ymylon torlannol / lleiniau cysgodi / plannu ymylon caeau ac ati. Dylid gwrthddadlau’r pryderon hyn ag argaeledd taliadau amaethyddol ar gyfer nwyddau a gwasanaethau amgylcheddol, ac felly mae’r oedi cyn lansio Cynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru yn gyfyngiad posibl yn hyn o beth.

5.60 Byddai angen i asesiad ecolegol o’r safle gael ei gynnal gan ecolegydd gyda’r holl waith safle’n cael ei oruchwylio o bosibl gan Glerc Gwaith Ecolegol (ECoW).

 

Cynnal a chadw a stiwardiaeth

5.61 Byddai angen cynnal a chadw’r gwaith meddal a’r gwlyptir yn rhan o’r cyfnod sefydlu 60 mis, gan gynnwys amnewid coed aflwyddiannus.

5.62 Os cyflwynir gwlyptir wedi’i beiriannu fel rhan o’r prosiect, byddai hyn yn golygu mwy o ofynion cynnal a chadw, a fyddai’n gyfrifoldeb Dŵr Cymru.

 

Monitro ar gyfer llwyddiant

5.63 Yn amodol ar argaeledd cyllid, dylid monitro llwyddiant y prosiect drwy wyddoniaeth dinasyddion syml, gyda chymorth addas. Mae llwyddiant llain glustogi yn aml yn ddibynnol ar ddylunio cychwynnol ond hefyd gofal a rheolaeth ddilynol gan ddefnyddio technegau coedyddiaeth i gynnal y llain gysgodi y tu hwnt i ddisgwyliad oes y plannu coed gwreiddiol.

 

Camau nesaf

5.64 Ymgysylltu â thirfeddianwyr / deiliaid / porwyr ac ymrwymo i gytundebau i ddarparu ymyriadau ar eu tir. Dylid ymgynghori â CNC hefyd i ymchwilio i weld a yw manteision y prosiect yn cyd-fynd â phrosiect Pedair Afon LIFE a chyfleoedd ariannu posibl. Dylid edrych hefyd ar y potensial ar gyfer credydau maetholion i wrthbwyso costau’r prosiect.

Yn ôl i’r top

 

Rhestr Hir o Brosiectau

 

NAR1 – Gwella cysylltiadau a dehongliad yng Nghastell Arberth

5.65 Mae’r fynedfa bresennol i Gastell Arberth yn cael ei chuddio, yn aneglur ac yn cael ei defnyddio’n bennaf ar gyfer parcio cerbydau. Ceir cyfle i wella’r porth i’r safle trwy well arwyddion a phwyntiau mynediad dan reolaeth. Byddai dynodi llwybrau’n well o Stryd y Farchnad yn cynyddu ymwybyddiaeth am y safle a dylai hyn gynnwys arwyddion ar y palmant a ledwyd wrth gyffordd Stryd y Farchnad a Theras y Castell. Dylid ystyried gwell byrddau dehongli o fewn tir Castell Arberth hefyd.

 

NAR2 – Darparu cynefinoedd coetir yng Nghastell Arberth

5.66 Dylid gwella ffin Castell Arberth drwy ddarparu mynediad i goetir cyfagos sy’n eiddo i Gyngor Sir Penfro (CSP) i’r dwyrain o’r safle. Dylai gwell rheolaeth ar y coetir ddarparu lle ar gyfer ystod amrywiol o gynefinoedd, yn ogystal ag ardaloedd ar gyfer seddi cysgodol, chwarae naturiol a hamdden. Dylid darparu hefyd gysylltiadau â Safle Carafanau cyfagos Brookside a Castlewood. Byddai llacio’r drefn torri gwair a chadw pren marw ar draws rhannau eraill o Gastell Arberth yn darparu cynefinoedd ychwanegol i beillwyr.

 

NAR3 – Gwella gwerth bioamrywiaeth Gwaun y Dref

5.67 Cyfeirier at y Prosiectau Cicdanio.

 

NAR4 – Cyflwyno llwybr cerdded cylchol yng Nghastell Arberth

5.68 Defnyddio hawliau tramwy cyhoeddus presennol i greu llwybr cerdded cylchol i’r de-ddwyrain o Arberth o Tabernacle Lane. Byddai’r llwybr yn symud i’r de ar draws y caeau tuag at Safle Carafanau Brookside a Castlewood cyn cysylltu’n ôl i fyny drwy Gastell Arberth tuag at Stryd y Farchnad. Dylid cynnwys gwell arwynebau a dynodi llwybrau’n well yn rhan o lwybr hamdden, gan ddarparu cysylltiad o Safle Carafanau Brookside a Castlewood i ganol y dref.

