Hwlffordd

Asesiad Seilwaith Gwyrdd Sir Benfro: Paratowyd gan LUC Chwefror 2023

Cynnwys tudalen:

 

Portread o Seilwaith Gwyrdd Hwlffordd

Prosiectau Cicdanio

Rhestr Hir o Brosiectau

 

Hwlffordd

 

Ffigur 3.1: Hwlfford

 

Portread o Seilwaith Gwyrdd Hwlffordd

 

3.1 Hwlffordd yw’r dref fwyaf o fewn Sir Benfro a chanddi fwy na 15,000 o boblogaeth. Mae’r dref hynafol yn gartref i nifer o adeiladau rhestredig hanesyddol sy’n crynhoi yng nghraidd yr anheddiad, o fewn Ardal Gadwraeth Hwlffordd. Yng nghefn gwlad tuag at ganol y sir, nodweddir cyrion gwledig y dref gan gaeau bugeiliol a gwrychoedd o’u cwmpas.

3.2 Mae afon Cleddau Wen, a ddynodwyd yn Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) ac yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), yn rhannu’r dref yn ddwy o’r gogledd i’r de, ac er bod ardaloedd o goridor yr afon yn gwbl drefol yng nghanol y dref, mae darnau ohoni’n parhau i fod yn gymharol agored. Mae’r rhannau hyn yn darparu cysylltedd cerddadwy ysbeidiol drwy graidd y dref ac allan i’r dirwedd wledig o’i chwmpas, gan gynnig cyfleoedd i gysylltu â gwahanol warchodfeydd natur a Henebion Cofrestredig ar hyd coridor yr afon. Mae llednentydd Cleddau Wen yn cynnwys Merlin’s Brook i’r de a Fenton Brook i’r dwyrain o’r dref. Mae’r cyrsiau dŵr hyn yn darparu coridorau a chyfleoedd coediog ychwanegol i gael mynediad ehangach at fyd natur. Caiff coridor yr afon ei sianelu drwy ganol y dref ond mae’n agor i orlifdir ehangach yn y gogledd a’r de.

3.3 Prin yw’r Hawliau Tramwy Cyhoeddus yng nghanol y dref ac, ar y cyfan, maent ar hyd coridor yr afon ac o fewn mannau agored coediog. Yn gyffredinol, mae ardaloedd o fannau agored cyhoeddus o amgylch canol y dref ac yn ymledu tuag allan, gan ganiatáu rhywfaint o gysylltedd â’r cefn gwlad ehangach. Er bod y rhwydwaith presennol o hawliau tramwy cyhoeddus braidd yn ddigyswllt, mae cyfleoedd i wella cysylltedd cyffredinol. Daw llwybrau beicio drwy’r dref ar hyd y prif ffyrdd cyn ymuno â llwybr 4 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol (NCN) i’r de-orllewin o ganol y dref. Mae Llwybr Brunel, sydd hefyd yn rhan o lwybr 4 NCN, yn cynnig cyswllt beicio oddi ar y ffordd rhwng Hwlffordd a Neyland i’r de.

 

Ffigur 3.2: Cyfleoedd SG yn Hwlffordd


Yn ôl i’r top

 

Prosiectau Cicdanio

 

HAV7 – Sefydlu llwybr coed parcdir cae ras a hyrwyddo sefydlu dôl blodau gwyllt

3.4 Mae Parc Cyhoeddus Cae Ras Hwlffordd yn ased cymunedol gwerthfawr ac yn gyfle gwych i ennyn diddordeb y cyhoedd ehangach yng ngwerth coed. Mae’r safle hefyd yn cynnig cyfle i ddarparu adnodd addysgiadol sy’n ymwneud â buddion, amrywiaeth a phwysigrwydd coed yn y dref. Dylid datblygu uwchgynllun llwybr coed ar draws y safle sy’n hyrwyddo manteision amlswyddogaethol coed, gan ddarparu lle ar gyfer llwybrau ffitrwydd a ffyrdd egnïol o fyw. Yn ogystal, dylid defnyddio tractor a pheiriant torri a chasglu gwair i gael gwared ar sgil-gynhyrchion a hyrwyddo sefydlu dolydd blodau gwyllt sydd newydd eu hau ar y safle.

3.5 Dylid cyflwyno ymyriadau ar y cyd â dehongliad (gan gynnwys dehongliad digidol o bosibl) ar gyfer pob oedran. Gallai hyn gynnwys labelu coed yn fodd o ddarparu gwybodaeth sy’n ymwneud ag amrywiaeth rhywogaethau coed, pwysigrwydd coed i liniaru newid yn yr hinsawdd a hyrwyddo bioamrywiaeth.

 

Ffigur 3.3: HAV7

 

Buddion y prosiect

3.6 Ymhlith buddion y prosiect, fel y’u darlunnir yn Ffigur 3.4 isod, mae:

  • Lleihau risg llifogydd
  • Buddsoddiad a gwell profiad i ymwelwyr
  • Lle i fywyd gwyllt a gwytnwch ecolegol
  • Chwarae, addysg a rhyngweithio â natur
  • Gwella ansawdd aer a rheoleiddio sŵn
  • Rhyngweithio cymdeithasol a chydlyniant cymunedol
  • Atgyfnerthu ymdeimlad o le
  • Oeri trefol
  • Gwella iechyd a lles
  • Dal a storio carbon a lliniaru effeithiau newid hinsawdd

 

Ffigur 3.4: Buddion

 

Mecanweithiau cyflawni

3.7 Dylid datblygu strategaeth plannu coed ac uwchgynllun cyffredinol sy’n hyrwyddo cyflawni dros un tymor neu nifer o dymhorau plannu. Byddai angen i hyn ystyried amodau’r safle, y stoc goed bresennol, rhywogaethau glaswelltir, defnydd presennol o’r safle a mynediad yn ogystal â chyfleoedd i reoli’r ardaloedd presennol o goetir yn well.

