Cynnwys Tudalen:
Portread o Seilwaith Gwyrdd Penfro
Penfro
Ffigur 8.1: Penfro
Portread o Seilwaith Gwyrdd Penfro
8.1 Mae tref hynafol Penfro yn cadw cymeriad hanesyddol i raddau helaeth o fewn ei chraidd dwys ei aneddiadau. Ar dafod o dir sy’n ymwthio allan i Afon Penfro a’r Pwll Melin, mae hen ganol y dref yn cael ei amlinellu gan sylfeini muriau canoloesol, sy’n gysylltiedig â Chastell Penfro sydd wedi’i ddynodi’n Heneb Gofrestredig ac yn adeilad Rhestredig Gradd I. Ar hyd Main Street sy’n arwain at y castell mae nifer o adeiladau rhestredig, sy’n cyfrannu at y cymeriad hanesyddol cyffredinol.
8.2 O ganlyniad yn rhannol i statws treftadaeth Penfro, mae’r dref wedi’i chysylltu’n dda â’r rhanbarth ehangach. Yn ogystal â gorsaf drenau, mae nifer o lwybrau cerdded a beicio hamdden sy’n ymledu o ganol y dref. Mae llwybrau cerdded a beicio ar hyd Afon Penfro yn cadw golygfeydd ardderchog o’r castell a chanol hanesyddol y dref, gan eu gwneud yn boblogaidd ymysg twristiaid. Mae Llwybr Cenedlaethol, sef Llwybr Arfordir Penfro, yn dilyn glannau Afon Penfro ac ar hyd ymyl gorllewinol y dref. Daw llwybr 4 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol (NCN) drwy ganol y dref hefyd. Fodd bynnag, mae rhai ardaloedd o’r dref, gan gynnwys y cymdogaethau deheuol a gogledd-ddwyreiniol, heb fynediad i’r rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus, yn enwedig lle mae’r rheilffordd yn rhwystro symudiad.
8.3 Ceir nifer o fannau agored yn y dref sy’n bennaf yn cynnwys tiroedd hamdden neu fannau gwyrdd mwynder. Mae’r Tir Comin Uchaf a’r Tir Comin Isaf yn barciau cyhoeddus llinol ychydig i’r de o ganol y dref ac maent hefyd wedi’u cysylltu’n dda â’r rhwydwaith o lwybrau hamdden. Ceir nifer o fannau agored llai o faint i’r dwyrain a’r gorllewin o’r parciau hyn ac maent yn creu cyfleoedd i fywyd gwyllt symud ymhellach.
Ffigur 8.2: Cyfleoedd SG ym Mhenfro
Prosiectau Cicdanio
PEM2 – Gwella bioamrywiaeth a rheoli llifogydd naturiol yn Nhir Comin Penfro
8.4 Nodweddir y tiroedd Comin Uchaf ac Isaf gan fan agored llinol tuag 850m o hyd, a ddiffinnir yn bennaf gan fan gwyrdd amlswyddogaethol wedi’i rannu’n ddau gan nant. Gan fod y safle o fewn parth llifogydd, ceir cyfle i ad-drefnu rhai rhannau o sianel yr afon o fewn y Tir Comin Uchaf i greu gwalau gwlyptir ac ardaloedd cadw llifogydd. Mae gwalau’n cynnal amrywiaeth o fywyd gwyllt dyfrol, yn enwedig planhigion gwlyptir a phryfed fel chwilod dŵr, gweision y neidr a phryfed hofran sy’n peillio. Dylid hefyd ystyried cyflwyno isdyfiant prysg i wella bioamrywiaeth, gan sicrhau cadw llinellau gweld ar yr un pryd. Mae angen clirio cegid (Conium maculatum) hefyd ar hyd yr afon i hyrwyddo sefydlu fflora dyfrol a chaniatáu i ddŵr lifo’n effeithlon yn ystod digwyddiadau llifogydd.
8.5 Mae cyllid Lleoedd Lleol ar gyfer Natur wedi cefnogi sefydlu dolydd blodau gwyllt yn y Tiroedd Comin Uchaf ac Isaf. Mae’r cynefinoedd hyn wedi gwella’r ymylon a’r llwybrau drwy’r mannau gwyrdd yn sylweddol. Byddai estyn yr ymyriad hwn i greu dolydd gwlyb yn y Tir Comin Isaf yn helpu i greu ardal fawr o gynefin peillwyr parhaus ac yn helpu i gadw dŵr ar y safle.
8.6 Dylid creu perllan gymunedol hefyd o fewn ymyl ddeheuol y Tir Comin Isaf, wedi’i gosod o fewn glaswelltir sy’n llawn rhywogaethau. Mae blodau afalau bwyta, afalau coginio ac afalau bach surion rhwng diwedd mis Ebrill a mis Mai yn darparu ffynhonnell fforio gynnar y mae mawr ei hangen ar gyfer gwenyn mêl, cacwn, gwenyn unig a phryfed hofran. Yn ddiweddarach yn y flwyddyn, byddai glöynnod byw (gan gynnwys mentyll cochion ac ieir bach tramor) yn bwydo ar suddion ffrwythau goraeddfed sydd wedi disgyn. Caiff afalau eu himpio fel arfer ar wreiddgyff sy’n pennu pa mor dal maen nhw’n tyfu a pha mor gyflym maen nhw’n dwyn ffrwyth. Gall tyfu mathau lleol hefyd helpu busnesau lleol i hyrwyddo eu cynnyrch.
8.7 Er mwyn gwella mynediad ac apêl weledol, dylid ail-baentio rheiliau perimedr, ac adfer neu ddisodli pontydd adfeiliedig. Dylai gwaith arfaethedig ategu cynigion i uwchraddio’r rhwydwaith presennol o droedffyrdd i lwybrau cyd-ddefnyddio yn rhan o gyllid Llwybrau Diogel mewn Cymunedau.
