Neyland

Asesiad Seilwaith Gwyrdd Sir Benfro: Paratowyd gan LUC Chwefror 2023

Cynnwys Tudalen:

 

Portread o Seilwaith Gwyrdd Neyland

Prosiectau Cicdanio

Rhestr Hir o Brosiectau

 

Neyland

 

Ffigur 7.1: Neyland

 

Portread o Seilwaith Gwyrdd Neyland

 

7.1 Mae tref fach Neyland wrth ben dwyreiniol Aberdaugleddau, ger aber Afon Cleddau. Amgylchynir y dref gan gaeau amaethyddol wedi’u ffinio gan wrychoedd i’r gogledd a’r gorllewin, ond mae’n cadw rhywfaint o gymeriad diwydiannol oherwydd yn hanesyddol roedd yn derfynfa bwysig i longau a threnau. Mae Ardal Gadwraeth Neyland wedi’i chynnwys ar hyd yr ymyl ddeheuol ac o fewn rhannau canolog o’r dref, gyda llawer o adeiladau rhestredig yn ymwneud â’r seilwaith rheilffyrdd sydd bellach wedi peidio. Mae patrymau stryd llinol, rheolaidd yn gyffredin ar draws eangderau deheuol y dref, sy’n adlewyrchu’r topograffi llethrog wrth i’r tir gwrdd â’r arfordir. Oddi yma, ceir golygfeydd ar hyd strydoedd ac o eiddo ar draws yr aber a thuag at y porthladd yn Noc Penfro sydd ar y lan ddeheuol. O fewn gogledd y dref, nodweddir patrwm y strydoedd gan ffurf faestrefol lacach.

7.2 Mae Neyland yn agos at ddwy ddyfrffordd bwysig, sef aber Aberdaugleddau, ar hyd ymyl ddeheuol y dref, a Westfield Pill, sy’n ffurfio ffin ddwyreiniol y dref. Mae aber Aberdaugleddau yn rhan o Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Forol Sir Benfro, yn ogystal â Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Dyfrffordd y Ddau Gleddau, y mae ei ehangder dynodedig yn parhau i’r gogledd, ar hyd coridor nant Westfield Pill.

7.3 Mae mannau agored o fewn Neyland yn fach ac yn brin eu nifer, gyda chaeau hamdden yn gysylltiedig â’r ysgol a meysydd athletaidd ym mhen gogleddol y dref a man hamdden bach ym Mharc Harbour Close. Daw Llwybr Arfordir Penfro, sef Llwybr Cenedlaethol a hyrwyddir, ar hyd ymyl ddeheuol y dref cyn parhau ar hyd aber Aberdaugleddau i’r dwyrain a’r gorllewin. Diffinnir ffin orllewinol y dref gan goridor nant ym Mro Neyland. Mae’r dyffryn coediog hwn megis coridor bywyd gwyllt pwysig sy’n cysylltu’r cefn gwlad ehangach ag Aberdaugleddau a’i ddynodiadau bywyd gwyllt cysylltiedig. Mae Westfield Pill yn nodi ffin ddwyreiniol y dref ac yn cynnwys Hafan Hwylio Neyland, sef marina ar gyfer cychod pleser. Yno mae’r glannau hefyd yn cynnal rhan o Lwybr Arfordir Penfro yn ogystal â dechrau cysylltiad beicio Brunel oddi ar y ffordd sy’n cysylltu Neyland â Hwlffordd i’r gogledd. Ynghyd ag ardaloedd o goetir hynafol trwchus, mae Westfield Pill hefyd yn cynnwys Gwarchodfa Natur Westfield Pill y mae’n hysbys ei bod yn cynnal dyfrgwn, ystlumod ac amrywiaeth gyfoethog o infertebratau, ymlusgiaid, amffibiaid ac adar.

7.4 Mae ychydig o Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn cysylltu gogledd yr anheddiad â’r dirwedd ehangach gyda’r rhan fwyaf o rwydwaith y dref ar hyd y dyfrffyrdd ac i’r gorllewin o’r dref o fewn y dirwedd fugeiliol i raddau helaeth. Fodd bynnag, mae llwybrau beicio sy’n ymledu oddi ar Lwybr Arfordir Penfro ac yn ymestyn i’r dwyrain a’r gorllewin ar hyd yr A477 i gynnig cysylltedd ehangach.