3.8 Dylid cynnal arolwg ecolegol rhagarweiniol i bennu ansawdd glaswelltir presennol ar y safle ac asesu addasrwydd i blannu coed a sefydlu dôl blodau gwyllt. Ni ddylid gwneud gwaith plannu coed ychwanegol mewn ardaloedd y nodwyd eu bod yn arddangos amrywiaeth flodeuegol uchel. Byddai’r opsiynau ar gyfer amrywiaethu ardaloedd glaswelltir ymylol yn debygol o gynnwys; trin a hadu ardaloedd arwahanol, addasu’r drefn torri gwair bresennol (gan gynnwys gwaredu sgil-gynhyrchion yn flynyddol) a phlannu plygiau i laswellt presennol (sy’n debygol o fod yn ymarferol dros ardaloedd bach yn unig).

3.9 Dylid darparu coed yn unol ag adran gyflawni’r Strategaeth Plannu Coed Trefol.

 

Partneriaid posibl
  • Ymddiriedolaeth Parc Cyhoeddus Cae Ras Hwlffordd
  • Y gymuned Leol
  • Adran Priffyrdd a Thrafnidiaeth Cyngor Sir Penfro (CSP)
  • Tîm Cynnal a Chadw Amwynderau / Gofal Stryd CSP
  • Busnesau lleol
  • Wardeniaid Coed Sir Benfro

 

Cost amlinellol

 

Cost isel = <£250k

3.10 Byddai’r costau yn cynnwys ychydig bach o gyngor arbenigol gan gynnwys datblygu uwchgynllun a strategaeth blannu, ymgynghori â rhanddeiliaid a chostau plannu / cynnal a chadw. Byddai costau datblygu dehongliad yn dibynnu ar hyfywedd ac uchelgeisiau Ymddiriedolaeth Parc Cyhoeddus Cae Ras Hwlffordd.

 

Cyfleoedd ariannu posibl
  • Cyngor Sir Penfro (CSP)
  • Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
  • Cronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur
  • Y Cyngor Coed
  • Grantiau Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)

 

Amserlen

 

Cam cyflym ymlaen = <1 flwyddyn

3.11 Gellid gwneud rhywfaint o blannu coed cychwynnol yn ystod y tymor plannu nesaf.

 

Tymor canolig = 1-5 mlynedd

3.12 Dylid gwneud y rhan fwyaf o blannu coed, datblygu dehongliad ac ymgysylltu â’r gymuned dros nifer o dymhorau plannu.

3.13 Prin y byddai’r coed a’r llystyfiant cysylltiedig yn dal a storio carbon wedyn i ddechrau, ond byddai hynny’n cynyddu o fewn y degawd nesaf wrth i’r coed aeddfedu. Yn dibynnu ar y technegau a ddefnyddir ac amodau’r safle, byddai amrywiaethu ardaloedd glaswelltir yn debygol o ddigwydd dros nifer o dymhorau.

 

Cyfyngiadau posibl

3.14 Byddai angen cynnwys amrywiaeth o randdeiliaid i lywio uwchgynllun a strategaeth blannu briodol ar gyfer y safle. Dylai hyn gynnwys defnyddwyr presennol, gan gynnwys grwpiau chwaraeon yn defnyddio’r caeau gwair.

3.15 Byddai plannu coed yn debygol o ddigwydd ar raddfa fechan, ond dylid gofyn am gyngor ynghylch a fyddai angen unrhyw ganiatâd neu drwydded.

3.16 Gan fod eisoes ardaloedd nodedig o goetir yn bresennol ar y safle, mae’n rhesymol tybio y byddai pob ardal ar y cyfan yn addas ar gyfer plannu coed. Fodd bynnag, dylai arolygon ecolegol a dichonoldeb lywio lleoliad coed ac unrhyw hadau glaswelltir.

 

Cynnal a chadw a stiwardiaeth

3.17 Mae’r prosiect yn gyfle nodedig i hyrwyddo stiwardiaeth gymunedol a rheoli coed / ardaloedd glaswelltir. Byddai’r prosiect yn ddelfrydol yn cynnwys hyfforddiant cymunedol ar adnabod, plannu a chynnal a chadw coed. Gan ddibynnu ar raddfa plannu coed, efallai y bydd rhywfaint o gymorth contractwyr i sefydlu coed, megis dyfrio, cadw llygad ar y polion ac ati, yn briodol a gellid ei gynnwys mewn unrhyw geisiadau am gyllid.

3.18 Byddai angen dyfrio a gofal sefydlu ar gyfer y cyfnod sefydlu 60 mis er mwyn sicrhau y gall y coed ddod yn annibynnol yn y dirwedd. Yn ddelfrydol, byddai cynllun rheoli lefel uchel ar gyfer y plannu newydd yn cael ei fabwysiadu ac yn cynnwys cael gwared ar ddulliau diogelu coed (gardiau / polion coed) pan fydd coed yn gwbl annibynnol yn y dirwedd (ar ôl tua phum mlynedd). Dylid cymryd i ystyriaeth rai colledion coed newydd a darpariaeth ar gyfer plannu yn eu lle. Byddai angen addasu trefn torri glaswelltir i gyfrif am ardaloedd sy’n cael eu hamrywiaethu. Dylid tynnu a gwaredu’r sgil-gynhyrchion, naill ai oddi ar y safle, neu mewn ardal addas ar y safle ar gyfer compostio.

