Cronfa Datblygu Cynaliadwy (CDC)

Newid Hinsawdd Cymunedol

Beth yw’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy?

Mae Cronfa Datblygu Cynaliadwy Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn gronfa sy’n cefnogi prosiectau cymunedol yng nghyffiniau Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Ym mis Mehefin 2020, cymerodd Pwyllgor Awdurdod y Parc Cenedlaethol benderfyniad i newid pwyslais y Gronfa. Bydd y gronfa bellach yn cefnogi prosiectau sy’n cael eu harwain gan y gymuned sy’n cyfrannu at ostwng carbon ac yn helpu i ymateb i’r argyfwng hinsawdd.

Sustainable Development Fund SDF logo

Beth yw bwriad y Gronfa?

Ein bwriad yw lleihau allyriadau carbon lleol yn ein hamgylchedd ac ymateb i’r argyfwng hinsawdd.

 

Beth rydych chi’n ei gyllido?

Rydym yn edrych i ariannu prosiectau sy’n gallu cyflawni un o dri phrosiect lleihau carbon penodol a restrir isod. Mae pedwerydd opsiwn hefyd ar gyfer prosiect sy’n cael ei arwain gan y gymuned sy’n lleihau carbon ac yn gallu dangos sut maen nhw’n helpu i liniaru’r argyfwng hinsawdd.

 

Gall ymgeiswyr wneud cais am brosiectau i gyflawni’r canlynol:

a. Gosod cyfleusterau cynhyrchu ynni adnewyddadwy i adeilad cymunedol h.y. paneli solar

b. Menter i hyrwyddo’r broses o leihau allyriadau carbon mewn trafnidiaeth h.y. gosod man gwefru trydan i feiciau neu geir neu drwy gefnogi mynediad i deithio mewn grwpiau

c. Gosod cyfleuster cymunedol sy’n lleihau gwastraff h.y. ffynnon ddŵr

ch. Unrhyw fenter gymunedol arall sy’n lleihau carbon.

 

Pwy sy’n gallu gwneud cais?

Rydych yn gymwys i wneud cais os yw eich mudiad ymhlith un o’r canlynol (rhoddir blaenoriaeth i grwpiau a sefydliadau lleol):

  • mudiad gwirfoddol neu gymunedol
  • elusen gofrestredig
  • grŵp neu glwb a gyfansoddwyd
  • cwmni nid-er-elw neu Gwmni Buddiannau Cymunedol
  • menter gymdeithasol
  • corff statudol (gan gynnwys cyngor tref, plwyf a chymuned)

 

Ni allwn gymryd ceisiadau gan:

  • unigolion
  • unig fasnachwyr
  • cwmnïau sydd â’r nod o gynhyrchu elw yn bennaf i’w ddosbarthu’n breifat
  • mudiadau y tu allan i Sir Benfro.

 

Ar beth allwn ni wario’r arian?

Gallwn ariannu’r gwariant cyfalaf a refeniw canlynol:

a. Gosod cyfleusterau cynhyrchu ynni adnewyddadwy i adeilad cymunedol h.y. paneli solar
b. Menter i hyrwyddo’r broses o leihau allyriadau carbon mewn trafnidiaeth h.y. gosod man gwefru trydan i feiciau neu geir neu drwy gefnogi mynediad i deithio mewn grwpiau
c. Gosod cyfleuster cymunedol sy’n lleihau gwastraff h.y. ffynnon ddŵr
ch. Unrhyw fenter gymunedol arall sy’n lleihau carbon.

Erbyn pryd dylid cwblhau’r prosiect?

Rydym yn gobeithio y bydd y rhan fwyaf o’r prosiectau yn cael eu cyflawni rhwng cyfnod o 6 i 18 mis.

 

A oes gofynion arian cyfatebol?

Oes, yn ddelfrydol rydym yn chwilio am gyfraniad cymunedol o rhwng 20% – 50% y gellir ei gynnig fel arian parod neu nawdd ymarferol.

 

Faint o arian sydd ar gael?

Yn y flwyddyn ariannol 2023/24, mae gan y Gronfa Datblygu Cynaliadwy gyfanswm o £100,000 ar gael i ariannu prosiectau yn Sir Benfro sy’n cefnogi’r broses o leihau carbon ac yn helpu i ymateb i’r argyfwng hinsawdd.

 

Faint allwn ni wneud cais amdano?

Nid oes gennym isafswm nac uchafswm y gallwch wneud cais amdano, ond rydym yn rhagweld y bydd prosiectau sy’n cael eu hariannu rhwng £5,000 i £25,000. Os yw eich prosiect yn fwy neu’n llai na hyn, cysylltwch â ni.

 

A oes angen i mi gyflenwi dyfynbrisiau?

Oes, bydd angen i chi atodi tystiolaeth o un dyfynbris ar gyfer eitemau dan £10,000, dau ddyfynbris ar gyfer eitemau £10,001-£24,999 a chaffaeliad agored ar gyfer eitemau dros £25,000.

 

Sut i wneud cais?

  1. I ddechrau, cwblhewch y rhestr wirio cymhwysedd ar-lein i gadarnhau eich bod yn gymwys.
  2. Os ydych yn gymwys, cwblhewch y ffurflen gais ar-lein / lawrlwythwch y ffurflen gais o’n gwefan.
  3. Gall ceisiadau gael eu gwneud yn Gymraeg neu’n Saesneg.
  4. Cadwch lygad ar y wefan am y dyddiadau cau diweddaraf. Gwnewch yn siŵr bod eich cais yn cyrraedd yn brydlon! Bydd y dyddiad cau nesaf yn cael ei gyhoeddi yma cyn gynted ag y bydd wedi’i gadarnhau.
  5. E-bostiwch eich cais ynghyd â’ch cyfrifon blynyddol, cyfriflen banc ddiweddar a’ch dogfen/cyfansoddiad llywodraethu, at e-bostiwch sdf@pembrokeshirecoast.org.uk.

Pa mor hir y bydd yn rhaid i ni aros am benderfyniad?

Byddwn yn cydnabod eich cais ar e-bost.

Disgwyliwn wneud penderfyniad am eich prosiect o fewn tri mis, ond bydd yn gynt yn y rhan fwyaf o achosion.

 

Oes dyddiadau cau?

Oes, mae dau ddyddiad cau y flwyddyn. Cadwch lygad ar y wefan am y dyddiadau cau diweddaraf.

 

Ydy fy mudiad yn gallu cael mwy nag un grant ar yr un pryd?

Gall mudiadau ailymgeisio os ydynt wedi cwblhau prosiect blaenorol o’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy ac yn gallu dangos bod y gwaith wedi’i gwblhau a bod gwerthusiad wedi’i anfon ar ôl cwblhau’r prosiect. Mewn amgylchiadau eithriadol, efallai y byddwn yn ystyried grant ychwanegol. E-bostiwch sdf@pembrokeshirecoast.org.uk i drafod yn y lle cyntaf.

Dyddiad cau nesaf ar gyfer ceisiadau

Nid ydym yn derbyn unrhyw geisiadau newydd ar hyn o bryd. Bydd gwefan y Gronfa Datblygu Cynaliadwy yn cael ei diweddaru pan fydd y cyfnod ariannu nesaf yn cychwyn.

SDF Case Studies

The Sustainable Development Fund (SDF) has supported more than 200 projects since 2000

Find out more about how the Sustainable Development Fund works in practice with local organisations committed to bringing sustainability to the National Park. These pages may also help you to decide whether you would like to apply for SDF funding you

Read More on SDF Case Studies