Cynnwys Tudalen:
Portread o Seilwaith Gwyrdd Trefdraeth
Trefdraeth
Ffigur 6.1: Trefdraeth
Portread o Seilwaith Gwyrdd Trefdraeth
6.1 Tref fechan yw Trefdraeth ar arfordir gogleddol Sir Benfro, wrth aber Afon Nyfer. A’i gwreiddiau yn y 12fed ganrif, mae’r dref yn cynnwys nifer o adeiladau rhestredig yn Ardaloedd Cadwraeth Trefdraeth a Pharrog Trefdraeth. Mae Ardal Gadwraeth Trefdraeth yn cwmpasu llawer o ganol y dref, tra bod Ardal Gadwraeth Parrog Trefdraeth yn dilyn y morglawdd yn y gogledd tuag at y Parrog. O fewn ardal isel yn agos at aber tywodlyd yr afon, mae’r dref yn meddu ar olygfeydd gogledd-ddwyreiniol ar draws Bae Trefdraeth. A hithau’n rhan o Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro, mae gan y dref gysylltiadau hamdden cryf â’r dirwedd ehangach hefyd.
6.2 Er bod llond llaw o fannau agored cyhoeddus o fewn craidd yr anheddiad, mae’r aber a’r morlin i’r gogledd yn cynnig coridor hamdden sylweddol. Mae hyn yn cynnwys rhan o Lwybr Arfordir Penfro, sy’n 186 milltir o Lwybr Cenedlaethol. I’r de o’r dref mae ardal fawr o dir mynediad agored ym Mynydd Carningli sy’n rhan o Fynyddoedd y Preseli ac sy’n boblogaidd ymysg cerddwyr. Mae nifer o lwybrau troed cyhoeddus yn cysylltu’r ardaloedd hyn o’r gogledd i’r de ac yn cynnig rhai cysylltiadau drwy ganol y dref a thuag at ymyl Aber Nyfer. Yn ogystal, mae llwybr Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol (NCN) 82 yn cysylltu Mynyddoedd y Preseli ag ymyl ddwyreiniol Trefdraeth cyn parhau ymlaen tuag at dref Nanhyfer yn y dwyrain, gan gynnig mynediad i gefn gwlad ehangach.
Ffigur 6.2: Cyfleoedd SG yn Nhrefdraeth
Prosiectau Cicdanio
NEW 4 – Gwella llwybrau glan afon cylchol
6.3 Gan adeiladu ar lwybr troed cyhoeddus Llwybr Pwll Cornel a agorwyd yn ddiweddar sydd yn dilyn ymyl ogleddol Afon Nyfer i’r dwyrain o Ben-y-bont, ceir cyfle i estyn llwybr presennol glan yr afon ar ochr ddeheuol y cwrs dŵr. Wedi’i greu yn 2021 gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (APCAP), mae’r llwybr hamdden newydd i’r gogledd o’r afon yn llwybr anffurfiol heb arwyneb wedi’i osod, wedi’i nodweddu gan lethrau serth yng nghoedwig Berryhill. Drwy sefydlu cysylltiadau â’r Hawl Tramwy Cyhoeddus newydd ym Mhont Newydd, byddai estyniad ar hyd glan y de yn creu cylchdaith ac yn hyrwyddo mynediad ehangach i gefn gwlad. Byddai cysylltiadau â Llwybr y Pererinion hefyd yn gwella cyfleoedd hamdden Afon Nyfer. Mae dyluniad y llwybr yn cynnig cyfle i hyrwyddo hygyrchedd a chynwysoldeb ar gyfer amrywiaeth o ddefnyddwyr, yn cynnwys beicwyr, cerddwyr a defnyddwyr cadair olwyn.
6.4 Byddai sefydlu’r llwybr cylchol yn gwella’r cynnig hamdden ar y raddfa leol a strategol. Byddai posibilrwydd integreiddio amrywiaeth o ddodrefn stryd cadarn, dehongliadau, arwyddion a nodweddion chwarae naturiol achlysurol nad oes angen fawr o gynnal a chadw arnynt ar hyd y llwybr hefyd yn helpu i drawsnewid y coridor yn ased hamdden. Fodd bynnag, byddai angen asesiad o’r cynefin naturiol ar y cynllun i benderfynu a yw cyflwyno mynediad i’r cyhoedd yn gynaliadwy ac a ddylid ei hyrwyddo. Byddai angen asesu gwrthdaro posib rhwng bioamrywiaeth a chyfleoedd mynediad hamdden. Dylid ystyried cyflwyno ‘cod ymddygiad’ ar gyfer ymddygiad priodol ar rannau ecolegol sensitif o’r llwybr i helpu i annog hamdden fwy cyfrifol.
