Cynnwys Tudalen:
Portread o Seilwaith Gwyrdd Doc Penfro
Prosiectau Cicdanio
Rhestr Hir o Brosiectau
Doc Penfro
Ffigur 9.1: Doc Penfro
Portread o Seilwaith Gwyrdd Doc Penfro
9.1 Tref gymharol fawr yw Doc Penfro ag ychydig o dan 10,000 o drigolion. Ar lannau deheuol Aberdaugleddau, mae aberoedd Afon Cleddau i’r gogledd ac Afon Penfro i’r de yn ffinio â’r dref. Tref bysgota oedd yma’n wreiddiol, ond trodd yn dref a chanddi gefndir diwydiannol a morwrol cryf, ynghlwm wrth ei dociau a harbwr naturiol dwfn Aberdaugleddau, sy’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ac yn Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA).
9.2 Mae gan y dref gysylltiadau trafnidiaeth cryf â’r dirwedd ehangach, gyda rheilffordd, fferïau, a nifer o lwybrau hamdden pellter hir yn cysylltu â chanol y dref ac yn mynd drwyddi. Daw Llwybr Arfordir Sir Benfro, sy’n 186 milltir o hyd, ar hyd ochr dde-orllewinol y dref a thrwy’r canol, gan gysylltu dros Bont Cleddau ymhellach i’r gogledd. Daw llwybr Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol (NCN) hefyd heibio o’r gogledd i’r de drwy ganol y dref, gydag amryw o lwybrau hamdden eraill yn cysylltu ac yn estyn i’r dwyrain i’r dirwedd ehangach. Crynhoir cyfran o’r rhwydwaith presennol o Hawliau Tramwy Cyhoeddus gerllaw ac o fewn cwrs golff mawr ar ymyl de-orllewin y dref, sydd â chysylltiadau lluosog â Llwybr Arfordir Penfro a chanol y dref. Mae rhannau eraill o’r llwybr troed ar ochr ddwyreiniol y dref yn fwy digysylltiad, ac mae cyfleoedd i wella cysylltedd cyffredinol.
9.3 Nid oes llawer o le agored ar hyd y morlin morydol, yr adeiladwyd yn helaeth arno ar y cyfan yn rhan o’r dociau a’r porthladd, yn ogystal ag ardaloedd o anheddiad preswyl dwys. Fodd bynnag, mae mannau agored mwy o faint ar wasgar ledled canol y dref, ac maent wedi’u cysylltu drwy lwybrau beicio a cherdded. Yn gyffredinol, mae ardaloedd chwarae a chaeau hamdden wedi’u crynhoi yn nwyrain y dref, gyda rhannau llai o lwybr troed yn cysylltu rhyngddynt. Ceir cyfleoedd i wella mannau cyhoeddus ar hyd y morlin, yn enwedig i’r gogledd o’r dociau, a fyddai’n galluogi mwy o gysylltiadau cymunedol â’r aber a byd natur. Mae grid stryd rheolaidd Doc Penfro yn adlewyrchu hanes yr anheddiad fel iard longau allweddol y Llynges Frenhinol a defnyddio’r strydoedd ar gyfer gorymdeithiau milwrol; mae etifeddiaeth hyn wedi creu tref sydd heb fawr iawn o goed na SG trefol.
Ffigur 9.2: Cyfleoedd SG yn Noc Penfro
Prosiectau Cicdanio
PED2 – Creu hierarchaeth o blannu coed stryd
9.4 Mae patrwm stryd grid Doc Penfro yn cynnig y cyfle i blannu coed stryd er mwyn meddalu’r amgylchedd cyhoeddus presennol. Mae’r patrwm grid yn nodwedd ddiffiniol ar Ardal Gadwraeth Doc Penfro ac felly dylai plannu coed newydd atgyfnerthu hierarchaeth y strydoedd hyn. Byddai hyn yn cyfrannu’n gadarnhaol at gymeriad y treflun, gan sicrhau bod asedau treftadaeth yn cael eu dathlu yn hytrach na’u sgrinio. Dylai cynigion hefyd osgoi unrhyw effeithiau niweidiol ar asedau treftadaeth.
9.5 Gan gydweithio â thrigolion yn ogystal â’r Swyddog Cadwraeth Adeiladu Hanesyddol a’r Swyddog Tirwedd yng Nghyngor Sir Penfro (CSP), dylid nodi lleoliadau ar gyfer plannu coed stryd newydd. Dylai’r cynigion sicrhau bod cynigion plannu coed yn gwella safle’r patrwm grid hanesyddol unigryw ac nad ydynt yn arwain at effeithiau niweidiol ar asedau treftadaeth. Dylid sefydlu hierarchaeth o goed, er enghraifft, prif strydoedd a choed ar eu hyd (e.e. llain ganol ar hyd Meyrick Street neu leiniau ymyl ffordd ar Devonshire Road), strydoedd gyda choed wedi’u hymgorffori o fewn nodau parcio (e.e. Laws Street) a strydoedd gyda choed i fframio golygfeydd (e.e. Market Street). Drwy weithio gyda thrigolion i nodi lleoliadau a dewis rhywogaethau sy’n cael eu ffafrio, dylid annog perchnogaeth gymunedol ar y coed. Lle mae digon o le, gellid hefyd cyflenwi seddi achlysurol, cafnau plannu uwch a gerddi glaw llinol i greu parciau bach cymunedol. Ar ben hynny, dylid ystyried gweithredu rhaglen ailgyflenwi coed i fynd i’r afael â’r stoc goed sy’n lleihau yn y dref.