Ffigur 8.3: PEM2
Buddion y prosiect
8.8 Ymhlith buddion y prosiect, fel y’u darlunnir yn Ffigur 8.4 isod, mae:
- Lleihau risg llifogydd
- Gwella ansawdd dŵr
- Buddsoddiad a gwell profiad i ymwelwyr
- Lle i fywyd gwyllt a gwytnwch ecolegol
- Chwarae, addysg a rhyngweithio â natur
- Gwella ansawdd aer a rheoleiddio sŵn
- Rhyngweithio cymdeithasol a chydlyniant cymunedol
- Atgyfnerthu ymdeimlad o le
- Gwella iechyd a lles
- Dal a storio carbon a lliniaru effeithiau newid hinsawdd
Ffigur 8.4: Buddion
Mecanweithiau cyflawni
8.9 Dylid cyflenwi dolydd blodau gwyllt a’r berllan gymunedol yn unol ag adran gyflawni’r Strategaeth Peillwyr.
8.10 Lle bo’n ymarferol, dylid integreiddio’r cyflenwi yn rhaglen waith Tîm Cynnal a Chadw Amwynderau / Gofal Stryd Cyngor Sir Penfro (CSP). Efallai y bydd contractwyr a / neu beiriannau ychwanegol yn ofynnol i greu’r gwalau gwlyptir a’r ardaloedd cadw llifogydd, ac i ailosod y pontydd adfeiliedig.
8.11 Er mwyn osgoi tyfiant glaswellt grymus, efallai y bydd gofyn lleihau ffrwythlondeb pridd drwy dynnu’r 5-10 cm uchaf o bridd yn yr ardal lle mae’r ddôl wlyb yn cael ei chreu. Yr hydref yw’r amser gorau posibl i hau hadau blodau gwyllt i sicrhau’r arddangosiad cynharaf o flodau gwyllt y flwyddyn ganlynol. Fodd bynnag, gellir plannu hadau blodau gwyllt drwy gydol y flwyddyn a byddant yn dechrau blodeuo ar ôl tua 60-80 diwrnod.
Partneriaid posibl
- Cyngor Tref Penfro
- Partneriaeth Natur Leol Sir Benfro
- Busnesau lleol
- Cwmni Buddiannau Cymunedol 21C Penfro
Cost amlinellol
Cost isel = <£250k
8.12 Yn y gorffennol, amcangyfrifwyd mai £45k oedd cost paentio’r rheiliau a’r croesfannau pont newydd. Mae cost hadau blodau gwyllt yn debygol o fod yn isel, ond byddai’r ffigur hwn yn uwch pe byddai planhigion plwg neu dyweirch blodau gwyllt yn cael eu defnyddio.
Cyfleoedd ariannu posibl
- Cronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur;
- Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol; a
- Grant Llwybrau Diogel mewn Cymunedau
Amserlen
Tymor canolig = (1-5 mlynedd)
8.13 Gan ddibynnu ar ffrwythlondeb pridd ac a ydy blodau gwyllt yn cael eu hau ar ôl yr Hydref, gall fod yn wir nad yw’r hadau’n blodeuo tan ar ôl eu tymor gaeaf cyntaf. Yn yr un modd, gall gymryd nifer o flynyddoedd i goed afalau aeddfedu a dwyn ffrwyth gan y byddai hyn yn ddibynnol ar y math o goeden afalau sy’n cael ei phlannu, amodau’r pridd a maint y stoc.
Cyfyngiadau posibl
8.14 Byddai sefydlu llystyfiant dyfrol ymylol a chreu ardaloedd cadw llifogydd yn bwysig i lwyddiant y ddôl oherwydd, fel arall, gallai cyfoethogi maethol yn ystod digwyddiadau llifogydd atal y ddôl rhag sefydlu.
8.15 Efallai y bydd cefnogaeth busnesau neu’r gymuned leol yn ofynnol i sicrhau rheolaeth hirdymor ar y perllannau. Efallai y bydd angen dod i gytundebau ar gyfrifoldebau iechyd a diogelwch a buddiolwyr y ffrwyth sy’n tyfu. Mae perygl hefyd y gallai’r coed ffrwythau gael eu difrodi yn sgil ymddygiad gwrthgymdeithasol.
8.16 Planhigyn gwenwynig yw cegid. Gall torri neu ladd planhigion cegid achosi ail-egino ac allyrru mygdarthau gwenwynig os ydynt eisoes wedi aeddfedu. Mae angen gwaredu’r prif wreiddyn i gyd i atal y planhigyn rhag aildyfu.
Cynnal a chadw a stiwardiaeth
8.17 Efallai y bydd angen gwaith torri gwair sylfaenol, rheoli llystyfiant a chynnal a chadw cyffredinol ar yr ardal gadw. Yn ogystal, efallai y bydd angen trwsio erydiad ar ôl digwyddiad llifogydd. Byddai angen clirio llystyfiant sydd wedi tyfu’n wyllt neu sy’n hongian ar hyd y nant bob hyn a hyn hefyd. Byddai angen torri ardaloedd o ddôl wlyb ar ddiwedd y tymor blodeuo, gan adael y sgil-gynhyrchion yn eu lle am saith diwrnod er mwyn caniatáu i’r hadau ollwng.
8.18 Dylid ymgysylltu â’r gymuned leol i fod yn stiwardiaid y berllan. Byddai angen gwaith tocio cynnal a chadw er mwyn cadw’r cydbwysedd rhwng cynhyrchu ffrwythau a thyfiant llystyfiant.
8.19 Byddai gofyn i’r rheolwyr atal chwyn rhag cystadlu â choed a dôl sydd newydd eu plannu am ddŵr a maetholion.
8.20 Dylid trefnu gwaith ar y nant yn ystod diwedd yr hydref a’r gaeaf pan fydd y rhan fwyaf o’r ffawna dyfrol yn gaeafu a / neu’n llai gweithgar drwy’r golofn ddŵr.
Monitro ar gyfer llwyddiant
8.21 Os bydd yn llwyddiannus, dylai’r prosiect ddarparu perllan draddodiadol wedi’i rheoli’n dda gydag amrywiaeth o hen goed a choed ifanc iach. Mae hyn yn cynnwys mosaig gwlyptir-glaswelltir sefydledig sy’n ferw o infertebratau, adar a blodau gwyllt. Dylid cynnal arolygon cyfoeth rhywogaethau i fonitro llwyddiant.