Ffigur 6.3: NEW4
Buddion y prosiect
6.5 Ymhlith buddion y prosiect, fel y’u darlunnir yn Ffigur 6.4 isod, mae:
- Darparu cyfleoedd teithio llesol
- Buddsoddiad a gwell profiad i ymwelwyr
- Lle i fywyd gwyllt a gwytnwch ecolegol
- Chwarae, addysg a rhyngweithio â natur
- Rhyngweithio cymdeithasol a chydlyniant cymunedol
- Atgyfnerthu ymdeimlad o le
- Gwella iechyd a lles
Ffigur 6.4: Buddion
Mecanweithiau cyflawni
6.6 Byddai angen cyllid allanol sylweddol a dyrannu adnodd staff, yn seiliedig ar dirfeddianwyr cydweithredol ac asesiad cynaliadwyedd i benderfynu pa mor briodol yw cyflwyno mynediad i’r cyhoedd.
Partneriaid posibl
- APCAP
- Tirfeddianwyr
- Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)
Cost amlinellol
Cost uchel = >£1 miliwn
Cyfleoedd ariannu posibl
- Cyfoeth Naturiol Cymru
- APCAP
- Trafnidiaeth Cymru
Amserlen
Tymor hir = >5 mlynedd
6.7 Yn dilyn ymgynghoriad, ymgysylltu â thirfeddianwyr, arolygon a phroses ddylunio gydweithredol, bydd y prosiect yn debygol o gymryd tua 5 mlynedd i’w gyflawni.
Cyfyngiadau posibl
6.8 Mae’r prosiect yn debygol o fod yn gymhleth, gyda gofynion sy’n cystadlu. Mae hyn yn cynnwys y gofyniad am gyllid allanol sylweddol a chysylltu â thirfeddianwyr lleol i sicrhau ymrwymiad ar dir sydd dan berchnogaeth breifat. Byddai angen ymgysylltu â thirfeddianwyr a deiliaid tir er mwyn cyflwyno’r cyfleoedd hyn a thrafod eu heffeithiau ar ddefnydd tir presennol. Fodd bynnag, un agwedd anhysbys allweddol i’r prosiect fyddai’r amser sydd ei angen i gael caniatâd y tirfeddianwyr hyn.
6.9 Byddai gofyn clirio llystyfiant lleol ar hyd rhai rhannau o’r llwybr hefyd ar y prosiect. Byddai angen gwneud hyn er mwyn osgoi’r tymor nythu adar ac mewn cyswllt ag ecolegydd neu Glerc Gwaith Ecolegol (ECoW).
Cynnal a chadw a stiwardiaeth
6.10 Byddai angen gwaith cynnal a chadw blynyddol parhaus ar arwynebau caled y llwybr er mwyn sicrhau bod mynediad yn cael ei gynnal drwy gydol y flwyddyn. Byddai angen gwaith rheoli tirwedd hefyd i sicrhau bod llinellau gweld yn cael eu cadw ar draws y llwybr.
Monitro ar gyfer llwyddiant
6.11 Ceir cyfle i osod synwyryddion neu rifyddion i fonitro’r defnydd o’r llwybr fel rhan o’r rhwydwaith teithio llesol ehangach o fewn y sir. Byddai’r dull hwn yn helpu i fesur llwyddiant y buddsoddiad sylweddol ac yn llywio strategaeth hirdymor a chyflawni prosiectau tebyg yn y dyfodol.
Camau nesaf
6.12 Asesiad cynaliadwyedd fyddai’r dasg gychwynnol wrth ddatblygu’r prosiect. Os ystyrir eu bod yn dderbyniol yn dilyn canlyniadau’r asesiad, dylid cynnal astudiaeth ddichonoldeb ac ymarfer gwaith ar opsiynau. Dylai hyn hefyd ymgorffori asesiad ecolegol ac arolwg coed i BS5837: 2012 i archwilio’r goblygiadau ar fioamrywiaeth leol a gorchudd coed presennol. Gan weithio gyda’r gymuned, dylid edrych ar gyfleoedd ar gyfer gweithdai dylunio dan arweiniad y gymuned.
Ffigur 6.5: Trefdraeth
NEW9 – Cyflwyno cafnau blodau brodorol wrth safleoedd bws a mannau gorffwys
6.13 Mae safle trefol canol y dref yn rhwystro peillwyr rhag symud o’r dwyrain i’r gorllewin. Mae’r palmentydd cul o fewn patrwm presennol y strydoedd yn cyfyngu ar gyfleoedd i greu ymylon blodau gwyllt neu gynefinoedd mwy parhaus. Fodd bynnag, ceir cyfle i gyflwyno cafnau plannu gyda llwyni brodorol sy’n denu peillwyr wrth ymyl safleoedd bws (e.e. yng ngorllewin y dref, y Castle Inn a gwesty’r Golden Lion) a’r mannau gorffwys (e.e. wrth ymyl y fainc a’r rheseli beic wrth ymyl y Castle Inn, ar bwys Gwesty Llys Meddyg, y tu allan i’r Swyddfa Bost) i wella gwerth bioamrywiaeth. Dylid hefyd annog trigolion a busnesau lleol i osod blychau ffenestri neu fasgedi crog yn llawn o flodau brodorol, a fyddai hefyd yn cynyddu apêl weledol eu cartrefi neu flaenau siopau.
