Adroddiad Blynyddol ar Gyflawni Amcanion Llesiant 2023/24

Cyhoeddwyd : 17/03/2025

Cynnwys



Cyflwyniad


Mae’r adroddiad hwn yn nodi perfformiad Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (Yr Awdurdod) yn 2023/24 a chyfraniad at ei Amcanion Llesiant. Mae hefyd yn dangos sut yr ydym wedi defnyddio’r 5 ffordd o weithio o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn ein gwaith.

Hoffem ddiolch i staff, Aelodau, gwirfoddolwyr, partneriaid a chymunedau o fewn y Parc a’r tu hwnt iddo am ein helpu i gyflawni gweithgareddau a amlygir yn y ddogfen hon.



Nodyn ar Ddyletswydd Adran 6 Dyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau

Mae gan yr Awdurdod ddogfen Gyfeirio Adran 6 (Dyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau) dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 sy’n nodi’r dull a ddefnyddir gan yr Awdurdod i wreiddio’r ddyletswydd o fewn ei fframwaith a threfniadau adrodd ar gyfer cynllunio corfforaethol. Yr adroddiad hwn yw un elfen o drefniadau’r Awdurdod i adrodd ar y modd y mae’n cydymffurfio â’r ddyletswydd Adran 6. Mae [Dyletswydd Adran 6] wedi’i nodi ar bwys weithgareddau perthnasol yn yr adroddiad.


Parc Cenedlaethol a’i Nodweddion Arbennig

Cafodd Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ei ddynodi ym 1952 dan Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949. Mae’r Parc Cenedlaethol yn gorchuddio ardal ag arwynebedd o 612km2, gydag oddeutu 23,000 o bobl yn byw mewn rhyw 50 ardal cyngor cymuned. Mae’r rhan fwyaf o’r Parc Cenedlaethol mewn perchnogaeth breifat gyda’r Awdurdod yn berchen ar 1% yn unig.

“Nodweddion arbennig” y Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yw:

  • Hygyrchedd
  • Ysblander arfordirol
  • Daeareg amrywiol
  • Amrywiaeth y dirwedd
  • Treftadaeth ddiwylliannol
  • Ynysoedd
  • Amgylchedd hanesyddol cyfoethog
  • Lle i anadlu
  • Cyfoeth cynefinoedd a bioamrywiaeth
  • Natur anghysbell, llonyddwch a gwylltineb
  • Cymeriad unigryw aneddiadau
  • Amrywiaeth y profiadau a’r cyfuniad o nodweddion unigol

Awdurdod Parc Cenedlaethol a Dibenion y Parc

Cafodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ei greu fel awdurdod lleol dibenion arbennig annibynnol dan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (y Ddeddf). Mae’r Awdurdod yn cynnwys 18 o Aelodau, 12 ohonynt wedi’u henwebu gan Gyngor Sir Penfro a chwech wedi’u penodi gan Lywodraeth Cymru.

Mae Deddf yr Amgylchedd 1995 yn nodi mai Dibenion Awdurdod Parc Cenedlaethol yw

  • Gwarchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol ardal y parc
  • Hyrwyddo cyfleoedd i’r cyhoedd ddeall a mwynhau rhinweddau arbennig yr ardal.

Hefyd mae’r Ddeddf yn datgan bod gan yr Awdurdod ddyletswydd wrth arddel y dibenion uchod, i geisio meithrin lles cymdeithasol ac economaidd y cymunedau lleol.


Cynlluniau Creu Lleoedd

Bob pum mlynedd, mae’n ofynnol i’r Awdurdod gynhyrchu Cynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol sy’n nodi sut y dymunai weld y Parc Cenedlaethol yn cael ei reoli, nid yn unig gan yr Awdurdod ei hun, ond gan yr asiantaethau a sefydliadau eraill y gallai eu gweithgareddau effeithio ar y Parc.

Mae ein Cynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol presennol yn mynd ar drywydd dibenion y Parc Cenedlaethol drwy weithredu mewn partneriaeth ar draws pump thema sy’n ategu ei gilydd.

  • Ased genedlaethol – Tirwedd ar gyfer bywyd a bywoliaeth
  • Tirweddau ar gyfer pawb – Llesiant, mwynhad a darganfod
  • Parc gwydn – Diogelu ac adfer bioamrywiaeth
  • Lle o ddiwylliant – Dathlu treftadaeth
  • Cyfrifoldeb byd-eang – Rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy

Yn ystod y flwyddyn dechreuodd swyddogion baratoi ar gyfer adolygu Cynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol yn 2024/25. Gan gynnwys hwyluso arolwg ar-lein i gasglu barn pobl ar Rinweddau Arbennig y Parc.

Yr Awdurdod yw’r awdurdod cynllunio statudol ar gyfer ardal y Parc Cenedlaethol ac mae’n gyfrifol am baratoi’r Cynllun Datblygu Lleol. Cymeradwywyd Cynllun Datblygu Lleol 2 yr Awdurdod ym mis Medi 2020, a chaiff ei fonitro drwy ei Adroddiad Monitro Blynyddol.


Cyllid

Mae Llywodraeth Cymru yn pennu lefel cyllid y Llywodraeth ar gyfer yr Awdurdod Parc Cenedlaethol yn flynyddol drwy’r Grant Parc Cenedlaethol. Ar gyfer 2023/24, roedd lefel y cyllid craidd a ddyrannwyd wedi golygu setliad arian gwastad ar yr un lefel ers 2020/21 sef £3,249k. Fodd bynnag, yn ystod y flwyddyn, derbyniodd yr Awdurdod swm atodol o refeniw o £440k ar gyfer 2023/24 a dyraniad cyfalaf o £115k (2023: swm atodol o £312k) oedd yn sicrhau nad oedd diffyg yn y gyllideb a bod prosiectau yn gallu cael eu cyflawni ac yn galluogi gwariant cyfalaf ychwanegol.

Wrth bennu swm y Grant Parc Cenedlaethol, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn pennu, yn unol â phwerau statudol, yr isafswm y gellir ei godi gan yr Awdurdod Parc Cenedlaethol fel Ardoll yn erbyn Cyngor Sir Penfro.

Mae’r Grant Parc Cenedlaethol yn cynrychioli 75% o gyllid grant craidd yr Awdurdod, gyda’r 25% sy’n weddill yn cael ei godi gan yr Ardoll. Mae hyn wedi aros yr un fath ar £1.083m ers 2021/22. Fodd bynnag, mae’r Awdurdod yn cynhyrchu 25% (2023: 25%) o’i incwm yn lleol, er enghraifft drwy godi tâl yn y meysydd parcio, ffioedd cynllunio, ac 20% o grantiau gwasanaethau a phrosiectau penodol eraill megis cynnal a chadw Llwybr yr Arfordir (Llwybr Cenedlaethol). Mae unrhyw ddiffyg neu warged yn cael ei reoli drwy gronfeydd refeniw wrth gefn yr Awdurdod.


Mesur Perfformiad – Amcanion Llesiant

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus weithredu’n unol ag egwyddorion datblygu cynaliadwy: Hirdymor, Atal, Integreiddio, Cydweithredu a Chynnwys. Trwy gydol y ddogfen darperir enghreifftiau o sut rydym wedi cymhwyso’r egwyddorion hyn yn ymarferol.

Rydym hefyd wedi asesu ein cynnydd tuag at ein hamcanion llesiant trwy ystyried:

  • Cwblhau offeryn ar-lein Gwiriwr Taith y Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru
  • Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol 2020 y Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru
  • Adroddiadau Archwilio Cymru o ran 5 ffordd o weithio
  • Dangosyddion Llesiant a Cherrig Milltir Genedlaethol i Gymru

Mae’r Awdurdod yn monitro ei gynnydd yn erbyn ei amcanion llesiant yn ystod y flwyddyn, drwy adroddiadau perfformiad a ddarperir i’r Aelodau drwy Bwyllgorau perthnasol. Mae rhai ystadegau’n cael eu cofnodi’n flynyddol.

Diwygiodd yr Awdurdod ei fframwaith perfformiad yn ystod 2023/24. Bydd yn gwneud gwaith sicrhau ansawdd pellach yn ystod y flwyddyn i wella cywirdeb a chategoreiddio data a adroddir.

Mae’r Awdurdod wedi mabwysiadu methodoleg adrodd carbon sero-net Llywodraeth Cymru ar gyfer cyrff cyhoeddus ar gyfer allyriadau carbon.



Ein Hamcanion Llesiant a’u cyfraniad at Nodau Llesiant Cymru


Datblygu ein Hamcanion Llesiant

Roedd yr Awdurdod wedi cymeradwyo strategaeth lefel uchel newydd fis Gorffennaf 2021, oedd yn clustnodi pedwar maes blaenoriaeth ar gyfer 2022-26 a gweledigaeth ddiwygiedig:

Blaenoriaeth: Cadwraeth – Hybu bioamrywiaeth ac atal ei ddirywiad
Effaith: Natur yn Llewyrchus

Blaenoriaeth: Hinsawdd – Cyrchfan: Sero Net
Effaith: Rydym yn Awdurdod sy’n anelu at Sero Net a Pharc Cenedlaethol carbon niwtral

Blaenoriaeth: Cyswllt – Gwasanaeth Iechyd Naturiol
Effaith: Pobl sydd fwy iach, yn hapusach ac wedi cysylltu â natur a threftadaeth

Blaenoriaeth: Cymunedau – Cymunedau Byrlymus
Effaith: Llefydd lle all pobl fyw, gweithio a mwynhau

Ein gweledigaeth: Parc Cenedlaethol lle mae natur, diwylliant a chymunedau yn ffynnu

Cafodd arolygon barn ar-lein eu cynnal ymhlith y staff, yr Aelodau a’r cyhoedd yn gyffredinol fel rhan o’r gwaith o ddatblygu’r Cynllun. Roedd y cyfleoedd i ymgysylltu yn bersonol yn gyfyngedig oherwydd effaith pandemig Covid-19.

Roedd cymeradwyo’r strategaeth lefel uchel wedi arwain at adolygu ein Hamcanion Llesiant. Cafodd yr Amcanion eu diwygio i gyd-fynd â’r blaenoriaethau newydd ac i gymryd i ystyriaeth y datblygiadau polisi allweddol a’r heriau gan gynnwys yr argyfyngau natur a hinsawdd. Ymgynghorwyd â’r staff, yr Aelodau a’r Cyhoedd ar yr Amcanion diwygiedig a’r canlyniadau cysylltiedig. Cafodd set newydd o Amcanion Llesiant eu cymeradwyo a’u cynnwys yn y Cynllun Corfforaethol ac Adnoddau 2022/23. Cafodd yr Amcanion Llesiant hyn eu parhau i’r Cynllun Corfforaethol ac Adnoddau 2023/24 – 2026/27. Mae cyfres o gynlluniau cyflawni wedi’u rhoi ar waith i gefnogi’r gwaith o weithredu’r Cynllun Corfforaethol ac Adnoddau.


Bodloni’r Egwyddorion Datblygu Cynaliadwy

Hirdymor: Mae’r byd yn wynebu argyfwng natur a hinsawdd, bydd diffyg gweithredu yn awr yn arwain at ganlyniadau hirdymor i genedlaethau’r dyfodol ac i’r Parc. Mae cynnal camau gweithredu i fynd i’r afael â’r heriau hyn yn ganolog i’n Hamcanion Llesiant.

Atal: Mae ein Hamcanion Llesiant i gyd yn canolbwyntio ar gyflawni ymyriadau fydd yn ceisio atal problemau rhag digwydd neu waethygu ar draws Ardal y Parc Cenedlaethol.

Integreiddio: Dim ond drwy gymryd agwedd strategol ac integredig gyda phartneriaid y gellir cyflawni ein Hamcanion Llesiant. Mae ein cynlluniau cyflawni yn cefnogi dull integredig sy’n gwneud y mwyaf o effeithiau trawsbynciol ar draws ein Hamcanion Llesiant.

Cydweithio: Rydym wedi gosod cydweithredu wrth galon pob un o’n Hamcanion Llesiant a’n cynlluniau cyflawni. O brofiad rydym yn gwybod mai dim ond drwy gydweithio ag eraill y gellir llwyddo i gyflawni newid cadarnhaol.

Cynnwys: Dim ond drwy gynnwys pobl a gwrando arnynt yn rhagweithiol y gellir cyflawni ein Hamcanion Llesiant. Defnyddir ymgysylltu i sicrhau ein bod yn datblygu’r ymyriadau cywir i chwalu rhwystrau i gefnogi ystod mwy amrywiol o bobl i weithredu dros natur neu brofi’r awyr agored a rhyfeddodau’r Parc.

Isod, rydym wedi amlinellu sut mae ein hamcanion llesiant yng Nghynllun Corfforaethol ac Adnoddau 2023/24 – 2026/27 yn cyfrannu at Nodau Llesiant Cymru, yn ymgorffori’r egwyddorion datblygu cynaliadwy yn ymarferol a’n perfformiad yn erbyn pob amcan ar gyfer 2023/24.


Blaenoriaeth Gorfforaethol: Cadwraeth

Ein Amcan Lles Cadwraeth: Cyflawni adferiad byd natur a chysylltedd ar raddfa, fel bod natur yn ffynnu yn y Parc, gan gyfrannu at warchod 30% o’n tiroedd a’n moroedd ar gyfer byd natur erbyn 2030.

Cyfraniad at y Nodau Llesiant Cenedlaethol

Nod yr Amcan hwn yw cyflawni’r canlyniadau canlynol:

  • Hyrwyddo a chyflawni adfer byd natur ar dir ac yn yr amgylchedd morol gan gefnogi diogelu 30% o’n tiroedd a’n moroedd ar gyfer byd natur erbyn 2030.
  • Cyflawni statws cadwraeth ffafriol ar safleoedd uchel eu gwerth o ran natur.
  • Cynnydd yn y tir a reolir ar gyfer adfer natur yn y Parc (a gyflawnir drwy ddylanwadu a gweithio gydag eraill a rheoli ein hystâd ein hunain).
  • Cynnydd mewn cysylltedd ecolegol.
  • Cefnogir ystod eang o bobl i gymryd rhan mewn gweithredu dros natur.
  • Mae rheoli dynodiadau morol wedi gwella drwy weithio gyda phartneriaid, yn genedlaethol ac yn lleol.

Drwy sicrhau adfer byd natur bydd yr amcan hwn yn cefnogi Cymru lewyrchus, Cymru gydnerth, Cymru iachach a Chymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang. Yn cyfrannu at yr ymrwymiad ‘30×30′ i ddiogelu 30% o’n tir a’n moroedd ar gyfer byd natur erbyn 2030 a dangosyddion cenedlaethol Cymru ar

  • Ardaloedd o ecosystemau iach yng Nghymru
  • Statws amrywiaeth fiolegol yng Nghymru
  • Y ganran o’r cyrff dŵr wyneb, a’r cyrff dŵr daear, sy’n cyrraedd statws da neu uchel ar y cyfan

Drwy gefnogi ystod eang o bobl i gymryd rhan mewn gweithredu dros natur a gweithio mewn partneriaeth ag eraill, gan gynnwys tirfeddianwyr, ffermwyr a chymunedau, mae’n cefnogi Cymru mwy cyfartal a Chymru o gymunedau cydlynol.

Yn ystod y flwyddyn roedd ein gweithgareddau yn ystyried y cyd-destun polisi ehangach sy’n effeithio ar gadwraeth:

Mae’r Awdurdod wedi sefydlu Cynllun Cyflawni Adfer Natur, gyda chamau gweithredu mewn Cynlluniau Cyflawni eraill hefyd yn cefnogi mwy o bobl i gymryd rhan mewn gweithredu i gefnogi Adfer Natur.