 

Monitro ar gyfer llwyddiant

3.19 Gellid monitro llwyddiant drwy arolygon rhywogaethau cynnar a dilynol ar gyfer ardaloedd glaswelltir, nifer y coed a blannwyd a’u sefydliad llwyddiannus. Dylai gwaith monitro ymgysylltu â’r gymuned gynnwys adolygiad o gyfranogiad gwirfoddolwyr, presenoldeb mewn diwrnodau hyfforddi a defnyddio’r safle drwy arolygon syml i ymwelwyr.

 

Camau nesaf

3.20 Ymgymryd ag arolygon dichonoldeb ac ecolegol o’r ardal i ganfod yr ardaloedd sy’n fwyaf addas ar gyfer y gwahanol ymyriadau. Dylai hyn gynnwys amodau’r safle, rhywogaethau coed a glaswelltir presennol.

3.21 Adolygu adran gyflawni’r Strategaeth Plannu Coed Trefol i bennu’r broses ar gyfer plannu coed o fewn tirweddau meddal a deall y cydrannau allweddol ar gyfer sefydlu coed yn llwyddiannus.

3.22 Ymgysylltu â thrigolion a grwpiau cymunedol i nodi lleoliadau ar gyfer plannu coed a dewis rhywogaethau, gan ddefnyddio’r canllaw dewis rhywogaethau o fewn y Strategaeth Plannu Coed Trefol. Dylid comisiynu cymorth ymgynghorol, lle bo angen, ar gyfer datblygu’r strategaeth a’r uwchgynllun plannu a’r dehongliad.

 

Ffigur 3.5: Hwlffordd

Yn ôl i’r top

 

HAV11 – Sefydlu llwybr beicio integredig rhwng Arberth, Hwlffordd a Neyland

3.23 Ceir cyfle i estyn llwybr presennol Llwybr Brunel, sy’n cysylltu Neyland â Hwlffordd, i ddarparu llwybr beicio oddi ar y ffordd yn bennaf sy’n cysylltu tua’r dwyrain tuag at Arberth. Ar hyn o bryd, mae llwybrau aml-ddefnyddiwr a uwchraddiwyd yn ddiweddar o faes parcio Gwaun y Dref yn Arberth yn darparu cysylltiad â Melin Pwll Du, drwy’r dirwedd iseldirol sy’n gyfochrog ag Afon Cleddau. Fodd bynnag, dylid gwneud ymarfer ar opsiynau ac astudiaeth dichonoldeb i bennu llwybr a ffafrir i ddarparu’r ‘ddolen goll’ yn y llwybr rhwng Melin Pwll Du a Hwlffordd. Gan gydweithio â Chyngor Sir Penfro (CSP), byddai angen i gynigion ddatrys problemau mynediad ar draws tir sy’n eiddo preifat ym Mharc Slebets, lle mae Hawliau Tramwy Cyhoeddus presennol yn absennol ar hyn o bryd.

3.24 Dylid ystyried ymgorffori ystod o ddodrefn stryd, dehongliad, arwyddion a nodweddion chwarae naturiol achlysurol ar hyd y llwybr i wella’r coridor fel ased hamdden. Fodd bynnag, byddai angen gweithredu unrhyw gynigion goleuo mewn cysylltiad ag ecolegydd i sicrhau’r cydbwysedd cywir rhwng canfyddiad diogelwch ac ystyriaethau bioamrywiaeth. Byddai hyn yn cael ei wneud fel rhan o asesiad ecolegol ehangach i bennu sensitifrwydd ecolegol penodol y safle arfaethedig ac unrhyw ofynion ar gyfer lliniaru. Gan gydweithio â grwpiau cadwraeth a grwpiau gwirfoddol lleol, byddai gweithgareddau cadwraeth nid yn unig yn gwella gwerth natur y llwybr, ond hefyd yn hyrwyddo bywydau egnïol a lles meddyliol cadarnhaol drwy gydlyniant cymunedol.

 

Ffigur 3.6: Llwybr rhwng Arberth, Hwlffordd a Neyland

 

Buddion y prosiect

3.25 Ymhlith buddion y prosiect, fel y’u darlunnir yn Ffigur 3.7 isod, mae:

  • Darparu cyfleoedd teithio llesol
  • Buddsoddiad a gwell profiad i ymwelwyr
  • Lle i fywyd gwyllt a gwytnwch ecolegol
  • Chwarae, addysg a rhyngweithio â natur
  • Rhyngweithio cymdeithasol a chydlyniant cymunedol
  • Atgyfnerthu ymdeimlad o le
  • Gwella iechyd a lles

 

Ffigur 3.7: Buddion

 

Mecanweithiau cyflawni

3.26 Byddai angen cais am grant i sicrhau cyllid ar gyfer y gwaith cyfalaf sy’n gysylltiedig â’r prosiect hwn. Byddai angen i’r llwybr gael ei nodi ar y Map Rhwydwaith Integredig i gael ei ystyried yn gymwys i gael cyllid.

 

Partneriaid posibl
  • Y tîm Teithio Llesol, sy’n rhan o’r Uned Strategaeth Drafnidiaeth yn CSP

 

Cost amlinellol

 

Cost uchel = <£1 miliwn

 

Cyfleoedd ariannu posibl
  • Grant Cronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru
  • CSP
  • Trafnidiaeth Cymru

 

Amserlen

 

Tymor canolig = >5 mlynedd

3.27 I gwblhau’r llwybr i gyd, mae’n debygol y bydd yn cymryd dros 5 mlynedd i’w gyflawni.

 

Cyfyngiadau posibl

3.28 Mae’r prosiect yn debygol o fod yn gymhleth, gyda gofynion croes sy’n cynnwys y gofyniad am gyllid allanol sylweddol a chysylltu â thirfeddianwyr lleol. Byddai angen ymgysylltu â thirfeddianwyr a deilaiid tir er mwyn cyflwyno’r prosiect a thrafod unrhyw effeithiau ar ddefnydd tir presennol. Fodd bynnag, un agwedd anhysbys allweddol i’r prosiect fyddai’r amser sydd ei angen i gael caniatâd y tirfeddianwyr hyn.