6.14 Mae mentrau fel ‘Buzz Stops’ yng Nghernyw, ‘Bee Stops’ mewn dinasoedd fel Derby a Chaerlŷr neu ‘Edible Bus Stops’ yn Stockwell, Llundain, i gyd wedi helpu i greu cynefin peillwyr a chynyddu ymwybyddiaeth am bwysigrwydd peillwyr. Gallai brandio tebyg yn Nhrefdraeth helpu i ennyn cefnogaeth trigolion
6.15 Dylid gosod planhigion lluosflwydd mwy o faint yng nghanol cafnau plannu, gyda phlanhigion yn lleihau o ran maint tuag at y tu allan, gyda phlanhigion ymlusgol ar yr ymyl. Os yw’r cafn yn erbyn wal, dylid rhoi’r planhigion mwyaf yn y cefn. Os oes digon o le, gellid cyfuno’r rhain i weithredu fel gerddi glaw i helpu i reoli dŵr ffo wyneb.
Ffigur 6.6: NEW9
Buddion y prosiect
6.16 Ymhlith buddion y prosiect, fel y’u darlunnir yn Ffigur 6.7 isod, mae:
- Buddsoddiad a gwell profiad i ymwelwyr
- Lle i fywyd gwyllt a gwytnwch ecolegol
- Chwarae, addysg a rhyngweithio â natur
- Atgyfnerthu ymdeimlad o le
- Gwella iechyd a lles
Ffigur 6.7: Buddion
Mecanweithiau cyflawni
6.17 Dylid cyflenwi cafnau plannu a basgedi crog yn unol ag adran gyflawni’r Strategaeth Peillwyr. Efallai y bydd gan fusnesau lleol ddiddordeb mewn noddi cafnau plannu y tu allan i’w siopau yn gyfnewid am hysbysebu neu hyrwyddo.
Partneriaid posibl
- Cyngor Tref Trefdraeth
- Grŵp Amgylchedd Trefdraeth
- Partneriaeth Natur Sir Benfro
- Tîm Cynnal a Chadw Amwynderau / Gofal Stryd Cyngor Sir Penfro (CSP)
- Perchnogion tai lleol
- Busnesau lleol
Cost amlinellol
Cost isel = <£250k
6.18 O ystyried y prinder lle yng nghanol y dref, mae’n debygol y bydd cafnau plannu yn llai o ran maint ac felly’n gymharol rad. Byddai cost bylbiau neu blanhigion plwg brodorol yn lleihau pe bai busnesau lleol yn eu noddi.
Cyfleoedd ariannu posibl
- Cronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur; a
- Nawdd busnesau lleol
Amserlen
Cam cyflym ymlaen = <1 flwyddyn
6.19 Gellir darparu ymyriadau bron yn syth yn dilyn rhywfaint o ymgysylltu â busnesau a phreswylwyr.
Cyfyngiadau posibl
6.20 Er mwyn i’r cafnau plannu sefydlu’n llwyddiannus, byddai angen gwaith cynnal a chadw arnynt. Heb hyn, efallai y byddan nhw’n mynd yn anniben ac yn colli cefnogaeth y gymuned. Gan y byddai’r cafnau mewn lleoliadau cyhoeddus, gall ymddygiad gwrthgymdeithasol amharu arnynt hefyd neu eu difrodi.
Cynnal a chadw a stiwardiaeth
6.21 Drwy gydol y gwanwyn a’r haf, dylid dyfrio’r cafnau plannu bob dydd. Pan fydd y planhigion yn eu blodau gallent elwa ar fwyd hylif potasiwm uchel bob pythefnos. Dylai cynwysyddion neu botiau allu draenio’n dda i atal dirlawnder. Er mwyn atal planhigion rhag mynd yn rhy wlyb ac oer dros y gaeaf, dylid eu codi ychydig oddi ar y ddaear a’u gosod yn erbyn cysgod wal. Gallai busnesau lleol neu berchnogion tai sydd agosaf at y cafnau plannu gynorthwyo gyda’r gwaith cynnal a chadw hwn.
Monitro ar gyfer llwyddiant
6.22 Gallai llwyddiant y cafnau plannu gael ei gofnodi gan nifer y pryfed peillio sy’n cael eu denu ganddynt ac amrywiaeth y rhywogaethau. Datblygwyd methodoleg Cyfrifiadau Blodau-Pryfed wedi’u Hamseru (Cyfrifiadau FIT) gan Gynllun Monitro Peillwyr y DU. Mae hyn yn golygu cyfrif y pryfed sy’n ymweld ag un o flodau targed y 14 rhywogaeth o flodau o fewn llain sgwâr 50cm wrth 50cm am 10 munud mewn tywydd da. Gallai pobl leol gymryd rhan yn hyn fel rhaglen wyddoniaeth dinasyddion.