Camau nesaf
8.22 Adolygu adran gyflawni’r Strategaeth Peillwyr i benderfynu ar y broses ac adolygu astudiaethau achos o greu dolydd blodau gwyllt a pherllannau cymunedol. Adolygu adran gyflawni’r Strategaethau Plannu Coed Trefol i ddeall y cydrannau allweddol ar gyfer sefydlu coed yn llwyddiannus.
8.23 Ymgysylltu ag aelodau’r cyngor, trigolion a grwpiau cymunedol i ganfod pwy fyddai â chyfrifoldeb cyffredinol am y berllan yn y Tir Comin Isaf.
Ffigur 8.5: Penfro
PEM3 – Gwella bioamrywiaeth leol a chymeriad tirwedd y Maes Glas
8.24 Mae’r Maes Glas yn ffurfio darn siâp cilgant o fan gwyrdd mwynder wedi’i ffinio gan erddi cefn St Ann’s Crescent a Golden Hill Road. Ar hyn o bryd, nodweddir y lle gan ystod fawr o laswellt a dorrir yn fyr gydag offer chwarae metel, a golwg flinedig ar rai ohonynt. Yn y rhyngwyneb rhwng y gerddi cefn a’r Maes Glas, y prif nodweddion yw llwyni wedi tyfu’n wyllt, mieri a waliau brisbloc noeth. Mae nifer o fonion coed o fewn y ffin hon, sy’n darparu nodwedd bwysig o ran cynefinoedd i infertebratau. Mae rhai bylbiau wedi’u plannu eisoes, gan gynnwys cennin Pedr, hefyd ar hyd y ffin. Er nad oes talcenni preswyl gweithredol yn wynebu’r lle, mae’r Maes Glas yn mwynhau gwyliadwriaeth naturiol gymharol o ffenestri ail lawr cyfagos a Golden Hill Road, sydd hefyd yn llwybr bws.
8.25 Dylai’r prosiect hwn weithio gyda thrigolion lleol i gyd-greu man newydd sy’n groesawgar ac yn hygyrch i bawb. Gallai hyn ymgorffori amrywiaeth o blannu coed megis perllannau, coed sbesimen, coedlannau bychain a rhai coed ffin ar hyd y ffordd (gan sicrhau bod gwyliadwriaeth naturiol o’r ffordd a’r tai cyfagos yn cael ei chynnal). Dylid cael offer chwarae naturiol, gan gynnwys clogfeini dringo, cerrig sarn a boncyffion cydbwyso, yn lle’r offer chwarae adfeiliedig. Gellid gosod setiau siglenni cymdeithasol, mannau perfformio, bariau dringo a seddi anffurfiol i greu lle mwy croesawgar ar gyfer demograffeg a anghofir yn aml, fel merched yn eu harddegau. Byddai ychwanegu ystodau o flodau gwyllt o amgylch ffiniau’r lle yn lleihau risg sathru, gan hefyd greu ardaloedd tawelach i bobl eistedd, mwynhau a rhyngweithio â byd natur, yn ogystal â darparu ar gyfer nodweddion cynefin ychwanegol fel pentyrrau boncyffion a gwestai pryfed.
Ffigur 8.6: PEM3
Buddion y prosiect
8.26 Ymhlith buddion y prosiect, fel y’u darlunnir yn Ffigur 8.7 isod, mae:
- Lleihau risg llifogydd
- Lle i fywyd gwyllt a gwytnwch ecolegol
- Chwarae, addysg a rhyngweithio â natur
- Rhyngweithio cymdeithasol a chydlyniant cymunedol
- Atgyfnerthu ymdeimlad o le
- Gwella iechyd a lles
Ffigur 8.7: Buddion
Mecanweithiau cyflawni
8.27 Mae’n hanfodol dylunio a chyflawni’r prosiect hwn ar y cyd â’r gymuned er mwyn sicrhau hirhoedledd a stiwardiaeth y lle.
8.28 Mae dolydd blodau gwyllt yn lleihau mewnbynnau adnoddau yn sylweddol yn ystod y tymor tyfu. Fodd bynnag, dylid integreiddio toriadau blynyddol y ddôl i raglen waith Tîm Cynnal a Chadw Amwynderau / Gofal Stryd Cyngor Sir Penfro (CSP).
8.29 Dylid darparu cynefin peillwyr yn unol ag adran gyflawni’r Strategaeth Peillwyr.
8.30 Gall fod yn heriol a drud cyflenwi cynlluniau plannu coed llwyddiannus oherwydd yr amser y mae’n ei gymryd i goed aeddfedu a chost prynu stoc sefydledig. Mae dyluniad pyllau coed, y dyfnder a’r pridd a ddefnyddir a’r dyfrio a’r gwaith cynnal a chadw parhaus yn hanfodol wrth sicrhau sefydliad llwyddiannus ac felly dylid eu gwneud yn unol ag adran gyflawni’r Strategaeth Plannu Coed Trefol.
Partneriaid posibl
- Tîm Cynnal a Chadw Amwynderau / Gofal Stryd CSP
- Preswylwyr lleol
- Wardeniaid Coed Sir Benfro
- Partneriaeth Natur Sir Benfro
- Cyngor Tref Penfro
Cost amlinellol
Cost isel = <£250k
8.31 Byddai cost hadau blodau gwyllt yn is, ond byddai hyn yn cynyddu os dewisir planhigion plwg neu dyweirch blodau gwyllt i greu effaith fwy sydyn. Byddai pris coed newydd yn dibynnu ar eu maint adeg eu prynu ac ar y rhywogaeth. Byddai’r buddsoddiad cyfalaf mwyaf ar gyfer y prosiect hwn yn ymwneud â gosod offer chwarae newydd. Dylid blaenoriaethu darparu nifer lai o ddarnau pwrpasol, gwydn a deniadol dros gyflenwi nifer fwy o ddarnau rhatach o offer.