Meysydd Effaith Cadwraeth 2023/24

1. Cynnydd yn y swm o amddiffyniad a rheolaeth effeithiol ar gyfer adfer natur sy’n digwydd yn ardal y Parc (yn canolbwyntio ar gyfundrefnau ymyrraeth a rheolaeth yr Awdurdod)


Tir a Reolir ar Gyfer Natur [Dyletswydd Adran 6]

Gwelodd yr Awdurdod gynnydd yn y tir a reolir ar gyfer bioamrywiaeth mewn partneriaeth â thirfeddianwyr preifat o 1,544.04 hectar yn 2022/23 i 1,651 yn 2023/24. Nid yw’r ffigur yn cynnwys safleoedd nad oes angen cyfranogiad gweithredol arnynt ar hyn o bryd ac sydd wedi bod yn rhan o Gwarchod y Parc o’r blaen.

Mae’r hectarau sy’n eiddo neu sy’n cael ei brydlesu gan yr Awdurdod ar gyfer bioamrywiaeth wedi cynyddu o 477.77 hectar yn 2022/23 i 503.24 hectar yn 2023/24. Mae’r newid hwn yn adlewyrchu ailgyfrifo’r data o ddata mapio cywir.

Yn 2023/24 roedd 3,792.51 hectar o dir mynediad lle’r oedd Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn cefnogi partneriaethau rheoli tiroedd comin. Mae hyn yn gynnydd ar 3,718.59 hectar yn 2022/23.


Gwarchod y Parc [Dyletswydd Adran 6]

Mae’r Cynllun Gwarchod y Parc yn hwyluso camau cadwraeth ymarferol ar safleoedd preifat ar draws y Parc Cenedlaethol. Mae’n gwneud y cynefinoedd a’r rhywogaethau allweddol yn fwy cydnerth drwy ddiogelu rhwydwaith o safleoedd cyfoethog eu natur. Mae’n helpu tirfeddianwyr sy’n dymuno gwneud y mwyaf o werth bywyd gwyllt eu tir, drwy ddull pecyn cymorth all gynnwys cytundebau rheoli ffurfiol.

Ni wnaed unrhyw gytundebau rheoli ffurfiol newydd drwy gynllun Gwarchod y Parc yn 2023/24 gan nad oedd capasiti sbâr yng nghyllidebau’r cytundeb rheoli. Roedd hyn o’i gymharu â 5 yn 2022/23 yn gorchuddio 88.62 hectar. Roedd 100% o safleoedd cadwraeth yn unol â’u cynllun rheoli cadwraeth ffurfiol yn 2023/24, gan barhau â’r duedd o 2022/23.

Roedd 17 safle newydd lle buom yn gweithio gyda pherchnogion ar gadwraeth (y tu allan i gytundebau rheoli ffurfiol) yn 2023/24 o’i gymharu â 18 yn 2022/23. Yn ogystal, mae dau safle wedi rhoi mwy o’u tir drosodd i gadwraeth. Gan gynnwys y tir ychwanegol hwn, mae hyn yn gyfanswm o 113.73 hectar, mae hyn yn cymharu â 44.12 hectar yn 2022/23.

Crëwyd 113.73 hectar o gynefinoedd peillwyr newydd yn 2023/24 gan adeiladu ar y 132.74 hectar a grëwyd yn 2022/23.

Uchafbwynt Effaith Bositif: Mae cadarnle i’r bras melyn wedi’i ddarganfod ar safle ger y Garn lle mae cytundeb rheoli yn cefnogi arferion traddodiadol sy’n eu ffafrio. Mae’r Awdurdod hefyd wedi cefnogi rhaglen bwydo gaeaf yno, ynghyd â phrosiect modrwyo i gael darlun cliriach o’r niferoedd. Mae hyn wedi rhagori ar yr holl ddisgwyliadau ac ar hyn o bryd mae’r nifer yn sefyll ar 60 o unigolion. Mewn mannau eraill, rydym wedi ariannu hambyrddau bwydo a ddyluniwyd yn arbennig ac sydd bellach yn cael eu defnyddio mewn mannau eraill o gwmpas y Parc Cenedlaethol.


Cysylltu’r Arfordir [Dyletswydd Adran 6]

Yn ystod 2023/24 lansiwyd cynllun rheoli tir peilot newydd yr Awdurdod Cysylltu’r Arfordir. Wedi’i ariannu gan Gynllun Tirweddau Cynaliadwy, Lleoedd Cynaliadwy (SLSP) Llywodraeth Cymru, mae’n cynnig cyllid ar gyfer creu a chynnal cynefinoedd bywyd gwyllt ar hyd arfordir cyfoethog ac amrywiol Sir Benfro.

Arweiniodd cyfnod hyrwyddo llwyddiannus at 75 o fynegiannau o ddiddordebau. Yn ystod 2023/24 ymwelwyd â ffermydd, luniwyd cynigion, gynhaliwyd sgorio a dyrannwyd cyllidebau. Cymeradwywyd ceisiadau dros 20k gan yr Aelodau drwy’r Pwyllgor Grantiau CDC (y Pwyllgor Grantiau erbyn hyn).

Mae 39 o safleoedd yn dod o dan y cynllun newydd, ac mae 24 o’r safleoedd hyn yn ffermydd masnachol.

Mae 21 o safleoedd newydd wedi’u llofnodi i gytundebau rheoli 5 mlynedd (cynnig grant i dirfeddiannwr) drwy’r prosiect, sy’n cwmpasu 188.49 hectar.

Mae 18 safle yn derbyn grantiau cyfalaf yn unig (cynnig grant i dirfeddianwyr). Gyda 159.88 hectar o gynefin cadwraeth i’w greu ar safleoedd cyfalaf yn unig. Mae 147.68 hectar o laswellt llysieuol i’w hau, a 2,621 metr o wrychoedd i’w creu. Mae 986 o goed i’w plannu ar gyfer coed caeau a choetiroedd, a bydd grant cyfalaf yn helpu i godi 18,484.48 metr o ffensys i gynorthwyo cadwraeth.

Yn ogystal â buddion uniongyrchol i fioamrywiaeth, mae’r grantiau cyfalaf hefyd wedi bod yn fodd cadarnhaol o ymgysylltu ar gyfer cyflwyno dulliau cadwraeth i ffermwyr/ tirfeddianwyr nad yw’r Awdurdod wedi bod yn ymwneud llawer â hwy yn y gorffennol. Bydd monitro ecolegol yn cael ei wneud ar safleoedd i asesu effaith y prosiect hwn. Bydd cyfweliadau a holiaduron i dirfeddianwyr, yn enwedig ffermwyr, yn gwerthuso eu canfyddiadau o’r newidiadau mewn rheoli tir, ac yn sefydlu arfer gorau o ran ymgysylltu â pherchnogion mewn cynlluniau yn y dyfodol.

Uchafbwynt Effaith Bositif: Mae’r Cynllun Cysylltu’r Arfordir yn helpu’r Awdurdod i ehangu maint y tir a reolir ar gyfer adfer natur yn y Parc ac yn adeiladu ar waith presennol Cynllun Gwarchod y Parc. Trwy’r cyllid SLSP ychwanegol mae wedi galluogi’r Awdurdod i sefydlu cytundebau rheoli ffurfiol newydd. Mae hyn yn bwysig oherwydd gall cyfyngiadau cyllidebol gyfyngu ar nifer y cytundebau ffurfiol newydd y gellir eu gwneud bob blwyddyn drwy Gynllun Gwarchod y Parc.


Ffiniau Traddodiadol [Dyletswydd Adran 6]

Agorodd ffenestr newydd o ddiddordeb yn 2023/24 ar gyfer y Cynllun Ffiniau Traddodiadol gyda 55 o ddatganiadau o fuddiannau wedi’u derbyn. 3 gwaith y swm a gyflwynwyd yn 2022.

Ar ddechrau’r tymor cafodd 18 o lythyrau cytundeb eu cwblhau a’u llofnodi ond oherwydd y tywydd garw dim ond 8 gafodd eu plannu. Roedd cytundebau yn canolbwyntio ar ildio hen wrychoedd gydag un gwrych newydd yn cael ei greu ac un arall wedi’i osod. Oherwydd y tywydd gwlyb di-ildio dros y gaeaf 2023/24 mae’r ddaear wedi bod yn llawn dŵr ac roedd hyn wedi ei gwneud hi’n anodd cael mynediad i’r gwrychoedd. Cafodd cyfanswm o 1,492 metr o ffiniau traddodiadol eu hadfer o dan y Cynllun yn 2022/23. Mae hyn yn cymharu â 2,266 metr yn 2022/23 ac yn gronnol ers i’r cynllun ddechrau mae 7,436 metr o ffiniau traddodiadol wedi’u hadfer.


Rhaglen Weithredu are Fawndiroedd [Dyletswydd Adran 6]

Sicrhaodd yr Awdurdod gyllid allanol i gefnogi ei waith adfer mawndir. Cwblhawyd blwyddyn gyntaf y prosiect erbyn diwedd mis Mawrth 2024. Roedd gwaith yn 2023/24 yn canolbwyntio ar y Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) yng Nghas-mael. Bydd gweithgareddau i gefnogi ailgyflwyno gwartheg i bori ar y safle hwn yn adfer swyddogaeth y mawndir ac yn lleihau achosion o rywogaethau o brysgwydd dyfu sy’n sychu’r mawn. Hefyd bydd yn helpu i ddod â’r SoDdGA i gyflwr ffafriol. Prynwyd 8 o goleri dim ffens i wartheg bori ar Waun Fawr Cas-mael ac arwyddwyd cytundeb prydles rhyngddynt a’r Awdurdod. Torrwyd y rhododendronau a thriniwyd eu bonion o gwmpas y SoDdGA i’w hatal rhag lledu ar y safle. Mae llystyfiant wedi’i dorri ar draws y SoDdGA, gan glirio llecynnau o brysgwydd ac agor ardaloedd i wartheg fynd o gwmpas y safle. Cafwyd caniatâd i ohirio’r ffensio tan y flwyddyn ariannol nesaf, oherwydd effaith amodau gwlyb iawn.

Rhoddwyd caniatâd i ni ddefnyddio gweddill y gyllideb i brynu coleri Dim Ffens i wartheg bori Gors Fawr (cynigiwyd hyn ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25).

Uchafbwynt Cydweithio: Mae Rhwydwaith Pori Sir Benfro yn manteisio ar gysylltiadau sefydledig rhwng tirfeddianwyr a Phorwyr i sicrhau bod tir yn cael ei reoli at ddibenion cadwraeth. Yn ystod 2023/24, cafodd 403 hectar eu rheoli drwy bori ar draws 67 o safleoedd ledled y Parc Cenedlaethol. Mae Rhwydwaith Pori Sir Benfro yn dibynnu’n helaeth ar ferlod i ddarparu pori wedi’i dargedu. Ond dros y flwyddyn ddiwethaf mae’r rhwydwaith wedi hwyluso geifr a gwartheg gan ddefnyddio dim coleri ffens i bori mewn nifer fach o safleoedd.


Cydnerthedd Tir Comin [Dyletswydd Adran 6]

Oherwydd y tywydd gwlyb gormodol dim ond mewn ambell ardal y cafodd seibiannau tân eu creu eleni. Mewn partneriaeth â’r Gwasanaeth Tân, torrwyd yr ardaloedd canlynol: Geulan Goch, Mirrianog Fawr (Preseli). Trellys, Ty Dwr (Carningli), Rhos Hescwm, Y Foes (Dinas).

Gwnaethpwyd cais llwyddiannus am Grant i’r Gronfa Rhwydweithiau Natur y Loteri Treftadaeth. Ar gyfer tir comin, mae’r nodau a’r pethau i gyflawni yn canolbwyntio ar ffensio ffiniau, adfer cynefinoedd a chreu seibiannau tân. Roedd y gwaith cynllunio ar y gweill ar ddiwedd 2023/24 yn barod i’w gyflawni yn 2024/25.

Uchafbwynt Cydweithio: Mae Grŵp Tân Gwyllt – Rhwydwaith Amaethyddiaeth Gynaliadwy Sir Benfro yn gweithio gyda thirfeddianwyr a chymunedau i helpu i leihau achosion o danau gwyllt a thrwy reoli tir yn ymarferol leihau’r difrod gall digwydd. Mynychodd y grŵp 3 sioe amaethyddol (Abergwaun, Nanhyfer, Sioe Cymdeithas Amaethyddol Sir Benfro) dros yr Haf ochr yn ochr â swyddog cyswllt Swyddog Cyswllt Fferm Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru. Mae cyfarfodydd yn ystod y flwyddyn wedi edrych ar seilwaith y toriad tân yn Sir Benfro. Roedd y Grŵp wedi cynnal Cwrs Sylfaen a Chwrs Gweithredwr Tân Llystyfiant, ac roedd pawb a fynychodd wedi ennill cymhwyster Lantra.


Pwyth mewn Pryd [Dyletswydd Adran 6]

Roedd 35.26 hectar o dan reolaeth dwysedd uchel (torri Ffromlys Chwarennog) yn ystod tymor tyfu 2023 ar draws safleoedd Pwyth mewn Pryd (grant Rhwydweithiau Natur), grant SLSP a chyllideb bioamrywiaeth.  Cynhaliwyd monitro a chynnal a chadw ar gyfer Rhywogaethau Ymledol ar draws 11.7 hectar yn 2023/24. Cafodd 1,802 o goesynnau Canclwm Siapan eu chwistrellu rhwng mis Gorffennaf a mis Hydref 2023 gan Swyddog Pwyth mewn Pryd a Parcmon y Gogledd.

Yn ystod 2023/24 parhaodd y prosiect i ymgysylltu â gwirfoddolwyr i gael gwared ar rywogaethau ymledol. Roedd contractwyr yn cymryd rhan i wneud torri llystyfiant mewn safleoedd i greu mynediad at waith rheoli.

Uchafbwynt Cydweithio: Parhaodd yr Awdurdod i ddarparu cymorth ariannol a chymryd rhan ym Mhartneriaeth Natur Sir Benfro. Mae’r bartneriaeth yn cael ei chadeirio gan Brif Ecolegydd yr Awdurdod. Mae’r bartneriaeth hon yn cefnogi’r gwaith o gyflawni Cynllun Adfer Natur Sir Benfro. Mae swyddogion sy’n gweithio ar ran y bartneriaeth wedi datblygu, cyflwyno a sicrhau rhaglen refeniw a chyfalaf 2 flynedd o dan Gynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru. Mae’r cyllid hwn yn cyfrannu at brosiectau, sy’n cefnogi cyflwyno cynllun adfer natur leol. Cefnogwyd gweithgareddau cadwraeth yr Awdurdod drwy’r cyllid hwn.


Dangosyddion Adfer Natur [Dyletswydd Adran 6]

Mae’r Awdurdod hefyd yn archwilio opsiynau ar gyfer dangosyddion adfer natur yn y dyfodol i helpu i fesur effaith a thargedu ymyriadau. Dylai hyn gefnogi asesiadau o effaith ein gwaith rheoli tir a chysylltedd yn y dyfodol. Bydd y gwaith hwn yn cael ei effeithio gan ganlyniad ymgynghoriad papur gwyn Lywodraeth Cymru ar Egwyddorion amgylcheddol, llywodraethu a thargedau bioamrywiaeth

Uchafbwynt Effaith Bositif: Roedd parcmon Castellmartin wedi dechrau monitro genedigaethau morloi yn 2004 ac wedi cyflawni set o ddata sy’n ymestyn dros 20 mlynedd bron. Mae parcmon Castellmartin, ac yn fwy diweddar, parmon tymhorol a gwirfoddolwr yn 2023, wedi helpu i gasglu’r data. Bydd CNC yn defnyddio’r data hwn ar gyfer asesiad o gyflwr morloi yn ACA Sir Benfro. Yn gyffredinol, mae nifer y genedigaethau morloi wedi bod ar gynnydd yn flynyddol. Hefyd defnyddiwyd y data yn Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd y Sefydliad Seilwaith Amddiffyn ar gyfer ymarferion hyfforddi milwrol ar raddfa fawr yn ddiweddar.