 

NAR5 – Darparu llwybr cerdded cylchol i ogledd-orllewin Arberth

5.69 Mae tir i’r gogledd-orllewin o’r anheddiad yn amddifad o gysylltiadau hawliau tramwy cyhoeddus â chefn gwlad ehangach. Ceir cyfle felly i greu llwybr cylchol newydd yn dilyn aliniad ffosydd coediog a lleiniau presennol o blanhigfa rhwng Ruchacre, Flimstone ac yn ôl tuag at Barc Jacob a Phlanhigfa Rushacre. Dylai’r cynnig hwn gefnogi cynigion i ddarparu llwybr cyd-ddefnyddio ar hyd Redstone Road i Arberth.

 

NAR6 – Sefydlu perllan gymunedol

5.70 Gan weithio mewn partneriaeth ag amrywiaeth o randdeiliaid, nodi lleoliad ar gyfer perllan gymunedol yn y dref. Dylai cynigion geisio darparu rhandir / perllan gymunedol a fyddai’n cyflawni rôl hanfodol wrth gysylltu pobl leol â’r broses o gynhyrchu bwyd. Os oes modd, dylid gadael ymylon plannu heb eu torri, cyflwyno toeau byw ar siediau ac ychwanegu bwydwyr adar i ddenu bywyd gwyllt. Anogir pobl i beidio â defnyddio plaladdwyr a chwynladdwyr.

 

NAR7 – Hyrwyddo gwyrddu canol tref Arberth

5.71 Cyfeirier at y Prosiectau Cicdanio.

 

NAR8 – Gwella safle Canolfan Gymunedol Bloomfield

5.72 Dylid creu ystodau o ddôl blodau gwyllt i wella’r cloddiau gwyrdd a’r lleiniau o fewn cwrtil Canolfan Gymunedol Bloomfield. Byddai’r ymyriad hwn yn darparu cynefin a chysylltedd ychwanegol ledled Arberth ar gyfer peillwyr. Dylid hefyd plannu coed ychwanegol o fewn y lleiniau ymyl ffordd gwyrdd cyfagos o fewn y maes parcio.

 

NAR9 – Creu cysylltiadau â Gorsaf Arberth

5.73 Creu cysylltiad gwell i gerddwyr rhwng canol tref Arberth a Gorsaf Arberth. Dylai hyn gynnwys opsiynau ar gyfer lledu ffyrdd, estyn llwybrau troed a thawelu traffig ar hyd Ffordd yr Orsaf (megis parhau’r terfyn cyflymder 30mya heibio’r gyffordd â Kiln Park Road). Dylid hefyd ystyried opsiynau tawelu traffig gwyrdd ar hyd yr A478 a Kiln Park Road, gyda’r nod o ddarparu llwybr ychwanegol i’r orsaf ac Ysgol Arberth. Dylid defnyddio gwaith gwyrddu trefol a phlannu coed stryd ar raddfa fechan yng Ngorsaf Arberth i hyrwyddo porth mwy croesawgar.

 

NAR10 – Gwella gwerth bioamrywiaeth perimedr y cae rygbi

5.74 Paratoi’r ddaear ar gyfer hadau blodau gwyllt a llacio’r drefn torri gwair o amgylch cyrion y caeau rygbi. Byddai hyn yn cynnig cynefin ychwanegol i beillwyr drwy greu dôl blodau gwyllt, heb gael effaith o gwbl ar weithgareddau chwaraeon a gwylwyr.

 

NAR11 – Hyrwyddo gwyrddu Parc Menter Ruchacre

5.75 Gweithio gyda thenantiaid a pherchnogion busnes ym Mharc Menter Ruchacre i nodi ardaloedd ar gyfer plannu coed ychwanegol a chyfleoedd gwyrddu. Plannu coed o fewn ardaloedd o laswellt wedi’i dorri’n fyr ac annog llacio’r drefn torri gwair. Archwilio cyfleoedd i amrywiaethu gwrychoedd drwy gyflwyno rhywogaethau ychwanegol a choed gwrychoedd lle mae digon o le. Archwilio defnyddiau ‘yn y cyfamser’ ar gyfer tir diffaith, er enghraifft, dolydd blodau gwyllt.