Cyfleoedd ariannu posibl
- Cronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur
- Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
Amserlen
Tymor canolig = 1-5 mlynedd
8.32 Gan ddibynnu ar ffrwythlondeb y pridd ac a ydy blodau gwyllt yn cael eu hau ar ôl yr Hydref, efallai na fydd yr hadau’n blodeuo tan ar ôl eu tymor gaeaf cyntaf. Yn yr un modd, gall gymryd nifer o flynyddoedd i goed ffrwythau aeddfedu a dwyn ffrwyth, gan ddibynnu ar y math o goeden sydd wedi’i phlannu, amodau’r pridd ac a yw eginblanhigion neu goed tal yn cael eu plannu.
8.33 O ystyried yr agweddau amrywiol ar y prosiect a’r angen i ymgysylltu’n helaeth â’r gymuned, gall y gwaith ddigwydd fesul dipyn dros nifer o flynyddoedd.
Cyfyngiadau posibl
8.34 Byddai angen ymgysylltu â’r gymuned a chael cefnogaeth gymunedol i’r cynigion ar gyfer stiwardiaeth hirdymor y safle.
8.35 Efallai y bydd cefnogaeth busnesau neu’r gymuned leol yn ofynnol i sicrhau rheolaeth hirdymor ar unrhyw goed perllan. Efallai y bydd angen dod i gytundebau ar gyfrifoldebau iechyd a diogelwch a buddiolwyr y ffrwyth sy’n tyfu. Mae perygl hefyd y gallai’r coed ffrwythau gael eu difrodi yn sgil ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Cynnal a chadw a stiwardiaeth
8.36 Gallai’r lle fod yn ased a reolir yn y gymuned i raddau helaeth gyda rhywfaint o fewnbwn gan Dîm Cynnal a Chadw Amwynderau / Gofal Stryd CSP pan fydd angen peiriannau neu fewnbwn garddwriaethol. Mae stiwardiaeth gymunedol yn arbennig o bwysig drwy gydol y blynyddoedd sefydlu cychwynnol (60 mis) i sicrhau bod coed yn cael eu dyfrio’n ddigon aml yn ystod cyfnodau sych a bod polion yn cael eu llacio pan fydd angen.
8.37 Dylid ymgysylltu â’r gymuned leol i fod yn stiwardiaid y berllan. Byddai angen gwaith tocio cynnal a chadw er mwyn cadw’r cydbwysedd rhwng cynhyrchu ffrwythau a thyfiant llystyfiant.
8.38 Byddai gofyn i’r rheolwyr atal chwyn rhag cystadlu â choed a phlanhigion dôl sydd newydd eu plannu am ddŵr a maetholion.
Monitro ar gyfer llwyddiant
8.39 Gall cyfradd oroesi planhigion ac ardaloedd newydd o gynefinoedd y ddôl a sefydlwyd fod yn ddangosyddion i fonitro llwyddiant. Gellid trefnu BioBlitz cymunedol blynyddol i gofnodi’r amrywiaeth o fywyd o fewn ardaloedd o’r ddôl, sefydliad llystyfiant a nodweddion eraill ar y cynefin. Gall ymgysylltu â phrosiectau gwyddoniaeth dinasyddion fel Cynllun Monitro Peillwyr y DU neu drefnu BioBlitz cymunedol blynyddol mewn mannau gwyrdd penodol helpu i gynnwys cymunedau lleol wrth fonitro ymdrechion. Gellid gwneud hyn hefyd mewn partneriaeth ag ysgolion lleol.
Camau nesaf
8.40 Ymgynghori â Thîm Cynnal a Chadw Amwynderau / Gofal Stryd CSP;
8.41 Ymgynghori â thrigolion lleol i benderfynu beth maen nhw am ei gyflawni o’r lle a sicrhau bod proses o gyd-greu yn cael ei mabwysiadu; ac
8.42 Adolygu adrannau cyflawni’r Strategaeth Peillwyr a’r Strategaeth Plannu Coed Trefol i adolygu opsiynau ar gyfer gwella gwerth bioamrywiaeth mannau gwyrdd.
Ffigur 8.8: Penfro
PEM5 – Rheoli maetholion yn well yn y Pwll Melin
8.43 Mae maetholion ffo a chroniad gwaddodion i’r Pwll Melin wedi arwain at broblemau gyda thyfiant algaidd. Defnyddir ardaloedd sylweddol o dir amaethyddol yn nalgylch Afon Penfro (sy’n bwydo’r pwll) ar gyfer cynhyrchu cnydau âr, gyda chyfnodau o bridd wedi’i aredig yn foel bob blwyddyn, a’r gwrtaith cysylltiedig a daenir. Gall dalgylch trefol uniongyrchol Penfro hefyd gyfrannu maetholion a gwaddodion drwy ryddhau dŵr storm, gyda Dŵr Cymru yn crybwyll pum Gorlif Storm Cyfun yn rhyddhau o amgylch ardal y Pwll Melin. Mae gwaith carthion Dŵr Cymru yn Llandyfái hefyd yn rhyddhau i Afon Penfro.
8.44 Dylid mynd i’r afael â’r mater hwn ar ddau drac dwbl.
Atebion seiliedig ar natur
8.45 Dylid defnyddio’r rhain i fynd i’r afael ag achosion amaethyddol sylfaenol. Mae prosiectau blaenorol wedi nodi bod rhannau o dir lle mae cyfleoedd i weithredu newidiadau i ddulliau rheoli tir a fyddai o fudd i ansawdd dŵr, yn lleihau risg llifogydd ac yn lleihau risg siltio Afon Penfro ac felly’r Pwll Melin. Dylid targedu dalgylch cyfan y Pwll Melin ar gyfer ymyriadau, gan ganolbwyntio’n benodol i ddechrau ar ffermydd sy’n eiddo i Gyngor Sir Penfro (CSP) i’r dwyrain o Benfro, gan gynnwys rhwng Llandyfái ac Alleston Wood.
