Saundersfoot

Asesiad Seilwaith Gwyrdd Sir Benfro: Paratowyd gan LUC Chwefror 2023

Cynnwys Tudalen:

 

Portread o Seilwaith Gwyrdd Saundersfoot

Prosiectau Cicdanio

Rhestr Hir o Brosiectau

 

Saundersfoot

 

Ffigur 10.1: Saundersfoot

 

Portread o Seilwaith Gwyrdd Saundersfoot

 

10.1 Pentref mawr ar arfordir de-ddwyrain Sir Benfro yw Saundersfoot, gyda thros 3,000 o boblogaeth ac o fewn Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Mae Ardal Gadwraeth Saundersfoot yn anheddiad arfordirol cymharol isel gyda tharddiadau canoloesol ar ymyl ddwyreiniol y dref, ac mae’n cynnwys nifer o fythynnod ac adeiladau rhestredig â nodweddion morwrol. Mae datblygiad twristiaeth modern ar hyd yr arfordir hefyd, a hwnnw’n rhannol oherwydd traeth poblogaidd Saundersfoot a thraeth Coppet Hall. Caiff yr amgylchedd morol o gwmpas Saundersfoot ei gydnabod yn rhyngwladol am ei werth ecolegol drwy ddynodiadau Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA) Bae Caerfyrddin, ac Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Bae Caerfyrddin a’i Aberoedd / Dynesfeydd Môr Hafren. Mae’r ardal hefyd yn cael ei chydnabod yn genedlaethol trwy ddynodiadau Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Bae Waterwynch i Harbwr Saundersfoot a SoDdGA Saundersfoot i Arfordir Telpyn.

10.2 Cymharol brin yw’r ardaloedd o le cyhoeddus agored yn Saundersfoot, gyda’r traethau a Llwybr Arfordir Penfro yn darparu’r ased hamdden mwyaf sylweddol i ymwelwyr a thwristiaid. Daw llwybr 4 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol (NCN) hefyd o’r gogledd i’r de trwy’r dref. Ceir rhwydwaith tameidiog braidd o Hawliau Tramwy Cyhoeddus yng nghymdogaethau preswyl gorllewinol Saundersfoot, ac ambell gysylltiad uniongyrchol â’r arfordir neu i Barc Cenedlaethol ehangach Arfordir Penfro. Gallai’r Llethr, sef Heneb Gofrestredig a llwybr cyhoeddus, gael ei hintegreiddio’n well i’r rhwydwaith presennol o hawliau tramwy cyhoeddus i wella cysylltedd rhwng ochrau gorllewinol a dwyreiniol y dref.

10.3 Mae ardaloedd trwchus o goetir, sy’n aml yn hynafol, yn cwmpasu ardaloedd o Saundersfoot a’r cefn gwlad o’i amgylch, gan gynnwys yn Rhode Wood i’r de a’r Blanhigfa. Mae lleiniau dolennog o goetir yn dilyn dyffrynnoedd afonydd yn ymestyn o Gae’r Brenin Siôr ac yn gwahanu ardaloedd preswyl gogleddol a deheuol Saundersfoot. Cynigia’r coridorau coetir hyn gyfleoedd i greu cysylltiadau ar gyfer bywyd gwyllt a phobl rhwng y parth arfordirol dwys ei anheddiad yn y dwyrain i’r tirlun gwledig yn y gorllewin.

 

Ffigur 10.2: Cyfleoedd SG yn Saundersfoot


Yn ôl i’r top

 

Prosiectau Cicdanio

 