9.6 Rhaid croesgyfeirio at Strategaeth Coed Trefol Doc Penfro wrth gyflawni’r prosiect hwn. Rhaid i gynigion ar gyfer plannu coed gyd-fynd â’r uchelgeisiau yn y dyfodol ar gyfer llwybrau cerdded a beicio integredig ar hyd Laws Street, Water Street, Apley Terrace a Gwyther Street yn rhan o Fapiau Rhwydwaith Integredig (INM) (Agor mewn ffenest Newydd).
Ffigur 9.3: PED2
Buddion y prosiect
9.7 Ymhlith buddion y prosiect, fel y’u darlunnir yn Ffigur 9.4 isod, mae:
- Buddsoddiad a gwell profiad i ymwelwyr
- Lle i fywyd gwyllt a gwytnwch ecolegol
- Chwarae, addysg a rhyngweithio â natur
- Rhyngweithio cymdeithasol a chydlyniant cymunedol
- Atgyfnerthu ymdeimlad o le
- Gwella iechyd a lles
Ffigur 9.4: Buddion
Mecanweithiau cyflawni
9.8 Dylid sefydlu rhaglen blannu flynyddol ar gyfer Doc Penfro i gynllunio, cyflenwi a rheoli plannu coed newydd ar draws y dref yn llwyddiannus. Dylid datblygu cynigion cyn y tymor plannu gwreiddiau moel (mis Hydref i fis Mawrth fan pellaf) i sicrhau digon o amser ar gyfer archwiliadau daear a chyrchu stoc planhigfa.
9.9 Dylai trigolion fod â’r gallu i gyflwyno ceisiadau am leoliadau a rhywogaethau plannu coed. Os yw’r lleoliad yn briodol a bod cyllid ar gael, dylid ychwanegu’r goeden at y rhaglen blannu flynyddol.
9.10 Dylid darparu coed yn unol ag adran gyflawni’r Strategaeth Plannu Coed Trefol.
Partneriaid posibl
- Trigolion
- Adran Priffyrdd a Thrafnidiaeth CSP
- Cyngor Tref Doc Penfro
- Busnesau lleol
- Ymddiriedolaeth Gymunedol Peter Hall
- Cyfeillion Parc Coffa Doc Penfro
- Wardeniaid Coed Sir Benfro
- Porthladd Penfro
Cost amlinellol
Cost ganolig i uchel = £250k – £1 miliwn
9.11 Mae cost y prosiect yn gallu newid gan ddibynnu ar nifer y coed sy’n cael eu plannu. Fodd bynnag, mae angen amcangyfrif bras o ~£10,000 i sefydlu coeden yn briodol o fewn tirwedd galed (gan dybio cyfnod sefydlu o 60 mis).
Cyfleoedd ariannu posibl
- Cyfraniadau datblygwyr
- Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
- Rhaglen Grant Cymunedau Cydnerth
- Cronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur
- Y Cyngor Coed
Amserlen
Cam cyflym ymlaen = <1 flwyddyn
9.12 Gellid plannu coed mewn ambell leoliad allweddol yn y tymor plannu nesaf.
Tymor canolig = 1-5 mlynedd
9.13 Byddai mwyafrif y gwaith plannu coed yn cael ei wneud ar draws y pum tymor plannu nesaf er mwyn caniatáu ar gyfer digon o gynllunio ac ymgysylltu.
Cyfyngiadau posibl
9.14 Un mater allweddol o ran coed yn sefydlu’n llwyddiannus o fewn tirweddau caled yw diffyg cyfaint pridd addas ar gyfer tyfiant gwreiddiau. O fewn yr amgylchedd trefol, fel arfer mae defnyddiau’n cystadlu am le tanddaearol, gan gynnwys cyfleustodau. Byddai angen asesiadau i nodi cyfyngiadau cyfleustodau tanddaearol cyn plannu. Hefyd, mae’n ddrutach cloddio pyllau coed o fewn tirweddau caled nag o fewn tirweddau meddal. Felly, rhaid i waith plannu coed newydd sicrhau’r cydbwysedd cywir rhwng cost, lle a swyddogaeth / dyluniad a ddymunir. Mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd llai o goed gyda mwy o gyfaint gwreiddio yn briodol.
9.15 Rhaid i’r cynigion ystyried eu lleoliad yn Ardal Gadwraeth Doc Penfro ac felly dylai pob gwaith plannu coed newydd wella safle’r patrwm grid hanesyddol unigryw, cynnal golygfeydd allweddol, a rhaid iddynt beidio ag arwain at effeithiau niweidiol ar asedau treftadaeth. Dylid paratoi pob cynnig plannu felly ar y cyd â’r Swyddog Cadwraeth Adeiladu Hanesyddol a’r Swyddog Tirwedd.
Cynnal a chadw a stiwardiaeth
9.16 Sefydlu gweithgor preswylwyr i gymryd perchnogaeth ar y coed newydd a blannir. Gallai diwrnod hyfforddi roi’r offer a’r wybodaeth i’r gymuned i gynnal coed newydd yn llwyddiannus nes eu sefydlu, gan gynnwys dyfrio a chadw llygad ar bolion coed.