Uchafbwynt Cydweithio: Parhaodd yr Awdurdod i ddarparu cyllid tuag at Ardal Cadwraeth Arbennig Forol Sir Benfro, Ardal Cadwraeth Arbennig Bae Ceredigion a Safleoedd Morol Ewropeaidd Bae ac Aberoedd Caerfyrddin (Ardal Gwarchodaeth Arbennig ac Ardal Cadwraeth Arbennig) a mynychu cyfarfodydd perthnasol. Mae morwellt wedi’i gynnwys ym mhrosiect Trysorau Morol Cymru o’r prosiect Natur am Byth! ac mae hyn wedi caniatáu amser cyflogedig i Swyddog ACA Forol Sir Benfro barhau i weithio ar y treial adfer morwellt Dale. Mae’r prosiect hefyd yn edrych ar y Gwyntyll Môr Pinc, y Cimwch Coch a’r Wystrys Brodorol.


Uchafbwynt Cydweithio: Mae’r Awdurdod yn cymryd rhan yng ngwaith Bwrdd Rheoli Maetholion Cleddau i gynorthwyo bod y Cynllun Rheoli Maetholion yn llwyddiant. Mae’r Bwrdd Rheoli Maetholion yn gweithio i wella statws amodau ffafriol dalgylchoedd ACA tra’n hwyluso datblygiadau maethlon niwtral yn y Parc.


2. Ymgorffori Adfer Natur yn y ffordd yr ydym yn gweithredu gyda ffocws ar fynediad a threftadaeth


Rheoli’r Llwybrau ar gyfer Adfer Natur [Dyletswydd Adran 6]

Mae rhwydwaith Llwybr yr Arfordir a Hawliau Tramwy Mewndirol yn cynnig cyfle gwych i’r Awdurdod archwilio sut y gall gwaith mynediad cael eu rheoli mewn ffordd sydd hefyd yn cefnogi adferiad natur.  Drwy’r rhaglen waith Rheoli Cefn Gwlad, cwblhawyd 127 o dasgau peillwyr a gwella cynefinoedd yn 2023/24 i gefnogi rheoli Llwybr yr Arfordir a Hawliau Tramwy Mewndirol ar gyfer adfer natur. Roedd hyn yn cynnwys tasgau gwaith twmpath morgrug, banciau gwenyn ac ymylon sgolpiog. Mae hyn yn cymharu â 404 o dasgau a gwblhawyd yn 2022/23. Bu gostyngiad o 68.3% o’i gymharu â 2022/23 ond mae hyn yn adlewyrchu bod gan yr Awdurdod warden peillwyr penodol am ran o 2022/23. Mae’r gweithgaredd bellach yn cael ei brif ffrydio i raglen waith hawliau tramwy ehangach ac mae gwaith yn mynd rhagddo i archwilio sut i ymgorffori hyn ymhellach o fewn dulliau’r Tîm Rheoli Cefn Gwlad.

Uchafbwynt Effaith Bositif: Cafodd Castell Caeriw, y glaswelltir o’i gwmpas, y Felin Heli a Lôn y Castell eu dynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn 1995. Mae pwysigrwydd Castell Caeriw fel cynefin i ystlumod wedi’i gydnabod yn rhyngwladol hyd yn oed wrth iddo gael ei gynnwys yn Ardal Cadwraeth Arbennig safle ystlumod Sir Benfro. Cynhelir arolygon ystlumod misol yn y gwanwyn a’r haf, o dan reolaeth y tîm cadwraeth. Mae’r cynefin glaswelltir yng Nghaeriw yn cael ei reoli gyda’r nod o gefnogi bywyd gwyllt. Mae defaid mynydd du Cymreig yn pori’r glaswelltir dros y gaeaf gan greu brithwaith o lystyfiant ar uchderau gwahanol, gan ganiatáu i flodau gwyllt dyfu, blodeuo a gosod hadau bob blwyddyn. Mae’r gweunwellt yn cael ei dorri yn yr haf, sy’n addas i ffyngau ffrwytho ddiwedd yr haf a’r hydref. Mae capiau cwyr yn benodol yn ffynnu ar laswellt byr sy’n cael ei bori a Chastell Caeriw yw un o’r safleoedd gorau ar eu cyfer yng Ngorllewin Cymru. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae tîm Caeriw wedi bod yn cynnal prosiectau plannu. Mae cannoedd o blanhigion, hadau a bylbiau sy’n gyfeillgar i bryfed peillio wedi’u plannu yn yr Ardd Furiog ac mae hadau blodau gwyllt o ffynonellau lleol wedi’u hau yn ein dolydd.


Clirio Prysgwydd yn Henebion [Dyletswydd Adran 6]

Mae Archeolegydd Cymunedol yr Awdurdod wedi cefnogi clirio prysgwydd mewn sawl safle. Roeddent yn cefnogi gweithgareddau clirio prysgwydd yng Nghastell Nanhyfer gyda Parcmon yr ardal, Coleg Sir Benfro a gwirfoddolwyr. Bydd y gwaith hwn o fudd i fywyd gwyllt, coetir a phlanhigion ar y safle. Roeddent wedi ymuno â’r parcmon ardal, y swyddog Rhywogaethau Estron Goresgynnol, a gwirfoddolwyr i dorri coesynnau marw clymog Japan ar y ddyfrffos gofrestredig yn Nhyddewi. This was done with the support of volunteers. Scrub clearance activities also happened at Tower Point Rath (St Brides) and Newport Castle. Gwnaed hyn gyda chefnogaeth gwirfoddolwyr. Cynhaliwyd gweithgareddau clirio prysgwydd hefyd yn y Tŵr Point Rath (Sain Ffraid) a Chastell Trefdraeth.


Clefyd Coed Ynn [Section 6 Duty]

Mae arolygon wedi’u targedu ar gyfer coed ynn wedi’u cwblhau ar bob safle sy’n eiddo i’r Awdurdod. Defnyddiwyd parthau yn ôl y defnydd o’r safleoedd hyn ac felly’r risg i ddiogelwch y cyhoedd. Bydd canlyniadau o’r arolwg yn arwain naill ai at fonitro blynyddol parhaus, monitro mwy aml neu dynnu coed.

Cynhaliwyd a chwblhawyd gwaith arolygu mewn safleoedd yn 2023/24 a nodwyd coed ar gyfer cwympo neu lopio fel y bo’n briodol. Cafodd choed â chlefyd coed ynn wedi’u nodi ar gyfer gwaith cwympo eu cwympo mewn safleoedd perthnasol


Dull Strategol [Dyletswydd Adran 6]

Cynhaliwyd adolygiad cychwynnol ar ddogfen Cyfeirio Dyletswydd Bioamrywiaeth Adran 6 yr Awdurdod yn dilyn cymeradwyo’r cynllun cyflawni. Mae rhagor o waith wedi’i gynllunio o ran ymgynghori â staff ac efallai y bydd angen gwneud gwelliannau pellach yn dilyn adolygiad o Gynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol.

Dechreuodd swyddogion y broses o adolygu polisi caffael cynaliadwy yn 2023/24.

Uchafbwynt Effaith Bositif: Ym mis Mehefin 2023 cymerodd ein Parcmon y De sawl aelod o staff allan i faes parcio Pencadlys Llanion a’r ardal gyfagos yn gynharach yn y mis hwn am gwrs carlam ar fonitro gwenyn ac intertebratau. Diolch i reolaeth ofalus y Tîm Wardeiniaid, roedd blodau o amgylch y maes parcio wedi bod yn arbennig o drawiadol yn 2023/24, ac wedi denu amrywiaeth o gacwn.


Uchafbwynt Cydweithio: Mae ecolegydd cynllunio ar y cyd yn ei le gyda chost gyflog y swydd a rennir rhwng yr Awdurdod a Chyngor Sir Penfro i ddarparu arbenigedd cynllunio ecolegydd i’r ddau Awdurdod.


Uchafbwynt Cydweithio: Dechreuodd yr achosion o ffliw adar yn gynharach na’r disgwyl, gyda’r adroddiadau cyntaf o adar marw ym mis Gorffennaf 2023. Cychwynnwyd ymateb amlasiantaethol yn canolbwyntio ar ddiogelwch y cyhoedd a’r effaith economaidd bosibl. Gyda Swyddogion Awdurdod yn mynychu cyfarfodydd gyda Chyngor Sir Penfro ac asiantaethau eraill. Rhannwyd cyfathrebu allweddol, a bu cydweithio agos gyda Llywodraeth Cymru a DEFRA oherwydd pryderon am ledaeniad i ffermydd dofednod. Diweddarwyd asesiadau risg, cynhaliwyd sesiynau briffio diogelwch, a dosbarthwyd offer amddiffynnol personol i staff. Casglwyd adar marw a’u hanfon i’w profi neu eu gwaredu, a chynhaliwyd cyfarfodydd rheolaidd i roi gwybodaeth i asiantaethau.


3. Cefnogi ystod eang o bobl i gymryd rhan mewn gweithredu dros natur


Cefnogi pobl i werthfawrogi a diogelu natur [Dyletswydd Adran 6]

Cyfrannodd 1,403 o ddiwrnodau gwirfoddol a gweithredu cymdeithasol at adferiad natur yn y Parc a’r ardal gyfagos yn 2023/24. Mae hyn yn gynnydd o 3% ar y 1,357 diwrnod yn 2022/23.

Ymhlith gweithgareddau’r gwirfoddolwyr yn monitro bywyd gwyllt oedd adar tir fferm, gwenyn a brain coesgoch. Trawsluniau o’r bras melyn, yr asbaragws gwyllt a’r pili-pala.

There were 3,487 participants in outreach/ inclusion programme sessions and activities facilitated by the Authority that focused on appreciating and protecting nature and biodiversity. This included practical hedge laying and tree coppicing and gardening activities with Roots to Recovery and Pathway participants. Alongside walks supporting people to experience nature.

Roedd 3,487 o gyfranogwyr mewn sesiynau  a gweithgareddau rhaglen allgymorth/cynhwysiant a hwyluswyd gan yr Awdurdod a oedd yn canolbwyntio ar werthfawrogi a diogelu natur a bioamrywiaeth. Roedd hyn yn cynnwys gweithgareddau ymarferol fel gosod gwrychoedd, prysgoedio a garddio, gyda chyfranogwyr Gwreiddiau i Adferiad a Llwybrau.

Uchafbwynt Effaith Bositif: Gwahoddwyd cyfranogwyr Llwybrau a Gwreiddiau at Adferiad a chyfranogwyr o Gwerthfawrogi Annibyniaeth i gydweithio ar greu gweithgareddau ac arddangosfeydd natur ar gyfer yr arddangosfa Geiriau Diflanedig yn Oriel y Parc. Roedd y grŵp Llwybrau wedi gwneud bocsys barddoniaeth a gafodd eu gosod o gwmpas y Parc i annog pobl i ysgrifennu eu cerdd eu hunain i rannu eu profiad â’r bobl oedd yn mynd heibio. Roedd y grŵp Gwreiddiau at Adferiad wedi gwneud dail papur a blodau gwyllt ar gyfer yr arddangosiadau a guradwyd o’r arddangosfa. Crëwyd adnodd Signalong ar gyfer yr arddangosfa o’r geiriau natur a arweiniodd at grwpiau cerdded er lles yn ymweld â’r arddangosfa yn rheolaidd yn dilyn taith gerdded yn yr ardal gyda’r geiriau yn cael eu cyflwyno mewn modd hygyrch. Roedd Gwerthfawrogi Annibyniaeth wedi rhoi adborth ar hygyrchedd yr arddangosfa, gan ddweud eu bod wedi mwynhau oedi a gwrando ar gân yr adar, a bod y paentiadau wedi gwneud iddynt deimlo’n hapus.


Roedd 1,716 o gyfranogwyr mewn sesiynau a gweithgareddau ymgysylltu cymunedol a hwyluswyd gan yr Awdurdod a oedd yn canolbwyntio ar werthfawrogi a diogelu natur a bioamrywiaeth. Roedd hyn yn cynnwys cadwraeth a garddio mewn cyfleoedd gwirfoddoli Caeriw.

Roedd 3,479 o gyfranogwyr mewn sesiynau a gweithgareddau’r rhaglen ddysgu a hwyluswyd gan yr Awdurdod a oedd yn canolbwyntio ar werthfawrogi a diogelu natur a bioamrywiaeth. Roedd hyn yn cynnwys astudiaethau traeth, astudiaethau coetir, astudiaethau afonydd a sesiynau sy’n gysylltiedig â’r Arddangosfa Geiriau Diflanedig yn Oriel y Parc.

Roedd 2,400 o gyfranogwyr mewn sesiynau a gweithgareddau cyhoeddus ac ymwelwyr wedi’u hwyluso gan yr Awdurdod a oedd yn canolbwyntio ar werthfawrogi a diogelu natur a bioamrywiaeth. Roedd hyn yn cynnwys digwyddiadau teithiau cerdded morlo, llwybrau sy’n gysylltiedig â natur, taith gerdded nos biofflwroleuol, teithiau cerdded darganfod cacwn, adar nythu yn Stack Rocks ac ystlumod gwych yn Nhyddewi.

Uchafbwynt Effaith Bositif: I ddathlu Wythnos Awyr Dywyll Cymru, ymunodd yr Awdurdod â Reveal Nature am daith gerdded fythgofiadwy liw nos, gan ganolbwyntio ar y byd cyfrinachol o gyfathrebu sy’n digwydd o dan ein trwynau. Gwerthwyd pob tocyn yng Ngwarchodfa Natur Coed Pengelli, a chyflwynwyd y cyfranogwyr i amrywiaeth o organebau biofflworoleuol, megis ffyngau, cennau a phryfed, sy’n dod yn fyw dan orchudd tywyllwch.

 


Blaenoriaeth Gorfforaethol: Hinsawdd

Ein hamcan Lles Hinsawdd: Cyflawni Awdurdod carbon niwtral erbyn 2030 a chefnogi’r Parc i gyflawni niwtraliaeth carbon ac addasu i effaith newid hinsawdd.

Cyfraniad at y Nodau Llesiant Cenedlaethol

Nod yr Amcan hwn yw cyflawni’r canlyniadau canlynol:

  • APCAP i fod yn Awdurdod carbon niwtral erbyn 2030.
  • Mae APCAP wedi cefnogi’r Parc ar ei lwybr i ddod yn garbon niwtral mor agos â phosibl i 2040.
  • Mae’r Parc Cenedlaethol yn fwy cydnerth i effeithiau newid yn yr hinsawdd drwy weithio gyda phartneriaid a chefnogi gwaith a arweinir gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.
  • Mae’r gweithgareddau o ymgysylltu â’r staff a’r cyhoedd yn ehangach wedi arwain at newid ymddygiad.

Drwy gefnogi’r Awdurdod a’r Parc i ddod yn Garbon niwtral, bydd mae’n cefnogi uchelgais Cymru lewyrchus i Gymru fod yn gymdeithas carbon isel. Bydd hefyd yn cefnogi Cymru sy’n gyfrifol ar lefel yn fyd-eang, a Chymru iachach. Cyfrannu at uchelgais sector cyhoeddus Cymru i gyrraedd allyriadau nwyon tŷ gwydr sero net erbyn 2030 a’r cerrig milltir cenedlaethol i Gymru:

  • Bydd Cymru yn cyflawni allyriadau nwyon tŷ gwydr sero-net erbyn 2050
  • Dim ond ei chyfran deg o adnoddau’r byd y bydd Cymru’n ei defnyddio erbyn 2050

Bydd gweithgareddau atafaelu carbon sydd hefyd o fudd i adfer byd natur yn cefnogi Cymru fwy cydnerth. Bydd meithrin cydnerthedd o ran addasu i’r newid hinsawdd yn cefnogi Cymru fwy cydnerth a Chymru o gymunedau cydlynol.

Yn ystod y flwyddyn roedd ein gweithgareddau yn ystyried y cyd-destun polisi ehangach sy’n effeithio ar newid yn yr hinsawdd a datgarboneiddio:

Mae’r Awdurdod wedi sefydlu Cynllun Cyflawni Datgarboneiddio a Chynllun Cyflawni Addasu i Newid Hinsawdd.


