Astudiaethau Achos Cronfa Datblygu Cynaliadwy (CDC)

Cronfa Datblygu Cynaliadwy

Mae’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy wedi cynorthwyo dros 200 o brosiectau ers 2000. Cymerwch olwg ar yr astudiaethau achos hon o’r Gronfa Datblygu’n Gynaliadwy (CDG) i ddysgu mwy am sut mae cyllid y CDG yn gweithio’n ymarferol â sefydliadau lleol sydd wedi ymrwymo i ddod â chynaliadwyedd i Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Clwb Pêl-droed Chwaraeon Abergwaun

Lleoliad: Abergwaun

Grant CDC a ddyfarnwyd: £5,760

Aeth Clwb Pêl-droed Abergwaun ati i leihau eu hôl troed carbon drwy newid y modd yr oeddent yn cynnal eu meysydd chwaraeon. Yn flaenorol, defnyddiwyd tractor tanwydd disel i dorri’r borfa i’r lefel angenrheidiol ar gyfer chwarae chwaraeon, a defnyddiwyd strimiwr petrol i dorri’r cloddiau. Roedd y gost o gynnal y peiriannau hyn a thalu am y tanwydd yn uchel. Mewn ymgais i leihau eu heffaith ar  yr amgylchedd, ynghyd â lleihau’r costau ariannol, bwriad y clwb oedd disodli’r peiriannau tanwydd ffosil â fersiynau trydan y gellid eu gwefru drwy ddefnyddio paneli solar. Roedd y clwb eisoes â phanel solar a system batri i wefru’r peiriannau newydd o ynni 100% adnewyddadwy.

 

 

Roedd y grant CDC yn hwyluso’r broses o brynu peiriant torri porfa trydan a strimiwr trydan. Drwy brynu’r offer newydd hwn, mae’r clwb yn amcangyfrif y byddant yn arbed 200 litr o ddisel y flwyddyn, sy’n cyfateb i 500 kg o CO2 . Hefyd mae’r arian a arbedir yn sylweddol: yn ogystal â’r gostyngiad yn y tanwydd a ddefnyddir, mae llai o waith cynnal a chadw ar yr offer newydd nag oedd ar y peiriannau disel a phetrol.

“Yr effaith gyffredinol oedd lleihau faint o ddisel yr oedd angen i ni ei brynu yr haf hwn a thrwy hynny lleihau faint o garbon sy’n cael ei ryddhau.”

Mae’r peiriant torri-porfa hunanyriant hefyd â’r gallu i domwelltu, sy’n golygu y bydd y grŵp yn lleihau eu defnydd o wrtaith masnachol ar y meysydd. Mae’r peiriant hefyd yn ysgafnach na’r tractor, gan leihau cywasgu’r pridd.

EcoDewi

Lleoliad: Penrhyn Dewi

Grant CDC a ddyfarnwyd: £19,760

“Datgarboneiddio dan arweiniad y gymuned: mae hyn yn golygu bod pobl leol yn helpu gyda materion lleol a bod o fudd i’n hamgylchedd naturiol lleol.”

EcoDewi yw’r sefydliad ambarél sy’n cyfarwyddo llu o brosiectau amgylcheddol a chynaliadwyedd ar draws Penrhyn Dewi. Yn 2022, derbyniodd EcoDewi £19,760 gan Gronfa Datblygu Cynaliadwy Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Defnyddiwyd y cyllid hwn i roi hwb ymlaen i nifer o brosiectau drwy alluogi cyflogi rheolwr prosiect.

“ Mae EcoDewi yn bodoli i geisio mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng bioamrywiaeth tra ar yr un pryd yn gwella lles cymunedol ym Mhenrhyn Dewi.”