SAU2 – Creu rhwydwaith o lwybrau cylchol

10.4 Ceir cyfle i greu cyfres o lwybrau cerdded cylchol a hyrwyddir i’r gorllewin o Saundersfoot, gan helpu i gysylltu ymwelwyr a thrigolion â thirwedd ehangach Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, gan hefyd hyrwyddo ffyrdd o fyw egnïol. Ar hyn o bryd, mae gan yr anheddiad rwydwaith o Hawliau Tramwy Cyhoeddus sy’n cynnig amrywiaeth o gyfleoedd cerdded, gan gynnwys llwybr ceffylau ar Moreton Lane gyda llwybrau troed cyhoeddus cyfagos yn ymledu ar ei hyd. Mae’r prosiect hwn, felly, yn cynnig defnyddio’r llwybrau presennol hyn, wedi’u hategu â llwybrau newydd i greu llwybrau cylchol deniadol sy’n hwyluso rhyngweithio â natur. Dylid hefyd ymgorffori’r llwybr cyhoeddus presennol ar y Llethr, sef hen lwybr ffurfiant llethr tramffordd, o fewn y cynigion i ddarparu hierarchaeth o lwybrau cylchol. Cynigia dyluniad y llwybr gyfle i hyrwyddo hygyrchedd a chynwysoldeb ar gyfer amrywiaeth o ddefnyddwyr, gan gynnwys cerddwyr a defnyddwyr cadair olwyn.

10.5 Byddai sefydlu’r llwybrau cylchol hyn yn gwella’r cynnig hamdden ar y raddfa leol a strategol. Byddai posibilrwydd integreiddio amrywiaeth o ddodrefn stryd cadarn, dehongliadau, arwyddion a nodweddion chwarae naturiol achlysurol nad oes angen fawr o gynnal a chadw arnynt ar hyd y llwybrau hefyd yn helpu i wella eu cynnig hamdden. Fodd bynnag, er mwyn creu unrhyw rannau newydd o hawl tramwy cyhoeddus, byddai gofyn cynnal asesiad o’r cynefin naturiol i bennu a yw cyflwyno mynediad i’r cyhoedd yn gynaliadwy ac y dylid ei hyrwyddo. Byddai angen asesu gwrthdaro posib rhwng bioamrywiaeth a chyfleoedd mynediad hamdden. Dylid ystyried cyflwyno ‘cod ymddygiad’ ar gyfer ymddygiad priodol ar rannau ecolegol sensitif o’r llwybr i helpu i annog hamdden fwy cyfrifol.

 

Ffigur 10.3: SAU2

 

Buddion y prosiect

10.6 Ymhlith buddion y prosiect, fel y’u darlunnir yn Ffigur 10.4 isod, mae:

  • Darparu cyfleoedd teithio llesol
  • Buddsoddiad a gwell profiad i ymwelwyr
  • Lle i fywyd gwyllt a gwytnwch ecolegol
  • Chwarae, addysg a rhyngweithio â natur
  • Rhyngweithio cymdeithasol a chydlyniant cymunedol
  • Atgyfnerthu ymdeimlad o le
  • Gwella iechyd a lles
  • Dal a storio carbon a lliniaru effeithiau newid hinsawdd

 

Ffigur 10.4: Buddion

 

Mecanweithiau cyflawni

10.7 Byddai angen cais am grant i sicrhau cyllid ar gyfer y gwaith cyfalaf, gan gynnwys cynhyrchu deunydd hyrwyddo, dodrefn stryd ac arwyddion, sy’n gysylltiedig â’r prosiect hwn.

10.8 Fodd bynnag, byddai angen cyllid allanol sylweddol a dyrannu adnodd staff pe bai angen rhannau newydd o hawl tramwy cyhoeddus i gyflawni’r prosiect. Byddai angen i’r prosiect fod yn seiliedig ar dirfeddianwyr cydweithredol ac asesiad cynaliadwyedd i benderfynu pa mor briodol yw cyflwyno mynediad i’r cyhoedd.

 

Partneriaid posibl
  • Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (APCAP);
  • Tirfeddianwyr; a
  • Cyfoeth Naturiol Cymru

 

Cost amlinellol

10.9 Byddai costau’r prosiect yn dibynnu ar y graddau y byddai’r aliniadau llwybr arfaethedig yn ailddefnyddio’r rhwydwaith presennol o hawliau tramwy cyhoeddus yn ogystal â maint y dodrefn stryd arfaethedig ac arwyddion cysylltiedig.