Meysydd Effaith Hinsawdd 2023/24

1. Cefnogi gostyngiad mewn allyriadau o Ffynonellau’r Awdurdod neu dynnu allyriadau


Dadansoddiad tueddiadau cyffredinol

Mae’r Awdurdod yn defnyddio cyfrifiad a fframwaith cyflwyno allyriadau Sero Net Llywodraeth Cymru i weithio allan ei allyriadau carbon corfforaethol am y flwyddyn.

Mae tîm datgarboneiddio newydd yr Awdurdod yn gwneud gwaith i wella casglu data, haenau methodoleg a dadansoddiad i gefnogi adrodd yn y dyfodol a nodi cyfleoedd ar gyfer gostyngiadau.

Mae’r data yn yr adran hon yn adlewyrchu’r data a gyflwynwyd fel rhan o gyflwyniad 2023/24. Sylwch nad yw data 2023/24 y cyfeiriwyd ato isod wedi’i adolygu eto gan Lywodraeth Cymru ac mae ffigurau yn cael eu dylanwadu gan newidiadau mewn methodoleg cyfrifo ar draws y blynyddoedd.

Pan fydd dileu defnydd tir yn cael ei ystyried, yna cyfanswm yr allyriadau yn 2023/24 oedd 29,227 kgCO2e. Pan na chaiff allyriadau eu gwrthbwyso yn erbyn dileu defnydd tir, allyriadau’r Awdurdod oedd 1,311,318 kgCO2e – cynnydd mewn allyriadau o 0.59% o’i gymharu â 2022/23. Bu gostyngiad o 14.68% o’i gymharu â 2021/22 oherwydd effaith gostyngiadau o amgylch y gadwyn gyflenwi a’r fflyd. Fodd bynnag, mae angen bod yn ofalus wrth edrych ar allyriadau a thueddiadau’r gadwyn gyflenwi oherwydd bod methodoleg yn seiliedig ar wariant. Dylid trin ffigurau cymudo a gweithio gartref fel amcangyfrifon.

Graff Allyriadau APCAP yn ol blwyddyn adrodd - Pan na chaiff allyriadau eu gwrthbwyso yn erbyn dileu defnydd tir, allyriadau’r Awdurdod oedd 1,311,318 kgCO2e - cynnydd mewn allyriadau o 0.59% o'i gymharu â 2022/23. Bu gostyngiad o 14.68% o'i gymharu â 2021/22 oherwydd effaith gostyngiadau o amgylch y gadwyn gyflenwi a'r fflyd.

Graff Dileu Allyriadau – Tir sy’n eiddo i APCAP yn erbyn y flwyddyn a adroddwyd


Tueddiadau a Ffactorau Allweddol sy’n effeithio ar ardaloedd allyriadau penodol


Adeiladau

Roedd allyriadau adeiladu’r Awdurdod yn 2023/24 yn 112,121 kgCO2e, cynnydd o 3.27% ar yr allyriadau 108,575 kgCO2e ar gyfer 2022/23.

Mae hyn i’w briodoli i ostyngiad o 25% yn y defnydd o Fiomas ar gyfer gwresogi gofod carbon isel yn 2023/24, gan arwain at gynnydd yn y defnydd o drydan grid sy’n golygu mwy o allyriadau. Mae’n werth nodi bod cyfanswm y defnydd o ynni o bob tanwydd yn ystod y cyfnod wedi gostwng. Roedd hyn yn amlygu’r cynnydd byd-eang digynsail yn y tymheredd allanol cyfartalog yn 2023 a 2024, ac yn sgîl hynny, llai o alw am wresogi gofod.

Yn 2023/24 cynhyrchwyd 5,514 kW o ynni adnewyddadwy o baneli Ffotofoltäig yr Awdurdod. Cynnydd o 15.1% ar y 4,789 kW a gynhyrchwyd yn 2022/23. Fodd bynnag, mae hyn yn ostyngiad o 85% ar lefelau cynhyrchu adnewyddadwy hanesyddol oherwydd diffygion gyda system Solar Ffotofoltäig Oriel y Parc, oedd yn bodoli ers mis Ebrill 2021.  Cafodd System Solar Ffotofoltäig Oriel y Parc ei hatgyweirio a’i huwchraddio ychydig ar ôl cau’r cyfnod adrodd hwn ym mis Mai 2024. Gallwn ddisgwyl dychwelyd i cynnydd sylweddol mewn cynhyrchu trydan adnewyddadwy yn 2024/25.

Gweithgareddau Lleihau: Cwblhaodd Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru astudiaeth ynni ar draws y stad ar gyfer yr Awdurdod yn 2023/24. Amlygodd yr adroddiad o’r astudiaeth hon opsiynau ar gyfer lleihau carbon a hyfywedd cyflwyno technolegau cynaliadwy ar draws safleoedd. Edrychodd ar arbedion cost a charbon a chyfnodau ad-dalu ariannol a blaenoriaethu gwahanol opsiynau. Yn seiliedig ar yr adroddiad, cytunodd y tîm rheoli i flaenoriaethu prosiectau gyda’r flaenoriaeth o osod canopïau Ffotofoltäig ym Mhencadlys Llanion a meysydd parcio Oriel y Parc ynghyd â rhywfaint o waith dichonoldeb Ffotofoltäig ychwanegol ar ein safleoedd eraill. Llogwyd ymgynghorydd, a dechreuwyd ar y gwaith, gan gynnwys paratoi adroddiad yn amlinellu manylebau, maint, cwmpas a chost bosibl y cynigion. Ochr yn ochr â helpu i leihau ein hallyriadau yn seiliedig ar adeiladau, bydd hefyd yn cefnogi lleihau costau ynni i’r Awdurdod.


Fflyd ac Offer

Yn 2023/24 roedd allyriadau fflyd ac offer yr Awdurdod yn 86,749 kgCO2e, gostyngiad o 19.65% ar yr allyriadau 107,966 kgCO2e ar gyfer 2022/23. Mae’r gostyngiad hwn yn adlewyrchu’n gadarnhaol y cynnydd mewn faniau trydan a ddaeth i mewn i’r fflyd ar ddiwedd 2022/23. Mae hyn wedi achosi gostyngiad sylweddol yn y defnydd o disel.

Mae 39.9% o fflyd yr Awdurdod yn drydanol. Dechreuodd yr Awdurdod brynu bws mini trydan sydd hefyd yn hygyrch yn 2023/24.

Gweithgareddau Lleihau: Mae Tîm Datgarboneiddio’r Awdurdod wedi sicrhau cefnogaeth Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu strategaeth lefel uchel yn 2024/25. Ochr yn ochr â hyn bydd y Tîm Datgarboneiddio yn cynhyrchu cynllun datgarboneiddio Fflyd ar gyfer cam nesaf y gweithgareddau.


Uchafbwynt Effaith Bositif: Mae’r adborth gan ddefnyddwyr yr 11 o gerbydau trydan batri wedi bod yn gadarnhaol, a nodwyd bod y cerbydau hyn yn fwy ymarferol a chyffyrddus i’w defnyddio, a bod gostyngiad o ~50% mewn costau tanwydd. Bydd defnyddio’r cerbydau hyn yn y gweithle yn gwneud y defnyddwyr yn gyfarwydd â rhedeg cerbydau trydan ac yn magu hyder yn y dechnoleg, gan ddylanwadu o bosibl ar y nifer sy’n defnyddio cerbydau trydan at eu hanghenion cludiant preifat.


Teithio Busnes

Yn 2023/24 allyriadau teithio busnes yr Awdurdod oedd 17,851 kgCO2e, cynnydd o 16.93% ar yr allyriadau 15,267 kgCO2e ar gyfer 2022/23. Mae’r cynnydd hwn yn amlygu’r patrwm parhaus o ddychwelyd i gynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb yn dilyn llacio’r cyfyngiadau covid, a theithio rhyngwladol i gynhadledd Europarc. Fodd bynnag, mae’n bwysig nodi mai dim ond 1.4% o allyriadau cyffredinol yr Awdurdod sy’n dod o deithio busnes.

Bydd angen gwneud rhagor o waith ar adolygu a monitro gweithrediad Polisi Teithio ac ystyriaethau ynghylch sut mae defnyddwyr ceir hanfodol yn effeithio ar y ffigur hwn.


Cymudo a Gweithio Gartref 

Mae allyriadau cymudo a gweithio gartref yn cael eu modelu gan ddefnyddio arolwg staff blynyddol a gyflawnodd ymgysylltiad o 80% eleni. Dylid trin ffigurau cymudo a gweithio gartref fel amcangyfrifon oherwydd ystyriaethau methodoleg ehangach o fewn fframwaith cyfrifo Sero Net. Maent yn cyfrif am 10% o’n hallyriadau corfforaethol.

Yn 2023/24, allyriadau cymudo’r Awdurdod oedd 131,547 kgCO2e. Cynnydd o 24.61% ar yr allyriadau 105,571 kgCO2e ar gyfer 2022/23. Yn 2023/24, allyriadau gweithio gartref yr Awdurdod oedd 21,930 kgCO2e, gostyngiad o 25.65% ar yr allyriadau 29,497 kgCO2e ar gyfer 2022/23. Nid yw’r gostyngiad mewn allyriadau gweithio gartref yn gwrthbwyso’r cynnydd o 25,976 kgCO2e o allyriadau cymudo.

Gellir priodoli’r cynnydd mewn allyriadau cymudo i ostyngiad o 57% mewn gweithio gartref. Gostyngodd nifer cyfartalog y diwrnodau a weithir gartref bob wythnos o 2.09 i 1.33 fesul Cyfwerth ag Amser Llawn. Ar yr un pryd, ni fu fawr o newid yn y nifer sy’n defnyddio dulliau cymudo carbon isel. Dangosodd yr arolwg fod 99% o staff yn gyrru i’r gwaith, 3% mewn cerbydau trydan, 4% yn rhannu car a neb yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Dangosodd 87% o’r ymatebwyr ddiddordeb mewn cymudo carbon isel. Mae cost cerbydau trydan, a heriau ynghylch cymudo di-gar yn cael eu hadrodd fel prif rwystrau. Mae cost cerbydau trydan, ac anymarferol cymudo di-gar yn cael eu hadrodd fel prif rwystrau.

Gweithgareddau Lleihau: Mae swyddog datgarboneiddio’r Awdurdod yn seiliedig ar ganlyniad yr arolwg, wedi nodi strategaethau lleihau allyriadau posibl y gellid eu defnyddio i helpu i fynd i’r afael ag allyriadau cymudo. Bydd y strategaethau lleihau hyn yn cael eu darparu i’r Tîm Rheoli i’w hystyried. Mae gan yr Awdurdod Bolisi Gweithio Cartref a Hybrid, i gefnogi galluogi staff i weithio gartref lle bo’n briodol.


Gwastraff

Ar gyfer 2023/24 roedd allyriadau gwastraff yn parhau i gael eu hadrodd o dan y gadwyn gyflenwi. Mae cofnodi meintiau gwastraff yn uniongyrchol wedi’u rhoi ar waith yn Llanion a bydd yn cael ei gyflwyno ar y safleoedd eraill yn dilyn tymor prysur yr haf. Bydd hyn yn hwyluso adroddiadau gwastraff yn Haen 2 o 2025/26 ymlaen.


Cadwyn Gyflenwi:

Allyriadau cadwyn gyflenwi yw’r ffynhonnell uchaf o allyriadau o hyd. Fodd bynnag, mae angen gofal o ran data yr allyriadau cadwyn gyflenwi ac edrych ar dueddiadau gan fod y data yn seiliedig ar briodoli is-set o gyfanswm gwariant yn gymesur i un o saith categori gwariant – ac felly nid yw’n cyfrif am yr holl wariant, nac yn ystyried y 113 arall o gategorïau gwariant. Mae’r Tîm Datgarboneiddio yn ymchwilio i weld pa mor ymarferol yw defnyddio dulliau eraill o gyfrifo allyriadau cadwyn gyflenwi yn y dyfodol, gan ei bod yn debygol ein bod wedi tan-gofnodi yn sylweddol ein hallyriadau cadwyn gyflenwi hyd yn hyn.

Yn 2023/24 allyriadau cadwyn gyflenwi’r Awdurdod oedd 936,843 kgCO2e, cynnydd o 0.47% ar yr allyriadau 932,506 kgCO2e ar gyfer 2022/23. Mae’r categorïau gwariant mwyaf allyrru sy’n cael eu hystyried yn parhau i fod yn gweithgynhyrchu ac adeiladu. Maent yn gyfrifol am 73% o allyriadau’r gadwyn gyflenwi a thros hanner holl allyriadau’r Awdurdod.

Graff Tuedd – Nifer ymwelwyr a’r Canolfannau. Cafodd Oriel y Parc 111,388 o ymwelwyr yn 2023/24 cynnydd o 12% o'i gymharu â 2022/23. Cafodd Caeriw 58,132 o ymwelwyr yn 2023/24 gostyngiad o 1.7% o'i gymharu â 2022/23. Cafodd Castell Henllys 21,651 o ymwelwyr yn 2023/24 cynnydd o 13.7% o'i gymharu â 2022/23.

Gweithgareddau Lleihau: Mae swyddog datgarboneiddio’r Awdurdod wedi cynnig methodoleg cyfrifo carbon cywir a bydd yn gwneud gwaith dadansoddi pellach ar ddata caffael i nodi cyfleoedd posibl am leihau allyriadau a chostau. Byddwn hefyd yn ymgysylltu ag WRAP i ddarparu cymorth ymgynghori i ategu adolygiad mewnol. Bydd yr Awdurdod hefyd yn datblygu Strategaeth Caffael sy’n Gyfrifol yn Gymdeithasol yn 2024/25.


Defnydd Tir – Allyriadau a Dileu  [Dyletswydd Adran 6]

Roedd allyriadau’r Awdurdod o ddefnydd tir (safleoedd y mae’n berchen arnynt) yn 4,277 kgCO2e yn 2023/24. Cynnydd o 1.59% ar yr allyriadau 4,210 kgCO2e ar gyfer 2022/23. Yn 2023/24 echdyniadau allyriadau defnydd tir yr Awdurdod (o’r safleoedd y mae’n berchen arnynt) oedd – 1,282,091 kgCO2e, gostyngiad mewn tynnu allyriadau o 0.49% ar y -1,288,473 kgCO2e echdyniadau allyriadau ar gyfer 2022/23. Mae hyn oherwydd prynu tir yn Nhraeth Mawr. Yn y blynyddoedd blaenorol mae’r Awdurdod wedi prynu safle Maes Graply yn Trefin a safle Penparcau i gefnogi cynyddu tynnu carbon ochr yn ochr â chyfleoedd adfer natur.

Un o’r heriau i’r Awdurdod yw ffactorau allyriadau presennol a ddefnyddir ar gyfer glaswelltir yng nghyfrifiad Llywodraeth Cymru, gan nad yw’n cydnabod effaith gadarnhaol glaswelltir sy’n cael ei reoli ar gyfer cadwraeth. Gallai symud i fethodoleg Haen 2 gynorthwyo gyda hyn.

Bydd yr Awdurdod yn edrych i fwrw ymlaen ag adolygiad o’i strategaeth rheoli asedau/ystadau yn 2024/25 i ystyried cyfleoedd datgarboneiddio allyriadau a dileu ac ystyriaethau addasu i’r hinsawdd.


Hyfforddiant Llythrennedd Carbon

Datblygodd Cynnal Cymru hyfforddiant llythrennedd carbon achrededig ar gyfer yr Awdurdod a Chyngor Sir Penfro. Digwyddodd y bloc cyntaf o sesiwn hyfforddi’r hyfforddwr ym mis Hydref 2023, gyda sesiwn ddilynol yn cael ei chyflwyno i gymysgedd o Aelodau, staff a chynrychiolwyr Fforwm Arfordirol Sir Benfro ym mis Mawrth.


2. Cefnogi’r Parc ar ei lwybr at ddod yn garbon niwtral. Ymgysylltu â’r cyhoedd ehangach i gefnogi newid ymddygiad a dealltwriaeth o newid yn yr hinsawdd/datgarboneiddio.