9.17 Byddai angen gofal dyfrio a sefydlu yn rhan o gyfnod cynnal a chadw 60 mis er mwyn sicrhau bod coed yn gallu dod yn annibynnol yn y tirlun.
Monitro ar gyfer llwyddiant
9.18 Defnyddio’r gweithgor preswylwyr i fonitro sefydliad llwyddiannus coed stryd newydd. Sefydlu sianel gyfathrebu ar gyfer adrodd am unrhyw broblemau gyda choed stryd.
Camau nesaf
9.19 Adolygu adran gyflawni’r Strategaeth Plannu Coed Trefol i bennu’r broses ar gyfer plannu coed o fewn tirweddau caled a deall y cydrannau allweddol ar gyfer sefydlu coed yn llwyddiannus.
9.20 Ymgysylltu â thrigolion a grwpiau cymunedol i nodi lleoliadau ar gyfer plannu coed a dewis rhywogaethau, gan ddefnyddio’r canllaw dewis rhywogaethau o fewn y Strategaeth Plannu Coed Trefol.
Ffigur 9.5: Doc Penfro
PED11 – Ail-ffurfweddu ac estyn Llwybr Arfordir Penfro
9.21 Mae Llwybr Arfordir Penfro yn Noc Penfro yn rhannu canol y dref yn ddwy ac nid yw’n dilyn y morlin ar hyn o bryd. Mae’r llwybr yn ffurfio ffin ddwyreiniol Doc Penfro o fewn cyd-destun trefol yn bennaf, gan ddilyn rhan o’r B4322 Pembroke Street tuag at Presely View a Treowen Road. Yna, mae aliniad y llwybr yn symud tua’r de i Sykemoor a’r dirwedd isel sy’n gyfochrog ag Afon Penfro. Dylid ystyried ail-alinio’r llwybr ar hyd y glannau yn Llanreath, Parc Pennar a Phennar er mwyn ategu cymeriad arfordirol y llwybr ehangach. Byddai ail-alinio’r llwybr yn lleihau’r angen am gysylltiadau ar y stryd, gan hyrwyddo mwy o wahanu cerddwyr a cherbydau. Gellid sicrhau cysylltedd gwell hefyd drwy wella llwybrau cangen eilaidd o ardaloedd preswyl cyfagos.
9.22 Ceir cyfle i ddefnyddio rhannau o’r rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus presennol lle bo’n bosibl, gan gynnwys y llwybr cyhoeddus yn Military Road (sy’n cysylltu Parc Pennar a Phennar). Fodd bynnag, byddai angen ail-alinio’r llwybr hefyd. Byddai angen ymgysylltu â thirfeddianwyr a deiliaid tir er mwyn cyflwyno’r cyfleoedd hyn a thrafod eu heffeithiau ar ddefnydd tir presennol. Byddai unrhyw newidiadau i’r llwybr presennol yn golygu bod angen cyllid Cyfoeth Naturiol Cymru i sicrhau bod unrhyw ad-drefnu’n cael ei wneud i safonau’r llwybrau cenedlaethol a bod arwyddion priodol arnynt. Byddai’r prosiect hefyd yn gofyn am welliannau i’r cyfryngau hyrwyddo sy’n gysylltiedig â Llwybr Arfordir Penfro er mwyn sicrhau bod newidiadau’n cael eu cyfleu i randdeiliaid a chanddynt fuddiant a’r cyhoedd yn ehangach. Oherwydd sensitifrwydd ecolegol y morlin yn y lleoliad hwn, byddai angen i’r prosiect sicrhau cydbwysedd rhwng darparu gwelliannau hamdden a phwysau bioamrywiaeth.
Ffigur 9.6: PED11
Buddion y prosiect
9.23 Ymhlith buddion y prosiect, fel y’u darlunnir yn Ffigur 9.7 isod, mae:
- Darparu cyfleoedd teithio llesol
- Gwella ansawdd dŵr
- Chwarae, addysg a rhyngweithio â natur
- Rhyngweithio cymdeithasol a chydlyniant cymunedol
- Atgyfnerthu ymdeimlad o le
- Gwella iechyd a lles
Ffigur 9.7: Buddion
Mecanweithiau cyflawni
9.24 Er mwyn cyflawni’r prosiect byddai angen arian gan CNC i ymgymryd â’r gwaith cyfalaf. Byddai angen cymorth hefyd gan y Grŵp Llywio Llwybrau Cenedlaethol er mwyn bwrw ymlaen â’r cynllun. Byddai angen adnoddau amser ychwanegol gan na fyddai gan y Swyddog Llwybr Cenedlaethol presennol a gyflogir gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (APCAP) y gallu i ad-drefnu Llwybr Arfordir Penfro yn sylweddol.
Partneriaid posibl
- Tirfeddianwyr;
- CNC;
- Cyngor Sir Penfro (CSP);
- APCAP; a’r
- Tîm Teithio Llesol, sy’n rhan o’r Uned Strategaeth Trafnidiaeth yn CSP
Cost amlinellol
Cost uchel = >£1 miliwn
9.25 Bydd creu llwybrau newydd neu uwchraddio llwybrau yn creu cost uchel. Bydd uwchraddio arwyddion a dodrefn stryd yn creu cost ganolig.