pardon the weeds signErs derbyn grant y Gronfa Datblygu Cynaliadwy yn 2022, mae EcoDewi wedi bwrw ymlaen â Cham 2 y prosiect, gan greu mannau ar gyfer defnyddio tir yn gynaliadwy o amgylch Tyddewi. Y nod yw cefnogi bioamrywiaeth, atafaelu CO2 , a gwella lles yn y gymuned. Mae’r grŵp wedi bod yn hyrwyddo gadael rhai ardaloedd glaswellt heb eu torri er mwyn cael mwy o leoedd bach i natur allu ffynnu. Mae’r prosiect “Dolydd Bach” yn annog tirfeddianwyr megis ysgolion, busnesau a thrigolion lleol i ganiatáu i glytiau o laswellt dyfu. Ategwyd hyn drwy greu arwyddion “Dolydd Bach” y gall y rhai#minimeadows sign sy’n cymryd rhan yn y prosiect eu gosod ar eu lleiniau glas, i egluro pwrpas y newid. Hefyd mae EcoDewi wedi gweithio gyda Chyngor Dinas Tyddewi a Chyngor Sir Benfro i newid y modd y rheolir lleiniau glas a glaswellt amwynder. Drwy ganiatáu  i leiniau glas a gerddi dyfu, mae pobl yn lleihau’r carbon gaiff ei ryddhau drwy dorri porfa a thorri cloddiau. Mae hyn hefyd yn gymorth i adfer byd natur drwy greu cynefin ar gyfer trychfilod, caniatáu i ystod gynyddol o rywogaethau glaswellt dyfu, a rhoi cyfle i flodau gwyllt brodorol hadu. Mae’r arwyddion Dolydd Bach wedi bod mor boblogaidd fel bod y grŵp wedi derbyn ceisiadau gan gefnogwyr dolydd bach ymhell y tu hwnt i Benrhyn Dewi!

Yn ogystal â’r Dolydd Bach, mae’r grŵp hefyd wedi gweithio ar blannu perthi o gwmpas y ddinas, a’r nod yw gweithio gydag elusennau coetir i blannu coed brodorol priodol.

Mae plannu coed wedi bod yn ganolog i un arall o’u prosiectau: y berllan gymunedol. Mae’r prosiect hwn wedi trawsnewid ardal o dir segur ar gyrion y ddinas. Mae hyn yn gyfle i ymgysylltu grwpiau cymunedol lleol â sofraniaeth bwyd, tyfu bwyd organig, hadau treftadaeth a bwyta’n iach, gan ddangos y buddiannau lu ddaw yn sgîl camau o weithredu amgylcheddol. Mae’r coed afalau treftadaeth yn dal yn ifanc, ond yn y dyfodol, bydd yr agwedd hon o’r prosiect yn dwyn ffrwyth y gall y gymuned gyfan ei fwynhau!

community orchard

Lloches Solar Beiciau Clydau

Lleoliad: Tegryn

Grant a ddyfarnwyd: £11,663

Derbyniodd Canolfan Clydau £11,663 i ddarparu ystafell sychu dillad wedi’i phweru gan oleuni’r haul gyda lloches beiciau diogel dan do, ynghyd â chyfleusterau gwefru beiciau trydan.

Cynigiodd y grŵp brynu cynhwysydd cludo 20’ y gellid ei ddefnyddio fel ystafell sychu dillad beicio. Roedd y cynhwysydd cludo i’w insiwleiddio ac uned rheoli lleithder i’w gosod i helpu i sychu’r dillad. Roedd to crwn i’w osod rhwng y cynhwysydd cludo hwn a chynhwysydd cludo oedd eisoes yno i greu ardal dan do ar gyfer parcio beiciau yn ddiogel a hefyd i ddarparu pwyntiau gwefru ar gyfer beiciau trydan yn ogystal â lleoliad gwaith dan do, lloches a phorth i’r llain las y tu hwnt.

Image of bike shed and storage containers

Roedd y grŵp hefyd yn dymuno gosod paneli solar ffotofoltäig ar do’r cynhwysydd, ynghyd â chael storfa syml i gadw batri a throswr foltedd i gael golau a phŵer ar gyfer y cynhwysydd ei hun – a hefyd er budd unrhyw ddigwyddiadau neu weithdai awyr agored a gynhelir yn y neuadd.

Nod y prosiect oedd annog a hyrwyddo teithio llesol yn y gymuned: cael hyb trafnidiaeth carbon isel, cynaliadwy ar gyfer y gymuned ehangach. Roedd gan denantiaid yr adeilad, Cwm Arian Renewable Energy (CARE), 5 aelod o staff oedd yn beicio i’r gwaith, ac felly roeddent yn eiriolwyr gwych dros deithio llesol. Cynhaliwyd y prosiect mewn partneriaeth â CARE, oedd eisoes yn treialu clwb beiciau a cheir trydan gyda Dolen Teifi.