 

Ffigur 7.2: Cyfleoedd SG yn Neyland


Yn ôl i’r top

 

Prosiectau Cicdanio

 

NEY 4 – Defnyddio atebion seiliedig ar natur i fynd i’r afael â materion ansawdd dŵr

7.5 I’r dwyrain o anheddiad Neyland mae Gwarchodfa Natur Westfield Pill, sydd o bwysigrwydd cenedlaethol ar gyfer y casgliad o infertebratau ac adar gwyllt sy’n gaeafu. Darpara’r safle amrywiaeth o gynefinoedd pwysig, a hynny yn y llyn ac ar y tir o’i gwmpas. Mae hefyd yn draenio i Aberdaugleddau, sydd wedi’i ddynodi’n Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA). Nodweddir y tir fferm cyfagos gan gyfres o lethrau serth, ac mae prosiectau blaenorol wedi nodi’r cyfle i weithredu newidiadau i ddulliau rheoli tir a fyddai o fudd i ansawdd dŵr, yn lleihau risg llifogydd ac yn lleihau risg siltio. Dylid targedu dalgylch cyfan Westfield Pill ar gyfer ymyriadau, gan ganolbwyntio’n benodol i ddechrau ar fferm sy’n eiddo i Gyngor Sir Penfro (CSP) i’r dwyrain o Neyland.

7.6 Cynhaliwyd eisoes broses o fapio cyfleoedd gan ddefnyddio data synhwyro o bell, gan nodi ardaloedd lle gallai newidiadau yn y dulliau rheoli tir ddwyn buddion. Byddai cam casglu data cychwynnol ar draws dalgylch Westfield Pill yn darparu proses dilysu daearol leol o’r cyfleoedd hyn. Yna, gallai’r cam casglu data a mapio cyfleoedd hwn gael ei ddatblygu’n gyflym i gyflwyno ystod o newidiadau ac ymyriadau defnydd tir, a allai gynnwys;

  • Creu lleiniau clustogi torlannol, gan leihau pori’n agos at gyrsiau dŵr;
  • Ffurfioli ardaloedd dyfrio da byw, er mwyn codi ffensys ar hyd cyrsiau dŵr i’w hamddiffyn rhag erydiad glannau, sathru’r glannau ac effaith tail;
  • Plannu coed / prysglwyni ar ymylon caeau a lleiniau cysgodi er mwyn cadw mwy o ddŵr; a

7.7 Chreu argaeau naturiol o fewn cyrsiau dŵr bychain, gan arafu llif a chynyddu amrywiaeth cynefinoedd o fewn y dirwedd

 

Ffigur 7.3: NEY4

 

Buddion y prosiect

7.8 Ymhlith buddion y prosiect, fel y’u darlunnir yn Ffigur 7.4 isod, mae:

  • Lleihau risg llifogydd
  • Gwella ansawdd dŵr
  • Lle i fywyd gwyllt a gwytnwch ecolegol
  • Dal a storio carbon a lliniaru effeithiau newid hinsawdd

 

Ffigur 7.4: Buddion

 

Darparu atebion seiliedig ar natur a gwasanaethau ecosystemau

7.9 Mae dulliau rheoli defnydd tir ers yr Ail Ryfel Byd wedi golygu mwy o ddraenio tir, mewn ymgyrch i sicrhau bod tir fferm mor effeithlon ag sy’n bosibl. Mae hyn wedi arwain at leihau amrywiaeth cynefinoedd, a cholli gwlyptiroedd, glaswelltir gwlyb a chynefinoedd daearol gwlyb cysylltiedig. Mae hefyd wedi cynyddu risg llifogydd, am ei fod yn cynyddu cyflymder a maint y dŵr sy’n llifo i lawr dalgylchoedd, gan leihau effaith glustogi’r dirwedd yn ystod glaw trwm a maith. Mae draeniad cynyddol priddoedd gwlyb hefyd yn cael effaith andwyol ar allu’r pridd hwnnw i ddal a storio carbon.

7.10 Trwy ddefnyddio technegau megis clustogfeydd torlannol, plannu lleiniau cysgodi ac ymylon caeau, byddai gallu’r dirwedd i amsugno glawiad a chlustogi rhag glawiad a dŵr ffo wyneb yn cael ei gynyddu’n sylweddol. Byddai hyn yn cael effaith fuddiol gydredol ar risg llifogydd, ansawdd dŵr a dal a storio carbon, gan y byddai ail-wlychu priddoedd gwlyptir yn cynyddu eu gallu i amsugno a chloi carbon.

 

Mecanweithiau cyflawni

7.11 I ddechrau, cynigir y gellid targedu’r prosiect ar lefel leol, safle-benodol drwy gynnal arolwg i ddilysu daear presenoldeb a graddfa’r ardaloedd cyfle a nodwyd hyd yma gan ddefnyddio technegau synhwyro o bell. Gellid cynnal yr arolwg hwn gan wyddonwyr dinasyddion hyfforddedig addas, staff Cyngor Sir Penfro (CSP) neu gan ymgynghorydd arbenigol allanol. Pan fydd ardaloedd o gyfle allweddol wedi bod yn destun dilysu daearol ac wedi’u diffinio, byddai angen ymgysylltu â thirfeddianwyr a deiliaid / porwyr tir er mwyn cyflwyno’r cyfleoedd hyn a thrafod eu heffeithiau ar ddefnydd tir presennol. Gall hyn arwain at golli rhai cyfleoedd am resymau cyfyngiadau amaethyddol masnachol a ffisegol.