6.23 Gallai llwyddiant hefyd gael ei fonitro drwy gofnodi sawl cafn plannu ychwanegol sydd wedi’u gosod gan drigolion neu fusnesau lleol.
Camau nesaf
6.24 Adolygu adran gyflawni’r Strategaeth Peillwyr i benderfynu ar y broses ac adolygu astudiaethau achos yn ymwneud â gosod cafnau plannu a basgedi crog.
6.25 Ymgynghori ag Asiant Cefnffyrdd De Cymru (SWTRA) a Thîm Cynnal a Chadw Amwynderau / Gofal Stryd CSP.
6.26 Ymgysylltu â thrigolion a busnesau lleol i ganfod diddordeb mewn noddi a/neu gynnal cafnau plannu yng nghanol y dref.
Ffigur 6.8: Trefdraeth
NEW17 – Creu gwlyptir wrth ymyl Gorsaf Pwmpio Carthion Cwm
6.27 Mae Trefdraeth yn union i’r de o Aber Afon Nyfer, o fewn ffin Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, ac yn agos at Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Clogwyni Trefdraeth ac Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Bae Ceredigion. Ar hyn o bryd mae’r dref yn defnyddio gollyngfa fôr hir sydd yn y Parrog i ollwng gormodedd gorlifoedd carthffos a storm.
6.28 Mae Gorsaf Pwmpio Carthion Cwm i’r gogledd-orllewin yn gweithredu fel gorsaf derfynol sy’n derbyn yr holl lifoedd cyfun o ddalgylch Trefdraeth. Ar hyn o bryd caiff llifoedd o 14l/s eu cludo i Waith Trin Dŵr Gwastraff Trefdraeth 800m i’r de. Mae’r elifion hyn wedi’u trin wedyn yn cael eu dychwelyd a’u rhyddhau drwy’r ollyngfa fôr hir. Er bod y system hon yn weithredol y rhan fwyaf o’r amser, pan fydd llif gormodol ceir digwyddiadau gorlif storm cyfun, lle mae elifion heb eu trin yn osgoi’r driniaeth ac yn llifo’n syth i’r ollyngfa fôr. Yn 2021, cafwyd cyfanswm o 2,423.25 o oriau o orlifiadau o’r fath yng Ngorsaf Pwmpio Carthion Cwm.
6.29 Byddai troi tir fferm gerllaw seilwaith Dŵr Cymru yn gynefin gwlyptir yn darparu triniaeth eilaidd ar gyfer elifion wedi’u trin, a hefyd clustog ar gyfer llifoedd storm cyn iddynt ollwng i’r ollyngfa fôr. Byddai angen ystyried lleoliad arfaethedig hyn yn ofalus, gan gynnwys ymgynghori’n gynhwysfawr â rhanddeiliaid a’r gymuned.
6.30 Mae posibilrwydd hefyd cydweithio â phrosiect CLEAN Afon Nyfer i ymgorffori monitro gwyddoniaeth dinasyddion o’r gwlyptiroedd er mwyn archwilio eu heffaith ar yr ollyngfa elifion ac ansawdd dŵr cysylltiedig.
.
Ffigur 6.9: NEW17
Buddion y prosiect
6.31 Ymhlith buddion y prosiect, fel y’u darlunnir yn Ffigur 6.10 isod, mae:
- Lleihau risg llifogydd
- Gwella ansawdd dŵr
- Buddsoddiad a gwell profiad i ymwelwyr
- Lle i fywyd gwyllt a gwytnwch ecolegol
- Chwarae, addysg a rhyngweithio â natur
- Gwella ansawdd aer a rheoleiddio sŵn
- Gwella iechyd a lles
- Dal a storio carbon a lliniaru effeithiau newid hinsawdd
Ffigur 6.10: Buddion
Darparu atebion seiliedig ar natur a gwasanaethau ecosystemau
6.32 Gall gwlyptiroedd gynorthwyo i liniaru llifogydd, gan storio dŵr gormodol mewn cyfnodau o law trwm, yn ogystal â’u prif swyddogaeth sef stripio ac ailgylchu maetholion. Mae’r cynefinoedd hyn hefyd yn darparu nifer o fanteision bioamrywiaeth.
6.33 Gall gwlyptiroedd wedi’u hadeiladu, os cânt eu dylunio’n gywir, drin elifion yn gynaliadwy gan leihau crynodiad halogyddion mewn modd tebyg i fecanweithiau cemegol neu fecanyddol mwy cymhleth. Mae’r elifion o gyfleusterau trin carthion fel arfer yn llawn o faetholion a gellir defnyddio gwlyptiroedd i helpu i leddfu’r broblem hon mewn ardaloedd sensitif megis Aber Afon Nyfer ac ACA Bae Ceredigion.