3.29 Byddai uwchraddio llwybrau presennol i ddarparu llwybr cyd-ddefnyddio ar gyfer beicwyr hefyd yn gofyn clirio llystyfiant lleol ar hyd rhai rhannau o’r llwybr. Byddai angen gwneud hyn er mwyn osgoi’r tymor nythu adar ac mewn cyswllt ag ecolegydd neu Glerc Gwaith Ecolegol (ECoW).

3.30 Er mwyn bodloni meini prawf Grant Cronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru, byddai angen i ddyluniad y cynllun sicrhau ei fod yn cyd-fynd ag egwyddorion Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 a chanllawiau ategol y Ddeddf Teithio Llesol. Rhaid i gynlluniau sy’n cynnwys gwella priffyrdd, adeiladu, neu reoli traffig ddangos sut maent yn cydymffurfio’n benodol ag Adran 9 o’r Ddeddf (Darpariaeth i gerddwyr a beicwyr wrth arfer rhai swyddogaethau).

 

Cynnal a chadw a stiwardiaeth

3.31 Byddai angen gwaith cynnal a chadw blynyddol parhaus ar arwynebau caled y llwybr er mwyn sicrhau bod mynediad yn cael ei gynnal drwy gydol y flwyddyn. Byddai angen gwaith rheoli tirwedd hefyd i sicrhau bod llinellau gweld yn cael eu cadw ar draws y llwybr.

 

Monitro ar gyfer llwyddiant

3.32 Ceir cyfle i osod synwyryddion neu rifyddion i fonitro’r defnydd o’r llwybr fel rhan o’r rhwydwaith teithio llesol ehangach o fewn y sir. Byddai’r dull hwn yn helpu i fesur llwyddiant y buddsoddiad sylweddol ac yn llywio strategaeth hirdymor a chyflawni prosiectau tebyg yn y dyfodol.

 

Camau nesaf

3.33 Cynnal astudiaeth ddichonoldeb ac ymarfer ar opsiynau i bennu llwybr arfaethedig. Dylai’r ymarfer hwn ymgorffori asesiad ecolegol ac arolwg coed i BS5837: 2012 i archwilio’r goblygiadau ar fioamrywiaeth leol a gorchudd coed presennol. Dylid datblygu strategaeth dodrefn stryd ac arwyddion ar gyfer y llwybr hefyd. Ar ben hynny, byddai angen proses gynhwysfawr o ymgynghori ac ymgysylltu er mwyn penderfynu ar yr awydd am ddiwrnodau cadwraeth ar hyd y llwybr.

 

Ffigur 3.8: Hwlffordd


Yn ôl i’r top

 

HAV22 – Creu gwlyptiroedd wrth ymyl y gwaith trin carthion

3.34 I’r de o Hwlffordd mae gwaith trin carthion Dŵr Cymru wrth ymyl Merlin’s Brook. Mae’r safle hwn yn gorwedd o fewn Parth Llifogydd 2 a 3, gyda nifer o ddigwyddiadau gorlif storm cyfunol hanesyddol (lle mae elifion budr, wedi’u cymysgu â dŵr glaw, yn cael eu rhyddhau i’r afon oherwydd bod capasiti’r seilwaith wedi’i lethu). Cofnododd Dŵr Cymru gyfanswm o 847.25 o oriau o ollyngiadau yn 2021 yn unig. Mae’r gollyngiadau hyn yn bwydo i mewn i Merlin’s Brook sy’n draenio i Afon Cleddau Wen, sy’n Ardal Cadwraeth Arbennig ddynodedig sy’n methu’r meini prawf ffosffad newydd ar hyn o bryd. Gall ffosffad, er ei fod yn digwydd yn naturiol, hefyd ddeillio o weithgaredd dynol megis elifion carthion. Mae lefelau uwch o ffosffad yn arwain at orfaethu afonydd sy’n gallu achosi difrod ecolegol sylweddol. Mae afon Cleddau Wen yn cynnal poblogaethau o lampreiod y nant, lampreiod yr afon, silod a dyfrgwn, a’r cyfan ohonynt yn dirywio wrth i ansawdd dŵr waethygu.

3.35 Byddai creu gwlyptiroedd newydd ar dir diffaith wrth ymyl y gwaith trin carthion yn darparu mwy o gapasiti trin i helpu i dynnu ffosffadau o’r elifion carthion wedi’u trin wrth iddynt adael y safle. Byddai’r ymyriad hwn hefyd yn darparu clustogfa ar gyfer lliniaru digwyddiadau llifogydd a gorlif storm cyfunol, gan leihau’r graddau y mae carthion heb eu trin yn llifo’n syth i’r nant. Byddai’r gwlyptiroedd yn cynorthwyo stripio maetholion yr ollyngfa a byddai hyn yn ei dro yn helpu i leihau lefelau ffosffad yn Afon Cleddau Wen.

 

Ffigur 3.9: Prosiect HAV22

 

Buddion y prosiect

3.36 Ymhlith buddion y prosiect, fel y’u darlunnir yn Ffigur 3.10 isod, mae:

  • Lleihau risg llifogydd
  • Gwella ansawdd dŵr
  • Buddsoddiad a gwell profiad i ymwelwyr
  • Mannau ar gyfer bywyd gwyllt a gwytnwch ecolegol
  • Gwella ansawdd aer a rheoleiddio sŵn
  • Gwella iechyd a lles
  • Dal a storio carbon a lliniaru newid hinsawdd.