Cyfleoedd ariannu posibl
- CNC
- CSP
- Trafnidiaeth Cymru
Amserlen
Tymor hir = >1 flwyddyn
9.26 Mae’r angen i ymgynghori â rhanddeiliaid amrywiol, ymgysylltu â thirfeddianwyr, proses ddylunio gydweithredol a chyflawni ar lawr gwlad yn golygu y bydd y prosiect yn debygol o gymryd tua 5 mlynedd i’w gyflawni’n llawn.
Cyfyngiadau posibl
9.27 Mae’r prosiect yn debygol o fod yn gymhleth, gyda gofynion yn cystadlu i sicrhau ei weithredu’n llwyddiannus. Mae hyn yn cynnwys y gofyniad am gyllid allanol sylweddol a chysylltu â thirfeddianwyr lleol. Byddai angen cydweithrediad a chyfranogiad CNC fel rhanddeiliad allweddol er mwyn adlinio’r llwybr troed.
9.28 Oherwydd cymhlethdodau’r cynllun, byddai angen adnodd staff sylweddol a mewnbwn ariannol parhaus ar y prosiect i gyrraedd ei lawn botensial. Byddai heriau ychwanegol hefyd yn cynnwys yr angen am ymgynghoriad cymhleth â rhanddeiliaid a’r cyhoedd i sicrhau cefnogaeth leol. Un agwedd anhysbys allweddol i’r prosiect fyddai’r amser sydd ei angen i gael caniatâd y tirfeddianwyr.
9.29 Byddai gwaith ad-drefnu yn cynnwys clirio llystyfiant lleol ar hyd rhai rhannau o’r llwybr. Byddai angen gwneud hyn er mwyn osgoi’r tymor nythu adar ac mewn cyswllt ag ecolegydd neu Glerc Gwaith Ecolegol (ECoW). Byddai’r potensial ar gyfer erydiad a llifogydd yn y lleoliad hwn hefyd yn her allweddol wrth sefydlu llwybr yn y lleoliad arfordirol hwn.
Cynnal a chadw a stiwardiaeth
9.30 Byddai angen gwaith cynnal a chadw parhaus ar y llwybr er mwyn sicrhau bod mynediad yn cael ei gynnal drwy gydol y flwyddyn. Byddai angen gwaith rheoli tirwedd hefyd i sicrhau bod llinellau gweld yn cael eu cadw ar draws y llwybr.
Monitro ar gyfer llwyddiant
9.31 Ceir cyfle i osod synwyryddion neu rifyddion i fonitro’r defnydd o’r llwybr fel rhan o’r rhwydwaith teithio llesol ehangach o fewn y sir. Byddai’r dull hwn yn helpu i fesur llwyddiant y buddsoddiad sylweddol ac yn llywio strategaeth hirdymor a chyflawni prosiectau tebyg yn y dyfodol.
Camau nesaf
9.32 Cynnal astudiaeth ddichonoldeb ac ymarfer gwaith ar opsiynau i bennu’r llwybr a ffafrir ar gyfer adlinio’r llwybr. Dylid cychwyn sgyrsiau cychwynnol gyda thirfeddianwyr i ganfod opsiynau llwybrau posibl ar hyn o bryd hefyd.
9.33 Dylid comisiynu asesiad ecolegol ac arolwg coed i BS5837: 2012 i archwilio’r goblygiadau ar fioamrywiaeth leol a’r gorchudd coed sy’n bodoli eisoes. Dylid bwrw ymlaen ag ymgynghoriad cychwynnol â rhanddeiliaid a chanddynt fuddiant, grwpiau cymunedol a’r cyhoedd yn gyffredinol hefyd i lywio datblygiad cysyniadol cynnar y prosiect.
Ffigur 9.8: Doc Penfro
PED17 – Cyflwyno gerddi glaw, coed stryd a phalmantau athraidd yn London Street
9.34 Mae perygl mawr o lifogydd dŵr wyneb ar rai rhannau o London Road yn Noc Penfro, gan gynnwys ardaloedd i’r gogledd o’r maes parcio mawr sy’n gysylltiedig â nifer o adwerthwyr masnachol. Cofnodwyd digwyddiad Gorlif Carthffos Cyfun (lle mae elifion budr heb eu trin yn ymuno ag afonydd am eu bod yn fwy na chapasiti’r seilwaith carthffosydd) yn flaenorol hefyd yn Waterloo Road. Byddai ymyriadau Systemau Draenio Cynaliadwy (SDC) sy’n dargyfeirio dŵr storm o garthffosydd cyfun yn helpu i leihau dylanwad afonol adeg llifogydd.
9.35 Mae nifer o gyfleoedd i ymyrryd. Dylid ystyried ôl-osod yr ardaloedd maes parcio mawr anathraidd â phalmantau athraidd, gerddi glaw a choed cadarn.
9.36 Byddai cyflwyno’r mesurau hyn yn yr ardal hon yn cynorthwyo arafu dŵr ffo wyneb, gan helpu i leihau risg bosibl llifogydd dŵr wyneb a lleihau’r mewnbwn afonol i’r system garthffosiaeth ar adegau o law mawr. Byddai’r cynigion hyn hefyd yn cyfrannu’n gadarnhaol at gymeriad y treflun a bioamrywiaeth.
9.37 Drwy weithio gyda thrigolion, partneriaid masnachol, Cyngor Sir Penfro (CSP) ac Asiant Cefnffyrdd De Cymru (SWTRA), dylid nodi lleoliadau ar gyfer ymyriadau.