Drwy ddefnyddio paneli solar ffotofoltäig a storfa batri, y nod oedd dangos y defnydd a wneir o ynni adnewyddadwy yn y byd go iawn, ac ar yr un prydGentleman standing next to solar bikes rhoi cyfle i addysgu ac ennyn ymwybyddiaeth ymhlith yr ysgol gynradd a’r cymunedau lleol o fanteision y technolegau hyn. Roedd defnyddio paneli solar ffotofoltäig hefyd yn golygu bod yn llai dibynnol ar y prif gyflenwad trydan ac yn lleihau costau ynni.

Mae’r grant wedi galluogi’r ganolfan i gael sied feiciau gymunedol ac ystafell sychu â phwer solar. Mae lle i 10 beic yn y gofod beiciau, ynghyd â phwynt gwefru beic trydan. Hefyd mae digon o le i gynnal gweithdai yn y dyfodol neu i gadw mwy na 10 beic. Mae’r cynhwysydd cludo hefyd wedi’i addasu yn ystafell sychu.

Lle’r oedd modd, defnyddiodd y grŵp adeiladwyr lleol, gan ddefnyddio pren wedi’i adennill neu bren a deunyddiau o ffynonellau lleol. Gosodwyd tri panel solar ar y to, gyda throswr foltedd i drawsnewid y pŵer yn ynni, a system batri i ganiatáu storio ynni i’w ddefnyddio yn ddiweddarach. Mae goleuadau LED wedi’u gosod yn yr ystafell sychu ac ar y coridor, mae dadleithydd ar gael i sychu dillad, ac mae’r cyfan yn cael ei bweru gan oleuni’r haul! Yn ogystal â gwneud y ganolfan yn llai dibynnol ar y grid, mae technoleg solar hefyd wedi bod yn gyfrwng addysg i’r staff ac i’r disgyblion, gan eu galluogi i barhau i rannu eu gwybodaeth o fewn y gymuned.

Mae’r plant ysgol lleol wedi croesawu’r sied ac yn beicio i’r ysgol yn rheolaidd, gan leihau’r defnydd o geir yn lleol. Mae’r staff a’r ymwelwyr â’r ganolfan gymunedol yn defnyddio’r sied feiciau yr un mor rheolaidd, gan hwyluso cludiant llesol a chynnig dewis arall o deithio yn lle ceir. Yn ogystal, mae nifer o feicwyr beic trydan yn defnyddio’r sied a’r pwynt gwefru yn y sied yn rheolaidd – gan ganiatáu iddynt wefru eu e-feic tra’n mynychu dosbarthiadau yn y ganolfan. Hefyd mae e-feic ar gael i Staff Cwm Arian, a gyda’r bartneriaeth barhaus â Dolen Teifi, maent yn y broses o archwilio cynllun beicio ehangach i gynnwys mwy o bobl leol.Group of people at Clydau Solar Bike Shelter seated

Mae’r sied feiciau bellach wedi dod yn rhan o brosiect yr ardd ac mae’n cynnig ychwanegiad ymarferol a chroesawgar i’r ardd a’r neuadd. Mae’r sied wedi’i defnyddio i gynnal sgwrs am wenyn; lle i gael te a choffi; ac fel cysgod rhag y glaw ar ddiwrnod gwaith yn yr ardd gyfagos. Cafodd y criw hyd yn oed y syndod o weld wennol yn nythu yn y sied feiciau, gyda (hyd yn hyn) dwy o wenoliaid bach!

Dywedodd Peter Kay, y Rheolwr Prosiect, am y Gronfa Datblygu Cynaliadwy:

“Rydym i gyd yn ddiolchgar iawn am y grant hwn, sydd wedi ein galluogi i wireddu uchelgais y gymuned yn ogystal â llwyddo i gael hyb trafnidiaeth gynaliadwy carbon isel yn y ganolfan.”

image of raised bed

Rhandiroedd a drefnir gan y Gymuned COAST ar gyfer Tenantiaid Solfach

Lleoliad: Solfach

Grant CDC a ddyfarnwyd: £8,000

“Ein bwriad oedd creu rhandir cymunedol a gardd les yn y pentref i’r trigolion lleol eu mwynhau.”

Aeth Prosiect Rhandiroedd Coast ati i drawsnewid ardal fechan o dir diffaith yn ofod i’w ddefnyddio ar gyfer tyfu llysiau. Roedd y tir, a rentir oddi wrth Cyngor Sir Benfro, wedi’i orchuddio â sbwriel a choed marw pan ddechreuodd y prosiect gyntaf. Mewn ymdrech gan y gymuned, cliriwyd yr ardal a gosodwyd ffens o gwmpas y ffin. Ar ôl clirio’r tir, gwelwyd bod digon o le i gael 12 rhandir bach i bobl leol dyfu eu cynnyrch.