7.12 Gallai’r ymyriadau a’r newidiadau ffisegol arfaethedig i ddulliau rheoli tir gael eu darparu gan y tirfeddianwyr eu hunain, neu gan gontractwyr amaethyddol allanol.

 

Partneriaid posibl
  • Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru
  • Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)
  • Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru
  • Fforwm Arfordirol Sir Benfro

 

Cost amlinellol

 

Cost isel = <£250k

7.13 Rhagwelir y gall y prosiect hwn gostio degau o filoedd neu lai, yn ddibynnol ar ardal y dalgylch sydd wedi’i dargedu ar gyfer ymyriadau. Byddai’r costau’n cynnwys rhai ffioedd cyngor arbenigol / asiant tir cyfyngedig, costau ffensio a phlannu coed a chostau posibl sy’n gysylltiedig â gosod cyfarpar dyfrio da byw amgen.

 

Cyfleoedd ariannu posibl
  • Cynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru sy’n dod i’r amlwg
  • Coedwig Genedlaethol Cymru – Y Grant Buddsoddi mewn Coetir (Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol – Cylch 1)

 

Amserlen

 

Cam cyflym ymlaen = <1 flwyddyn

7.14 Gellid darparu ymyriadau ffisegol o fewn un flwyddyn. Un peth anhysbys allweddol i’r prosiect fyddai’r amser a gymerir i gael cytundebau / caniatâd gan y tirfeddiannwr / deiliad / porwr.

 

Cyfyngiadau posibl

7.15 Un cyfyngiad allweddol ar gyfer y prosiect fyddai cytundebau tirfeddiannwr / deiliad tir / porwr, gan y gallai fod risg canfyddedig i hyfywedd fferm sy’n gysylltiedig â cholli rhywfaint o dir i ymylon torlannol / lleiniau cysgodi / plannu ymylon caeau ac ati. Gall hefyd fod gwrthwynebiad i newid cyrsiau dŵr o ran pryderon draenio tir. Dylid gwrthddadlau’r pryderon hyn ag argaeledd taliadau amaethyddol ar gyfer nwyddau a gwasanaethau amgylcheddol, ac felly mae’r oedi cyn lansio Cynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru yn gyfyngiad posibl yn hyn o beth.

 

Cynnal a chadw a stiwardiaeth

7.16 Byddai angen cynnal a chadw’r gwaith meddal a’r gwlyptir yn rhan o’r cyfnod sefydlu 60 mis, gan gynnwys amnewid coed aflwyddiannus.

 

Monitro ar gyfer llwyddiant

7.17 Yn amodol ar argaeledd cyllid, dylid monitro llwyddiant y prosiect drwy wyddoniaeth dinasyddion syml, gyda chymorth addas. Gallai technegau gynnwys monitro ansawdd dŵr gan ddefnyddio offer llaw syml, neu osod mesurydd ffrwd syml i fonitro llif ffrwd, er enghraifft.

 

Camau nesaf

7.18 Diogelu cyllid cyfyngedig (£1k i £10k) i gynnal proses dilysu daearol synhwyro o bell ar draws y dalgylch, gan greu rhestr flaenoriaeth o feysydd ar gyfer ymyriad.

7.19 Ymgysylltu â thirfeddianwyr / deiliaid / porwyr ac ymrwymo i gytundebau i ddarparu ymyriadau ar eu tir.

 

Ffigur 7.5: Neyland

Yn ôl i’r top

 

NEY12 – Creu ymylon blodau gwyllt ar hyd y Promenâd

7.20 Mae graddiant y clawdd glaswelltog sy’n ffinio â’r Promenâd yn rhy serth i ddarparu swyddogaeth hamdden, gan gynnwys y tir rhwng Church Lakes a Riverside Avenue. Byddai llacio’r drefn torri gwair bresennol yn annog tywarchen hirach a mwy amrywiol a fyddai’n darparu cynefin i amrywiaeth o rywogaethau, sef peillwyr. Er mwyn cynyddu amrywiaeth rhywogaethau, dylid hau hadau blodau gwyllt brodorol, neu osod tyweirch blodau gwyllt. Dylid hefyd ystyried defnyddio rhywogaethau blodau gwyllt sy’n goddef halen am fod yr arfordir mor agos. Byddai cynnwys cribell felen o fewn y gymysgedd rhywogaethau yn helpu i reoli sefydliad glaswelltau grymus. Yn y gwanwyn a’r haf, byddai sefydlu dolydd blodau gwyllt hefyd yn gwella golwg y dref i’r rhai sy’n gadael neu’n cyrraedd drwy’r B4325.

7.21 Mae arwyddion yn chwarae rhan bwysig wrth gyfleu i’r cyhoedd fuddion sefydlu dôl blodau gwyllt. Gall hyn helpu i oresgyn canfyddiadau o ‘annibendod’ drwy hybu ymwybyddiaeth ynghylch pwysigrwydd peillwyr.