.

 

NAR12 – Creu porth gwyrdd wrth gyffordd yr A478 a Kiln Park Road

5.76 Datblygu lleiniau ymyl ffordd sy’n llawn blodau gwyllt ar gyffordd yr A478 a Kiln Park Road i hyrwyddo manteision i beillwyr a chreu porth croesawgar i Arberth, ar yr un pryd.

 

NAR13 – Sicrhau dulliau sy’n denu peillwyr yn Ysgol Gynradd Arberth

5.77 Gan gydweithio ag Ysgol Arberth, adeiladu ar ei Chod Eco a’i rhandir presennol i ddarparu cynefin ychwanegol i beillwyr. Dylai hyn gynnwys gwneud a phlannu bomiau hadau, creu pentyrrau boncyffion ac adeiladu gwestai pryfed. Dylid cyflwyno dolydd blodau gwyllt a llacio’r drefn torri gwair o fewn yr ardaloedd o laswellt a dorrir yn fyr wrth y fynedfa ac o fewn maes parcio’r ysgol.

 

NAR14 – Cyflwyno gwlyptiroedd a phlannu coed torlannol ym Mhont Arberth

5.78 Cyfeirier at y Prosiectau Cicdanio.

 

NAR15 – Hyrwyddo plannu coed yn Cox Hill a Garfield Gardens

5.79 Dylid edrych ar opsiynau ychwanegol ar gyfer plannu coed o fewn ymylon ffordd glaswellt a llwybrau cyd-ddefnyddio cyfagos ar Cox Hill a Garfield Gardens. Sicrhau bod rhywogaethau addas yn cael eu dewis os ydynt yn gyfagos i ffyrdd cerbydau e.e. bach i uchder canolig gyda chorunau unionsyth. Ynghyd â hyn dylid plannu bylbiau a phlygiau o dan y coed i ddarparu diddordeb gweledol a pheillwyr ychwanegol.

 

NAR16 – Ailblannu’r goeden sydd ar goll wrth ymyl Cofeb Ryfel Arberth

5.80 Ar hyn o bryd mae pwll coed yn wag gerllaw Cofeb Ryfel Arberth. Dylid llenwi hwn â choeden sbesimen newydd sy’n briodol i’r lleoliad trefol cyfyngedig e.e. cerddinen wen (Sorbus aria), masarnen fach (Acer campestre) a bedwen arian (Betula pendula).

 

NAR17 – Cyflwyno gerddi glaw, coed stryd a phalmantau athraidd ym maes parcio Gwaun y Dref

5.81 Llawr caled gan mwyaf sydd yn y maes parcio mawr o fewn Gwaun y Dref ac nid oes coed o gwbl nac ymyriadau gwyrddu trefol eraill. Ceir ychydig bach o blannu coed ar y maes ei hun ac mae mewn ardal sy’n dueddol o ddirlenwi. Dylid targedu’r ardaloedd hyn gyda phyllau gwanhau a fyddai’n ffurfio nodweddion dŵr i’r gymuned leol yn ogystal ag ymyriadau gwyrddu trefol eraill. Byddai ymyriadau Systemau Draenio Cynaliadwy (SDC) sy’n dargyfeirio dŵr storm o garthffosydd cyfun hefyd yn helpu i leihau’r pwysau ar y seilwaith yn Arberth adeg llifogydd. Dylai cynigion sicrhau integreiddio’r llwybr cyd-ddefnyddio arfaethedig sy’n cysylltu Moorfield Road â llwybr Arberth i Felin Pwll-du.

 

NAR18 – Sicrhau gwelliannau i Fynwent St Andrews

5.82 Gan gydweithio ag Eglwys St. Andrew’s, Cyngor Tref Arberth a Chyfeillion Mynwent Arberth, dylid datblygu cynigion i wella’r safle er budd hamdden a bioamrywiaeth. Ceir cyfle i gynyddu hygyrchedd y safle trwy weithredu gwelliannau i’r rhwydwaith llwybrau a chyflwyno seddi ychwanegol. Dylai cynigion hefyd geisio mwyhau bioamrywiaeth y safle drwy welliannau gwaith meddal a sefydlu cynefin blodau gwyllt.

Yn ôl i’r top

 

Pennod flaenorol:

Aberdaugleddau

 

Pennod nesaf:

Trefdraeth

 

Dychwelyd i’r hafan:

Hafan