Mecanweithiau cyflawni
6.34 Byddai cydweithrediad a chyfranogiad Dŵr Cymru yn hanfodol i lwyddiant y prosiect hwn, ac felly’r cam cyntaf fyddai ymgysylltu â hwy a llunio astudiaeth ddichonoldeb, gan edrych ar y cyfraddau trwylif gofynnol, y lle sydd ar gael a’r opsiynau sy’n gysylltiedig â dylunio gwlyptiroedd.
6.35 Dylid ymgynghori â pheiriannydd dylunio priodol i ddarparu dyluniad o’r gwlyptiroedd. Dylid cyfrifo’r ardal bosibl ar gyfer y gwlyptiroedd a’i chytuno â thirfeddianwyr perthnasol. Dylid ymgynghori â’r gymuned leol er mwyn ei chynnwys gyda’r cynlluniau. Dylid cyflogi contractwyr y mae eu hangen i gwmpasu’r topograffi a chloddio ardaloedd dethol. Dylid hefyd ystyried deunyddiau sydd eu hangen i greu’r gwlyptiroedd fel deunyddiau swbstrad a llystyfiant mor lleol â phosib.
6.36 Mae’n bosibl y gellid defnyddio’r prosiect hwn i greu credydau masnachu maetholion yn fodd o ariannu’r prosiect yn gyfan gwbl neu’n rhannol, gyda chynllun peilot yn cael ei redeg gan EEP-Ecobank ar gyfer credydau maetholion sy’n gweithredu o fewn dalgylch Aberdaugleddau er bod statws y prosiect hwn yn aneglur ar hyn o bryd.
6.37 Dylid defnyddio gwaith monitro gwyddoniaeth dinasyddion a monitro gorlif storm cyfun i helpu i lywio a monitro’r prosiect. Er bod astudiaethau gwyddonol y tu allan i gwmpas y cyfnod hwn o waith, byddai croeso hefyd i unrhyw wybodaeth a geir gan wyddoniaeth dinasyddion sy’n ymwneud ag iechyd yr amgylchedd morol lleol i gefnogi’r prosiect hwn. Dylid cynnal asesiad ecolegol o safleoedd posib cyn eu dewis.
Partneriaid posibl
- CLEAN Afon Nyfer
- Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru
- Dŵr Cymru
- Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)
- Fforwm Arfordirol Sir Benfro
- Grŵp Bywyd Gwyllt Morol Bae Ceredigion
Cost amlinellol
Cost isel i ganolig = <£250k – £1 miliwn
6.38 Byddai’r costau’n cynnwys prynu neu rentu tir, dylunio’r gwlyptiroedd gan beiriannydd arbenigol, caffael planhigion a chostau sy’n gysylltiedig â chloddiad a gosod y gwlyptiroedd.
Cyfleoedd ariannu posibl
- Dŵr Cymru
- Prosiect Pedair Afon LIFE
- Credydau maetholion gan ddefnyddio cytundeb Adran 106
- Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
- Cronfa Arloesi Ofwat
Amserlen
Tymor canolig = 1-5 mlynedd
6.39 Mae hyd y rhaglen hon a ragwelir yn cynnwys amser er mwyn dylunio’r gwlyptir, llunio cytundebau gyda pherchenogion tir, adeiladu a phlannu’r gwlyptir.
Cyfyngiadau posibl
6.40 Un o’r cyfyngiadau allweddol ar gyfer y prosiect fyddai sicrhau cytundebau tirfeddianwyr. Byddai’n hanfodol hefyd sicrhau bod y gwlyptiroedd gerllaw’r seilwaith trin carthion er mwyn osgoi ail-lwybro gollyngfeydd carthion a fyddai’n cynyddu amser a chostau’r prosiect. Mae bacteria sy’n gwrthsefyll gwrthfiotigau yn cronni mewn gwlyptiroedd yn bryder a dylid ystyried hyn wrth ddylunio’r gwlyptiroedd.
6.41 Byddai angen i asesiad ecolegol o’r safle gael ei gynnal gan ecolegydd gyda’r holl waith safle’n cael ei oruchwylio o bosibl gan Glerc Gwaith Ecolegol (ECoW).
Cynnal a chadw a stiwardiaeth
6.42 Nid oes fawr iawn o waith cynnal a chadw ynghlwm wrth wlyptiroedd, na llawer iawn o gostau gweithredu, os o gwbl, gan nad oes angen pŵer arnynt ac maent yn gyffredinol yn systemau hunan-addasu dibynadwy. Fodd bynnag, byddai angen cynnal a chadw ychydig o weithiau’r flwyddyn i dynnu malurion o unrhyw ollyngfeydd, ailosod unrhyw bibellau sydd wedi’u difrodi, cael gwared ar unrhyw rywogaethau planhigion goresgynnol a allai fod yn drech na’r planhigion gwlyptir, lleihau croniad gwaddodion a chadw llygad ar uniondeb strwythurol agweddau strwythurol y dyluniad. Byddai cytundebau parhaus gyda Dŵr Cymru neu ddeiliaid tir ar gyfer mynediad yn hanfodol.