9.38 Dylid croesgyfeirio at Strategaeth Coed Trefol Doc Penfro wrth gyflawni’r prosiect hwn. Mae’n rhaid i gynigion ar gyfer plannu coed hefyd gyd-fynd â llwybrau cerdded a beicio a nodwyd ar hyd London Road.
Ffigur 9.9: PED17
Buddion y prosiect
9.39 Ymhlith buddion y prosiect, fel y’u darlunnir yn Ffigur 9.10 isod, mae:
- Lleihau risg llifogydd
- Gwella ansawdd dŵr
- Buddsoddiad a gwell profiad i ymwelwyr
- Lle i fywyd gwyllt a gwytnwch ecolegol
- Gwella ansawdd aer a rheoleiddio sŵn
- Atgyfnerthu ymdeimlad o le
- Oeri trefol
- Gwella iechyd a lles
Ffigur 9.10: Buddion
Darparu atebion seiliedig ar natur a gwasanaethau ecosystemau
9.40 Byddai gerddi glaw, palmantau athraidd a phlannu coed cyfochrog yn sicrhau gwelliannau i’r safle trefol ac yn cyfrannu tuag at ddull cynaliadwy o ymdrin â dŵr glaw. Mewn cynefin naturiol, mae gwlybaniaeth yn cael ei hamsugno’n araf i’r ddaear, wedi’i harafu gan lystyfiant. Fodd bynnag, mae arwynebau anathraidd mewn amgylcheddau trefol yn cyfeirio dŵr ffo i garthffosydd storm a allai gyfrannu tuag at Orlifoedd Carthffos Cyfun a llifogydd dŵr wyneb yn yr ardal leol.
9.41 Byddai creu ardaloedd plannu coed a gerddi glaw yn effeithio’n fuddiol ar risg llifogydd, ansawdd dŵr ac ar ddal a storio carbon. Yn ogystal, mae’r potensial ar gyfer digwyddiadau Gorlif Carthffos Cyfun yn cael ei leihau trwy waredu rhywfaint o’r llwyth ar y rhwydwaith carthffosydd cyfun.
Mecanweithiau cyflawni
9.42 Dylai astudiaeth gychwynnol gynnal arolygon safle i nodi lle mae’r topograffi, y strydlun ac amodau’r rhwydwaith carthffosydd storm yn cyfuno i wneud ymyriadau yn fwyaf effeithiol ac yn fwyaf cyraeddadwy. Yn rhan o hyn, dylai trigolion fod â’r gallu i gyflwyno ceisiadau am erddi glaw a phlannu coed. Os yw’r lleoliad yn briodol a bod cyllid ar gael, dylid ychwanegu’r goeden at y rhaglen blannu flynyddol.
9.43 Dylid sefydlu rhaglen blannu flynyddol i Ddoc Penfro er mwyn cynllunio, cyflawni a rheoli’r gwaith plannu coed newydd, y gerddi glaw a’r mannau palmant athraidd yn llwyddiannus ledled ardal London Road. Mae angen digon o gynllunio cyn y tymor plannu gwreiddiau moel (mis Hydref i fis Mawrth fan pellaf) i sicrhau bod archwiliadau daear / profion pridd yn cael eu cwblhau.
9.44 Dylid darparu coed yn unol ag adran gyflawni’r Strategaeth Plannu Coed Trefol.
Partneriaid posibl
- Y gymuned Leol
- Adran Priffyrdd a Thrafnidiaeth CSP
- Tîm Cynnal a Chadw Amwynderau / Gofal Stryd CSP
- Busnesau lleol
- Wardeniaid Coed Sir Benfro
- Dŵr Cymru
- Asiant Cefnffyrdd De Cymru (SWTRA)
Cost amlinellol
Cost ganolig i uchel = <£250k – £1 miliwn
9.45 Mae’r pris yn gallu newid gan ddibynnu ar nifer y coed a blannir / gerddi glaw a grëir / ardaloedd palmant athraidd a osodir. Fodd bynnag, dylid defnyddio amcangyfrif bras o ~£10,000 i sefydlu coeden o fewn ardal o dirlunio caled.
Cyfleoedd ariannu posibl
- Cyfraniadau datblygwyr
- Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
- Rhaglen Grant Cymunedau Cydnerth
- Cronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur
- Y Cyngor Coed
Amserlen
Cam cyflym ymlaen = <1 flwyddyn
9.46 Dylid plannu coed a chreu gerddi glaw mewn ambell leoliad allweddol yn y tymor plannu nesaf.
Tymor canolig = 1-5 mlynedd
9.47 Dylid gwneud mwyafrif y gwaith plannu coed, creu gerddi glaw ac agweddau palmantau athraidd ar draws y pum tymor plannu nesaf er mwyn caniatáu ar gyfer digon o gynllunio ac ymgysylltu.
Cyfyngiadau posibl
9.48 Mae cryn nifer o randdeiliaid posib i ymgysylltu â nhw ar gyfer y prosiect hwn, gyda gwahanol ddeiliaid tir a’r broses ymgysylltu yn hanfodol i lwyddiant y cynllun. Mae London Road (A4139) yn ffordd fawr, ac felly mae’n rhaid i Adran Priffyrdd a Thrafnidiaeth CSP a SWTRA fod yn rhan o’r prosiect.