 

Ffigur 3.10: Buddion

 

Darparu atebion seiliedig ar natur a gwasanaethau ecosystemau

3.37 Gall gwlyptiroedd gynorthwyo i liniaru llifogydd, gan storio dŵr gormodol mewn cyfnodau o law trwm, yn ogystal â’u prif swyddogaeth sef stripio ac ailgylchu maetholion. Mae’r cynefinoedd hyn hefyd yn darparu nifer o fanteision bioamrywiaeth.

3.38 Gall gwlyptiroedd wedi’u hadeiladu, os cânt eu dylunio’n gywir, drin elifion yn gynaliadwy mewn modd sy’n lleihau crynodiad halogedig sy’n debyg i fecanweithiau cemegol neu fecanyddol mwy cymhleth. Fel arfer mae’r elifion o gyfleusterau trin carthion yn gyfoethog mewn maetholion a gall gwlyptiroedd helpu i leddfu’r mater hwn mewn ardaloedd sensitif fel ACA Afon Cleddau Wen.

 

Mecanweithiau cyflawni

3.39 Dylid ymgynghori â pheiriannydd dylunio priodol i ddarparu dyluniad o’r gwlyptiroedd. Dylid cyfrifo’r ardal bosibl ar gyfer y gwlyptiroedd a’i chytuno â thirfeddianwyr perthnasol. Dylid ymgynghori â’r gymuned leol er mwyn ei chynnwys gyda’r cynlluniau. Dylid cyflogi contractwyr y mae eu hangen i gwmpasu’r topograffi a chloddio ardaloedd dethol. Dylid hefyd ystyried deunyddiau sydd eu hangen i greu’r gwlyptiroedd fel deunyddiau swbstrad a llystyfiant mor lleol â phosib.

3.40 Efallai y bydd modd ymgorffori atebion fel hyn i gyfraniadau datblygwyr (e.e. o dan gytundebau Adran 106) sy’n galluogi datblygwyr i wrthbwyso’r llwytho maethol cynyddol sy’n gysylltiedig â datblygiadau newydd, ac felly’n darparu mecanwaith ariannu ar gyfer adeiladu a chynnal a chadw’r gwlyptir.

 

Partneriaid posibl
  • Prosiectau Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar gyfer Afonydd Cleddau – Lliniaru Llifogydd yn Naturiol
  • Prosiect Pedair Afon LIFE
  • Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru
  • Bwrdd Cynllun Rheoli Maetholion ACA Cleddau
  • Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru

 

Cost amlinellol

 

Cost isel = <£250k

3.41 Byddai’r costau’n cynnwys prynu tir neu rent, dylunio’r gwlyptiroedd gan beiriannydd arbenigol, caffael planhigion a chostau sy’n gysylltiedig â chloddio a gosod y gwlyptiroedd.

 

Cyfleoedd ariannu posibl
  • Dŵr Cymru
  • Prosiect Pedair Afon LIFE
  • Credydau maetholion gan ddefnyddio cytundeb Adran 106
  • Cronfa Arloesi Ofwat

 

Amserlen

 

Tymor canolig = <1-5 mlynedd

3.42 Mae hyd y rhaglen hon a ragwelir yn cynnwys amser er mwyn dylunio’r gwlyptir, llunio cytundebau gyda pherchenogion tir, adeiladu a phlannu’r gwlyptir.

 

Cyfyngiadau posibl

3.43 Un o’r cyfyngiadau allweddol ar gyfer y prosiect fyddai sicrhau cytundebau tirfeddianwyr. Byddai’n hanfodol hefyd sicrhau bod y gwlyptiroedd gerllaw’r seilwaith trin carthion er mwyn osgoi ail-lwybro gollyngfeydd carthion a fyddai’n cynyddu amser a chostau’r prosiect. Mae bacteria sy’n gwrthsefyll gwrthfiotigau yn cronni mewn gwlyptiroedd yn bryder a dylid ystyried hyn wrth ddylunio’r gwlyptiroedd.

3.44 Byddai angen i asesiad ecolegol o’r safle gael ei gynnal gan ecolegydd gyda’r holl waith safle’n cael ei oruchwylio o bosibl gan Glerc Gwaith Ecolegol (ECoW).

 

Cynnal a chadw a stiwardiaeth

3.45 Nid yw gwlyptiroedd yn mynnu llawer iawn o waith cynnal a chadw, a braidd dim costau rhedeg, gan nad oes angen pŵer arnynt ac maent yn gyffredinol yn systemau hunan-addasu dibynadwy. Fodd bynnag, byddai angen cynnal a chadw ychydig o weithiau’r flwyddyn i dynnu malurion o unrhyw ollyngfeydd, ailosod unrhyw bibellau sydd wedi’u difrodi, cael gwared ar unrhyw rywogaethau planhigion goresgynnol a allai fod yn drech na’r planhigion gwlyptir, lleihau croniad gwaddodion a chadw llygad ar uniondeb strwythurol agweddau strwythurol y dyluniad. Byddai cytundebau parhaus gyda Dŵr Cymru neu ddeiliaid tir ar gyfer mynediad yn hanfodol.

 

Monitro ar gyfer llwyddiant

3.46 Yn amodol ar argaeledd cyllid, dylid monitro llwyddiant y prosiect drwy wyddoniaeth dinasyddion syml. Gallai technegau gynnwys monitro ansawdd dŵr gan ddefnyddio offer llaw syml.

 

Camau nesaf

3.47 Byddai angen cydweithio â Dŵr Cymru ar y prosiect hwn ac felly’r cam cyntaf fyddai archwilio a gosod cytundeb cydweithio. Gall hyn helpu i ddatgloi cyllid gan Dŵr Cymru eu hunain, neu o Gronfa Arloesi Offwat neu ei thebyg. Wedi hynny, dylid cynnal ymarfer cwmpasu i ddiffinio gofynion y cynllun o ran yr ystod o ollyngfeydd o’r gwaith carthion, y lle sydd ar gael ar gyfer adeiladu ac ystyriaethau tirfeddianwyr.