 

Cyfleoedd ariannu posibl
  • APCAP

 

Amserlen

10.10 Byddai’r amserlenni ar gyfer gweithredu cynigion sy’n cynnwys ailddefnyddio hawliau tramwy cyhoeddus presennol i greu llwybrau hamdden cylchol yn rhai tymor byr i dymor canolig o ran hyd. Fodd bynnag, lle mae angen dynodi hawl tramwy cyhoeddus newydd, byddai hyn yn fwy beichus a thymor hwy.

 

Cyfyngiadau posibl

10.11 Os yw’r prosiect yn ailddefnyddio hawl tramwy cyhoeddus presennol, y prif gyfyngiadau fyddai sicrhau’r arian angenrheidiol i gyflawni’r prosiect a sicrhau bod y gymuned yn cefnogi’r prosiect.

10.12 Os yw’r prosiect yn creu darnau newydd o hawl tramwy cyhoeddus, byddai hyn yn debygol o fod yn gymhleth, gyda gofynion yn cystadlu. Mae hyn yn cynnwys y gofyniad am gyllid allanol sylweddol a chysylltu â thirfeddianwyr lleol i sicrhau ymrwymiad ar dir sydd dan berchnogaeth breifat. Byddai angen ymgysylltu â thirfeddianwyr a deiliaid tir er mwyn cyflwyno’r cyfleoedd hyn a thrafod eu heffeithiau ar ddefnydd tir presennol. Fodd bynnag, un agwedd anhysbys allweddol i’r prosiect fyddai’r amser sydd ei angen i gael caniatâd y tirfeddianwyr hyn.

10.13 Efallai y bydd angen clirio llystyfiant lleol ar y prosiect hefyd ar hyd rhai rhannau o’r llwybr. Byddai angen gwneud hyn er mwyn osgoi’r tymor nythu adar ac mewn cyswllt ag ecolegydd neu Glerc Gwaith Ecolegol (ECoW).

 

Cynnal a chadw a stiwardiaeth

10.14 Byddai angen gwaith cynnal a chadw parhaus ar arwynebau caled y llwybrau er mwyn sicrhau bod mynediad yn cael ei gynnal drwy gydol y flwyddyn. Byddai angen gwaith rheoli tirwedd hefyd i sicrhau bod llinellau gweld yn cael eu cadw ar draws y llwybr.

 

Monitro ar gyfer llwyddiant

10.15 Ceir cyfle i osod synwyryddion neu rifyddion i fonitro’r defnydd o’r llwybrau fel rhan o’r rhwydwaith teithio llesol ehangach o fewn y sir.

 

Camau nesaf

10.16 Ymgysylltu ag APCAP i ganfod awydd a chyllideb i fwrw ymlaen ag asesiad, astudiaeth ddichonoldeb ac ymarfer gwaith opsiynau i nodi’r rhwydwaith arfaethedig o lwybrau cylchol.

 

Ffigur 10.5: Saundersfoot


Yn ôl i’r top

 

SAU 7 – Cyflwyno ac adfer cafnau blodau uchel yn Harbwr Saundersfoot

10.17 Byddai Ocean Square yn elwa ar ychwanegu cafnau blodau uchel ar hyd Harbwr Saundersfoot tuag at Ganolfan Arfordirol Ryngwladol Cymru, gan ddilyn aliniad y llwybr beicio presennol yn fras. Dylid gwneud hyn ynghyd ag ailblannu’r cafnau plannu bric uchel presennol wrth ymyl y maes parcio â blodau lluosflwydd brodorol, sy’n goddef halen i ddenu peillwyr. Dylid hefyd ystyried plannu coed ychwanegol mewn ardaloedd o dirwedd galed i ddarlunio mynedfeydd allweddol i’r harbwr (e.e. o fynedfa’r Strand / y Stryd Fawr). Byddai hyn yn ategu’r cafnau plannu presennol ar Stammers Road. Dylid cynnal y cafnau plannu hyn gyda blodau brodorol llawn neithdar.