9.49 Er bod yna ardal fawr ar gyfer gwelliannau yn y meysydd parcio, mae’r lle ar hyd y ffordd gerbydau yn brin, gyda blaenoriaethau sy’n cystadlu gan gynnwys lonydd beicio a llwybrau i gerddwyr. Tirwedd galed yw mwyafrif yr arwynebau o fewn ardal y prosiect posibl. Mae’n ddrutach cloddio pyllau coed o fewn tirweddau caled nag o fewn tirweddau meddal. Felly, rhaid i waith plannu coed newydd sicrhau’r cydbwysedd cywir rhwng cost, lle a swyddogaeth / dyluniad a ddymunir. Mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd llai o goed gyda mwy o gyfaint gwreiddio yn briodol.
9.50 O fewn yr amgylchedd trefol rhaid ystyried y potensial i amrywiaeth o wasanaethau a chyfleustodau fod o fewn mannau plannu posibl a bod angen osgoi’r rhain wrth gyfrif am blannu coed. Fel arfer mae angen dyfnderoedd basach o osodiadau ar erddi glaw ac felly byddent yn llai tebygol o wrthdaro â gwasanaethau. Efallai bod potensial i blannu gerddi glaw yn lle plannu coed mewn ardaloedd y nodwyd bod gwasanaethau’n debygol iawn o fod yno.
Cynnal a chadw a stiwardiaeth
9.51 Sefydlu gweithgor o breswylwyr neu bartneriaid masnachol ochr yn ochr ag Adran Gofal Stryd a Phriffyrdd CSP i gymryd perchnogaeth ar y gwaith plannu coed newydd. Gallai diwrnod hyfforddi roi’r offer a’r wybodaeth i’r gymuned i gynnal coed newydd yn llwyddiannus nes eu sefydlu, gan gynnwys dyfrio a chadw llygad ar bolion coed.
9.52 Byddai angen dyfrio a gofal sefydlu ar gyfer y cyfnod sefydlu 60 mis er mwyn sicrhau y gall y coed ddod yn annibynnol yn y dirwedd.
9.53 Byddai angen i ardaloedd palmantau athraidd gael eu mabwysiadu naill ai gan CSP neu gan y tirfeddiannwr perthnasol.
Monitro ar gyfer llwyddiant
9.54 Yn amodol ar argaeledd cyllid, dylid monitro llwyddiant y prosiect ar y cyd â data gan Dŵr Cymru o ran gallu carthffosydd a lleihau digwyddiadau gorlif storm cyfun.
9.55 Defnyddio’r gweithgor preswylwyr i fonitro sefydliad llwyddiannus coed a gerddi stryd newydd. Sefydlu sianel gyfathrebu ar gyfer adrodd am unrhyw faterion neu fethiannau.
Camau nesaf
9.56 Nodi deiliaid tir a phartneriaid masnachol ar unwaith ac ymgysylltu â rhanddeiliaid posibl, gan gynnwys SWTRA ac adrannau priodol CSP.
9.57 Arolygu’r ardal i ganfod ardaloedd sy’n fwyaf addas ar gyfer ymyrraeth.
9.58 Adolygu adran gyflawni’r Strategaeth Plannu Coed Trefol i bennu’r broses ar gyfer plannu coed o fewn tirweddau meddal a deall y cydrannau allweddol ar gyfer sefydlu coed yn llwyddiannus.
9.59 Ymgysylltu â thrigolion a grwpiau cymunedol i nodi lleoliadau ar gyfer plannu coed a dewis rhywogaethau, gan ddefnyddio’r canllaw dewis rhywogaethau o fewn y Strategaeth Plannu Coed Trefol.
Rhestr Hir o Brosiectau
PED1 – Ailwampio lle chwarae Clwb Ieuenctid Doc Penfro
9.60 Cydweithio â Chlwb Ieuenctid Doc Penfro i gynllunio lle chwareus newydd sy’n gyforiog o fioamrywiaeth. Dylid gwaredu offer chwarae wedi’u difrodi a gosod yn eu lle nodweddion chwarae naturiol cadarn ac anturus. Dylid cyflwyno mannau cymdeithasol newydd, gan gynnwys siglenni, seddi a bariau dringo i apelio at ferched yn eu harddegau. Ceir cyfle i ddarparu gardd gymunedol o fewn perimedr ffens y Clwb Ieuenctid, gan ymgorffori coed perllan a gwrychoedd bwytadwy. Dylid plannu coed ffiniol ychwanegol a hefyd cyflwyno ‘ymylon gwyllt’ sy’n denu peillwyr ynghyd â gwelliannau mynediad ehangach ar hyd Bush Street.
PED2 – Creu hierarchaeth o blannu coed stryd
9.61 Cyfeirier at y Prosiectau Cicdanio.
PED3 – Gwella Western Way Green i bobl a pheillwyr
9.62 Nodweddir y man agored hwn gan dwmpath tonnog o laswellt amwynder. Gellid gosod cloddiau ar gyfer dringo anturus a seddi ochr yn ochr â’r llithren bresennol, yn ogystal â dolydd blodau gwyllt i greu lle croesawgar a chwareus. Dylid ymgorffori cyfleoedd ychwanegol am seddi ffurfiol ac anffurfiol yn y lle, gan helpu defnyddwyr (preswylwyr a thwristiaid) i fanteisio ar olygfeydd pell. Dylid gosod arwyddion dehongli, standiau beiciau a gorsafoedd gwefru beiciau trydan hefyd. Gan weithio mewn partneriaeth â Chyngor Tref Doc Penfro a Chyngor Sir Penfro (CSP), dylid hefyd ystyried ôl-osod ardal y maes parcio mawr â phalmantau athraidd, coed stryd a gerddi glaw er mwyn lleihau’r dŵr ffo sy’n mynd i garthffosydd cyfun lleol.