Prosiectau Datgarboneiddio Cymunedol [Dyletswydd Adran 6]

 Mae Cronfa Datblygu Cynaliadwy’r Awdurdod (CDC) yn cefnogi prosiectau a arweinir gan y gymuned sy’n cyfrannu tuag at leihau carbon ac yn helpu i ymateb i’r argyfwng hinsawdd. Cwblhawyd 10 prosiect datgarboneiddio cymunedol CDC yn 2023/24. Cymeradwywyd 6 phrosiect newydd i’w hariannu gan Bwyllgor Grantiau CDC yn 2023/24.

Mae map ar gael ar wefan yr Awdurdod sy’n rhoi manylion am y prosiectau a gefnogir gan y gronfa CDC.

Uchafbwynt Effaith Bositif: Gyda chymorth cyllid SDF, aeth Ambiwlans Sant Ioan Cymru ati i osod storfa batri solar yn eu canolfan hyfforddi gymunedol a’u hyb yn Hwlffordd er mwyn lleihau’r effaith amgylcheddol o redeg eu hadeiladau ger Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Roedd contractwr lleol wedi eu cynorthwyo i ddylunio a gosod 22 o baneli solar a batri storio 10kW. Fis Tachwedd 2023 dywedwyd eu bod, ers cwblhau’r gwaith hwn, ond wedi gorfod defnyddio 0.68 MWh o drydan o’r Grid Cenedlaethol yn ystod diwrnodau tywyllach a thywydd gwael. Mae hyn yn gyfwerth â 15% o gyfanswm y trydan a ddefnyddir ganddynt, sy’n cael ei wrthbwyso gan 52 % y maent yn ei allforio yn ôl i’r Grid Cenedlaethol. Mae maint y trydan a gynhyrchir o’u system solar wedi arbed 1,561.9 Kg o allyriadau CO2, sy’n cyfateb i blannu 95 o goed ers gosod y sytem hon.


Uchafbwynt Cydweithio: Mae’r Awdurdod wedi bod yn gweithio gydag Awdurdodau Parciau Cenedlaethol eraill ar gais am y fenter “Ras i Sero” a gefnogir gan y Cenhedloedd Unedig. Mae hyn yn golygu ymrwymo i yrru camau i haneru allyriadau carbon yn eu tirweddau erbyn 2030 a dod yn sinciau carbon net sylweddol erbyn 2050.


Gwyrddu Amaethyddiaeth

 Sicrhawyd cyllid drwy Grant Tirweddau Cynaliadwy Lleoedd Cynaliadwy Llywodraeth Cymru tan 2025 i gyflawni ail gam y cynllun peilot Gwyrddu Amaethyddiaeth. Nod y prosiect hwn yw gweithio gyda’r sector amaeth i gefnogi gweithgareddau datgarboneiddio a dal a storio carbon.

Cymeradwywyd 7 prosiect Amaethyddiaeth Werdd (datgarboneiddio) i’w hariannu drwy’r cynllun erbyn diwedd 2023/24. Mae cefnogaeth wedi’i darparu ar gyfer systemau adfer gwres, pympiau gwactod, storio batri a systemau solar.


Prosiect Adfer Wystrys [Dyletswydd Adran 6]

Nod y prosiect hwn yw adfer y boblogaeth o wystrys brodorol a fu unwaith yn doreithiog yn Nyfrffordd Aberdaugleddau a, thrwy wneud hynny, bydd yn gwella cyflwr Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Forol Sir Benfro. Mae’r gwaith hwn yn cael ei gynnal mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor, Swyddog ACA Forol Sir Benfro, a Tethys Oysters ym Mae Angle, ac mae’n rhan o Elfen Carbon Glas y prosiect Arfordir Gwyllt! a ariennir gan Tirweddau Cynaliadwy, Lleoedd Cynaliadwy.

Ers i’r prosiect ddechrau ym mis Tachwedd 2023, mae stoc mag Ostrea edulis wedi cael ei gasglu o Fae Angle a Burton Ferry a’i gludo i Brifysgol Bangor, gyda’r nod o’i fagu a’i ddychwelyd i Ddyfrffordd Aberdaugleddau i roi hwb i boblogaethau presennol. Disgwylir y bydd hyd at 200,000 o silod wystrys brodorol yn cael eu cynhyrchu, ond gallai’r niferoedd fod yn llawer mwy.

Mae poblogaethau wystrys Prydain wedi dirywio’n arw dros y degawdau, o ganlyniad i golli cynefinoedd, llygredd, gor-gynaeafu a chlefydau. Yn ogystal â bod yn hidlwyr bwyd sy’n puro’r dŵr o’u cwmpas, mae wystrys hefyd yn storio carbon, ac mae eu riffiau hefyd chwarae rhan bwysig o ran meithrin bioamrywiaeth drwy ddarparu bwyd, lloches a gwarchodaeth i amrywiaeth eang o fywyd morol. Yn dilyn protocolau bioddiogelwch a chyfnod byr o gwarantin, mae’r llwyth cyntaf o tua 40 o wystrys wedi dechrau’r broses gyflyru i silio yn eu meithrinfa dros dro. Bydd yr wystrys sy’n weddill yn cael eu cyflyru i silio yn ystod gwanwyn a dechrau haf 2024.


Dylunio a Chanllawiau ar gyfer Lleoli Coed a Choetir [Dyletswydd Adran 6]

Yng nghyfarfod Awdurdod y Parc Cenedlaethol ym mis Medi, cymeradwyodd yr Aelodau ganllawiau cynllunio atodol newydd ar Goed a Choetir.  Mae’r canllawiau’n rhoi cyngor ar y mathau o dirweddau lle gall sensitifyddion ganiatáu coed newydd neu blannu coetiroedd, gan helpu i dywys y goeden gywir i’r lle cywir.


Trafnidiaeth Gynaliadwy

 Gan ddefnyddio cyllid Tirweddau Cynaliadwy Lleoedd Cynaliadwy, cynhaliodd ymgynghorwyr allanol ymchwil a chynhyrchu adroddiad i’r Awdurdod ar fynediad a rheolaeth teithio ar gyfer Arfordir Penfro. Nododd yr adroddiad pa ddulliau y gellid eu cymryd mewn perthynas â rheoli materion rheoli cerbydau preifat a rheoli traffig. Bydd swyddogion yn ceisio symud ymlaen ag argymhellion o’r adroddiad lle bo hynny’n briodol, gan gynnwys bwrw ymlaen ag elfennau perthnasol gyda phartneriaid.

Lansiwyd y cynllun Llogi E-feiciau ym mis Hydref 2022/23 fel peilot cyn dechrau’r gwanwyn / haf, gyda darpar ddefnyddwyr yn cofrestru ar gyfer ap MOQO. Oherwydd defnydd isel yn ystod y cyfnod peilot, mae swyddogion wedi penderfynu lleihau’r pris llogi.. Mae hyn wedi cael effaith gadarnhaol ar y nifer sy’n manteisio wrth i ni fynd i mewn i 2024/25.

Cwblhawyd y gwaith o osod pwyntiau gwefru cerbydau trydan i greu rhwydwaith ar draws y sir yn gyfan yn 2022/23. Mae’r rhwydwaith wedi’i chynllunio i ddarparu gwasanaeth cynhwysfawr ar draws Sir Benfro i fynd i’r afael ag anghenion gwefru cerbydau trydan y trigolion, ymwelwyr, ac i gefnogi ac annog y newid i gerbydau trydan. Mae lleoliadau gwefru cyflym wedi’u dewis i fod yn “hybs” cyrchfannau i ymwelwyr, ac maent wedi’u lleoli yn agos i’r rhwydwaith cefnffyrdd a’r prif derfynfeydd fferi yn Sir Benfro. Mae’r un unedau gwefru â Chyngor Sir Penfro wedi’u gosod i sicrhau dull cydgysylltiedig a darpariaeth ddi-dor ar draws y sir.

Defnyddiwyd pwyntiau gwefru cerbydau trydan ym meysydd parcio yr Awdurdod 8,367 o weithiau yn 2023/24, mae hyn yn cymharu â 6,634 yn 2022/23. Gyda chyfartaledd o amser yn cael ei gymryd i wefru’r cerbyd o 1 awr a 53 munud.

Uchafbwynt Cydweithio: Parhaodd yr Awdurdod i ddarparu cymorth ariannol i Bartneriaeth Greenways a Bysiau Arfordirol yn 2023/24. Roedd y Gwibiwr Celtaidd (gwasanaeth 403 i Benrhyn Dewi) wedi cludo 28,939 o deithwyr yn 2023/24. Roedd y Roced Poppit / Gwasanaeth Fflecsi (gwasanaeth 405 sy’n rhedeg ar hyd yr arfordir rhwng Abergwaun ac Aberteifi) wedi cludo 5,603 o deithwyr, ac roedd Gwibfws yr Arfordir (gwasanaeth 387/88 i Benrhyn Angle) wedi cludo 6,986 o deithwyr. Roedd y Bartneriaeth hefyd wedi sicrhau bod y Pâl Gwibio a’r Gwibiwr Strwmbl yn dychwelyd i redeg eu gwasanaeth yn 2024/25.


Prosiect Awyr Dywyll Sir Benfro [Dyletswydd Adran 6]

Drwy brosiect cydweithredol Awyr Dywyll y Tirweddau Cynaliadwy Lleoedd Cynaliadwy, sicrhawyd cyllid cyfalaf i ariannu cynlluniau goleuo a phrosiectau ôl-osod ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac mewn tirweddau dynodedig eraill. Yn dilyn arolwg fis Awst 2023, clustnodwyd safleoedd lle gellid gwneud gwelliannau i’r stoc goleuo i leihau’r achosion o lygredd golau yn y Parc. Cafodd astudiaeth fanwl o’r safleoedd hynny (Ysgol Penrhyn Dewi – 3 campws, tafarn y Duke of Edinburgh – Niwgwl, a Chanolfan a bythynnod Ystagbwll yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol) ei chynnal fis Tachwedd 2023 a lluniwyd adroddiadau. Bydd gwaith yn cael ei gynnal ar y tri campws Ysgol Penrhyn Dewi. Yn dilyn tân yn nhafarn y Duke of Edinburgh yn Niwgwl ni fydd yn cael ei ôl-osod, fodd bynnag efallai y bydd cyngor neu gymorth yn cael ei gynnig yn y dyfodol os caiff yr adeilad ei ailadeiladu. Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi cytuno i rannu’r gost o ôl-ffitio’r goleuadau allanol ar eu heiddo yng Nghanolfan Ystagbwll, Bythynnod y Cei a fflatiau’r Hen Stabl ar ystâd Ystagbwll.

Mae arolygon hefyd wedi’u cynnal o adeiladau’r Awdurdod, a chytunwyd ar y newidiadau ôl-osod i Barc Llanion, a bydd hyn yn cynnwys Adeilad y Gogledd.

Mae’r Awdurdod a Chyngor Sir Penfro wedi cytuno ar raglen o ôl-ffitio goleuadau i’r toiledau cyhoeddus mewn ardaloedd anghysbell, a bydd hyn yn cael ei gyflawni unwaith y derbynnir ac y gosodir y ffitiadau golau.


Ymgysylltu datgarboneiddio [Dyletswydd Adran 6]

Yn 2023/24 roedd 574.5 o ddiwrnodau gwirfoddol a gweithredu cymdeithasol yn cyfrannu at ddatgarboneiddio/tynnu, gan gynnwys plannu coed cymunedol a gweithgareddau casglu sbwriel.

Uchafbwynt Effaith Bositif: Plannwyd 194 o goed yn 2023/24, yn ychwanegol at y 1,182 a blannwyd yn 2022/23 fel rhan o’r Cynllun Plannu Coed Cymunedol i goffau 70 mlynedd ers sefydlu Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Roedd hyn yn cynnwys amrywiaeth o goed brodorol, gan gynnwys y ddraenen wen, y ddraenen ddu, gwifwrnwydden y gors, celyn, criafolen, coed afalau surion, bedw llwyd, ceirios gwyllt, derwen mes digoes, a choed cnau Ffrengig. Plannwyd nifer o goed afalau a dyfwyd o doriadau o goed yn y berllan dreftadaeth yn Sain Ffraid mewn lleoliadau cymunedol. Plannwyd clawdd newydd a 4 coeden afalau wrth ochr y cae chwarae yn y Garn. Plannodd disgyblion Ysgol Bro Preseli yng Nghrymych goed yng ngardd eu hysgol, a bu cymunedau Mathri a Breudeth yn rhoi coed allan i drigolion lleol i’w plannu yn eu gerddi. Mae’r parcmyn wedi ail-ymweld â’r coed a blannwyd yn 2022/23 ac wedi plannu coed yn lle’r coed fu farw mewn dau leoliad.

Roedd 152 o gyfranogwyr mewn sesiynau a gweithgareddau rhaglen allgymorth/cynhwysiant a hwyluswyd gan yr Awdurdod a oedd yn canolbwyntio ar yr Hinsawdd, datgarboneiddio, newid ymddygiad a chynaliadwyedd. Roedd hyn yn cynnwys plannu coed, casglu sbwriel a gweithgareddau gosod gwrychoedd gyda chyfranogwyr Gwreiddiau i Adferiad a Llwybrau.

Roedd 162 o gyfranogwyr mewn sesiynau ymgysylltu â’r gymuned a gweithgareddau a hwyluswyd gan yr Awdurdod a oedd yn canolbwyntio ar yr hinsawdd, datgarboneiddio, newid ymddygiad a chynaliadwyedd. Roedd hyn yn cynnwys plannu coed a gweithgareddau casglu sbwriel gyda gwirfoddolwyr.

Roedd 1,232 o gyfranogwyr mewn sesiynau a gweithgareddau’r rhaglen ddysgu a hwyluswyd gan yr Awdurdod a oedd yn canolbwyntio ar yr hinsawdd, datgarboneiddio, newid ymddygiad a chynaliadwyedd. Roedd y rhain yn cynnwys sesiynau oedd yn canolbwyntio ar arddangosfa Geiriau Diflanedig, gweithgareddau ymarferol plannu coed a chreu dolydd a diwrnod addysg gwynt ar y môr gyda Fforwm Arfordir Sir Benfro ar gyfer Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Dinbych-y-pysgod.

Roedd 6,560 o gyfranogwyr mewn sesiynau a gweithgareddau cyhoeddus ac ymwelwyr wedi’u hwyluso gan yr Awdurdod a oedd yn canolbwyntio ar yr Hinsawdd, datgarboneiddio, newid ymddygiad a chynaliadwyedd. Roedd hyn yn cynnwys Goleuo yng Nghaeriw lle’r oedd ymwelwyr hefyd yn gallu pweru rhai o’r addurniadau yn yr ardd furiog eu hunain, trwy neidio ar feic a chynhyrchu ynni. Cynhaliodd Oriel y Parc weithgareddau sy’n gysylltiedig ag Arddangosfa Geiriau Diflanedig a marchnadoedd tymhorol yn cefnogi gwneuthurwyr crefftau lleol.


3.  Cefnogi’r Parc ac Asedau’r Awdurdod i fod yn fwy gwydn i effeithiau Newid Hinsawdd


Perygl Newid Hinsawdd i Lwybr yr Arfordir

Fel rhan o’r Prosiect Arfordir Gwyllt a ariennir gan Dirweddau Cynaliadwy, Lleoedd Cynaliadwy, bydd yr Awdurdod yn comisiynu gwaith yn 2024/25 i ddarparu Asesiad Risg Newid Hinsawdd a Strategaeth Addasu ar gyfer Rheoli Llwybr Cenedlaethol Llwybr Arfordir Penfro.