8.46 Cynhaliwyd eisoes broses o fapio cyfleoedd gan ddefnyddio data synhwyro o bell, ac mae hyn wedi nodi ardaloedd lle gallai newidiadau rheoli tir ddwyn buddion. Byddai cam casglu data cychwynnol ar draws dalgylch Afon Penfro a’r Pwll Melin yn darparu dilysu daearol ar raddfa leol o ran y cyfleoedd hyn, ac yn nodi ardaloedd lle gallai ymyriadau sicrhau budd. Yna, gallai’r cam casglu data a mapio cyfleoedd hwn gael ei ddatblygu’n gyflym i gyflenwi ystod o newidiadau ac ymyriadau defnydd tir, a allai gynnwys;
- Creu lleiniau clustogi torlannol, gan leihau pori’n agos at gyrsiau dŵr;
- Ffurfioli ardaloedd dyfrio da byw, gan alluogi codi ffensys ar hyd cwrs dŵr i’w hamddiffyn rhag erydu’r glannau, sathru’r glannau ac effaith tail;
- Plannu ymylon caeau a lleiniau cysgodi â choed / prysglwyni er mwyn cadw mwy o ddŵr o fewn coed a phrysglwyni a blannwyd;
- Creu argaeau naturiol o fewn cyrsiau dŵr bychain, arafu llif a chynyddu amrywiaeth y cynefinoedd o fewn y dirwedd; a
- Gweithredu cynllun rheoli ar gyfer ardaloedd o welyau cyrs yn y Pwll Melin.
Mewnbwn carthion budr a dŵr ffo trefol
8.47 Yr ail agwedd ar y prosiect yw gweithio gyda Dŵr Cymru i ymchwilio i’r graddau y mae dŵr storm, gorlifoedd storm cyfun a gwaith carthion Llandyfái yn cyfrannu at gyfoethogi maethol yn y Pwll Melin a darparu gwaith gwella seilwaith i leddfu’r effaith hon.
Ffigur 8.9: PEM5
Buddion y prosiect
8.48 Ymhlith buddion y prosiect, fel y’u darlunnir yn Ffigur 8.10 isod, mae:
- Lleihau risg llifogydd
- Gwella ansawdd dŵr
- Lle i fywyd gwyllt a gwytnwch ecolegol
- Dal a storio carbon a lliniaru effeithiau newid hinsawdd
Ffigur 8.10: Buddion
Darparu atebion seiliedig ar natur a gwasanaethau ecosystemau
8.49 Mae rheoli defnydd tir ers yr Ail Ryfel Byd wedi golygu mwy o ddraenio’r tir, mewn ymgyrch i sicrhau bod tir fferm mor effeithlon ag sy’n bosibl. Mae hyn wedi arwain at leihau amrywiaeth cynefinoedd, a cholli gwlyptiroedd, glaswelltir gwlyb a chynefinoedd daearol gwlyb cysylltiedig. Mae hefyd wedi cynyddu risg llifogydd, am ei fod yn cynyddu cyflymder a maint y dŵr sy’n llifo i lawr dalgylchoedd, gan leihau effaith glustogi’r dirwedd yn ystod glaw trwm a maith. Mae draeniad cynyddol priddoedd gwlyb hefyd yn cael effaith andwyol ar allu’r pridd i ddal a storio carbon.
8.50 Trwy ddefnyddio technegau megis lleiniau clustogi torlannol, lleihau erydiad a photsian y glannau, plannu lleiniau cysgodi ac ymylon caeau a chreu argaeau naturiol o fewn cyrsiau dŵr bychain, gellir cynyddu’n sylweddol allu’r dirwedd i amsugno glawiad a chlustogi rhag glawiad. Byddai hyn yn cael effaith fuddiol gydredol ar risg llifogydd, ar ansawdd dŵr ac ar ddal a storio carbon, gan y byddai ail-wlychu priddoedd gwlyptir yn cynyddu eu gallu i amsugno a chloi carbon.
8.51 Mae effaith cyfoethogi maethol gan orlifoedd storm cyfun a gollyngfeydd gwaith trin carthion yn niweidiol i gynefinoedd a rhywogaethau, ac mewn achosion eithafol gallant arwain at farwolaeth yr ecosystem. Byddai mynd i’r afael â’r effaith hon felly yn fuddiol i fioamrywiaeth, gwytnwch yr ecosystem a gallu’r ecosystem i fod yn ddalfa net ar gyfer carbon.
Mecanweithiau cyflawni
Atebion seiliedig ar natur
8.52 I ddechrau, cynigir y byddai’r prosiect yn cael ei dargedu ar lefel leol, safle-benodol drwy gynnal arolwg i ddilysu’n ddaearol bresenoldeb a maint yr ardaloedd cyfle a nodwyd hyd yma gan ddefnyddio technegau synhwyro o bell. Dylai’r arolwg hwn gael ei gynnal gan wyddonwyr dinasyddion sydd wedi’u hyfforddi’n addas, staff Cyngor Sir Penfro (CSP) neu ymgynghorydd arbenigol allanol. Pan fydd ardaloedd o gyfle allweddol wedi bod yn destun dilysu daearol ac wedi’u diffinio, byddai angen ymgysylltu â thirfeddianwyr a deiliaid / porwyr tir er mwyn cyflwyno’r cyfleoedd hyn a thrafod eu heffeithiau ar ddefnydd tir presennol. Gall hyn arwain at golli rhai cyfleoedd am resymau cyfyngiadau amaethyddol masnachol a ffisegol.
8.53 Gallai’r ymyriadau a’r newidiadau ffisegol arfaethedig i ddulliau rheoli tir gael eu darparu gan y tirfeddianwyr eu hunain, neu gan gontractwyr amaethyddol allanol.
Mewnbwn carthion budr a dŵr ffo trefol
8.54 O ran cyflwyno gwelliannau ar yr agwedd hon byddai angen cydweithrediad a chyfranogiad Dŵr Cymru. Mae angen partneriaeth strategol rhwng CSP a Dŵr Cymru i ymchwilio i’r sefyllfa yn y dalgylch, ei hasesu a’i gwella.
Partneriaid posibl
- Dŵr Cymru
- Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru
- Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)
- CSP
- Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru
- Cyngor Tref Penfro
Cost amlinellol
Atebion seiliedig ar natur
Cost isel = <£250k
8.55 Rhagwelir y gall y prosiect hwn gostio degau o filoedd o bunnoedd neu lai, yn ddibynnol ar ardal y dalgylch sydd wedi’i dargedu ar gyfer ymyriadau. Byddai’r costau’n cynnwys rhai ffioedd cyngor arbenigol ac asiantau tir cyfyngedig, ffensio, costau plannu coed ac o bosibl costau sy’n gysylltiedig â gosod cyfarpar dyfrio da byw amgen.