10.18 Gan fod llawer o Harbwr Saundersfoot yn perthyn i Barthau Llifogydd 2 a 3, gallai’r cafnau plannu hefyd weithredu fel Systemau Draenio Cynaliadwy (SDC). Mae cafnau plannu gerddi glaw yn cynnig nodweddion addasu deniadol y gellir eu defnyddio i reoleiddio llifoedd dŵr wyneb a lleihau risg llifogydd dŵr wyneb. Mae cafnau plannu gerddi glaw yn defnyddio dŵr glaw y gellir ei ddargyfeirio’n syth i’r cafn lle mae’r pridd yn amsugno ac yn storio’r dŵr glaw i’r planhigion ei ddefnyddio; gelwir hyn yn fioddargadwad.

10.19 Dylid defnyddio arwyddion i gyfleu swyddogaeth y cafnau plannu a helpu i hybu ymwybyddiaeth am bwysigrwydd peillwyr.

 

Ffigur 10.6: SAU7

 

Buddion y prosiect

10.20 Ymhlith buddion y prosiect, fel y’u darlunnir yn Ffigur 10.7 isod, mae:

  • Lleihau risg llifogydd
  • Buddsoddiad a gwell profiad i ymwelwyr
  • Lle i fywyd gwyllt a gwytnwch ecolegol
  • Chwarae, addysg a rhyngweithio â natur
  • Atgyfnerthu ymdeimlad o le
  • Gwella iechyd a lles

 

Ffigur 10.7: Buddion

 

Mecanweithiau cyflawni

10.21 Dylid cyflenwi cafnau plannu a basgedi crog yn unol ag adran gyflawni’r Strategaeth Peillwyr. Efallai y bydd gan fusnesau lleol ar hyd Harbwr Saundersfoot ddiddordeb mewn noddi cafnau plannu y tu allan i’w siopau yn gyfnewid am hysbysebu neu hyrwyddo.

 

Partneriaid posibl
  • Tîm Cynnal a Chadw Amwynderau / Gofal Stryd Cyngor Sir Penfro (CSP)
  • Busnesau lleol

 

Cost amlinellol

 

Cost isel = <£250k

10.22 Mae’r gwariant cyfalaf sydd ei angen ar gyfer cafnau plannu uchel yn gymharol isel. Fodd bynnag, byddai cafnau plannu gerddi glaw yn ddrutach ond yn darparu buddion ychwanegol ac arbedion posibl o ran lliniaru difrod dŵr wyneb.

 

Cyfleoedd ariannu posibl
  • Cronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur
  • Nawdd gan fusnesau lleol

 

Amserlen

 

Cam cyflym ymlaen = <1 flwyddyn

10.23 Gellid gweithredu prosiectau ar lawr gwlad bron yn syth.

 

Cyfyngiadau posibl

10.24 Er mwyn i’r cafnau plannu sefydlu’n llwyddiannus, byddai angen gwaith cynnal a chadw arnynt. Heb hyn efallai y byddan nhw’n mynd yn anneniadol ac yn colli cefnogaeth y gymuned. Gan y byddai’r cafnau mewn lleoliadau cyhoeddus, gall ymddygiad gwrthgymdeithasol amharu arnynt hefyd neu eu difrodi.

 

Cynnal a chadw a stiwardiaeth

10.25 Drwy gydol y gwanwyn a’r haf, dylid dyfrio’r cafnau plannu bob dydd. Pan fydd planhigion yn eu blodau gallant elwa ar fwyd hylif potasiwm uchel bob pythefnos. Dylai cynwysyddion neu botiau allu draenio’n dda i atal dirlawnder. Er mwyn atal planhigion rhag mynd yn rhy wlyb ac oer dros y gaeaf, dylid eu codi ychydig oddi ar y ddaear a’u gosod yn erbyn cysgod wal. Gallai busnesau lleol neu berchnogion tai sydd agosaf at y cafnau plannu gynorthwyo gyda’r gwaith cynnal a chadw hwn.

 

Monitro ar gyfer llwyddiant

10.26 Gellid cofnodi llwyddiant y cafnau plannu yn ôl nifer y pryfed sy’n peillio y maen nhw’n eu denu ac amrywiaeth y rhywogaethau. Datblygwyd methodoleg Cyfrifiadau Blodau-Pryfed wedi’u Hamseru (Cyfrifiadau FIT) gan Gynllun Monitro Peillwyr y DU. Mae hyn yn golygu cyfrif y pryfed sy’n ymweld ag un o flodau targed y 14 rhywogaeth o flodau o fewn llain sgwâr 50cm wrth 50cm am 10 munud mewn tywydd da. Gallai pobl leol gymryd rhan yn hyn fel rhaglen wyddoniaeth dinasyddion.