Ymateb i Erydu Arfordirol ac Amodau Tywydd Gwael

 Mae’r Awdurdod wedi parhau i gynnal gweithgareddau i wneud y llwybrau yn fwy cydnerth i ymateb i’r effaith erydu arfordirol a thywydd gwael arnynt. Mae gweithgareddau ailalinio’r llwybrau  yn cynnwys cael caniatâd SoDdGA perthnasol a gwneud Gorchmynion Gwyro Llwybrau Cyhoeddus. Yn ystod 2023/24:

  • Cwblhawyd y gwaith sylweddol o ddargyfeirio llwybr yr arfordir ym Mhorth-y-rhaw, Solfach, i ailgyfeirio llwybr yr arfordir i dir mwy sefydlog. Roedd angen y gwyriad hwn gan fod llwybr presennol llwybr yr arfordir mewn perygl oherwydd clogwyn sy’n ansefydlog ac yn erydu.
  • Cwblhawyd y gwaith o ailalinio llwybr yr arfordir i dir sefydlog ym Marloes oherwydd clogwyn ansefydlog. Cwblhawyd y gwaith draenio ar y llwybr ar draeth Marloes i’w ddiogelu rhag glaw trwm yn y dyfodol. Yn ogystal, gyda chymorth gan gontractwr, bu’r tîm wardeniaid yn gwneud gwaith gwella arwyneb y llwybr sy’n arwain i Draeth Marloes a chreu mannau pasio i helpu i hwyluso llwybr diogel i gerddwyr ac i geffylau. Roedd stormydd glaw trwm wedi golchi ac erydu’r llwybr yn llwyr.
  • Mae dyluniad wedi’i gymeradwyo ar gyfer croesfan llanw newydd yn y Gann i wrthsefyll stormydd.
  • Clustodwyd dwy bont droed i’w hail-godi yng Nghastell Walwyn a Threfigan er mwyn cynyddu’r rhychwant i arbed glan yr afon rhag erydu oherwydd fflach-lifogydd.
  • Cwblhawyd gwaith yn Nanhyfer i atgyweirio’r gored, gwaith cadwraeth i’r rhyd ar ongl carreg, a sefydlogi glan yr afon sy’n cynnal y llwybr cyhoeddus heibio’r eglwys.
  • Cwblhawyd Cam 3 o’r gwaith i ddiogelu’r arfordir ar y gilffordd yn Angle.
  • Roedd erydu ar y llwybr i’r traeth yn Monkstone wedi golygu cau’r llwybr dros dro tra bod ymchwiliadau daearegol yn cael eu cynnal. Cadarnhaodd adroddiad daearegol bod y llethr i lawr i draeth Monkstone yn ansefydlog a bod angen cadw’r llwybr ar gau. Mae arwyddion tymor hwy wedi’u gosod.
  • Bu’r Awdurdod yn cynorthwyo Cyngor Sir Penfro i drefnu codi arwyddion pwrpasol ar dirlithriadau oedd wedi cau llwybr yr arfordir yn Amroth ac yn Wisemans Bridge.
  • Roedd yr Awdurdod wedi lledu rhan o lwybr yr arfordir i’r gogledd o Aberfforest ar ôl i hollt ddatblygu ar ôl symud ffens y cae yn ôl. Dilynir hyn gan gytundeb creu llwybr cyhoeddus.
  • Cafodd rhan o tua 100 metr o lwybr yr arfordir rhwng Sain Ffraid a Musselwick ei ailalinio yn dilyn tirlithriad enfawr a ysgubodd y llwybr i ffwrdd.

Astudiaeth Maes Parcio Arfordirol

Roedd yr Awdurdod wedi cyhoeddi tendr ar GwerthwchiGymru i gynnal Astudiaeth o’r Meysydd Parcio Arfordirol drwy ddefnyddio cyllid grant oedd ar gael i’r Parc Cenedlaethol. Bydd hyn yn cynnwys adolygiad o’r meysydd parcio sy’n codi tâl am welliannau sy’n diogelu safleoedd a mynedfeydd hygyrch i’r Parc Cenedlaethol at y dyfodol. Bydd yr astudiaeth hon yn clustnodi cyfleoedd i fod yn fwy cynhwysol a hygyrch gan gynnwys dadansoddiad o’r posibiliadau o wella’r cyfleusterau toiledau a llefydd newid. Wedi’u cynnwys yn y cais tendro mae argymhellion ar gyfer gwytnwch newid yn yr hinsawdd.


Hyforddiant Defnydd Tir a Newid Arfordirol 

Ym mis Hydref 2023 mynychodd Aelodau’r Awdurdod weithdy hyfforddi lle cawsant gyflwyniad yn archwilio’r polisïau llifogydd a newid arfordirol yn y Cynllun Datblygu Lleol. Cafodd yr aelodau weithdy pellach gan swyddogion Cyngor Sir Penfro ym mis Mawrth 2023 gan roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd gyda’r Cynllun Addasu Arfordirol yn Niwgwl.


Blaenoriaeth Gorfforaethol: Cysylltiad

Ein Amcan Llesiant Cysylltiad: Creu Parc sy’n wasanaeth iechyd naturiol sy’n cefnogi pobl i fod yn fwy iach, yn fwy hapus ac yn fwy cysylltiedig â’r dirwedd, natur a threftadaeth

Cyfraniad at y Nodau Llesiant Cenedlaethol

Nod yr Amcan hwn yw cyflawni’r canlyniadau canlynol:

  • Mae pobl yn cael eu cefnogi i fyw bywyd mwy egnïol yn gorfforol drwy gael mynediad i’r Parc Cenedlaethol, drwy hyrwyddo cyfleoedd hamdden awyr agored cynaliadwy.
  • Cefnogir pobl i roi gwybod bod cael mynediad i’r Parc Cenedlaethol wedi cael effaith gadarnhaol ar eu hiechyd a’u lles.
  • Mae APCAP wedi helpu i fynd i’r afael â’r rhwystrau all gael effaith ar bobl o gefndiroedd amrywiol neu sy’n wynebu anfantais economaidd-gymdeithasol rhag cysylltu â chyfleoedd natur a threftadaeth yn y Parc lle bo hynny’n bosibl.
  • Rhoi cymorth i alluogi pobl o bob oed i ddatblygu dealltwriaeth o’r Parc Cenedlaethol.
  • Mae’r seilwaith yn cael ei gynnal, gan gynnwys y rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus, asedau treftadaeth a mannau mynediad i alluogi pobl i barhau i gael mynediad i’r Parc Cenedlaethol a’i fwynhau.
  • Mae asedau hanesyddol yn y Parc Cenedlaethol yn cael eu gwarchod a’u gwerthfawrogi.

Bydd cefnogi pobl i fanteisio ar y buddion llesiant yn gorfforol ac yn feddyliol o fod yn yr awyr agored ac ymgysylltu â natur a threftadaeth, yn cyfrannu at Gymru iachach a Chymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. Bydd chwalu’r rhwystrau i gynorthwyo ystod fwy amrywiol o bobl i weithredu dros natur a threftadaeth neu i gael profiad o’r Parc, yn cefnogi Cymru fwy cyfartal, Cymru o gymunedau cydlynol a Chymru gydnerth. Cyfrannu at Ddangosyddion Cenedlaethol Cymru ar:

  • Canran yr oedolion sydd â dau neu fwy ymddygiad ffordd o fyw iach
  • Y ganran o’r bobl sy’n gwirfoddoli
  • Sgôr llesiant meddyliol cymedrig ar gyfer pobl
  • Y ganran o’r bobl sy’n unig
  • Gweithgareddau ym maes y celfyddydau, diwylliant neu dreftadaeth o leiaf deirgwaith y flwyddyn
  • Y ganran o asedau dynodedig yr amgylchedd hanesyddol sydd mewn cyflwr sefydlog neu well
  • Dinasyddiaeth fyd-eang weithredol yng Nghymru

Yn ystod y flwyddyn roedd ein gweithgareddau yn ystyried y cyd-destun polisi ehangach sy’n effeithio ar ar iechyd a lles, gyfleoedd dysgu a mynediad i’r awyr agored a threftadaeth: :

Mae’r Awdurdod wedi sefydlu Cynllun Cyflawni Iechyd, Llesiant a Mynediad a Chynllun Cyflawni Ymgysylltu, Cynnwys a Dysgu am y Parc. Gyda chamau gweithredu yng Nghynllun Cyflenwi Bywyd Sir Benfro a Chynllun Cyflawni Cyfathrebu a Marchnata hefyd yn cyfrannu at yr Amcan hwn.


Meysydd Effaith Cysylltiad 2023/24

1. Helpu i fynd i’r afael â’r rhwystrau a all effeithio ar bobl o gefndiroedd amrywiol neu wynebu anfantais economaidd-gymdeithasol rhag cysylltu â chyfleoedd natur a threftadaeth. Cefnogi’r defnydd o’r Parc Cenedlaethol ar gyfer Buddion Iechyd a Lles.


Cadeiriau Olwyn Traeth ac Offer Symudedd 

Parhaodd APCAP i wella mynediad i draethau Sir Benfro a mannau awyr agored eraill trwy ddarparu ystod o offer symudedd gan gynnwys cadeiriau olwyn traeth. ae’r offer ar gael i’w llogi am ddim o wahanol leoliadau o amgylch yr arfordir neu’n uniongyrchol gan yr Awdurdod. Mae’r rhan fwyaf o’r offer ar gael i’w llogi o leoliadau poblogaidd ger yr arfordir diolch i’r busnesau lleol sydd wedi cytuno’n garedig i ddod yn westeion.

Mae ystod yr Awdurdod o offer symudedd wedi’i ddylunio a’i weithgynhyrchu yn arbennig i’w ddefnyddio ar draethau tywodlyd a phob math o dir awyr agored, gan gynnwys offer sy’n addas ar gyfer plant yn ogystal ag oedolion.. Yn dilyn cyllid ychwanegol mae’r offer sydd ar gael drwy’r cynllun wedi ehangu. Mae hefyd wedi helpu i hwyluso mynediad ehangach i’n gwaith, gydag ysgolion yn gallu defnyddio’r cadeiriau a’r offer.

Roedd 399 o archebion ar gyfer cadeiriau olwyn ac offer symudedd traeth yr Awdurdod yn 2023/24, yr un nifer ag yn 2022/23.

Sylw Effaith – Sylwadau o Arolwg Cadeiriau Olwyn y Traeth:

“Mae gallu defnyddio’r gadair olwyn traeth hon wedi rhoi mwy o ryddid a hyblygrwydd i mi. Roeddwn yn gallu mynd ar y traeth gyda fy nheulu a mwynhau gwlychu fy nhraed yn y môr oedd yn deimlad gwych. Nid wyf wedi gallu gwneud hynny am y 6 blynedd diwethaf. Felly gallwch ddychmygu’r dagrau o lawenydd a ddaeth i mi a’m teulu. Rydym mewn gwirionedd wedi aros yn Saundersfoot fwy o weithiau nag arfer y llynedd oherwydd y cyfleuster hwn, a gobeithiwn wneud hyn eto y flwyddyn newydd hon. Diolch am wneud y gwyliau hwn mor bleserus oherwydd y gadair olwyn traeth hon. Rwy’n edrych ymlaen yn awr at fynd i’r traeth.”

“Roeddwn i wrth fy modd yn gallu mynd ar y traeth am y tro cyntaf ers 20 mlynedd yn anhygoel a dylai fod ar gael ym mhobman.”

“Mae fy ngŵr wedi dod yn anabl yn ddiweddar, mae wedi bod yn gyfnod trawmatig i’r teulu cyfan, ac mae’r gadair olwyn wedi helpu’n aruthrol, roedd yn gallu bod yn rhan o’n taith i’r traeth oedd mor hanfodol a phwysig. Roedd yn wirioneddol yn newid byd.”


Uchafbwynt Cydweithio: Cafodd y prosiect partneriaeth Cyflymydd Agored i Bawb rhwng yr Awdurdod a Croeso Sir Benfro ei lansio fis Mawrth 2024. Mae’n gweithio gyda busnesau a sefydliadau (gan gynnwys yr Awdurdod) i wneud Sir Benfro y dewis cyntaf i drigolion ac ymwelwyr sy’n wynebu rhwystrau i deithio a thwristiaeth.


Gwaith Gwella Mynediad Traeth Mawr

Ar y 9fed o Fai 2023 prynodd yr Awdurdod Parc Cenedlaethol safle Traeth Mawr, a’r nod oedd gwella’r amgylchedd naturiol a diogelwch ar y traeth drwy atal ceir rhag cael mynediad i’r traeth. Ar yr un pryd dyblwyd nifer y lleoedd parcio i’r anabl o dri i chwech, a chynyddwyd mynediad i gadeiriau olwyn traeth. Yn ystod hydref 2023 datblygodd yr Awdurdod Arolwg ymgysylltu o’r enw ‘Beth fyddech yn ei ddymuno ar gyfer dyfodol Traeth Mawr (Traeth Trefdraeth) i sicrhau mynediad i bawb?’ a derbyniwyd 107 o ymatebion. Roedd yr ymgysylltu â’r cyhoedd yn ystod hydref 2023 wedi amlygu mwy o gyfleoedd i wella’r cyfleusterau yn Nhraeth Mawr.

Mae’r Awdurdod wedi datblygu prosiect i wella’r maes parcio presennol yn Nhraeth Mawr drwy ddefnyddio cyllid grant, i adnewyddu ac uwchraddio’r bloc toiledau presennol, a darparu cyfleuster gwell gan gynnwys ardal Lleoedd Newid. Darperir cyfleusterau draenio wedi’u diweddaru fel rhan o’r newidiadau hyn. Ymhlith y newidiadau ychwanegol a gynigir mae arwynebau hydraidd yn y maes parcio gorlif, gwell rampiau i gael mynediad i’r traeth, a 3 lleoliad parhaol i storio cadeiriau olwyn traeth. Mae gwell tirweddu a phlannu priodol hefyd yn cael eu cynnig i sicrhau buddion bioamrywiaeth net. Penderfynodd yr Aelodau yng nghyfarfod yr Awdurdod Parc Cenedlaethol ar 20 Mawrth y dylid cefnogi’r prosiect a glustnodwyd i wella cyfleusterau yn Nhraeth Mawr ac i symud ymlaen i’r cam cynllunio a chyflawni.

Uchafbwynt Cydweithio: Mae’r Awdurdod yn rhan o Weithgor Toiledau gyda Chyngor Sir Penfro a phartneriaid eraill i ddatblygu strategaeth i geisio cyllid grant i wella safonau toiledau cyffredinol mewn lleoliadau o amgylch yr arfordir ac i ddatblygu prosiect Arfordir Hygyrch. Cytunodd yr Awdurdod i gyfraniad ariannol o £110k y flwyddyn i doiledau i gefnogi toiledau dros gyfnod o ddwy flynedd. Mae cyfarfodydd rheolaidd wedi’u sefydlu rhwng swyddogion allweddol yr Awdurdod a Chyfarfod Cyngor Sir Penfro bob 2-3 mis ar y mater hwn. Y prif faes gwaith hyd yn hyn, fu ar rannu tystiolaeth ar safleoedd a nodi pa wybodaeth sylfaenol ychwanegol y gallai fod ei hangen.


Asedau Marchnata – Arddangos Parc i Bawb

Mae sesiynau tynnu lluniau wedi’u cynllunio ar gyfer 2024/25 yn Oriel y Parc, Castell Henllys a Chaeriw i ehangu ein llyfrgell o ddelweddau i’w defnyddio mewn marchnata a chyhoeddiadau.


Cerdded â Chymorth

Roedd 3,519 o gyfranogwyr mewn gweithgareddau cerdded â chymorth, darparwyd gan sesiynau Walkability, Cerdded er Budd Lles Gorllewin Cymru a Crwydryn Lles gwyllt yn 2023/24.

Rhagfyr 2023 oedd mis gweithredol olaf prosiect Cerdded er Budd Lles Gorllewin Cymru. Roedd y prosiect wedi bod yn weithredol ers 2019 gyda chyllid drwy’r Gronfa Iach ac Egnïol ac yn fwy diweddar Cronfa Cymunedau Gwydn CNC. Yn ystod y cyfnod hwnnw mae mwy na 2,000 o sesiynau cerdded wedi cael eu cyflwyno ledled Gorllewin Cymru gyda rhwng 7-8 o gerddwyr ar gyfartaledd.ar bob taith. Llwyddodd y prosiect i dargedu cyfranogwyr â chyflyrau iechyd sy’n bodoli eisoes, pobl hŷn ac unigolion anweithgar yn gorfforol.