Yn ôl i’r top

 

Rhestr Hir o Brosiectau

 

HAV1 – Cynnal a gwella’r rhwydwaith perllannau

3.48 Parhau gwaddol prosiect ‘Orchard Mawr’ Transition Haverfordwest drwy barhau i reoli Perllannau Pont Fadlen, Perllannau Fleming Crescent a Pherllannau’r Cae Ras. Dylid hefyd ystyried sefydlu coed ffrwythau wrth ymyl y parc sgrialu ac estyn plannu ar hyd ymylon glaswelltog y Parêd / cyrtiau tenis.

 

HAV2 – Estyn a gwella amgylchedd torlannol Dôl y Bont

3.49 Ategu ardaloedd blodau gwyllt ar hyd rhannau Afon Cleddau Wen drwy estyn ardaloedd o ddolydd gwlyb ar hyd y gorlifdir. Byddai hyn yn cefnogi amcanion bioamrywiaeth ehangach drwy gynnwys gwalau rhydwyr ac ardaloedd o goetir gwlyb, gan atgyfnerthu’r coridor cynefin. Nodwyd yr ardal gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn ardal ar gyfer potensial ailgysylltu gorlifdir a byddai’n helpu i ddarparu ardal naturiol i wanhau llifogydd i fyny’r afon o’r dref.

 

HAV3 – Sefydlu ardal dyfu gymunedol i bobl a bywyd gwyllt

3.50 Mae’r cyfle yn bodoli i greu ardal o randiroedd cymunedol, gan fodloni rôl hanfodol wrth gysylltu pobl â’r broses o gynhyrchu bwyd. Os oes modd, dylid gadael ymylon plannu heb eu torri, gosod toeau byw ar siediau ac ychwanegu bwydwyr adar i ddenu bywyd gwyllt. Dylai’r ymyriad annog perchnogion lleiniau i ddefnyddio llai o blaladdwyr a chwynladdwyr, gan ddewis yn hytrach gweithio’r tir yn organig. Dylid edrych hefyd ar gyfleoedd plannu coed a pherllannau ychwanegol.

 

HAV4 – Rheoli’r gerddi ‘tir bwrdais’ canoloesol fel hafan i fywyd gwyllt

3.51 Ar hyn o bryd mae lleiniau bwrdais Castell Hwlffordd yn cael eu rheoli fel hafan bywyd gwyllt, gyda mwy na 18 math gwahanol o blanhigion blodau gwyllt, cuddfannau draenogod, a blychau adar ac ystlumod. Drwy gynnal amrywiaeth o rywogaethau, mae’r lleiniau bwrdais yn gyrchfan deniadol i ymwelwyr, ond maent hefyd yn helpu i ddangos pwysigrwydd gweoedd bwyd cydgysylltiedig. Argymhellir parhau i reoli er mwyn sicrhau bod y safle yn parhau i fod yn lle i bobl a bywyd gwyllt ei fwynhau.

HAV5 – Gwella Neuadd y Sir

3.52 Ceir cyfle i lenwi’r blychau ffenestri gwag yn Neuadd y Sir â blodau brodorol i wella bioamrywiaeth. Dylai hadau blodau gwyllt hefyd gael eu hau a phlanhigion plwg gael eu cyflwyno ar lefel y ddaear i roi gwerth ychwanegol i beillwyr. Dylid hefyd integreiddio cynigion plannu sy’n ceisio gwella bioamrywiaeth o fewn cynigion i wella’r cysylltiad rhwng Picton Place a Thŵr y Cloc.

HAV6 – Cynnal a gwella dôl Priory Saltings

3.53 Arferai fod yma ganolfan ailgylchu gwastraff cartref, ond mae Priory Saltings bellach yn warchodfa natur lewyrchus. Dylid parhau i reoli glaswelltir y ddôl drwy dorri gwair a chasglu gwair llawn hadau rhwng diwedd mis Awst a mis Medi. Mae’r gweithrediad hwn yn annog gweirglodd draddodiadol i sefydlu sy’n llawn o blanhigion blodeuo lluosflwydd. Dylai’r safle hefyd barhau i hyrwyddo digwyddiadau fel Diwrnod Agored Dolydd Sir Benfro er mwyn annog ymwybyddiaeth ac ymgysylltiad lleol. Dylid gwella ardaloedd o dir moel ac ardaloedd gwlypach i ddarparu ar gyfer peillwyr drwy gydol eu cylch bywyd. Dylid hefyd ystyried dynodi llwybrau’n well ac arwyddion dehongli, gan gynnwys y potensial i ddarparu cyswllt hygyrch ar gyfer pob tywydd rhwng y safle a’r Priordy.

HAV7 – Sefydlu llwybr coed parcdir cae ras a hyrwyddo sefydlu dôl blodau gwyllt

3.54 Cyfeirier at y Prosiectau Cicdanio.

 

HAV8 – Cyflwyno coed perllan a pharcdir wrth ymyl y parc sgrialu

3.55 Archwilio’r cyfle i gyflwyno plannu coed gerllaw’r parc sgrialu i gyd-fynd â’r rhwydwaith o goed ffrwythau sy’n bodoli eisoes. Byddai plannu coed parcdir hefyd yn helpu i atgyfnerthu cymeriad treflun a thirwedd yr ardal, gan ddarparu amrywiaeth o fanteision amlswyddogaethol. Gan gydweithio â Chymdeithas Parc Sgrialu Hwlffordd, mae’r cyfle yn bodoli i gyflwyno digwyddiad plannu coed cymunedol i annog pobl leol i gefnogi’r cynigion a hybu perchnogaeth gymunedol.