PED4 – Creu coridor bywyd gwyllt ar hyd Military Road
9.63 Sefydlu dolydd blodau gwyllt a choed stryd ar y lleiniau llydan drwy ardaloedd preswyl i ddarparu cyfleoedd am gysgod, gan sicrhau nad yw cynigion yn gwrthdaro â chynigion ar gyfer llwybr cyd-ddefnyddio ar hyd Military Road. Dylid llenwi bylchau yn llain gysgodi’r coetir i glustogi unrhyw ddŵr ffo o’r cwrs golff cyfagos a’r tir amaethyddol sy’n llifo i mewn i Afon Penfro. Gellid cryfhau amrywiaeth rhywogaethau’r gwrych sy’n rhedeg ochr yn ochr â’r ffordd gerbydau hefyd trwy blannu rhywogaethau fel drain gwynion (Crataegus monogyna) a drain duon (Prunus spinosa) i ddarparu cynefin pellach i adar sy’n nythu.
PED5 – Creu cerrig sarn i fywyd gwyllt yng Nghwrs Golff De Sir Benfro
9.64 Mae’r cwrs golff yn gwahanu cynefin lleol. Dylid ystyried ehangu’r ardaloedd presennol o goetir, ochr yn ochr â phlannu coed ar hyd yr hawl tramwy cyhoeddus sy’n cysylltu Victoria Road â Cross Park a pherimedr Ysgol Pennar. Dylid hefyd ystyried cadw ardaloedd o laswellt garw rhwng ffyrdd teg fel lle i adar ac infertebratau gysgodi. Dylid lleihau’r defnydd o blaladdwyr, neu gemegau eraill, sy’n cyfrannu at broblemau ansawdd dŵr o fewn Afon Penfro a’r dalgylch ehangach.
PED6 – Adfywio Carriage Drive
9.65 Amrywiaethu strwythur y coetir presennol i ganiatáu golau i amrywiaethu’r fflora daear, gan gynnal rhywogaethau peillwyr. Dylid cadw pren marw yn ei le i ddarparu cynefin ychwanegol. Dylai byrddau dehongli sy’n dathlu treftadaeth yr ardal gael eu cyflwyno hefyd.
PED7 – Creu gardd bywyd gwyllt yn Ysbyty De Sir Benfro
9.66 Gan gydweithio â gwirfoddolwyr, dylai creu bywyd gwyllt a gardd synhwyraidd gynnwys plannu coed brodorol, pentyrrau pren marw, dolydd blodau gwyllt a blychau adar. Gallai’r lle gael ei ddefnyddio gan gleifion, staff ac ymwelwyr i chwilio am le o heddwch a llonyddwch.
PED8 – Gwella bioamrywiaeth yn Memorial Park
9.67 Mae Memorial Park yn fan gwyrdd a ddefnyddir yn helaeth, sy’n cynnig llwybrau allweddol o ganol y dref i’r ardaloedd preswyl cyfagos. Fodd bynnag, dylid gweithredu ymyriadau i wella bioamrywiaeth y parc. Gan gydweithio ag Ysgol Gymunedol Doc Penfro, gallai cynigion gynnwys cynyddu’r fflora daear o dan goed mawr drwy blannu plygiau a sefydlu dolydd blodau gwyllt. Dylid hefyd ystyried plannu coed sbesimen er mwyn cynllunio ar gyfer olyniaeth coed. Mae’r Map Rhwydwaith Teithio Llesol yn cynnwys cynigion ar gyfer gwelliannau hygyrchedd ychwanegol yn y lleoliad hwn.
PED9 – Gwella bioamrywiaeth Mynwent Doc Penfro
9.68 Mae mynwentydd yn cynnig cynefinoedd hanfodol bwysig i fioamrywiaeth leol. Dylid annog ‘annibendod’ a mwy o amrywiaeth strwythurol yn fodd o greu mannau bwydo, nythu, clwydo a gaeafgysgu. Dylid parhau i gynnal a chadw llwybrau presennol o fewn y safle a sicrhau bod mynediad at feddau y gofalir amdanynt ar gael drwy gydol y flwyddyn. Dylid gosod arwyddion addysgol i hyrwyddo’r newidiadau i’r drefn gynnal a chadw, gan gynnwys llacio’r drefn torri gwair mewn rhai ardaloedd, i helpu ymwelwyr i ddeall y sail resymegol i’r addasiadau.
PED10 – Gwyrddu’r tir y tu ôl i ASDA ymhellach
9.69 Mae’r tir y tu cefn i ASDA yn anwahoddgar ac nid yw’n darparu swyddogaeth gydlynol ar hyn o bryd ar gyfer pobl na bywyd gwyllt. Dylid gweithredu rhwydwaith o gafnau plannu uwch gyda phlanhigion brodorol sy’n denu peillwyr fel mesur i ddarparu diddordeb esthetig a gwerth bioamrywiaeth yn y tymor byr. Gan weithio mewn partneriaeth â Chyngor Tref Doc Penfro ac ASDA, dylid hefyd ystyried cyflwyno ymyriadau gwyrddu fel palmantau athraidd, coed stryd a gerddi glaw yn ardal y maes parcio.