Bydd yr Awdurdod yn edrych i adolygu ei ddull iechyd a lles a’i fodel presgripsiynu cymdeithasol mewn ymateb i Lywodraeth Cymru cyhoeddi ei Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Presgripsiynu Cymdeithasol ym mis Ionawr 2024 a gwerthusiad prosiect Cerdded er Budd Lles Gorllewin Cymru. Mae’r Awdurdod wrthi’n datblygu cynllun cerdded â chymorth newydd dan faner Mynd Allan yn yr Awyr Agored.


Gwaith Allgymorth a Chynhwysiant Cymdeithasol

Roedd 1,677 o gyfranogwyr yn ein sesiynau cynhwysiant, allgymorth a chynyddu mynediad ar gyfer grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Mae’r sesiynau hyn wedi cynnwys gweithdy celf yn Oriel y Parc, amrywiaeth o weithgareddau awyr agored a theithiau tywys. Fel rhan o’r gwaith hwn a gwneud cysylltiadau newydd, ymwelodd swyddog cynhwysiad yr Awdurdod â Mosg Hwlffordd. Cynhaliwyd diwrnod gweithgaredd gyda grŵp carennydd yng ngardd Coetir Colby, gyda helfa sborion, taith gerdded drwy’r coetir, ac ymweliad â’r traeth i archwilio’r pyllau glan môr.

Uchafbwynt Cydweithio: Mae’r prosiect Gwreiddiau i Adferiad mewn partneriaeth â Mind Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin yn darparu rhaglen o weithgareddau â chymorth, a arweinir gan gyfranogwyr i wella iechyd meddwl a lles trwy fod yn yr awyr agored. Mae pob sesiwn wedi’i chynllunio i gyflawni’r pum ffordd i les. Mae’r gweithgareddau wedi’u lleoli mewn lleoliadau hybiau, yn lleol i’r ganolfan neu gyfleoedd ymhellach i ffwrdd yn y Parc Cenedlaethol. Mae’r gweithgareddau’n cynnwys teithiau cerdded, garddio, gwaith cadwraeth, sylwi ar fywyd gwyllt, dysgu sgiliau newydd a rhyngweithio cymdeithasol.  Mae’r prosiect wedi recriwtio mentoriaid cymheiriaid sy’n darparu cymorth ychwanegol i gyfranogwyr ac yn anelu at ddatblygu sgiliau unigol a hyder mentoriaid. Mae hyder cyfranogwr trwy Gwreiddiau i Adferiad yn parhau i gynyddu ac mae’r dudalen Facebook Gwreiddiau i Adferiad yn dogfennu’r mwynhad y mae cyfranogwyr yn ei gael o weithgareddau’r grŵp.

Roedd 450 o gyfranogwyr yn ein rhaglen ddysgu, gweithgareddau cynhwysiant ac allgymorth. Roedd hyn yn cynnwys sesiynau oedd yn gysylltiedig ag arddangosfa Geiriau Diflanedig yn Oriel y Parc ar gyfer Sbardun a grŵp ysgolion anghenion dysgu ychwanegol.

Roedd 904 o gyfranogwyr yn ein sesiynau gwirfoddoli â chymorth. Mae prosiect gwirfoddoli â Chymorth Llwybrau’r Awdurdod yn galluogi unigolion sy’n wynebu rhwystrau i wirfoddoli i gymryd rhan drwy ddarparu trafnidiaeth, cefnogaeth i arweinwyr gwirfoddol a chymorth arall. Roedd y gweithgareddau yn 2023/24 yn cynnwys ystod o waith fynediad ymarferol, cadwraeth a safle.

Roedd 2,498 o gyfranogwyr yn ein sesiynau blynyddoedd cynnar. Mae’r prosiect 1,000 diwrnod cyntaf yn darparu rhaglen o weithgareddau a chymorth i deuluoedd ifanc a phlant cyn oed ysgol i’w helpu i brofi’r awyr agored. Gan gynnwys gweithio gyda lleoliadau blynyddoedd cynnar sy’n cefnogi teuluoedd sy’n wynebu tlodi. Cadarnhawyd cyllid ar gyfer y prosiect 1000 Diwrnod Cyntaf ar gyfer y cyfnod rhwng Ebrill 2024 a Mawrth 2025. Bydd y prosiect yw canolbwyntio ar raglen o weithgareddau gyda rhieni a phlant cyn oed ysgol yn Hwlffordd.

Uchafbwynt Effaith Bositif: Roedd y prosiect Y 1,000 Diwrnod Cyntaf wedi rhoi cymorth i leoliadau Blynyddoedd Cynnar a Meithrinfeydd lleol sydd heb fawr o le chwarae naturiol yn eu lleoliad, allu cael mynediad i Erddi Colby. Cafodd y plant brofiad synhwyraidd llawn wrth chwarae yn y mwd, archwilio’r pyllau, a theimlo gwead y dail a’r mwsogl, gwrando ar gân yr adar a sŵn y nant yn llifo. Hwn fyddai’r daith gyntaf i lawer o’r plant dan sylw. Roedd yr ymweliad wedi rhoi hyder i’r staff ddefnyddio’r safle eu hunain yn y dyfodol. Dywedodd y staff bod plant nad ydynt yn dewis chwarae yn yr awyr agored yn y lleoliad yn cymryd rhan lawn yn yr holl weithgareddau a ddarperir. Dysgodd y plant barchu blodau’r gwanwyn a phwysigrwydd casglu sbwriel o’r llawr. Rhoddodd y digwyddiad hwn hwb enfawr i les yr oedolion a’r plant a gymerodd ran.


Uchafbwynt Cydweithio: Mae’r Awdurdod wedi cyfrannu at Sir Benfro Trechu Tlodi: Ein Strategaeth yr Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, gyda’r Awdurdod yn arwain ar gamau gweithredu penodol o fewn y cynllun gweithredu

Roedd 448 o gyfranogwyr yn ein gweithgareddau’r genhedlaeth nesaf – ymgysylltu â phobl ifanc. Roedd hyn yn cynnwys sesiynau gyda’r Pwyllgor Ieuenctid, Parcmyn Ieuenctid, Dug Caeredin, Grŵp Ieuenctid Pwynt, Gwaith yn yr Arfaeth, Morynion a Castrod. Yn amrywio o gyfarfodydd ymgysylltu, gweithgareddau awyr agored a sesiynau gwirfoddoli ymarferol.

Roedd 664 o fynychwyr yn sesiynau oriau tawel Castell Henllys yn 2023/24. Mae’r sesiynau hyn yn rhoi cyfle i bobl brofi’r Oes Haearn heb unrhyw weithgareddau nac arddangosiadau swnllyd.

Cafodd y tîm Ymgysylltu a Chynhwysiant weithdy ym mis Ionawr i gychwyn gweithgareddau mapio rhanddeiliaid, Mae hyn er mwyn llywio datblygiad prosiectau partneriaeth yn y dyfodol a chydweithio â grwpiau cymorth a chyswllt cymunedol. Mae rhagor o waith dadansoddi wedi’i gynllunio ar gyfer 2024/25. Bydd y tîm hefyd yn edrych i ddatblygu arolwg cyfranogwr blynyddol yn 2024/25, i dargedu cyfranogwyr rheolaidd yn ein gwirfoddoli a’n prosiectau.


Rhaglen Gwirfoddoli a Gweithredu Cymdeithasol

Cyfrannodd Gwirfoddolwyr a Chyfranogwyr Gweithredu Cymdeithasol 3,518 o ddiwrnodau gwirfoddol a gweithredu chymdeithasol yn 2023/24. Ar draws ystod o cyfleoedd ymarferol fynediad, cadwraeth, treftadaeth, garddio, cymorth gweithgareddau a safle. Cynnydd o 5.7% ar 3,329 yn 2022/23.

Cefnogwyd 490 o sesiynau allgymorth a chynhwysiant cymdeithasol gan wirfoddolwyr. Chwaraeodd arweinwyr teithiau cerdded gwirfoddol ran bwysig yn nifer y teithiau cerdded â chymorth a ddarperir o ran teithiau cerdded Walkability a theithiau cerdded i Iechyd Gorllewin Cymru.

Mae’r Swyddog Datblygu Gwirfoddolwyr wedi bod yn ymgysylltu â rheolwyr llinell i nodi cyfleoedd gwirfoddoli newydd sy’n gysylltiedig â’n blaenoriaethau.


2. Cefnogi pobl o bob oed i ddatblygu dealltwriaeth o’r Parc


Rhaglen Dysgu

Mewn partneriaeth â thimau sy’n cyflawni ein rhaglen addysg, mae’r tîm addysg yn alinio ein rhaglen ysgol â blaenoriaethau newydd yr Awdurdod a’r Cwricwlwm Newydd. Bydd unrhyw newidiadau newydd i’r rhaglen addysg i ysgolion yn cael eu gweithredu ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd yn 2024/25.

Roedd 6,863 o gyfranogwyr yn ein sesiynau rhaglen addysg o ysgolion yn Sir Benfro. Roedd hyn yn cynnwys

  • Astudiaethau traeth, astudiaethau coetir, astudiaethau afonydd a dyddiau darganfod Cynefin.
  • Amrywiaeth o weithgareddau ymgysylltu awyr agored, gan gynnwys teithiau tywys a chyfleoedd i ymweld â Pherllan Sain Ffraid fel rhan o Ddiwrnodau Afal.
  • Sesiynau sy’n canolbwyntio ar dreftadaeth. Ymhlith themâu’r sesiynau yng Nghaeriw roedd Dal y Castell, Hanesion Hyll: Bywyd y Castell, Hanesion Tuduraidd a’r Twrnamaint Mawr. Parhaodd Castell Henllys i gyflwyno ei sesiynau poblogaidd Bywyd Dyddiol yn yr Oes Haearn.
  • Sesiynau ymarferol ar dir yr ysgol a gweithgareddau plannu coed.

Uchafbwynt Effaith Bositif: Sicrhaodd y tîm addysg bwrsariaeth teithio o Forest Holidays i gefnogi ysgolion Sir Benfro i ymweld ag Arddangosfa Geiriau Diflanedig yn Oriel y Parc.

Roedd 2,860 o gyfranogwyr yn ein sesiynau rhaglen addysg o ysgolion y tu allan i Sir Benfro. Aeth 75% o’r cyfranogwyr i sesiynau yng Nghastell Henllys, a barhaodd i gael archebion gan ysgolion y tu allan i Sir Benfro.

Roedd 63 o gyfranogwyr yn sesiynau Dug Caeredin. Roedd y sesiynau ymarferol hyn yn cynnwys plannu coed yn Croesgoch, plannu gwrychoedd yn Bentref Ifan, torri llystyfiant yn ôl ar lwybr yr arfordir rhwng Penfro a Doc Penfro, tynnu Jac y Neidiwr yn West Williamston a gwaredu sbwriel yn Sgomer.

Roedd 105 o gyfranogwyr o addysg bellach neu Brifysgolion yn ein rhaglen ddysgu. Roedd y sesiynau hyn yn cynnwys gweithgareddau cynnal a chadw safle gyda myfyrwyr Coleg Plas Dwbl, gwaith arolygu gyda myfyrwyr Prifysgol Southampton ym Mhenmaen Dewi a sesiynau mynediad ymarferol gyda myfyrwyr Coleg Sir Benfro.

Roedd 136 o gyfranogwyr yn ein rhaglen ddysgu i athrawon, gyda sesiynau’n canolbwyntio ar wella eu sgiliau addysgu a hwyluso awyr agored.

Uchafbwynt Cydweithio: The Pembrokeshire Outdoor Schools (PODS) partnership, which is co-ordinated by the Authority, is a network of specialist organisations, head teachers and local authority advisors. Its aim is to support schools in encouraging children to become fully engaged with and confident in their local environment. In 2023/24 the PODS co-ordinator continued to visit schools to provide support with school grounds improvements (biodiversity and learning resources) and curriculum planning for outdoor activities. The partnership supported a series of activities for schools at St Brides Orchard including celebration of National Apple Day and hosted a PODS celebration event in September for Pembrokeshire Primary Schools at Scolton Manor. It supported two ‘day-time/night-time’ sessions at Neyland and Johnston Schools which involved visit to the Preseli Hills during the day and a night-time event held in the school grounds. The partnership continued to deliver teacher training sessions in support of outdoor learning for Pembrokeshire teachers.  Mae partneriaeth Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro (PODS), a gydlynir gan APCAP, yn rhwydwaith o sefydliadau arbenigol, penaethiaid ac ymgynghorwyr awdurdodau lleol. Nod y bartneriaeth yw cefnogi ysgolion i annog plant i ymgysylltu’n llawn â’u hamgylchedd lleol a magu hyder yn yr amgylchedd hwnnw. Yn 2023/24 parhaodd cydlynydd Ysgolion Awyr Agored Sir Benfroi ymweld ag ysgolion i ddarparu cymorth gyda gwelliannau tir ysgolion (adnoddau bioamrywiaeth a dysgu) a chynllunio’r cwricwlwm ar gyfer gweithgareddau awyr agored. Roedd y bartneriaeth wedi cefnogi cyfres o weithgareddau ar gyfer ysgolion ym Mherllan San Ffraid gan gynnwys dathlu’r Diwrnod Cenedlaethol Afalau, a chynnal dathliad y bartneriaeth fis Medi ar gyfer Ysgolion Cynradd Sir Benfro ym Maenordy Scolton. Hefyd cefnogwyd dwy sesiwn ‘yn ystod y dydd/ nos’ yn Ysgolion Neyland a Johnston oedd yn cynnwys ymweliad â Mynyddoedd y Preseli yn ystod y dydd a digwyddiad gyda’r nos a gynhaliwyd ar dir yr ysgol. Parhaodd y bartneriaeth i gyflwyno sesiynau hyfforddi athrawon ar ddysgu yn yr awyr agored i athrawon Sir Benfro.


Uchafbwynt Cydweithio: Yr Awdurdod yw’r prif sefydliad ar gyfer prosiect cydweithredol adnoddau addysg Tirweddau Dynodedig Cymru gyfan. Mae’r prosiect hwn yn cael ei ariannu drwy Grant Tirweddau Cynaliadwy Lleoedd Cynaliadwy. Nod y prosiect yw creu set o adnoddau dysgu pwrpasol ar gyfer pob un o’r 8 Tirlun Dynodedig yng Nghymru. Penodwyd ymgynghorwyr yn ystod y flwyddyn ar gyfer yr adnoddau addysgol a’r elfen ddigidol a dylunio. Mae porth o’r enw Tirlun” i’w greu fel rhan o’r prosiect hwn i gynnal yr adnoddau a ddatblygwyd.

Yn gysylltiedig a gwaith twristiaeth adfywiol a gwaith ymgysylltu â’r gymuned ehangach, mae’r Awdurdod hefyd yn archwilio cyfleoedd i wella ei gynnig i ymwelwyr a dysgu cymunedol.

Roedd 3,063 o gyfranogwyr yn ein rhaglen dysgu gymunedol ac ymwelwyr. Roedd y sesiynau hyn yn cynnwys gweithdai celf a natur yn Oriel y Parc, cyrsiau hyfforddi ar gyfer gwirfoddolwyr, briffiau ar gyfer y maes, sgiliau awyr agored ar gyfer Clwb Ieuenctid Pwynt ac amrywiaeth o sgyrsiau ar Arfordir Sir Benfro, treftadaeth a rhywogaethau ymledol.


3. Mae rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus ac asedau treftadaeth yn cael ei gynnal i alluogi pobl i barhau i gael mynediad a mwynhau’r Parc Cenedlaethol


Rhwydwaith Hawliau Tramwy

Roedd 87.28% o’r Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn agored ac yn hygyrch gan gyrraedd safon ansawdd ar ddiwedd 2023/24, mae hyn yn cymharu ag 87.19% yn 2022/23.