10.27 Gallai llwyddiant hefyd gael ei fonitro drwy gofnodi sawl cafn plannu ychwanegol sydd wedi’u gosod gan drigolion neu fusnesau lleol.

 

Camau nesaf

10.28 Adolygu adran gyflawni’r Strategaeth Peillwyr i benderfynu ar y broses ac adolygu astudiaethau achos yn ymwneud â gosod cafnau plannu a basgedi crog.

10.29 Ymgynghori â Thîm Cynnal a Chadw Amwynderau / Gofal Stryd CSP

10.30 Ymgysylltu â thrigolion a busnesau lleol i ganfod diddordeb mewn noddi a/neu gynnal cafnau plannu yng nghanol y dref.

 

Ffigur 10.8: Saundersfoot


Yn ôl i’r top

 

SAU12 – Estyn ardaloedd o goetir torlannol, lleiniau cysgodi a chyfleoedd ymylon cae yn y gogledd

10.31 Mae gan Saundersfoot hanes o ddigwyddiadau llifogydd, a hynny fel arfer o ganlyniad i ymchwyddiadau storm sy’n tywallt i Fae Caerfyrddin o Fôr Hafren.

10.32 Mae tir i’r gogledd o Ysgol Gynradd Saundersfoot a Pharc Gwyliau Scar Farm yn cynnig cyfleoedd llain gysgodi, ymyl cae a choetir torlannol. A’r tir hwn yn ddiffaith ar hyn o bryd, caiff ei rannu’n ddwy gan gwrs dŵr bychan sy’n bwydo i Fae Saundersfoot o Draeth Coppet Hall. Byddai’r ymyriadau hyn yn helpu i leddfu risg llifogydd dŵr wyneb, gan ddarparu storfa ar gyfer llifddwr a helpu i gysylltu ardaloedd coetir sy’n amgylchynu Hean Castle ac yn ffinio â choedwig Peggy James i’r gogledd.

10.33 Er bod y tir i’r gorllewin o’r safle arfaethedig wedi’i glustnodi yng Nghynllun Datblygu Lleol 2 ar gyfer datblygiad preswyl (HA3 i’r gogledd o Whitlow), mae’r gofynion dylunio yn cynnwys clustogfa goetir i’r gogledd o’r safle a fyddai’n cysylltu plannu coetir torlannol ar draws yr ardal. Cynigir llwybr cyhoeddus hefyd o amgylch perimedr y safle. Ceir cyfle i estyn y llwybr hwn i’r safle ei hun i annog y gymuned i ddefnyddio’r coetir a’r llain gysgodi.

 

Ffigur 10.9: SAU12

 

Buddion y prosiect

10.34 Ymhlith buddion y prosiect, fel y’u darlunnir yn Ffigur 10.10 isod, mae:

  • Lleihau risg llifogydd
  • Gwella ansawdd dŵr
  • Lle i fywyd gwyllt a gwytnwch ecolegol
  • Gwella ansawdd aer a rheoleiddio sŵn
  • Dal a storio carbon a lliniaru effeithiau newid hinsawdd

 

Ffigur 10.10: Buddion

 

Darparu atebion seiliedig ar natur a gwasanaethau ecosystemau

10.35 Mae rheoli defnydd tir am y 90 mlynedd ddiwethaf wedi golygu mwy o ddraenio’r tir, mewn ymgyrch i sicrhau bod tir fferm mor effeithlon ag sy’n bosibl. Mae hyn wedi arwain at leihau amrywiaeth cynefinoedd, a cholli gwlyptiroedd, glaswelltir gwlyb a chynefinoedd daearol gwlyb cysylltiedig. Mae hefyd wedi cynyddu risg llifogydd, am ei fod yn cynyddu cyflymder a maint y dŵr sy’n llifo i lawr dalgylchoedd, gan leihau effaith glustogi’r dirwedd yn ystod glaw trwm a maith. Mae draeniad cynyddol priddoedd gwlyb hefyd yn cael effaith andwyol ar allu’r pridd i ddal a storio carbon.