7.22 Ar y llethrau isaf, byddai’n briodol plannu coed ychwanegol ar raddfa fach. Fodd bynnag, dylid cadw golygfeydd ar draws Aberdaugleddau.

 

Ffigur 7.6: NEY12

 

Buddion y prosiect

7.23 Ymhlith buddion y prosiect, fel y’u darlunnir yn Ffigur 7.7 isod, mae:

  • Buddsoddiad a gwell profiad i ymwelwyr
  • Lle i fywyd gwyllt a gwytnwch ecolegol
  • Chwarae, addysg a rhyngweithio â natur
  • Atgyfnerthu ymdeimlad o le
  • Gwella iechyd a lles

 

Ffigur 7.7: Buddion

 

Mecanweithiau cyflawni

7.24 Dylid integreiddio toriadau blynyddol o ddolydd blodau gwyllt i raglen waith Tîm Cynnal a Chadw Amwynderau / Gofal Stryd Cyngor Sir Penfro.

7.25 Dylid cyflenwi dolydd blodau gwyllt a’r berllan gymunedol yn unol ag adran gyflawni’r Strategaeth Peillwyr.

7.26 Efallai y bydd gofyn lleihau ffrwythlondeb pridd er mwyn hyrwyddo sefydlu dolydd blodau gwyllt yn llwyddiannus. Gellid cyflawni hyn drwy dynnu’r 5-10 cm uchaf o bridd yn yr ardal lle byddai’r ddôl wlyb yn cael ei chreu. Yr hydref yw’r amser gorau posibl i hau hadau blodau gwyllt i ddarparu’r arddangosfa gynharaf o flodau gwyllt y flwyddyn ganlynol. Fodd bynnag, gellir plannu hadau blodau gwyllt drwy gydol y flwyddyn a byddent yn dechrau blodeuo ar ôl tua 60-80 diwrnod.

 

Partneriaid posibl
  • Tîm Cynnal a Chadw Amwynderau / Gofal Stryd CSP
  • Wardeniaid Coed Sir Benfro
  • Cyngor Tref Neyland
  • Partneriaeth Natur Sir Benfro
  • Grŵp Dolydd Sir Benfro

 

Cost amlinellol

 

Cost isel = <£250k

7.27 Fel y’i disgrifiwyd yn adran gyflawni’r Strategaeth Peillwyr, gall dolydd blodau gwyllt mewn gwirionedd arbed arian drwy lai o dorri gwair. Gall buddsoddi mewn peiriant torri a chasglu hefyd helpu arbedion cyffredinol ar gostau llafur o gasglu toriadau. Mae cost hadau blodau gwyllt yn debygol o fod yn isel, ond byddai’r ffigur hwn yn uwch pe byddai planhigion plwg neu dyweirch blodau gwyllt yn cael eu defnyddio yn hytrach.

 

Cyfleoedd ariannu posibl
  • Cronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur
  • Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol

 

Amserlen

 

Cam cyflym ymlaen = <1 flwyddyn

7.28 Gan ddibynnu ar ffrwythlondeb pridd ac a ydy blodau gwyllt yn cael eu hau ar ôl yr Hydref, gall fod yn wir nad yw’r hadau’n blodeuo tan ar ôl eu tymor gaeaf cyntaf.

 

Cyfyngiadau posibl

7.29 Dylid ystyried sut i gasglu’r toriadau a’u gwaredu o’r ddôl flodau gwyllt er mwyn atal cyfoethogi’r pridd. Y ffordd fwyaf effeithlon o wneud hynny yw defnyddio peiriant torri a chasglu gwair ond mae angen buddsoddiad cyfalaf ar hyn. Fel arall, dylid casglu sgil-gynhyrchion yn gyntaf yn rhesi sydd wedyn yn cael eu casglu’n bentyrrau unigol. Gall hyn fod yn llafurddwys.

7.30 Gall fod canfyddiad bod dolydd blodau gwyllt yn anniben neu’n flêr, yn enwedig cyn ac ar ôl i flodau flodeuo. Gallai hynny arwain at gwynion gan y cyhoedd. Gall arwyddion i gyfleu buddion tyfu dolydd blodau gwyllt helpu i gynyddu dealltwriaeth ac addysg ynghylch pwysigrwydd peillwyr.

 

Cynnal a chadw a stiwardiaeth

7.31 Mae angen torri a chodi dôl blodau gwyllt ar ddiwedd y tymor. Fel arfer ym mis Medi y mae hyn yn digwydd. Yn ddelfrydol, dylid gadael y sgil-gynhyrchion am saith diwrnod i daflu hadau cyn cael eu gwared. Efallai y bydd angen torri a chodi eildro tua dechrau’r gwanwyn i gael gwared ar dyfiant y gaeaf. Mae angen gofal wrth dorri gwair oherwydd gall fod mamaliaid bychain, amffibiaid ac ymlusgiaid fod yn cuddio yn y glaswellt. Mae rhai adar yn nythu mewn dolydd mwy o faint, felly ni ddylid torri gwair tan ar ôl dechrau mis Awst. Dylid rheoli rhywogaethau trechol fel danadl poethion a dail tafol drwy bladurio neu hofio detholus.