Monitro ar gyfer llwyddiant
6.43 Yn amodol ar argaeledd cyllid, dylid monitro llwyddiant y prosiect drwy wyddoniaeth dinasyddion syml. Gallai technegau gynnwys monitro ansawdd dŵr gan ddefnyddio offer llaw syml.
Camau nesaf
6.44 Byddai cydweithio Dŵr Cymru yn hanfodol i sicrhau llwyddiant y prosiect hwn, ac felly’r cam cyntaf fyddai dechrau trafodaeth gyda Dŵr Cymru ac ymrwymo i gytundeb cydweithio. Gall hyn hefyd olygu bod modd cael at gyllid ar gyfer y prosiect, naill ai gyda Dŵr Cymru neu’n rhan o Gronfa Arloesi Ofwat.
6.45 Ymgysylltu â thirfeddianwyr i ymrwymo i gytundebau i brynu neu rentu eu tir. Ymgysylltu â’r gymuned leol i greu cefnogaeth ac ymrwymiad i’r prosiect.
Ffigur 6.11: Trefdraeth
Rhestr Hir o Brosiectau
NEW1 – Cyflwyno plannu ffiniau ar raddfa fach yn y parc sglefrio a’r maes chwarae
6.46 Ceir cyfle i blannu coed ar hyd ffiniau’r parc sglefrio, cae chwarae, y cae chwarae a’r ardaloedd rhwng y cyrtiau tennis a’r cae chwarae. Byddai hyn yn cynnwys plannu coed ffrwythau bychain. Dylai unrhyw blannu anelu at gynnal llinellau gweld da ar draws y safle er mwyn cynnal ymdeimlad o ddiogelwch a gwyliadwriaeth naturiol. Dylai unrhyw blannu newydd hefyd ystyried cyfyngiadau lleol, gan gynnwys yr agosrwydd at yr Heneb Gofrestredig.
NEW2 – Gwella cysylltiadau rhwng darnau presennol o goetir, gan gynnwys coetir hynafol
6.47 Mae nifer o leiniau o goetir yn uniongyrchol i’r de ac i’r gorllewin o’r anheddiad, gan gynnwys ardaloedd o orchudd coed gerllaw Castell Trefdraeth. Dylid datblygu cynigion i adfer a chysylltu ardaloedd o goetir darniog drwy sefydlu ardaloedd ychwanegol o blannu coed. Dylai cynigion fabwysiadu egwyddorion ‘y goeden gywir yn y lle cywir’ er mwyn hyrwyddo integreiddio i’r dirwedd a sicrhau bod coridorau coetir newydd yn sefydlu’n llwyddiannus.
NEW3 – Cyflwyno clustogfeydd coetir torlannol a chyfleoedd ymyl cae i liniaru llifogydd
6.48 Tra bod mwyafrif y dref yn gorwedd allan o’r parth llifogydd o amgylch Afon Nyfer, effeithiodd digwyddiadau llifogydd yn 2014 ar ffyrdd ac eiddo ar bwys y Parrog. Dylid gosod mesurau fel plannu coed i fyny’r afon a chynyddu ymylon caeau ar hyd cyrsiau dŵr i ddarparu clustogfa o dir amaethyddol cyfagos, yn ogystal â diogelu rhag ymchwyddiadau llanw a lleihau erydiad y glannau. Mae’r mater hwn yn arbennig o bwysig i’r gogledd o’r aber lle mae ffiniau caeau amaethyddol yn llai trwm eu llystyfiant. Mae gan y prosiect y potensial i ymateb i nifer o faterion niweidiol posib sy’n effeithio ar fywyd morol, gan gynnwys gwaddodion a llwythi maetholion yn ymuno â’r amgylchedd. Gallai rhagor o wybodaeth gael ei defnyddio i addasu’r prosiect i dargedu meysydd sy’n peri pryder posib.
NEW4 – Gwella llwybrau glan afon cylchol
6.49 Cyfeirier at y Prosiectau Cicdanio.
NEW5 – Archwilio cysylltiadau teithio llesol â Thraeth Mawr Trefdraeth
6.50 Ar hyn o bryd, mae llwybr cerdded rhwng Trefdraeth a Thraeth Mawr ar gael ar hyd Llwybr Arfordir Cymru. Ceir cyfle i uwchraddio’r llwybr hwn i’r gogledd o Afon Nyfer ar gyfer cerddwyr i annog ei ddefnyddio a lleihau tagfeydd traffig yn Nhrefdraeth ei hun. Dylid hefyd gosod arwyddion dynodi llwybrau sy’n hysbysebu amseroedd teithio bras i gerdded, er enghraifft, 30 munud o daith rhwng Clwb Cychod Trefdraeth a Thraeth Mawr.