Mewnbwn carthion budr a dŵr ffo trefol
Cost isel = <£250k
8.56 Ymchwiliad cychwynnol ac astudiaeth ddichonoldeb.
Cost ganolig i uchel = <£250k- £1 miliwn+
8.57 Rhagwelir y bydd darparu ymyriadau yn dwyn costau canolig i uchel, ochr yn ochr ag uwchraddiadau cysylltiedig i seilwaith.
Cyfleoedd ariannu posibl
- Cynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru sy’n dod i’r amlwg
- Coedwig Genedlaethol Cymru – Y Grant Buddsoddi mewn Coetir (Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol – Cylch 1)
- Cyllideb Cynllun Rheoli Asedau Dŵr Cymru ar gyfer uwchraddiadau strategol
Amserlen
Atebion seiliedig ar natur
Cam cyflym ymlaen = <1 flwyddyn
8.58 Gellid darparu ymyriadau ffisegol o fewn un flwyddyn. Fodd bynnag, un peth anhysbys allweddol i’r prosiect fyddai’r amser a gymerir i ennill cytundebau / caniatad y tirfeddiannwr / deiliad / porwr.
Mewnbwn carthion budr a dŵr ffo trefol
Cam cyflym ymlaen = <1 flwyddyn
8.59 Ymchwiliad cychwynnol ac astudiaeth ddichonoldeb.
Tymor canolig = 1-5 mlynedd
8.60 Rhagwelir y bydd ymyriadau’n cael eu cyflenwi yn y tymor canolig, ochr yn ochr ag uwchraddiadau cysylltiedig i seilwaith.
Cyfyngiadau posibl
Atebion seiliedig ar natur
8.61 Un cyfyngiad allweddol ar gyfer y prosiect fyddai sicrhau cytundebau tirfeddiannwr / deiliad tir / porwr, gan y gallai fod risg canfyddedig i hyfywedd fferm sy’n gysylltiedig â cholli rhywfaint o dir i ymylon torlannol / lleiniau cysgodi / plannu ymylon caeau ac ati. Gall hefyd fod gwrthwynebiad i newid cyrsiau dŵr o ran pryderon draenio tir. Dylid gwrthddadlau’r pryderon hyn ag argaeledd taliadau amaethyddol ar gyfer nwyddau a gwasanaethau amgylcheddol, ac felly mae’r oedi cyn lansio Cynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru yn gyfyngiad posibl yn hyn o beth.
Mewnbwn carthion budr a dŵr ffo trefol
8.62 Un peth allweddol sy’n cyfyngu ar gynnal asesiad a phrosiect dichonoldeb fyddai parodrwydd a chydweithrediad Dŵr Cymru. Byddai darparu ymyriadau i wella unrhyw faterion elifion carthion a gorlifoedd storm cyfun a nodwyd yn cael ei gyfyngu gan argaeledd cyllid Cynllun Rheoli Asedau drwy Dŵr Cymru ar gyfer uwchraddiadau, a blaenoriaethu’r dalgylch hwn.
Cynnal a chadw a stiwardiaeth
8.63 Byddai angen cynnal a chadw’r gwaith meddal fel rhan o’r cyfnod sefydlu 60 mis, gan gynnwys disodli coed aflwyddiannus. Os gosodir ffensys i gadw da byw allan o gyrsiau dŵr, byddai gwaith cynnal a chadw parhaus cyfyngedig hefyd yn gysylltiedig â chynnal a chadw’r ffensys hyn.
8.64 Byddai gwaith cynnal a chadw a stiwardiaeth ased ar gyfer unrhyw uwchraddiadau seilwaith yn perthyn i gylch gwaith statudol Dŵr Cymru.
Monitro ar gyfer llwyddiant
8.65 Yn amodol ar argaeledd cyllid, dylid monitro llwyddiant y prosiect drwy wyddoniaeth dinasyddion syml, gyda chymorth addas. Gallai technegau gynnwys monitro ansawdd dŵr gan ddefnyddio offer llaw syml, neu osod mesurydd ffrwd syml i fonitro llif ffrwd, er enghraifft.
8.66 Dylid monitro gorlifoedd storm cyfun a pherfformiad Dŵr Cymru yn hyn o beth hefyd trwy ddefnyddio gwyddoniaeth y dinesydd.
8.67 Mae gwaith monitro technegol a stiwardiaeth ased ar gyfer unrhyw uwchraddiadau seilwaith yn perthyn i gylch gwaith statudol Dŵr Cymru.
Camau nesaf
8.68 Diogelu cyllid cyfyngedig (£1k i £10k) i gynnal proses dilysu daearol synhwyro o bell ar draws y dalgylch, gan greu rhestr flaenoriaeth o feysydd ar gyfer ymyriad.
8.69 Ymgysylltu â thirfeddianwyr / deiliaid / porwyr ac ymrwymo i gytundebau i ddarparu ymyriadau ar eu tir.
8.70 Ymgysylltu â Dŵr Cymru i ganfod awydd a chyllideb i fwrw ymlaen â’r asesiad a’r astudiaeth ddichonoldeb.
Ffigur 8.11: Penfro
Rhestr Hir o Brosiectau
PEM1 – Gwyrddu Main Street ac Ardal Rheoli Ansawdd Aer Penfro ymhellach
8.71 Dylid cyflwyno mesurau gwyrddu ar hyd Main Street i helpu i liniaru mater ansawdd aer gwael. Mae hafn drefol gul Main Street, ynghyd â chyfyngiadau ei ddefnydd ar gyfer digwyddiadau a llwybr cyd-ddefnyddio arfaethedig, yn pennu bod plannu coed yn addas mewn ardaloedd cyfyngedig yn unig. Ymgorffori sbesimenau pigfain, bach ar hyd y rhan o’r llwybr sy’n estyn o Northgate Street tuag at gaffi Brown’s. Gallai ailddefnyddio rhai mannau parcio i ddarparu parciau bychain ddarparu seddi ychwanegol a lle arllwys allan, yn ogystal â dal gronynnau’n rhagorol. Mewn mannau eraill, dylid gosod cafnau plannu uwch, blychau ffenestri a basgedi crog.