10.36 Trwy ddefnyddio technegau amaeth-goedwigaeth megis clustogfeydd torlannol, plannu lleiniau cysgodi ac ymylon caeau, byddai gallu’r dirwedd i amsugno a chlustogi glawiad a dŵr ffo wyneb yn cael ei gynyddu’n sylweddol. Byddai hyn yn cael effaith fuddiol gydredol ar risg llifogydd, ansawdd dŵr a dal a storio carbon, gan y byddai ail-wlychu priddoedd gwlyptir yn cynyddu eu gallu i amsugno a chloi carbon.

 

Mecanweithiau cyflawni

10.37 Dylid cynnal arolwg cychwynnol o’r safle a chwmpasu gan wyddonwyr dinasyddion hyfforddedig, staff Cyngor Sir Penfro (CSP) neu ymgynghorwyr hyfforddedig. Byddai angen ymgysylltu â thirfeddianwyr a deiliaid / porwyr tir er mwyn cyflwyno’r prosiect hwn a thrafod unrhyw effeithiau ar ddefnydd tir presennol.

10.38 Rhagwelwn y gallai’r ymyriadau a’r newidiadau ffisegol arfaethedig i reoli tir gael eu darparu gan y tirfeddianwyr eu hunain, neu gan gontractwyr amaethyddol allanol.

 

Partneriaid posibl
  • PLANED – Rhwydwaith Amaethyddiaeth Gynaliadwy Sir Benfro (PSAN)
  • Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru
  • Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)
  • Deiliaid tir

 

Cost amlinellol

 

Cost isel = <£250k

10.39 Byddai’r costau’n cynnwys ychydig o gyngor arbenigol cyfyngedig, ffioedd asiant tir, ffensys a chostau plannu coed.

 

Cyfleoedd ariannu posibl
  • Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (APCAP)
  • Cyfraniadau datblygwyr (oherwydd gofynion clustogi coetir Cynllun Datblygu Lleol 2)
  • Cynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru sy’n dod i’r amlwg
  • Rhaglen Grant Cymunedau Cydnerth
  • Cronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur
  • Y Cyngor Coed
  • Coedwig Genedlaethol Cymru – Y Grant Buddsoddi mewn Coetir (Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol – Cylch 1)
  • Grantiau CNC
  • Cronfa Rhwydweithiau Natur

 

Amserlen

 

Cam cyflym ymlaen = <1 flwyddyn

10.40 Gellid plannu coed torlannol a chreu lleiniau cysgodi ac ymylon caeau mewn ambell leoliad allweddol yn y tymor plannu nesaf, gyda gwaith cynnal a chadw tirwedd yn ofynnol ar draws y cyfnod sefydlu 60 mis. Un o’r prif bethau anhysbys ar gyfer y prosiect fyddai’r amser a gymerir i ennill cytundeb / caniatâd y tirfeddiannwr / deiliad / porwr a chyrchu cyllid.

 

Tymor canolig = 1-5 mlynedd

10.41 Dylid gwneud mwyafrif y gwaith plannu coed ar draws y pum tymor plannu nesaf er mwyn caniatáu ar gyfer digon o gynllunio ac ymgysylltu.

 

Cyfyngiadau posibl

10.42 Un cyfyngiad allweddol ar gyfer y prosiect fyddai cytundebau tirfeddiannwr / deiliad tir / porwr, gan y gallai fod risg canfyddedig i hyfywedd fferm sy’n gysylltiedig â cholli rhywfaint o dir i ymylon torlannol / lleiniau cysgodi / plannu ymylon caeau ac ati. Dylid gwrthddadlau’r pryderon hyn ag argaeledd taliadau amaethyddol ar gyfer nwyddau a gwasanaethau amgylcheddol, ac felly mae’r oedi cyn lansio Cynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru yn gyfyngiad posibl yn hyn o beth.

