Mae gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 18 Aelod, 12 ohonynt yn cael eu henwebu gan Gyngor Sir Penfro. Mae’r chwe Aelod arall yn cael eu penodi - yn dilyn proses gyfweld - gan Lywodraeth Cymru.
Fel arfer, mae Aelodau’n treulio tri i bedwar diwrnod y mis ar fusnes ffurfiol Awdurdod y Parc Cenedlaethol h.y. yn mynychu Pwyllgorau neu gyfarfodydd cysylltiedig eraill. Maen nhw hefyd yn treulio peth amser yn cynrychioli’r Awdurdod mewn digwyddiadau allanol, fel gweithdai, cynadleddau, seminarau, digwyddiadau lansio a chyflwyniadau, a drefnir gan yr Awdurdod a mudiadau partner.
Disgwylir i Aelodau weithredu er budd y Parc Cenedlaethol yn ei gyfanrwydd, waeth beth yw eu cefndir, ac i hyrwyddo’r ddau ddiben y dynodwyd y Parc ar eu cyfer, gan adlewyrchu persbectifau lleol a chenedlaethol.
Yn rhinwedd eu dyletswyddau, mae Aelodau hefyd yn gorfod cadw at Godau a Phrotocolau penodol wrth gyflawni eu dyletswyddau:
- Côd Ymddygiad Aelodau
- Côd Arfer Da i Aelodau ar Gynllunio
- Y Cod Ymddygiad ar gyfer aelodau awdurdodau lleol yng Nghymru
- Polisi Gwrth-Dwyll a Llwgrwobrwyo
Telir cyflog i aelodau yn unol â’r Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Gweler y Rhestr cydnabyddiaeth ariannol Aelodau.
Telir ad-daliad o gyfraniad tuag at gostau gofal i Aelod neu Aelod Cyfetholedig sydd â chyfrifoldeb gofalu am blant neu oedolion dibynnol, neu ofal personol sy’n ofynnol, cyn belled â bod yr Aelod yn mynd i gostau wrth ddarparu’r cyfryw ofal tra’n ymgymryd â dyletswyddau a gymeradwywyd ar ran yr Awdurdod.
Gwneud penderfyniadau
Ein haelodau yw’r bobl sy’n gwneud y penderfyniadau; maen nhw’n gyfrifol am osod polisïau a blaenoriaethau, gan sicrhau bod adnoddau’n cael eu defnyddio’n dda ac arian yn cael ei wario’n dda. Yna, mae’r swyddogion a gyflogir gan yr Awdurdod yn gweithio yn ôl y polisïau hyn ac yn gweithredu unrhyw benderfyniadau a wnaed gan Aelodau.
Yn y pendraw, ein Prif Weithredwr (Swyddog y Parc Cenedlaethol), Tegryn Jones, sydd â chyfrifoldeb dros waith y swyddogion.
Rydyn ni’n fudiad gweddol fach sydd â chyllideb gyfyngedig, ac felly mae cyflawni ein dibenion statudol yn dipyn o her ac yn dibynnu ar waith partneriaeth gyda phobl leol ac amrywiaeth o gyrff eraill.
Mae’n waith digon cymhleth ac, er mwyn helpu pawb i ddeall sut mae penderfyniadau’n cael eu gwneud, a pham, rydyn ni wedi llunio dwy ddogfen law yn llaw â’n partneriaid a chymunedau lleol;
Mae’r dogfennau hyn yn cael eu llunio ar ôl cryn ymgynghoriad gyda phobl leol a mudiadau sydd â diddordeb yn y Parc. Ond, nid yw polisïau cyffredinol yn gallu delio gyda phob sefyllfa sy’n codi ac, weithiau, mae yna wrthdaro rhwng polisïau. Gwaith yr Aelodau yw cynrychioli buddiannau’r Parc Cenedlaethol yn ei gyfanrwydd, a sicrhau cydbwysedd rhwng unrhyw bwyseddau sy’n gwrthdaro.
Fel arfer, mae Aelodau’r Cyngor Sir yn cael eu penodi am bedair blynedd, hyd nes etholiad nesaf yr awdurdod lleol. Mae Aelodau Llywodraeth Cymru hefyd yn cael eu penodi am hyd at bedair blynedd, fel arfer, a gellir ymestyn y cyfnod hwn i uchafswm o 10.
Dewch i gwrdd â teulu’r Parciau Cenedlaethol
Mae’r teulu o 15 Awdurdod Parc Cenedlaethol ar draws Prydain – y cyfeirir atyn nhw’n swyddogol fel Parciau Cenedlaethol y DU – yn cynnal cynhadledd a gweithdai. Cynhelir y digwyddiadau hyn yn ardal pob Awdurdod, yn ei thro, ac mae Aelodau’n cwrdd i drafod materion sydd o ddiddordeb/o bryder i bawb ac i rannu arfer gorau.
Mae yna Parciau Cenedlaethol Cymru hefyd, sy’n cynnal Gweithdy yn yr Hydref bob blwyddyn ar gyfer tri Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol yng Nghymru. Mae Prif Weithredwyr, Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion tri Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol yng Nghymru yn cwrdd yn chwarterol i drafod materion sy’n berthnasol i Gymru.