7.32 Dylid osgoi defnyddio gwrtaith, plaladdwyr a phryfleiddiaid.

 

Monitro ar gyfer llwyddiant

7.33 Dylai monitro gyd-fynd â chynlluniau cenedlaethol. Mae Cynllun Monitro Peillwyr y DU yn cynnal Cyfrifiadau Blodau-Pryfed wedi’u Hamseru (Cyfrifiadau FIT). Mae hyn yn golygu cyfrif y pryfed sy’n ymweld ag un o flodau targed y 14 rhywogaeth o flodau o fewn llain sgwâr 50cm wrth 50cm am 10 munud. Gellid annog trigolion ac ysgolion lleol i gymryd rhan yn hyn fel menter gwyddoniaeth dinasyddion. Fel arall, gellir cofnodi ‘rhywogaethau dangosydd’ planhigion o fewn sgwâr 1km i fonitro amrywiaeth rhywogaethau.

 

Camau nesaf

7.34 Adolygu adran gyflawni’r Strategaeth Peillwyr i benderfynu ar y broses ac adolygu astudiaethau achos yn ymwneud â chreu dolydd blodau gwyllt. Ymgysylltu â Thîm Cynnal a Chadw Amwynderau / Gofal Stryd CSP i gyfleu’r drefn torri gwair arfaethedig.

 

Ffigur 7.8: Neyland


Yn ôl i’r top

 

NEY16 – Cyflwyno plannu coed a gwyrddu stryd yn Ysgol Gymunedol Neyland

7.35 Mae Ysgol Gymunedol Neyland a Hyb Cymunedol / Maes Athletau Neyland wedi’u lleoli’n eithaf canolog yn yr anheddiad ac yn ffurfio’r ardaloedd mwyaf o fannau gwyrdd yn y cyd-destun trefol. Mae gan Neyland ganran dipyn yn is o orchudd canopi o’i gymharu ag aneddiadau eraill yn Sir Benfro, sef tua 9.7%. Byddai cyfleoedd plannu coed, yn enwedig o amgylch ymylon caeau, yn cynnig manteision lliniaru llifogydd ac yn helpu i greu coridor bywyd gwyllt sy’n cysylltu’r safle â’r coetiroedd hynafol i’r dwyrain. Byddai’r ymyriad hefyd yn anelu at ddarparu cysylltiadau ehangach â Gwarchodfa Natur Westfield Pill, gan wella amrywiaeth ecolegol.

7.36 Mae’r prosiect yn galluogi amrywiaeth o fuddion addysgol y gellid eu cysylltu â’r cwricwlwm ac a allai ddarparu cyfleoedd ymarferol i ymgysylltu â myfyrwyr. Gallai plannu coed hefyd gynnwys datblygu cysyniad ehangach o Ysgol Goedwig gyda’r bwriad o ddatblygu cysylltiadau â’r byd naturiol.

 

Ffigur 7.9: NEY16

 

Buddion y prosiect

7.37 Ymhlith buddion y prosiect, fel y’u darlunnir yn Ffigur 7.10 isod, mae:

  • Lleihau risg llifogydd
  • Gwella ansawdd dŵr
  • Lle i fywyd gwyllt a gwytnwch ecolegol
  • Chwarae, addysg a rhyngweithio â natur
  • Gwella ansawdd aer a rheoleiddio sŵn
  • Rhyngweithio cymdeithasol a chydlyniant cymunedol
  • Atgyfnerthu ymdeimlad o le
  • Oeri trefol
  • Gwella iechyd a lles
  • Dal a storio carbon a lliniaru effeithiau newid hinsawdd

 

Ffigur 7.10: Buddion

 

Mecanweithiau cyflawni

7.38 Dylid cefnogi Ysgol Gymunedol Neyland i gyflawni ac arwain y prosiect, a hynny efallai mewn cydweithrediad â Chyngor Tref Neyland. Os oes modd, gall fod yn fuddiol ymgysylltu â gweithiwr proffesiynol Ysgol Goedwig i gefnogi cyflwyno sesiynau ysgol a helpu i gael yr effaith fwyaf posibl o ran addysg amgylcheddol ehangach.

7.39 Dylid sefydlu rhaglen blannu flynyddol er mwyn cynllunio, darparu a rheoli’n llwyddiannus y gwaith o blannu coed newydd dros y cyfnod sefydlu 60 mis. Mae angen digon o gynllunio cyn y tymor plannu gwreiddiau moel (mis Hydref i fis Mawrth fan pellaf) i sicrhau bod archwiliadau daear / profion pridd yn cael eu cwblhau.