10.43 Byddai angen i asesiad ecolegol o’r safle gael ei gynnal gan ecolegydd gyda’r holl waith safle’n cael ei oruchwylio o bosibl gan Glerc Gwaith Ecolegol (ECoW).

 

Cynnal a chadw a stiwardiaeth

10.44 Byddai angen cynnal a chadw’r gwaith meddal a’r gwlyptir yn rhan o’r cyfnod sefydlu 60 mis, gan gynnwys amnewid coed aflwyddiannus.

 

Monitro ar gyfer llwyddiant

10.45 Yn amodol ar argaeledd cyllid, dylid monitro llwyddiant y prosiect drwy wyddoniaeth dinasyddion syml, gyda chymorth addas. Mae llwyddiant llain glustogi’n dibynnu’n aml ar y dyluniad cychwynnol ond hefyd gofal a rheolaeth ddilynol gan ddefnyddio technegau coedyddiaeth i gynnal y llain gysgodi y tu hwnt i ddisgwyliad oes y coed gwreiddiol a blannwyd.

 

Camau nesaf

10.46 Ymgysylltu â thirfeddianwyr / deiliaid / porwyr ac ymrwymo i gytundebau i ddarparu ymyriadau ar eu tir. Dylid ymgynghori â CNC hefyd i ymchwilio i weld a buddion y prosiect yn cydredeg â phrosiect Pedair Afon LIFE a chyfleoedd ariannu posibl. Dylid edrych hefyd ar y potensial ar gyfer credydau maetholion i wrthbwyso costau’r prosiect.

 

Ffigur 10.11: Saundersfoot


Yn ôl i’r top

 

Rhestr Hir o Brosiectau

 

SAU1 – Dynodi llwybrau ar y Llethr yn well

10.47 Gan ffurfio rhan o fenter ehangach i ddarparu cysylltiadau â Gorsaf Saundersfoot, dynodi llwybrau’n well, gwella arwyddion, seddi a nodweddion ffiniol ar hyd y Llethr o Brooklands Place, Westfield Road a The Ridgeway. Dylid ystyried gwella’r dehongliad o nodweddion treftadaeth wrth fynedfeydd ac ar hyd y llwybr ei hun. Dylid gosod arwyneb newydd hefyd, gan ganolbwyntio ar y mannau uchaf lle mae’r llwybr wedi’i dreulio ac wedi tyfu’n wyllt. Mae’r lleoliad hwn yn goridor pathewod pwysig. Felly, dylai cynigion anelu at gryfhau’r strwythur gwrychoedd presennol, gan ddarparu cynefin ymyl sy’n llawn rhywogaethau ar gyfer peillwyr.

 

SAU2 – Creu rhwydwaith o lwybrau cylchol

10.48 Cyfeirier at y Prosiectau Cicdanio.

 

SAU3 – Cyflwyno mecanweithiau gwyrddu trefol ar hyd y Strand

10.49 Adolygu darpariaethau parcio ar hyd y Strand ac adennill rhai cilfachau parcio ar gyfer gwyrddu trefol, gan sicrhau bod digon o le’n cael ei gadw ar gyfer llwytho a pharcio i’r anabl. Ceir cyfle i ddefnyddio’r lle hwn wedi’i adennill ar gyfer plannu coed stryd, parcio beiciau, parciau bychain, seddi ac ardaloedd ychwanegol i gaffis.

 

SAU4 – Gwella’r ddarpariaeth gynefinoedd yng Ngardd Synhwyraidd Saundersfoot

10.50 Mae’r ardd synhwyraidd / parc poced presennol yn darparu ardal ar gyfer plannu addurnol ac ymlacio tawel o fewn Harbwr Saundersfoot. Byddai’r lle yn elwa ar well plannu gyda rhywogaethau blodeuol brodorol, sy’n goddef halen, yn ogystal â nodweddion cynefin ychwanegol fel pentyrrau boncyffion a gwestai pryfed i gynyddu manteision bioamrywiaeth y safle.