Aelodau’r gymuned sy’n defnyddio pob un o’r gwelyau plannu, a phob llain yn rhagflas o arlwy’r plannwr, a sawl llain yn gorlifo o amrywiol gynnyrch.

Mae’r llysiau a dyfir ar y safle sy’n ddiangen yn cael eu rhoi i’r clwb cinio ar gyfer bwyd i’r trigolion hŷn. Mae grwpiau gofal lleol a’r cyngor pentref wedi cefnogi’r prosiect, gan gymeradwyo agweddau addysgol ac ymarferol y cynllun lleol hwn i gynhyrchu bwyd. Mae’r ysgol gynradd leol yn defnyddio rhai o’r gwelyau uchel i dyfu llysiau, gan helpu’r plant i ddysgu am fioamrywiaeth, hunangynhaliaeth a sicrwydd bwyd. Yn fwyaf diweddar, mae’r ysgol feithrin leol yn Solfach wedi gofyn am gael llain ar y safle i addysgu’r plant cyn oed ysgol am dyfu bwyd.

Mae’r rhandiroedd yn cael effaith ar allyriadau carbon ac ar fioamrywiaeth – ar y safle ac yn y gymuned ehangach. Mae’r safle oddi ar y grid, diolch i oleuadau solar sydd wedi’u gosod ar y sied. Mae’r dŵr glaw yn cael ei gasglu i’w ddefnyddio i ddyfrhau’r lleiniau, gan leihau’r defnydd o ddŵr y prif gyflenwad. Trigolion y pentref sy’n cadw pob un o’r lleiniau, ac mae offer ar gael ar y safle i bawb eu defnyddio, sy’n lleihau’r angen i bobl yrru i’r rhandiroedd. Mae’r tîm wedi gosod dwy ardal eang o gompost, sydd ar gael i bob un o drigolion y stryd eu defnyddio, yn ogystal â deiliaid y lleiniau.

Mae gwestai gwenyn a thrychfilod ar y safle, a chyfleusterau i ymwelwyr fwydo adar. Bwriad y grŵp yw creu pwll bywyd gwyllt a gardd ar gyfer anifeiliaid ac image of raised bedsadar.

Yn ogystal â’r gwelyau uchel, mae’r grŵp wedi codi sied gymunedol. Mae hyn nid yn unig yn cynnig lloches ar ddiwrnodau gwlyb ond hefyd yn creu lle ar gyfer llyf

rgell i fenthyg llyfrau garddio. Yn y dyfodol, nod y grŵp yw defnyddio’r gofod fel “Sied Dynion” ar gyfer gwneud gwaith coed, a’u gobaith yw cydweithio ymhellach ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro i ddefnyddio’r sied fel canolfan ar gyfer teithiau cerdded a sgyrsiau am fyd natur.

Heriau

Creodd y pandemig Covid-19 rywfaint o oedi i’r prosiect, gan gynnwys oedi cyn derbyn coed i adeiladu’r gwelyau uchel, gosod y sied, a’r twnnel polythen newydd. Serch hynny, dylai’r holl waith sy’n weddill gael ei gwblhau erbyn diwedd 2024. Bydd cwmni garddio lleol yn cael ei gyflogi i orffen yr ychydig agweddau sy’n weddill ar y safle.

“Mae’r prosiect wedi ennyn brwdfrydedd go iawn… mae’n sicr wedi codi ysbryd y gymuned ac unwaith y bydd y gwaith wedi’i gwblhau bydd yn gaffaeliad gwirioneddol i’r pentref.”

Megis dechrau yw’r prosiect hwn i’r grŵp, ac mae ganddynt sawl “cam nesaf” cyffrous yn yr arfaeth. Eu nod yw creu llefydd plannu sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn, a gosod seddi allanol hygyrch, creu mwy o welyau uwch ar gyfer ysgolion, a phlannu nifer o goed a roddir gan Coed Cadw.

Dywedodd Richard Davies, Rheolwr Prosiect y Gronfa Datblygu Cynaliadwy:

“Hoffwn ddiolch i’r Parc Cenedlaethol am gredu yn ein prosiect ac am roi’r arian i helpu i gyflawni’r gwaith.”

row of col