7.40 Dylid darparu coed yn unol ag adran gyflawni’r Strategaeth Plannu Coed Trefol.

 

Partneriaid posibl
  • Ysgol Gymunedol Neyland
  • Cyngor Tref Neyland
  • Hyb Cymunedol Neyland
  • Y gymuned Leol
  • Tîm Cynnal a Chadw Amwynderau / Gofal Stryd Cyngor Sir Penfro (CSP)
  • Wardeniaid Coed Sir Benfro

 

Cost amlinellol

 

Cost isel = <£250k

7.41 Byddai’r gost yn debygol o fod yn isel ond yn ddibynnol ar allu’r ysgol i reoli’r prosiect. Dylid ceisio cyfleoedd i nodi ‘rhoddion coed am ddim’ i ysgolion sy’n aml ar gael rhwng mis Tachwedd a mis Mawrth (e.e. Coed Cadw a’r Cyngor Coed).

 

Cyfleoedd ariannu posibl
  • Coed Cadw (‘rhoddion coed am ddim’)
  • CSP
  • Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
  • Cronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur
  • Y Cyngor Coed

 

Amserlen

 

Cam cyflym ymlaen = <1 flwyddyn

7.42 Er mwyn rhoi cyfle i ymgysylltu â’r nifer mwyaf o fyfyrwyr, mae’n debygol y byddai’n fuddiol estyn gwaith plannu dros nifer o dymhorau. Gellid gwneud rhywfaint o blannu cychwynnol o fewn y flwyddyn gyntaf.

 

Tymor canolig = 1-5 mlynedd

7.43 Byddai angen i waith plannu, cynnal a monitro coed estyn dros y cyfnod sefydlu 60 mis.

 

Cyfyngiadau posibl

7.44 Byddai angen i leoliadau plannu ystyried swyddogaeth bresennol y safle, gan gynnwys chwaraeon a defnyddio’r cae chwarae.

7.45 Byddai angen hefyd ystyried diogelwch a chynnal llinellau gweld i mewn ac allan o’r safle.

 

Cynnal a chadw a stiwardiaeth

7.46 Dylai adran gyflawni’r Strategaeth Plannu Coed Trefol hysbysu’r gwaith sefydlu a chynnal a chadw. Dylai gwaith cynnal a chadw parhaus gynnwys cyfraniad gan fyfyrwyr, gan ddarparu cyfranogiad ymarferol mewn cyfleoedd dysgu parhaus. Efallai y bydd gofyn ymgysylltu â grwpiau cymunedol neu gontractwr i sicrhau bod dyfrio’n parhau drwy gydol gwyliau’r ysgol, yn enwedig yn ystod misoedd yr haf ar gyfer y cyfnod sefydlu o 60 mis.

 

Monitro ar gyfer llwyddiant

7.47 Byddai mesurau ar gyfer llwyddiant yn cynnwys nifer y coed a blannwyd a nifer y myfyrwyr a’r grwpiau cymunedol sy’n cymryd rhan.

7.48 Gallai sefydlu cynnig Ysgol Goedwig newydd neu well fod yn uchelgais tymor hir.

 

Camau nesaf

7.49 Dylai ymgysylltu cychwynnol ag Ysgol Gymunedol Neyland gynnwys datblygu cynllun prosiect, rhaglen amlinellol a chyfleoedd i gysylltu â’r cwricwlwm. Dylid hefyd nodi arweinydd prosiect o fewn yr ysgol sydd yn gallu goruchwylio’r gwaith ymarferol.

7.50 Dylid ystyried y gymysgedd rhywogaethau fwyaf priodol, wedi’i llywio gan adran gyflawni’r Strategaeth Plannu Coed Trefol. Byddai dewis rhywogaethau brodorol yn debygol o fod yn flaenoriaeth er mwyn cryfhau a gwella cysylltedd ecolegol â’r darnau o goetir presennol.

Yn ôl i’r top

 

Rhestr Hir o Brosiectau

 

NEY1 – Gwyrddu Cei Brunel ymhellach

7.51 Dylid adennill lle o’r maes parcio ar gyfer mannau gwyrdd ychwanegol a dylent gynnwys coed, cafnau plannu uwch, lleoedd parcio beiciau, gorsafoedd gwefru beiciau trydan a llogi beiciau trydan. Dylai’r lle ar ei newydd wedd gynnwys plannu coed sbesimen, plannu morydol, mannau eistedd, dehongli treftadaeth, offer chwarae naturiol, ardaloedd o reolaeth lac ar ddolydd a dynodi llwybrau’n well gyda Llwybr Brunel. Dylid plannu coed o amgylch ymyl y man gwyrdd i ddarparu ardaloedd o gysgod. Dylid plannu planhigion plwg, gan gynnwys cennin Pedr Dinbych-y-pysgod, o dan ganopi coed i greu ffynonellau bwyd ychwanegol ar gyfer peillwyr.

