Gardd Ystagbwll Mencap Sir Benfro
Mae ymweld â Gerddi Muriog hyfryd o heddychlon Ystagbwll yn gyfle i weld cyfoeth o blanhigion ffrwythau a llysiau iach, blodau gwyllt pert, gardd gudd a’r cyfle hefyd i wledda ar de a chacennau cartref.
Mae Mencap Sir Benfro Cyf yn prydlesu chwe erw o erddi muriog hanesyddol oddi wrth ystâd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Ystagbwll. Yma maent yn rheoli’r ardd at ddibenion amwynder yn ogystal â chynnyrch, ac yn rhoi profiad gwaith a hyfforddiant mewn garddwriaeth i oedolion a phobl ifainc lleol ag anawsterau dysgu. Mae ffrwyth eu llafur a’u llwyddiannau yn gwbl anhygoel gydag amrywiaeth enfawr o blanhigion, ffrwythau, llysiau a blodau yn cael eu harddangos.
Mae arian y Gronfa Datblygu Cynaliadwy (£110,452) wedi helpu tuag at y gost o ddylunio a chodi’r adeilad cynaliadwy newydd ar y safle, sy’n cynnwys siop oedd gwir ei hangen, swyddfa, gofod cymunedol, tŷ te a chegin. Mae cynnyrch tymhorol o’r ardd yn cael ei werthu yn y siop sydd hefyd yn rhoi profiad o sgiliau bywyd sy’n gysylltiedig â chyfarfod ag aelodau’r cyhoedd sy’n prynu’r cynnyrch a dyfir yma.
Yn ogystal â’r siop, mae lle yn yr adeilad newydd i gyflwyno cyrsiau hyfforddiant a chyngor i oedolion a myfyrwyr ag anawsterau dysgu a hefyd i ymwelwyr â’r gerddi. Mae’r adeilad ei hun yn dangos ac yn ennyn ymwybyddiaeth o ffurfiau mwy traddodiadol o adeiladu a thechnolegau amgylcheddol gyfeillgar o wresogi a defnyddio dŵr. Hefyd bydd cyfle yma i ddatblygu cwrs newydd ar gyfer darpar fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn arlwyo a gwasanaethau manwerthu.
Codwyd yr adeilad newydd drwy ddefnyddio deunyddiau cynaliadwy ac ymgorffori cynifer o nodweddion cynaliadwy a thechnegau traddodiadol â phosibl. Ymhlith y rhain mae’r canlynol:
- Prif fframwaith o fyrnau gwellt
- Rendro morter calch
- Ailgylchu dŵr to ar gyfer dŵr toiled
- Gwaredu carthion mewn dull eco gyfeillgar drwy domen dywod
- Cyfnewid gwres aer i aer ar gyfer gwres canolog a dŵr twym
Gwirfoddolwyr o Ymddiriedolaeth y Tywysog fu’n gweithio’n galed iawn yn llafurio i greu’r ffordd fynediad newydd a maes parcio, drwy symud 300 tunnell o gerrig lleol – a’r rhan fwyaf ohono â’u dwylo! Contractwyr a gododd y ffrâm bren ond staff Mencap eu hunain a adeiladodd y croes-fframau pren oedd yn ffurfio’r ffrâm ar gyfer y drysau a’r ffenestri. Bu grŵp o wirfoddolwyr o blith cadetiaid y fyddin oedd yn hyfforddi yng Ngholeg Sir Benfro yn casglu polion coed ynn a chyll o’r coetir a ddefnyddiwyd i gadw’r byrnau gwellt gyda’i gilydd.
Tîm o wirfoddolwyr o Ymddiriedolaeth y Tywysog, dan oruchwyliaeth staff Mencap, a gododd y walydd o fyrnau gwellt, ac ar y 30ain o Fawrth 2012 rhoddwyd yr olaf o rhyw 600 o fyrnau yn ei le. Wedyn gosodwyd y to dur oedd wedyn yn galluogi contractwr arbenigol i blastro morter calch ar wyneb mewnol ac allanol y byrnau gwellt. Ymhlith y gwaith arall a gyflawnwyd gan y contractwyr arbenigol oedd inswleiddio, codi parwydydd mewnol a plastrfyrddau, gosod system wresogi dan y llawr, a gwaith plymio a thrydan.
Y Camau Nesaf
Agorodd y ‘Cawdors’, sef y gegin a’r caffi cymunedol newydd, fis Mehefin 2013 sy’n paratoi prydau bwyd ysgafn blasus a chacenni drwy ddefnyddio cynnyrch tymhorol a dyfir yn yr ardd.
Yn ddi-os mae’r hyfforddiant a’r sgiliau datblygu cymdeithasol y mae oedolion Sir Benfro ag anableddau dysgu yn ei gael yn gwella ansawdd eu bywyd. Y gobaith felly yw y bydd y cyfleuster newydd hefyd yn gymorth i ddenu mwy o ymwelwyr i’r safle, gyda’r nod o godi ymwybyddiaeth o’r gwaith a wneir i helpu oedolion ag anawsterau dysgu sy’n byw yn Sir Benfro. Hefyd bydd yn ychwanegu at y gweithgareddau ac yn ymestyn cwmpas y profiadau sydd ar gael ac yn cynhyrchu incwm i Mencap Sir Benfro barhau i gynnig y gwasanaethau holl bwysig hyn.