PEM2 – Gwella bioamrywiaeth a rheoli llifogydd naturiol yn Nhir Comin Penfro
8.72 Cyfeirier at y Prosiectau Cicdanio.
PEM3 – Gwella bioamrywiaeth leol a chymeriad tirwedd y Maes Glas
8.73 Cyfeirier at y Prosiectau Cicdanio.
PEM4 – Cyflwyno perllan gymunedol yn Devon Drive
8.74 Gan gydweithio â’r trigolion lleol i annog perchnogaeth gymunedol, sefydlu perllan gymunedol o fewn ardaloedd o laswellt amwynder presennol ar hyd Devon Drive. Dylai’r cynigion gynnwys hau dôl blodau gwyllt a llacio’r drefn torri gwair i greu dolydd blodau gwyllt gyda llwybrau wedi’u torri yn y borfa a seddi anffurfiol mewn llennyrch
PEM5 – Rheoli maetholion yn well yn y Pwll Melin
8.75 Cyfeirier at y Prosiectau Cicdanio.
PEM6 – Cynyddu dehongliad a dynodi llwybrau yn y Pwll Melin
8.76 Gwella cysylltiadau o ganol y dref i’r Pwll Melin i annog trigolion lleol ac ymwelwyr i fwynhau’r Warchodfa Natur Leol a’r cyfleoedd y mae’n eu cynnig i wylio bywyd gwyllt. Dylid gosod arwyddion a dynodi llwybrau i wella’r llwybr perimedr, gan gynnwys yn Blackhorse Lane sy’n arwain tuag at Dŵr Barnard. Dylid ystyried sefydlu digwyddiadau rheolaidd yn Mill Pond Walk, gan gynnwys marchnad fwyd fisol. Dylid archwilio’r potensial i integreiddio mentrau gwyrddu ar hyd y llwybr cyd-ddefnyddio arfaethedig o gwmpas y Pwll Melin ac yn cysylltu Tŵr Barnard â Phont y Felin. Dylid hefyd ymgorffori ymyriadau gwyrddu trefol ar gysylltiadau i gerddwyr sy’n arwain at Main Street ac ohoni.
PEM7 – Gwella amrywiaeth cynefinoedd yng nghoedwig Holyland
8.77 Dylid gwella amrywiaeth strwythurol y coetir a’r mosaig o gynefinoedd gwlyptir a glaswelltir. Dylai hyn gynnwys coedlannu mannau o ganopi trwchus i annog fflora daear i sefydlu a chadw pren marw. Dylid hyrwyddo adfywiad naturiol y coed ond gellid plannu coed ychwanegol ar hyd ymyl y coetir i weithredu fel rhyngwyneb rhwng coetir aeddfed a phrysgwydd. Dylid parhau i dynnu Jac y Neidiwr a Chlymog Japan. Dylid gosod ffensys o amgylch llwybrau pren i atal aflonyddwch gan gerddwyr cŵn.
PEM8 – Cryfhau’r rhwydwaith coed stryd lleol
8.78 Archwilio cyfleoedd i gyflwyno plannu coed stryd ychwanegol o fewn ardaloedd o balmant llydan ac ardaloedd glaswellt / ymylon ffordd glaswellt achlysurol. Byddai hyn yn mynd i’r afael â’r bylchau mewn gorchudd canopi strategol, gan hefyd feddalu ymylon trefol. Mae’r lleoliadau posibl yn cynnwys Angle Rd, Long Mains, Golden Lane a Woodbine Terrace. Dylid hefyd ail-archwilio gwaith rheoli coed stryd presennol, gan sicrhau bod polion, rhwyllau a gardiau coed yn cael eu tynnu neu eu llacio er mwyn i’r coed dyfu.
PEM9 – Gwyrddu Maes Parcio Common Road ymhellach
8.79 Ceir cyfle i feddalu maes parcio Common Road sy’n arwyneb caled yn bennaf. Dylid ystyried mân ad-drefnu rhai cilfachau parcio er mwyn caniatáu integreiddio coed stryd ac atebion gwyrddu trefol. Gallai cafnau plannu o amgylch safleoedd bysiau ac ar arwynebau caled segur, ochr yn ochr â mannau parcio beiciau gwyrdd diogel, gael eu cyflwyno hefyd. Byddai’r ymyriadau hyn yn creu porth mwy croesawgar i Benfro i ymwelwyr, ond hefyd yn lleihau dŵr wyneb ffo o’r ffordd tuag at gyrsiau dŵr cyfagos.
PEM10 – Hyrwyddo gwyrddu Gorsaf Penfro
8.80 Ystyried cyflwyno plannu coed a chafnau plannu uwch i greu ymdeimlad o gyrraedd a meddalu tirweddau / ffiniau caled yn ardal y maes parcio gerllaw’r orsaf. Ceir cyfle i integreiddio’r nodweddion hyn i gysylltiadau teithio llesol arfaethedig sydd ar y gweill ar hyn o bryd. Dylid hefyd edrych ar fannau parcio beiciau diogel, darparu seddi a gorsafoedd gwefru beiciau trydan er mwyn annog pobl i fanteisio ar deithio llesol.
PEM11 – Gwella potensial bioamrywiaeth a diddordeb esthetig safleoedd amwynder lleol
8.81 Mae Penfro yn cynnal nifer o fannau gwyrdd amwynder sy’n cael eu nodweddu’n bennaf gan ystodau mawr o borfa a dorrir yn fyr heb fawr o orchudd coed ar hyn o bryd, os o gwbl. Dylid edrych ar gyfleoedd i gyflwyno plannu coed i ddarparu cysgod, cymeriad a bioamrywiaeth, gan hefyd gadw swyddogaethau hamdden. Mae enghreifftiau o safleoedd posibl yn cynnwys tir yn Back Terrace / Monkton, pen deheuol Bridgend Terrace, Golden Hill Road / Elm Grove, Devon Drive, Gatehouse View a Buttermilk Drive.