 

NEY2 – Gwella mynediad o’r glannau i Westfield Pill

7.52 Yn dilyn aliniad cledrau’r hen reilffordd, dylid eglurhau’r mynediad drwy unedau diwydiannol glan y cei, darparu marciau arwyneb a chyflwyno dehongli i gyfeirio pobl drwy’r lle. Gan ffurfio rhan o Lwybr Brunel ehangach, ceir cyfle i greu llwybr cydlynol o Gei Brunel. Gellid edrych hefyd ar lwybrau mynediad ychwanegol ar hyd Ffordd yr Orsaf. Dylid addasu’r drefn torri gwair a hau dôl blodau gwyllt ar hyd y llwybr hwn i wella’r gwerth esthetig a bioamrywiaeth.

 

NEY3 – Gwella Parc Harbour Close

7.53 Dynodi llwybrau’n well a gwella mynedfeydd i Barc Harbour Close o Victoria Close, Belle Vue Street a Church Way drwy agor llinellau gweld a chael gwared ar driniaethau ffiniau anghroesawgar. Gwella darpariaeth chwarae o fewn y safle drwy ddarparu llwybrau chwarae naturiol a byrddau addysg ynghyd â gwelliannau cynefinoedd a gwestai pryfed. Dylid ystyried hefyd sut mae mannau eistedd yn darparu ar gyfer merched yn eu harddegau, sef demograffeg a anghofir yn aml. Dylid cyflwyno gwrychoedd, llwyni bwytadwy a blodau gwyllt ar hyd ffin y parc.

 

NEY4 – Defnyddio atebion seiliedig ar natur i fynd i’r afael â materion ansawdd dŵr

7.54 Cyfeirier at y Prosiectau Cicdanio.

 

NEY5 – Cyflwyno plannu coed yn Hyb Cymunedol a Maes Athletau Neyland

7.55 Ystyried ail-blannu’r pedwar cafn plannu uwch wrth fynedfa Hyb Cymunedol Neyland. Dylid plannu coed brodorol yn y rhain a’u hategu drwy blannu rhagor o goed o fewn y llain laswellt i’r cefn. Dylid plannu coed ychwanegol hefyd ar hyd ffiniau’r caeau chwaraeon i ehangu a gwella’r rhwydwaith gwrychoedd presennol.

 

NEY6 – Gwella mynediad i’r man gwyrdd sy’n eiddo i’r cyngor y tu ôl i’r Maes Athletau

7.56 Ar hyn o bryd, cyfyngir ar fynediad at y tir sy’n eiddo i Gyngor Sir Penfro (CSP) y tu ôl i’r Maes Athletau. Dylid ystyried gwella’r mynediad a’r arwyddion o Hyb Cymunedol Neyland ac o ddyraniad presennol y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) i’r gogledd i ddarparu lle hamdden gwerthfawr i gymunedau cyfagos. Byddai cyflwyno coed ffrwythau a llacio’r drefn torri gwair yn cynnig gwelliannau ychwanegol ar gyfer bioamrywiaeth. Dylai’r cynllun gynnwys cyfeiriad at y llwybr cyd-ddefnyddio arfaethedig sy’n cysylltu Poppy Drive gyda Sportsway.

 

NEY7 – Creu llwybr peillwyr ar hyd Llwybr Brunel

7.57 Dylid cyflwyno planhigion plwg ar hyd ymylon y llwybr hwn gan gysylltu Neyland â Hwlffordd, gan sicrhau bod stribed torri gwair yn cael ei gynnal yn gyfochrog ag ymyl y llwybr. Mewn ardaloedd agored ehangach, dylid creu dolydd blodau gwyllt. Dylid hefyd plannu coed ffrwythau ar hyd y llwybr er mwyn creu coridor bwytadwy. Dylid tynnu a dileu rhywogaethau goresgynnol lle bo hynny’n bresennol. Dylai cynigion gyd-fynd â’r cynlluniau presennol i ddileu rhwystrau yn fodd o wella mynediad i bawb.

 

NEY8 – Gwella’r cynefin a’r mynediad yn Nhir Comin Bro Neyland

7.58 Dylid creu llennyrch a llwybrau meirch yn y coetir er mwyn annog fflora daear amrywiol. Creu llwybr mynediad ar gyfer crwydro drwy’r coetir. Dylid dynodi llwybrau i gysylltu datblygiad preswyl newydd yn Victoria Close gyda Bro Neyland. Mae’r llystyfiant o gwmpas perimedr y pwll wedi tyfu’n wyllt ac yn tynnu oddi wrth werth y pwll ar gyfer bioamrywiaeth. O ganlyniad, dylid torri coed aeddfed a phrysgwydd yn ôl i gynyddu golau ac annog llystyfiant dyfrol ymylol i ffynnu. Dylid hefyd gwaredu coed mêl a chlymog Japan goresgynnol.