 

SAU5 – Hyrwyddo gwyrddu meysydd parcio presennol

10.51 Mae meysydd parcio Saundersfoot, gan gynnwys Brooklands Close a’r Harbwr, yn cynnwys darnau helaeth o dirlunio caled. Fodd bynnag, dylid edrych ar fân waith ad-drefnu er mwyn rhoi’r cyfle i blannu coed a gosod arwyddion dehongli o fewn y safleoedd hyn. Byddai gwyrddu ychwanegol yn y lleoliadau hyn hefyd yn dargyfeirio dŵr storm o garthffosydd cyfun ac yn helpu i leihau dylanwad afonol adeg llifogydd.

 

SAU6 – Gwyrddu’r B4316 ymhellach

10.52 Y B4316 yw’r prif lwybr drwy Saundersfoot, felly byddai ei wyrddu’n helpu i greu porth croesawgar i’r anheddiad ac yn darparu cysylltiadau â’r llwybr cyd-ddefnyddio arfaethedig. Byddai ailddefnyddio cafnau plannu segur ar hyd y llwybr yn darparu cynefin a choridorau cymudo ychwanegol i beillwyr hefyd. At hynny, byddai creu dolydd blodau gwyllt ar y llain laswellt wrth y gyffordd â’r A478 yn New Hedges yn helpu i greu porth croesawgar sy’n cysylltu â’r lleiniau ymyl ffordd presennol ar hyd Ffordd Arberth.

 

SAU7 – Cyflwyno ac adfer cafnau blodau uchel yn Harbwr Saundersfoot

10.53 Cyfeirier at y Prosiectau Cicdanio.

 

SAU8 – Datblygu cynllun rheoli ar gyfer Planhigfa Saundersfoot

10.54 Annog sefydlu grŵp diddordeb / grŵp cymunedol a datblygu cynllun ar gyfer rheoli’r safle yn y dyfodol, gan gynnwys darparu gwelliannau mynediad drwy Sandyhill Road. Byddai arolygon coed ac ecolegol o fudd i lywio arferion rheoli yn y dyfodol os nad ydynt eisoes ar gael.

 

SAU9 – Gwella tir diffaith ar Milford Street

10.55 Gellid defnyddio’r ardal bresennol o dir diffaith yng nghornel Milford Street a Brooklands Close efallai i wella’r cynefinoedd a ddarperir yn lleol. Byddai angen ymgysylltu â thirfeddianwyr i helpu i ddeall uchelgeisiau’r dyfodol ar gyfer y safle a’r potensial ar gyfer ‘defnyddiau yn y cyfamser’ fel dolydd blodau gwyllt.

 

SAU10 – Cyfoethogi ymylon ffordd gwyrdd y tu allan i Ysgol Saundersfoot

10.56 Nodweddir y lleiniau ymyl ffordd gwyrdd y tu allan i Ysgol Saundersfoot ar gyffordd y B4316 a Church Terrace gan laswelltir mwynder a dorrir yn fyr a llwyni nad oes angen fawr o gynnal a chadw arnynt. Byddai ailosod yr ardaloedd hyn â gerddi glaw sy’n denu peillwyr a rhywogaethau coed bach yn cynnig porth mwy croesawgar i’r ysgol, gan ddarparu ar gyfer peillwyr.

 

SAU11 – Estyn clustogfeydd torlannol ar hyd cyrsiau dŵr yn y gorllewin

10.57 Archwilio cyfleoedd i ehangu plannu coed torlannol ar hyd y ddau gwrs dŵr i’r gorllewin o Saundersfoot, gan gynnwys o amgylch Moreton Lane. Dylid defnyddio clustogfeydd ymyl cae ychwanegol ar dir amaethyddol i wella ansawdd dŵr a rheoli maetholion ffo i mewn i gyrsiau dŵr cyfagos, yn ogystal ag arafu llif dŵr i fyny’r afon o Saundersfoot.

 

SAU12 – Estyn ardaloedd o goetir torlannol, lleiniau cysgodi a chyfleoedd ymylon cae yn y gogledd

10.58 Cyfeirier at y Prosiectau Cicdanio.

Yn ôl i’r top

 

Pennod flaenorol:

Doc Penfro

 

Pennod nesaf:

Tyddewi

 

Dychwelyd i’r hafan:

Hafan