PEM12 – Rheoli cyrchfan ymwelwyr
8.82 Creu nodwedd fynedfa newydd yn Banker Walk i ddarparu cyswllt uniongyrchol i ganol y dref o Faes Parcio’r Tir Comin, gan sicrhau’r defnydd mwyaf posibl. Dylai’r mynediad presennol gael ei ailraddio i greu graddiant mwy hygyrch a dylai ymyriadau gwyrddu trefol gael eu cyflwyno. Byddai wal werdd a rheoli cynefinoedd i glirio coed mêl goresgynnol ac annog sefydlu blodau gwyllt brodorol yn creu mynedfa groesawgar i’r dref. Dylid hefyd ystyried dynodi llwybrau’n well a gosod arwyddion ‘Croeso i Benfro’.
PEM13 – Gwella Tŵr Barnard
8.83 Mae Tŵr Barnard yn gartref i nythfa o ystlumod, gan gynnwys ystlumod pedol mwyaf. Byddai mesurau dehongli, sy’n ymgorffori arwyddion a ffrwd fyw, yn helpu i ddarparu addysg gymunedol ar bwysigrwydd y rhywogaethau hyn a rôl lleiniau coetir a choridorau afonydd fel llwybrau fforio a chymunedol. Dylid creu amffitheatr er mwyn darparu lle i ddigwyddiadau awyr agored. Yn safle’r Tŵr, dylid sefydlu dôl blodau gwyllt a choed hefyd i barhau cysylltedd â Llwybr y Pwll Melin.
PEM14 – Creu gardd bywyd gwyllt ac oriel
8.84 Datblygu cynllun busnes ar gyfer Oriel Turner’s Reach ac ymgorffori gardd bywyd gwyllt brodorol. Byddai borderi neithdar glöynnod byw, gwenyn a gwyfynod, plannu coed, llwyni a gwrychoedd brodorol a blychau nythu a gorsafoedd bwydo ar gyfer adar yn darparu cysylltedd â’r plannu presennol ar hyd y Tir Comin a’r Pwll Melin. Byddai’r oriel yn cefnogi artistiaid lleol ac yn darparu atyniad ychwanegol i dwristiaid.
PEM15 – Gwella addysg a dehongliad ym Mhwll Castell Penfro
8.85 Creu canolfan ymwelwyr amgylcheddol lle gellir dangos fideos ffrwd fyw o nythfeydd ystlumod yn Nhŵr Barnard, tramwyfa’r dyfrgwn yn y Pwll Melin a bywyd gwyllt ar hyd coridor yr aber i hybu ymwybyddiaeth am asedau bioamrywiaeth pwysig Penfro. Dylid hefyd ystyried gwelliannau i lwybrau troed lleol, gan gynnwys llwybr cyd-ddefnyddio arfaethedig ar Westfield Hill, a rheiliau perimedr o amgylch Pwll y Castell. Gellid gwella’r atmosffer morydol trwy blannu ardaloedd ychwanegol o ddôl blodau gwyllt a phlannu bylbiau.
PEM16 – Gwella bioamrywiaeth wrth gyffordd South Road / St Daniel’s Hill / yr A4139
8.86 Plannu rhywogaethau coed parcdir mawr ychwanegol ar y man gwyrdd llethrog yn y gyffordd hon, gan ddarparu cyfleoedd bioamrywiaeth a chryfhau cymeriad tirwedd wrth borth canol y dref hon. Ystyried addasiadau tirffurf ar raddfa fach i leihau dŵr ffo wyneb a chreu cilfachau cynefin bach o ardaloedd sy’n dymhorol wlyb.
PEM17 – Creu gwlyptiroedd wrth ymyl Gwaith Trin Carthion Llandyfái
8.87 Mae cynnwys maethol uchel ac arwyddion o ewtroffigedd i’w gweld ym Mhwll Melin Penfro. Gallai trosi tir diffaith gerllaw’r gwaith trin carthion i’r gorllewin o’r dref weithredu fel clustogfa ar gyfer gollyngfa garthion mewn cyfnodau o gyfaint uchel. Byddai cynefin gwlyptir yn creu cynefin newydd i fywyd gwyllt ac yn cynorthwyo stripio maetholion o’r ollyngfa, gan helpu i leddfu’r llwyth maethol sy’n cael ei ollwng ar hyn o bryd i’r cwrs dŵr (ac wedi hynny i ACA Forol Penfro sydd ymhellach i lawr yr afon).
PEM18 – Rheoli rhywogaethau goresgynnol wrth ymyl Pwll Melin Penfro ac Afon Penfro
8.88 Creu cynllun rheoli sy’n hyrwyddo arferion rheoli cadarnhaol, gan gynnwys rheoli Cyrs Cyffredin (Phragmites australis) / Llafrwyn (Typha latifolia) a gweithredu strategaeth i leihau rhywogaethau goresgynnol gerllaw Pwll Melin Penfro ac Afon Penfro. Yn ogystal ag amgylchedd y glannau, dylid cynnal arolygon ecolegol i bennu cyfansoddiad rhywogaethau presennol y coetir cyfagos i annog cadw a gwella fflora isdyfiant cyfoethog.
PEM19 – Gwella gwerth bioamrywiaeth Llwybr y Pwll Melin
8.89 Cyflwyno cynigion i wella bioamrywiaeth wrth droed y waliau bwrdais / waliau’r gogledd ar hyd Llwybr y Pwll Melin. Dylid datblygu cynigion ar y cyd â Cadw, Cyngor Sir Penfro (CSP) ac Ymddiriedolaeth Muriau Tref Penfro i gydnabod cyfyngiadau treftadaeth y safle a muriau canoloesol hanesyddol y dref. Ceir cyfle i gyflwyno fflora daear priodol lleol a phlannu bylbiau i wella peillwyr a diddordeb ymwelwyr.
Pennod flaenorol:
Neyland
Pennod nesaf:
Doc Penfro
Dychwelyd i’r hafan:
Hafan