NEW6 – Cyflwyno plannu coed stryd ac ymylon ffordd ‘gwylltach’ ar Ffordd y Parrog
6.51 Ar y cyfan, mae’r strydoedd yn Nhrefdraeth yn gul, yn aml heb fawr o le ar y palmant a phrinder cyfleoedd plannu coed stryd. Fodd bynnag, mae rhai ardaloedd preswyl ar hyd Ffordd y Parrog a Maes Ingli yn rhoi cyfleoedd da i blannu coed stryd, gosod lle parcio beiciau ac ymylon ffordd ‘gwylltach’ o fewn ardaloedd presennol o dirwedd feddal. Byddai plannu ffiniau ychwanegol ym Maes Parcio Cyhoeddus Ffordd y Parrog yn cynnwys plannu mewn ardaloedd glaswellt, yn ogystal â mân ad-drefnu’r cilfachau parcio er mwyn gwaredu llawr caled.
NEW7 – Cyflwyno plannu ymyl ffordd ar raddfa fach ar y ddynesfa at Drefdraeth o’r A487
6.52 Yr A487 yw’r prif lwybr o fewn y dref, gyda llwybrau teithio llesol yn cael eu cynnig ar hyd y dynesfeydd dwyreiniol a gorllewinol. Dylid ystyried plannu coed ac addasiadau i’r drefn torri gwair er mwyn hyrwyddo tyfiant blodau gwyllt ar yr ardaloedd lletach o ymyl ffordd ar y ddynesfa at Drefdraeth o’r gorllewin a’r dwyrain (y tu hwnt i’r arwyddion ‘Croeso i Drefdraeth’). Byddai’r ymyriad hwn yn diffinio’r porth i’r anheddiad.
NEW8 – Amrywiaethu’r plannu yn y Gerddi Cymunedol
6.53 Mae Gerddi Cymunedol Trefdraeth ar groesffordd Stryd yr Eglwys Fair a Stryd y Castell yn darparu ardal ‘wylltach’ brin yng nghanol y dref. Byddai cael gwared ar y planhigion addurnol yn yr ardal o balmant is a phlannu blodau a llwyni brodorol yn eu lle yn rhoi mwy o werth i beillwyr. Dylid llacio trefn dorri’r ardal laswelltog uchaf gyda’r fainc a hau blodau gwyllt i greu ystod o gynefinoedd peillwyr. Dylid osgoi defnyddio plaladdwyr neu chwynladdwyr.
NEW9 – Cyflwyno cafnau blodau brodorol wrth safleoedd bws a mannau gorffwys
6.54 Cyfeirier at y Prosiectau Cicdanio.
NEW10 – Creu fflora daear coetir ar hyd hawl tramwy cyhoeddus Afon Nyfer
6.55 Wrth gydweithio â Grŵp Llwybrau Trefdraeth a phrosiect CLEAN, cyflwyno gwelliannau i waith rheoli coetir ar hyd Llwybr Arfordir Cymru rhwng Pen-y-bont a’r Parrog. Cynnal ardaloedd agored ac amrywiaeth strwythurol, gan gynnwys daear foel a phentyrrau boncyffion, er mwyn i olau gyrraedd blodau gwyllt brodorol a fflora daear coetir. Dylid edrych ar gyfleoedd i reoli a chael gwared ar glymog Japan a phidyn-y-gog.
NEW11 – Hyrwyddo llai o dorri gwair ym man agored Barwniaeth Cemaes
6.56 Mae’r borfa ar yr ardal agored sy’n eiddo i Farwniaeth Cemaes wrth ymyl Clwb Cychod Trefdraeth yn cael ei thorri’n fyr yn aml. Byddai newidiadau mewn arferion rheoli tirwedd i hyrwyddo sefydlu dôl blodau gwyllt yn cynnal y swyddogaeth fel man cymunedol, gan ddarparu cynefin y mae mawr ei angen ar gyfer peillwyr. Dylid cyflwyno trefn debyg i reoli dolydd ar draws ardaloedd glaswellt mwynder eraill o fewn y dref (fel sy’n briodol).
NEW12 – Sefydlu rhandir cymunedol i bobl a bywyd gwyllt
6.57 Gweithio gyda’r gymuned i ystyried lleoliad posib ar gyfer rhandir cymunedol, gan ateb y galw am le tyfu cymunedol. Byddai cyflawni’r prosiect hwn yn llwyddiannus yn ddibynnol ar ganfod safle addas a chynnal asesiad ecolegol. Dylid annog tenantiaid lleiniau i ddefnyddio llai o blaladdwyr a chwynladdwyr, gan ddewis gweithio’n organig yn hytrach. Mae cynnal rhandir yn gyfle gwerthfawr i gadw cynefinoedd bywyd gwyllt ac annog adar, gwenyn a pheillwyr eraill. Dylid hefyd edrych ar gyfleoedd ychwanegol am byllau, ymylon caeau sy’n denu peillwyr a choed perllan.