PED11 – Ad-drefnu ac estyn Llwybr Arfordir Penfro
9.70 Cyfeirier at y Prosiectau Cicdanio.
PED12 – Gwella gwerth bioamrywiaeth cae chwarae Bush Street
9.71 Ar hyn o bryd mae’r cae chwarae ar Bush Street yn gartref i Glwb Pêl-droed Robinod Pennar a gellid edrych ar gyfleoedd i wella gwerth bioamrywiaeth y safle. Gan weithio gyda’r tirfeddiannwr i gynnal defnydd hamdden y caeau chwarae, gellid trawsnewid y lleiniau glaswellt llethrog serth o amgylch y perimedr yn ddolydd blodau gwyllt drwy hau hadau blodau gwyllt ac addasu’r drefn torri gwair. Dylid plannu planhigion plwg hefyd ar hyd llain lydan St Johns Road i gynyddu ffynonellau bwyd peillwyr. Dylid hefyd ystyried gosod mwy o leoedd parcio beiciau er mwyn annog teithio llesol.
PED13 – Hyrwyddo gwerth bioamrywiaeth cynyddol Cwm Sykemoor
9.72 Mae Cwm Sykemoor yn cynnig cynefin peillwyr craidd o fewn y dref. Dylid creu llennyrch a llwybrau meirch agored yn y coetir er mwyn annog fflora daear amrywiol a chadw ardaloedd o bren marw yn eu lle. Byddai cyflwyno plannu coed ychwanegol ar Gaeau Sykemoor yn clustogi ac yn estyn y bloc coetir hwn. Dylid hefyd ystyried gweithredu ymyriadau Systemau Draenio Cynaliadwy (SDC) i helpu i reoli llifogydd yn naturiol.
PED14 – Gwyrddu meysydd parcio ymhellach
9.73 Cyflwyno cafnau plannu uwch a phlannu coed o fewn meysydd parcio o gwmpas y dref, er enghraifft yn Llanreath, Hobbs Point, Fort Road a Gordon Street i wella safle’r ardaloedd hyn a helpu i hyrwyddo cysylltedd peillwyr ehangach. Dylai cynigion plannu coed fod yn briodol yn lleol ac yn oddefgar o amlygiad a gwyntoedd llawn halen.
PED15 – Creu dolydd blodau gwyllt ym Mhencadlys APCAP
9.74 Dylid creu ystodau o ddolydd blodau gwyllt er mwyn gwella’r lleiniau o fewn cwrtil swyddfeydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (APCAP). Byddai’r ymyriad hwn yn darparu cynefin a chysylltedd ychwanegol ledled Doc Penfro ar gyfer peillwyr. Dylid hefyd plannu coed ychwanegol o fewn y lleiniau glaswelltog cyfagos ger y maes parcio, gan sicrhau y cedwir golygfeydd ar draws Aberdaugleddau ar yr un pryd.
PED16 – Lleihau risg llifogydd ar hyd Bush Street
9.75 Mae tir sy’n agos i Glwb Ieuenctid Doc Penfro mewn perygl o lifogydd dŵr wyneb. Argymhellir gweithredu mesurau i wanhau dŵr glaw yn naturiol. Ar ben hynny, dylid gosod palmantau athraidd yn y maes parcio cyfagos, gerddi glaw ymylol a phlannu coed er mwyn lleihau ehangder y llawr caled a hyrwyddo ymdreiddiad.
PED17 – Cyflwyno gerddi glaw, coed stryd a phalmantau athraidd yn London Street
9.76 Cyfeirier at y Prosiectau Cicdanio.
PED18 – Gwella gwerth bioamrywiaeth y Fynwent Filwrol
9.77 Gan weithio ar y cyd â’r Weinyddiaeth Amddiffyn (MoD) fel perchnogion tir, datblygu cynllun rheoli hirdymor a strategaeth bioamrywiaeth i wella bioamrywiaeth a gwerth tirwedd y safle. Dylid ystyried sefydlu rhaglen ailgyflenwi coed a dôl blodau gwyllt i wella gwerth y safle i beillwyr. Ceir cyfle hefyd i wella cysylltiadau cynefinoedd drwy ddarparu coridorau bywyd gwyllt o fewn y cyd-destun cyfagos.
PED19 – Gwella gwerth hamdden a bioamrywiaeth y man agored cyhoeddus ar Charles Thomas Avenue
9.78 Ceisio gwella gwerth hamdden a bioamrywiaeth y man agored cyhoeddus presennol y tu cefn i’r is-orsaf drydanol ar Charles Thomas Avenue. Ar hyn o bryd, mae hwn yn adnodd nad yw’n cael ei ddefnyddio’n ddigonol, felly ceir cyfle i ddefnyddio’r safle ar gyfer hamdden anffurfiol, chwarae naturiol neu ar gyfer gwelliannau bioamrywiaeth lleol. Dylid hefyd ystyried potensial y safle fel man tyfu cymunedol am ei fod mor agos at eiddo preswyl cyfagos.
Pennod flaenorol:
Penfro
Pennod nesaf:
Saundersfoot
Dychwelyd i’r hafan:
Hafan