 

HAV9 – Estyn y mynediad gogleddol ar hyd Cleddau Wen

3.56 Estyn a chysylltu Gwarchodfa Natur Old Mill Ground er mwyn hwyluso mynediad sensitif at fyd natur. Gan adeiladu ar y bont droed ddiweddar sy’n croesi Cleddau Wen yn y lleoliad hwn, dylid ystyried gosod mynediad ychwanegol tua’r gogledd (yn amodol ar gymeradwyaeth tirfeddianwyr). Dylai hyn fod ynghyd â mynediad uniongyrchol tuag at gymunedau yn Cashfield lle ceir cyfle i greu llwybr hamdden cylchol. Dylai plannu coed ychwanegol i gynyddu gorchudd canopi strategol, gan ddarparu atebion seiliedig ar natur i lifogydd, gael ei ymgorffori hefyd mewn cynigion tirwedd yn y dyfodol.

 

HAV10 – Cyflwyno llwybrau cerdded ar hyd llednentydd Cleddau Wen

3.57 Archwilio cyfleoedd am lwybrau cerdded cylchol sy’n cysylltu canol Hwlffordd gyda’r cefn gwlad cyfagos a Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Dylai’r llwybrau ddefnyddio rhai o lednentydd Cleddau Wen (gan gynnwys Merlin’s Brook, Cartlett Brook a Pelcomb Brook).

 

HAV11 – Sefydlu llwybr beicio integredig rhwng Arberth, Hwlffordd a Neyland

3.58 Cyfeirier at y Prosiectau Cicdanio.

 

HAV12 – Hyrwyddo gwyrddu ardaloedd preswyl Hwlffordd

3.59 Ategu a gwella clustogfeydd coetir presennol yng ngogledd-orllewin Hwlffordd, gan ddefnyddio ardaloedd mawr o laswelltir amwynder wrth ymyl ardaloedd preswyl. Dylid hefyd archwilio ymyriadau creu cynefinoedd ychwanegol, gan gynnwys dolydd blodau gwyllt, mewn lleoliadau fel Thomas Parry Way, Fleming Crescent, Trafalgar Road a’r ystâd yn Scotchwell View. Yn ogystal, dylid integreiddio mentrau gwyrddu o fewn y man gwyrdd yn Tan Bank ar y cyd â chynigion i gyflwyno troedffordd i gysylltu Ffordd Aberteifi ag Ysgol Prendergast. Dylid hefyd edrych ar gyfle i adolygu gwaith rheoli tirwedd coetir Fleming Crescent.

HAV13 – Ymgorffori cynigion o fewn Ardal Rheoli Ansawdd Aer Hwlffordd

3.60 Adolygu darpariaethau parcio er mwyn darparu lle i gafnau plannu uwch a phlannu coed stryd. Dylai’r ymyriad hwn fod ynghyd â’r potensial i blannu ar leiniau glaswellt, er enghraifft yn Milford Road. Dylid hefyd defnyddio coed i ddiffinio llwybrau allweddol rhwng cyrchfannau allweddol ac atyniadau ymwelwyr yn y dref.

 

HAV14 – Hyrwyddo gwyrddu Sgwâr y Castell

3.61 Cyflwyno ymyriadau tirwedd feddal o fewn Sgwâr y Castell i ddarparu man cyhoeddus deniadol. Dylid defnyddio coed stryd gyda seddi wedi’u hymgorffori i ddarparu cysgod, ochr yn ochr â chafnau plannu uchel gyda mannau parcio beiciau, gwefru beiciau trydan a threfniadau eistedd cymdeithasol wedi’u hymgorffori. Dylai nodweddion a ddefnyddir yn Sgwâr y Castell ffurfio rhan o gyfres ailadroddus o ddodrefn stryd ar draws y dref. Dylid defnyddio gwyrddu ac arwyddion trefol hefyd i greu llwybr mwy croesawgar i’r maes parcio. Dylid hefyd ystyried gosod cyfleusterau beiciau trydan a beicio ychwanegol.

 

HAV15 – Gwyrddu glannau afon ymhellach

3.62 Mae crynhoad o ddigwyddiadau Gorlif Carthffos Cyfun (CSO) yn agos at Ganolfan Siopa Glan yr Afon. Mae Ystâd Fanwerthu Bridge Meadow hefyd wedi cofnodi digwyddiadau llifogydd yn y gorffennol. Felly, dylid edrych ar osod coed, palmantau athraidd, cafnau plannu uwch, seddau a gerddi glaw o fewn yr amgylchedd cyhoeddus a’r meysydd parcio. Gyda chefnogaeth rhaglenni cynnal a rheoli priodol, dylid defnyddio gwelyau cyrs arnofiol hefyd i feddalu ymyl sianelog yr afon gyda’r nod o wella ansawdd dŵr a darparu cynefinoedd torlannol. Dylid cyflenwi waliau gwyrdd, arosfannau bysiau gwyrdd a nodweddion gwyrddu ar hyd y maes parcio aml-lawr i’r gogledd-ddwyrain o’r ganolfan siopa.

 

HAV16 – Gwyrddu’r orsaf drenau

3.63 Gwella’r ymdeimlad o gyrraedd y dref drwy blannu coed stryd ar raddfa fach a nodweddion gwyrddu trefol; gan gynnwys cafnau plannu uwch, parcio beiciau gwyrdd a safleoedd bysiau gwyrdd. Dylid ategu hyn drwy ddynodi llwybrau’n well i hyrwyddo atyniadau allweddol y dref yn ogystal â darparu seddi a gorsafoedd gwefru beiciau trydan.