 

NEY9 – Ehangu nifer y gwelyau blodau brodorol

7.59 Plannu gwelyau, borderi a photiau blodau sy’n denu peillwyr mewn llecynnau heulog cysgodol i ddarparu bwyd o ddechrau’r gwanwyn i’r gaeaf. Mae plannu blociau o’r un math o flodau yn arbed amser i beillwyr gan y gallant symud o’r naill flodyn i’r llall yn gyflymach. Dylid osgoi defnyddio cemegau niweidiol. Gall fod lleoliadau addas yn yr ardaloedd eistedd ger Windsor Gardens, y Promenâd ac yng Nghei Brunel. Byddai hyn yn darparu cysylltedd ychwanegol â’r gwelyau blodau trawstiau ar Neyland Terrace a Railway Terrace.

 

NEY10 – Gwella gwerth bioamrywiaeth man gwyrdd Westfield Drive

7.60 Estyn y planhigion gwrych sy’n ffinio â’r A477 a llwybr cyd-ddefnyddio drwy blannu coed brodorol a phrysgwydd i ddarparu cymhlethdod strwythurol ychwanegol, lloches, bwyd, a safleoedd nythu. Dylid cyflwyno hefyd stribedi blodau gwyllt o amgylch yr ymylon i ddarparu neithdar i beillwyr.

 

NEY11 – Cyflwyno dolydd blodau gwyllt a choed yn Honeyborough Green

7.61 Mae Honeyborough Green wedi’i ddynodi’n dir comin a gellid ei wella ymhellach trwy blannu coed ychwanegol. Dylid darparu ar gyfer olyniaeth coed yn y dyfodol, gan gynnwys cynllunio ar gyfer ailblannu oherwydd clefyd coed ynn (Hymenoscyphus fraxineus). Byddai’r ymyriadau hyn yn darparu ardaloedd ychwanegol o oeri a chysgod ym misoedd yr haf. Gellid plannu blodau gwyllt mewn ardaloedd o’r maes i ddarparu cynefinoedd peillwyr cysylltiedig a gwella golwg y man gwyrdd. Dylai cynigion ategu cynigion llwybr cyd-ddefnyddio ehangach sy’n cysylltu’r A477 â Neyland.

 

NEY12 – Creu ymylon blodau gwyllt ar hyd y Promenâd

7.62 Cyfeirier at y Prosiectau Cicdanio.

 

NEY13 – Gwyrddu’r Stryd Fawr ymhellach

7.63 Cyflwyno coed stryd mewn nodau allweddol neu drwy ail-ffurfweddu mannau parcio presennol ar hyd y Stryd Fawr. Dylid datblygu cynigion ar y cyd â chynigion ehangach i weithredu llwybr cyd-ddefnyddio ar hyd y Stryd Fawr. Dylid hefyd annog busnesau a thrigolion lleol i osod blychau ffenestri gyda phlanhigion ffrydiol sy’n denu peillwyr lle bo hynny’n bosibl.

 

NEY14 – Hyrwyddo gwyrddu Riverside Avenue

7.64 Ceir cyfle i ymgorffori plannu coed o fewn y llain ganolog bresennol ar Riverside Avenue (os yw gwasanaethau’n caniatáu). Dylid dewis rhywogaethau brodorol lle bo modd. Dylid plannu coed hefyd a llacio’r drefn torri gwair ar y lleiniau ymyl ffordd glaswellt yn Riverside Avenue a Harbour Close.

 

NEY15 – Darparu mynediad a gwelliannau bioamrywiaeth i fan gwyrdd Cambrian Road

7.65 Ceir golygfeydd gwych o’r aber o Cambrian Road. Fodd bynnag, ar hyn o bryd mae llethr serth y man gwyrdd yn cyfyngu ar fynediad i gerddwyr. Gellid ychwanegu grisiau a llwybr pren ar oleddf ysgafn yn y lleoliad hwn i ddarparu mynediad o Farina Neyland i ganol y dref. Dylid llacio’r drefn torri gwair ar y llethrau serth a hau blodau gwyllt yno i greu dôl ddeniadol. Gellid hefyd ystyried plannu coed ychwanegol, gan sicrhau bod golygfeydd pell yn cael eu cadw.

 

NEY16 – Cyflwyno plannu coed a gwyrddu stryd yn Ysgol Gymunedol Neyland

7.66 Cyfeirier at y Prosiectau Cicdanio.

 

NEY17 – Estyn Gwarchodfa Natur Westfield Pill

7.67 Gorwedda Gwarchodfa Natur Westfield Pill o fewn Parth Llifogydd 3, sydd gerllaw cwrs dŵr Westfield Pill a llyn sy’n llifo i Aber y Ddau Gleddau. Byddai estyn y safle hwn, yn enwedig ar hyd yr ymylon dwyreiniol amaethyddol, yn gweithredu fel storfa gorlifdir gan amddiffyn rhag ymchwyddiadau llanw a gwella amrywiaeth ecolegol yr ardal.

Yn ôl i’r top

 

Pennod flaenorol:

Trefdraeth

 

Pennod nesaf:

Penfro

 

Dychwelyd i’r hafan:

Hafan