NEW13 – Hyrwyddo dad-ddofi gerddi preifat
6.58 Datblygu menter gwe wyllt ar draws gerddi preifat Trefdraeth gan ganolbwyntio’n benodol ar berchnogion ail gartrefi i ddangos sut mae dad-ddofi’n gallu lleihau gwaith cynnal a chadw. Dylid dosbarthu taflenni i gartrefi yn Nhrefdraeth yn nodi camau syml y gall deiliaid eu cymryd i wella darpariaethau bywyd gwyllt yn eu gardd. Er enghraifft, dylid annog trigolion i lacio’r drefn torri gwair a chymryd rhan yn ‘Dim Torri Gwair ym Mis Mai’, gosod ardaloedd bach o ddŵr, pentyrrau boncyffion a blychau bywyd gwyllt. Dylid hefyd estyn y fenter i safleoedd carafanau (fel sy’n briodol).
NEW14 – Cyflwyno dynodi llwybrau i Dir Comin Carningli a Mynyddoedd y Preseli
6.59 Gweithio mewn partneriaeth â Grŵp Llwybrau Trefdraeth, ymchwilio i gynigion i ddynodi llwybrau’n well i gefn gwlad ehangach o amgylch Trefdraeth (gan gynnwys i Dir Comin Carningli a Mynyddoedd y Preseli). Dylid ymgorffori byrddau dehongli, gan gynnwys deunydd addysgol a mapiau llwybrau hamdden cylchol, i wella profiad ymwelwyr.
NEW15 – Cefnogi sefydlu gardd natur Ysgol Bro Ingli
6.60 Gweithio gydag Ysgol Bro Ingli i nodi darnau o dir ar gyfer gwella cynefinoedd; gan gynnwys ardaloedd o lai o dorri gwair, pentyrrau boncyffion a gwestai pryfed. Pe bai digon o le yn cael ei nodi, dylid cyflwyno gardd natur synhwyraidd gyda chyfleoedd ar gyfer lle ystafell ddosbarth awyr agored, offer addysg natur, tyfu bwyd ar raddfa fach a chwarae synhwyraidd.
NEW16 – Hyrwyddo Mynwent Brynhyfryd yn safle caru gwenyn
6.61 Ar hyn o bryd, mae Mynwent Brynhyfryd yn cael ei chydnabod fel lleoliad Caru Gwenyn oherwydd gwaith partneriaid yn rheoli’r lleoliad cyfagos ar gyfer peillwyr. Dylid cefnogi’r gwaith hwn er mwyn helpu i gynnal yr achrediad hwn drwy reoli dolydd blodau gwyllt a chynyddu cynefin peillwyr (megis daear foel a phren marw). Dylid hefyd edrych ar gyfleoedd i efelychu’r arfer da hwn ym mynwent Eglwys y Santes Fair.
NEW17 – Creu gwlyptir wrth ymyl Gorsaf Pwmpio Carthion Cwm
6.62 Cyfeirier at y Prosiectau Cicdanio.
NEW18 – Sefydlogi twyni a Thraeth Mawr Trefdraeth
6.63 Mae cynllun rheoli traethlin cyfredol Traeth Mawrth a’r twyni cysylltiedig tan 2025 yn hyrwyddo egwyddor ‘dal y llinell’ gydag ‘adliniad wedi’i reoli’ wedi’i gynllunio erbyn 2050 gydag erydiad disgwyliedig tafod tywod Bennet. Ceir cyfle i gynnwys technegau sefydlogi twyni tywod, fel plannu rhywogaethau lled-naturiol i gyfyngu ar erydiad a rheoli llwybrau cerdded i atal erydiad y twyni. Mae gan y dull hwn y potensial i fod o fudd i fywyd gwyllt, darparu buddion twristiaeth a lleihau effeithiau o dywydd garw ar yr amgylchedd lleol.
NEW19 – Cyflwyno ymyriadau Systemau Draenio Cynaliadwy (SDC) i helpu i liniaru arllwysiadau Gorlif Carthffos Gyfun
6.64 Byddai ymyriadau Systemau Draenio Cynaliadwy (SDC) sy’n gweithredu i ddargyfeirio dŵr storm o Orlifoedd Carthffos Cyfun yn helpu i leihau’r pwysau ar seilwaith yn Nhrefdraeth adeg llifogydd. Byddai integreiddio ymyriadau SDC yn helpu i leihau cyfaint y dŵr wyneb sy’n cael ei sianelu’n uniongyrchol trwy rwydweithiau o bibellau. Ceir cyfle hefyd i gydweithio â Chyngor Tref Trefdraeth i archwilio lleoliadau ar gyfer ymyriadau SDC yn y treflun.
Pennod flaenorol:
Arberth
Next Chapter
Neyland
Return to homepage:
Hafan