 

HAV17 – Gwella pyrth gwyrdd

3.64 Sicrhau pyrth gwyrdd deniadol sy’n denu peillwyr i Hwlffordd, wrth fynedfeydd, meysydd parcio a chylchfannau allweddol. Mae’r lleoliadau posibl yn cynnwys Cylchfan Llwynhelyg, Cylchfan Ffordd Aberteifi, Cylchfan Bridgend Square, Cylchfan Salutation Square, Cylchfan Pont Fadlen, Cylchfan y Slâd, a Chylchfan Scotchwell yn ogystal â meysydd parcio cyhoeddus a phreifat. Ochr yn ochr â gwelliannau plannu, dylid ystyried dynesfeydd cyffordd a sut y gellir gwella’r rhain i hyrwyddo defnydd cynyddol gan gerddwyr a beicwyr (gan ganiatáu ar gyfer lleiniau gwelededd priodol).

 

HAV18 – Hyrwyddo gwyrddu a phresgripsiynu cymdeithasol

3.65 Gweithio mewn partneriaeth ag Ysbyty Llwynhelyg, Ysbyty De Sir Benfro, Wardeiniaid Coed Sir Benfro a Lleoedd Lleol ar gyfer Natur i ddatblygu cynigion dylunio tirwedd ar gyfer gerddi therapiwtig. Dylai’r mannau hyn geisio cyflwyno gerddi ar gyfer ymlacio’n dawel a hyrwyddo mwy o gysylltiad â byd natur i gleifion a staff. Dylid hefyd edrych ar gyfleoedd i arddio a thyfu bwyd ar raddfa fach. Ceir cyfle hefyd yn bodoli i gefnogi Coleg Sir Benfro i ddatblygu cynigion am ardal tyfu bwyd ar gyfer dysgwyr sgiliau bywyd yn ogystal â gardd les ar ei safle yn Llwynhelyg. Dylai uchelgeisiau hirdymor gynnwys cysylltiad teithio llesol uniongyrchol rhwng Ysbyty Llwynhelyg a Crowhill Road dros bont droed Cleddau Wen.

 

HAV19 – Cyflwyno gwelliannau mynediad i wella cysylltiadau rhwng afon Cleddau Wen a Gwarchodfa Natur Priory Saltings

3.66 Archwilio opsiynau yn y dyfodol ar gyfer gwelliannau mynediad i Warchodfa Natur Saltings Priory o afon Cleddau Wen. Ymhlith yr opsiynau mae gwelliannau i’r bont ffordd bresennol o gaeau Picton neu groesfan ddeheuol newydd dros afon Cleddau Wen. Byddai’r cysylltiadau hyn yn ceisio cysylltu Gwarchodfa Natur Priory Saltings, llwybr troed Frolic Fortune yn ogystal â’r rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus ehangach. Dylid edrych hefyd ar gysylltiadau o’r A4076 i Warchodfa Natur Saltings Priory, gan gynnwys darparu dewisiadau llwybr cylchol yn ne Hwlffordd. Ceir cyfle hefyd i archwilio cynigion llwybr cyd-ddefnyddio newydd sy’n cysylltu Pont Fadlen ar hyd Clay Lane ag Union Hill.

 

HAV20 – Adolygu gofal coed stryd

3.67 Adolygu safle coed stryd presennol a’u gofal parhaus. Er mwyn hyrwyddo eu sefydliad hirdymor, dylid torri ardaloedd presennol o goncrid asffalt wrth waelod y goeden stryd er mwyn caniatáu i aer a dŵr basio. Wrth osod coed stryd newydd, dylid dilyn arfer gorau sef defnyddio pyllau coed, gardiau a rhwyllau (lle bo hynny’n briodol).

 

HAV21 – Estyn a gwella Coetir Scotchwell

3.68 Adolygu gwaith rheoli Coetir Scotchwell i hyrwyddo arferion rheoli cadarnhaol; sicrhau teneuo, coedlannu a gwaredu rhywogaethau goresgynnol yn briodol. Dylid hefyd ystyried cyflwyno coed newydd yn y man gwyrdd amwynder yn Cherry Grove a Mill Bank i ehangu cysylltedd y coetir a gwella’r hierarchaeth ymyl coetir strwythuredig. Dylid hefyd sicrhau gwelliannau mynediad arfaethedig, yn unol â’r Map Rhwydwaith Teithio Llesol.

HAV22 – Creu gwlyptiroedd wrth ymyl y gwaith trin carthion

3.69 Cyfeirier at y Prosiectau Cicdanio.

HAV23 – Meddalu llwybrau presennol allweddol i ganol y dref drwy blannu coed

3.70 Cyflwyno plannu coed ar hyd llwybrau allweddol i feddalu’r ddynesfa ar ganol y dref a mynd i’r afael â’r bylchau mewn gorchudd canopi strategol, gan hefyd feddalu ymylon trefol. Mae’r lleoliadau posibl yn cynnwys coridor yr A4076, B4341 Haven Road, B4327 Dale Road a’r Stryd Fawr. Dylid ailedrych hefyd ar waith rheoli coed stryd presennol, gan sicrhau bod polion, rhwyllau a gardiau coed yn cael eu gwaredu neu eu hail-glymu i wneud lle i dyfiant.

 

HAV24 – Integreiddio ymyriadau Systemau Draenio Cynaliadwy (SDC) i’r strydlun

3.71 Mae’r strydlun trefol yn cynnig cyfle i integreiddio gwahanol ymyriadau Systemau Draenio Cynaliadwy (SDC) a phlannu coed yn fodd o helpu i leihau cyfaint y dŵr wyneb sy’n cael ei sianelu’n uniongyrchol drwy rwydwaith o bibellau. Ceir potensial hefyd i gydweithio â Chyngor Tref Hwlffordd i archwilio lleoliadau ar gyfer ymyriadau SDC yn y treflun.

Yn ôl i’r top

 

Pennod flaenorol:

Abergwaun ac Wdig

 

Pennod nesaf:

Aberdaugleddau

 

Dychwelyd i’r hafan:

Hafan