Roedd cynnydd o 19.7% ym mhryderon am safonau ynglŷn â Llwybr yr Arfordir a Hawliau Tramwy Mewndirol o’i gymharu â 2022/23. Gyda 225 o bryderon wedi ei derbyn yn 2023/24, o’i gymharu â 188 yn 2022/23. Mae’r cynnydd hwn mewn pryderon yn gysylltiedig ag effaith amodau’r tywydd yn ystod dau chwarter olaf y flwyddyn. Gyda stormydd tywydd yn arwain at ddirywiad mewn amodau wyneb a difrod arall i lwybrau. Cynhyrchodd tywydd gwlyb parhaus gynnydd mewn amodau mwdlyd, llithrig ar Lwybr yr Arfordir. Gwnaed hyn yn waeth mewn rhai achosion oherwydd presenoldeb stoc. Roedd pryderon ynghylch Hawliau Tramwy Mewndirol hefyd yn adlewyrchu effaith difrod storm a ddaeth â nifer o goed i lawr. Cwblhawyd 1,986 o dasgau torri a chynnal a chadw rhaglen hawliau tramwy cyhoeddus gan y tîm rheoli cefn gwlad. Bydd mesurau gweithredol a chorfforaethol ar gyfer Llwybr yr Arfordir yn cael eu hadolygu yn 2024/25 yn dilyn argymhellion adroddiad archwilio mewnol.

Cofnododd data o’r saith cownter Llwybr Arfordir sefydlog ostyngiad o 8% yn nifer y bobl sy’n cerdded Llwybr yr Arfordir o’i gymharu â 2022/23. Gostwng o 190,804 yn 2022/23 i 174,226 yn 2023/24. O ran y pedwar cownter llwybr mewndirol, bu gostyngiad cyfatebol yn 2023/24 i 30,348 (31,244 yn 2022/23). Cyfrannodd yr amodau tywydd gwlyb iawn a brofwyd dros y gaeaf y flwyddyn honno at y ddau ostyngiad.

Uchafbwynt Cydweithio: Mae Fforwm Mynediad Lleol Sir Benfro yn gorff statudol sy’n cynghori ar wella mynediad i gefn gwlad ar gyfer hamdden a mwynhad. Mae’r Awdurdod yn rhannu dyletswyddau ysgrifenyddol ar gyfer Fforwm Mynediad Lleol gyda Chyngor Sir Penfro ar sail gylchol. Ar hyn o bryd, tymor yr Awdurdod yw darparu ysgrifenyddiaeth ar gyfer y fforwm. Cynhaliwyd pedwar cyfarfod fforwm yn 2023/24, , gyda chyfarfod mis Gorffennaf yn gyfarfod safle yn edrych ar greu cyfleoedd mynediad newydd yn y Parc Cenedlaethol.


Gwirfoddoli a Gweithredu Cymdeithasol ar gyfer Llwybrau

Roedd 349 o ddiwrnodau gweithredu gwirfoddol a chymdeithasol yn cefnogi mynediad a gwaith Llwybr yn y Parc yn 2023/24.

Ymhlith y gwaith mynediad ymarferol a wnaed gan wirfoddolwyr Llwybrau oedd ailraddio’r llwybr a gwella’r draenio ar Draeth Lynne, glanhau a thorri a llenwi’r grisiau ym Marloes, a chlirio’r llwybr ar faes awyr Tyddewi a’i ledu er mwyn gwella mynediad i gadeiriau olwyn. Mae Grŵp Llwybrau Trefdraeth a gwirfoddolwyr yr Awdurdod wedi bod yn clirio prysgwydd a gwella draenio ar y llwybrau. Mae Gwirfoddolwyr Annibynnol wedi bod yn rhan o weithgareddau monitro llwybrau cerdded. Mae parcmyn wedi hwyluso mynediad ymarferol gyda myfyrwyr Coleg Sir Benfro ac Ysgol y Preseli i gefnogi prosiect llwybr cymunedol Brynberian.


Cynllun Diogelu Henebion Cyhoeddus

Parhaodd APCAP i gyflawni ei gynllun Diogelu Henebion Archeolegol, gan weithio gyda gwirfoddolwyr i fonitro a datblygu rhaglen waith sy’n canolbwyntio ar ein henebion sydd ar gael i’r cyhoedd.

Cynhaliodd gwirfoddolwyr treftadaeth 135 ymweliad â henebion i gasglu gwybodaeth am eu cyflwr yn 2023/24, mae hyn yn cymharu â 152 yn 2022/23. Mae’r wybodaeth hon wedyn yn cael ei hasesu gan yr Archeolegydd Cymunedol a datblygwyd rhaglen waith. Mae achosion Troseddau Treftadaeth hefyd yn cael eu nodi fel rhan o’r gwaith monitro hwn. Cynhaliwyd gwaith gwella a chynnal a chadw gan swyddogion, gwirfoddolwyr a chontractwyr yr Awdurdod mewn 33 o henebion yn 2023/24. Roedd gwaith ymarferol yn cynnwys clirio prysgwydd yng Nghastell Nanhyfer gyda chymorth myfyrwyr coleg Sir Benfro, Cyfeillion Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Chyfeillion Castell Nanhyfer. Cyflawnwyd gwaith ar ddyfrffos ganoloesol gofrestredig yn Nhyddewi gan staff yr Awdurdod, staff yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a gwirfoddolwyr i waredu canclwm Japan a jac y neidiwr.

Bydd henebion rhestredig sy’n rhan o maes Castellmartin nawr yn cael eu monitro gan Parcmon Castellmartin fel rhan o’r cynllun monitro ehangach. Bydd gwybodaeth a gesglir yn cael ei defnyddio i lywio gwaith i wella cyflwr henebion ar yr maes.

Cynhaliwyd arolygon gan ddrôn ar henebion cofrestredig ar draws y Parc Cenedlaethol i gynhyrchu data sylfaenol ar eu cyflwr.

Uchafbwynt Cydweithio: Parhaodd yr Awdurdod i weithio gyda Heddlu Dyfed Powys, Cadw, Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd Powys ar y Cynllun Gwarchod Treftadaeth. Nod y Cynllun hwn yw mynd i’r afael â Throsedd Treftadaeth yn y Parc. Adroddwyd am 17 digwyddiad troseddau treftadaeth hysbys yn ystod 2023/24, mae hyn yn cymharu â 22 yn 2022/23. Cynhaliodd staff yr awdurdod, gwirfoddolwyr treftadaeth a chydweithwyr o’r heddlu batrolau ar y cyd yn ystod y flwyddyn ar safleoedd sydd mewn perygl. Cynhaliwyd ystod eang o weithgareddau ymgysylltu â’r gymuned yn ystod y flwyddyn i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o droseddau treftadaeth. Gan gynnwys archeolegydd cymunedol yn ymuno â thîm Heddlu Dyfed-Powys yn Eisteddfod yr Urdd a digwyddiad Pawennau ar Batrôl gyda’r Heddlu a’r Gwasanaeth Tân yn y Preseli i annog cerddwyr cŵn i adrodd am droseddau treftadaeth.


Diwrnodau Gwirfoddoli a Gweithredu Cymdeithasol ar gyfer Treftadaeth

Roedd 460.5 o ddiwrnodau gwirfoddoli a gweithredu cymdeithasol yn cefnogi asedau treftadaeth yn y Parc yn 2023/24.

Mae gwirfoddolwyr yng Nghaeriw wedi bod yn helpu gyda chynnal a chadw a garddio ar y safle. Tra bu myfyrwyr Coleg Plas Dwbl yn helpu gyda gweithgareddau cynnal a chadw safle yng Nghastell Henllys.


Prosiect Gwella Mynediad i Ymwelwyr Castell Caeriw

Mae’r prosiect Mynediad i Ymwelwyr Castell Caeriw sydd am gyflawni ystod o waith seilwaith ffisegol ychwanegol i wneud y safle yn fwy hygyrch, wedi’i ohirio. Mae cynlluniau manwl wedi’u llunio ar gyfer gwahanol elfennau’r prosiect, gan gynnwys nifer o gamau. Bu’n rhaid newid rhai o’r cynlluniau cychwynnol ar gyfer y dreif yn dilyn cyfarfodydd gyda Cadw. Bydd angen cyflwyno’r cynlluniau i gael caniatâd Heneb Restredig a SoDdGA.


Blaenoriaeth Gorfforaethol: Cymunedau

Ein Amcan Llesiant Cymunedau: Creu cymunedau bywiog, cynaliadwy a llewyrchus yn y Parc lle gall pobl fyw, gweithio a mwynhau.

Cyfraniad at y Nodau Llesiant Cenedlaethol

Nod yr Amcan hwn yw cyflawni’r canlyniadau canlynol:

  • Mae ymwelwyr yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i gymunedau lleol ac i Rinweddau Arbennig y Parc.
  • Gweithio’n agosach gyda chymunedau’r Parc Cenedlaethol i ddeall a chefnogi blaenoriaethau lleol yn well.
  • Mae cymunedau’r Parc Cenedlaethol yn fywiog, yn gynaliadwy ac yn llewyrchus.
  • Mae gan breswylwyr ac ymwelwyr opsiynau effeithiol a chynaliadwy (gan gynnwys defnyddio’r rhwydwaith hawliau tramwy) i deithio o gwmpas y Parc Cenedlaethol.
  • Mae gwaith yr Awdurdod yn cyfrannu at fywyd Sir Benfro drwy gefnogi cynnal gweithgareddau Cymraeg, diwylliannol, hamdden a chymunedol.

Bydd hyrwyddo twristiaeth adfywiol yn y Parc a helpu ymwelwyr i wneud cyfraniad cadarnhaol i’r cymunedau lleol ac i adfer byd natur, yn cefnogi Cymru gydnerth, Cymru lewyrchus, a Chymru o gymunedau cydlynol. Bydd mentrau trafnidiaeth gynaliadwy yn cyfrannu at y targed o gynnal 45% o deithiau yng Nghymru drwy ddulliau cynaliadwy erbyn 2040.

Drwy weithio mewn partneriaeth ag eraill i wella cyfleoedd diwylliannol, treftadaeth a’r Gymraeg yn y Parc, byddwn yn cefnogi Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu, ac yn cefnogi Cymru iachach. Yn cyfrannu at y Cerrig Milltir Cenedlaethol i Gymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ac at y Dangosydd Cenedlaethol ar y canran o bobl sy’n mynychu neu’n cymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol, diwylliannol neu dreftadaeth o leiaf deirgwaith y flwyddyn.

Bydd gweithgareddau ehangach o Greu Lleoedd sy’n cefnogi tai fforddiadwy yn y Parc yn cyfrannu at Gymru o gymunedau cydlynol, Cymru fwy cyfartal, Cymru iachach a Chymru lewyrchus.

Roedd ein gweithgareddau yn ystod y flwyddyn yn ystyried y cyd-destun polisi ehangach sy’n effeithio ar gymunedau, twristiaeth adfywiol a’r Gymraeg:

Mae’r Awdurdod wedi sefydlu Cynllun Cyflawni Cefnogi Twristiaeth Adfywiol trwy’r economi ymwelwyr a Chynllun Cyflawni Bywyd Sir Benfro.


Meysydd Effaith Cymunedau 2023/24

1. Cefnogi Ymwelwyr i wneud cyfraniad cadarnhaol i gymunedau lleol


Egwyddorion Twristiaeth Adfywiol [Dyletswydd Adran 6]

Cynhaliodd y Pennaeth Twristiaeth Adfywiol weithdai ymgysylltu gyda thîm twristiaeth adfywiol gan gynnwys staff ar draws ein canolfannau i ddatblygu gweledigaeth a strategaeth dwristiaeth adfywiol drafft. Bydd y weledigaeth a’r strategaeth yn sylfaen ar gyfer gweithgareddau twristiaeth adfywiol yn y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys adolygu digwyddiadau a gweithgareddau a datblygu cynlluniau gweithredu ar gyfer y canolfannau. Bydd yr arfer gorau wrth iddo gael ei ddatblygu yn cael ei rannu gyda’r sector twristiaeth ac ymwelwyr ehangach.

Uchafbwynt Cydweithio: Datblygodd Croeso Sir Benfro gynllun rheoli cyrchfan ar gyfer Sir Benfro newydd yn 2023/24 a bydd y Cynllun hwn yn dylanwadu ar waith twristiaeth adfywiol ehangach yr Awdurdod yn y dyfodol.


Adolygiad o Rôl Parcmon yr Haf

Adolygwyd rôl Parcmon yr Haf. Neilltuwyd disgrifiad swydd newydd i gyd-fynd â’r amcanion y tîm Twristiaeth Adfywiol. Bydd y rôl yn cynnwys ymgysylltu â phobl o amgylch y Parc, cynhyrchu incwm o weithgareddau a ddarperir ac addysgu a chynghori ar fwynhau’r Parc Cenedlaethol yn ddiogel. Erbyn hyn, gelwir y swydd yn Parcmon Tymhorol ac mae Parcmon wedi cael ei recriwtio’n llwyddiannus ar gyfer tymor twristiaeth 2024/25.


Grŵp Hamdden Mewnol

Yn dilyn ailstrwythuro’r Awdurdod mae grŵp hamdden mewnol wedi cael ei sefydlu gan ddod â staff o wahanol dimau ar draws yr Awdurdod at ei gilydd. Cyfrannodd aelodau’r grŵp at ystod o gyfarfodydd amlasiantaethol (llawer dan arweiniad sefydliadau eraill) cyn y tymor i sicrhau y gallwn gyflawni ein dyletswyddau statudol i warchod a gwella’r Parc Cenedlaethol wrth gefnogi cyfleoedd i fwynhau a deall rhinweddau arbennig y Parc. Mae Microsoft Teams yn cael ei ddefnyddio i ganiatáu llif dwy ffordd o wybodaeth rhwng pencadlys a staff ‘ar lawr gwlad’ er mwyn hwyluso’r gwaith o reoli materion ‘byw’.

Uchafbwynt Cydweithio: Mae’r Awdurdod yn parhau i ddarparu cyllid i Fforwm Arfordir Sir Benfro sy’n arwain ar y Siarter Awyr Agored a’r Cod Morol. Cynhaliwyd dau gyfarfod Grŵp Llywio Siarter Awyr Agored a dau Gyfarfod Grŵp Siarter Awyr Agored Llawn yn 2023/24.


Uchafbwynt Cydweithio: Mae’r Awdurdod yn rhan o Fforwm Diogelwch Dŵr Sir Benfro, dan arweiniad yr RNLI. Cytunodd y fforwm i ddatblygu strategaeth gyfathrebu ar y cyd ar gyfer 2024/25 i wella ymwybyddiaeth o ddiogelwch ymhlith padl fyrddwyr, defnyddwyr cychod bach, a caiacwyr, ac i addysgu am risgiau cerrynt rhwygo a gwyntoedd alltraeth.


Parcmon Castellmartin / Cynorthwyydd Tymhorol

Parhaodd Parcmon Castellmartin i gydweithio â phartneriaid i reoli hamdden ar yr Ystâd Hyfforddiant Amddiffyn yn Sir Benfro. Yn cefnogi mynediad pan fydd defnydd milwrol yn caniatáu tra’n diogelu nodweddion cadwraeth y safleoedd ar yr un pryd. Cymerwyd mesurau i amddiffyn adar sy’n nythu ar y clogwyni, morloi a rhywogaethau eraill. Paratowyd cytundeb partneriaeth newydd yn cynnwys y partneriaid ariannu (Y Weinyddiaeth Amddiffyn, Cyfoeth Cenedlaethol Cymru, a’r Awdurdod) i’w gymeradwyo.

Uchafbwynt Effaith Bositif: Roedd cwtiaid torchog yn magu’n llwyddiannus ar Draeth Frainslake am y tro cyntaf ers blynyddoedd lawer, gyda’r safleoedd nythu yn cael eu cau i ffwrdd gan Barcmon Castellmartin i sicrhau nad oedd neb yn tarfu arnynt.


Parcio Traeth ar Traeth Mawr/ Newport Sands

Ar y 9fed o Fai 2023 prynodd yr Awdurdod dir ar Draeth Mawr gyda’r nod o wella’r amgylchedd naturiol a diogelwch ar y traeth drwy atal mynediad i geir i’r traeth. Roedd y tir yn draddodiadol wedi cael ei ddefnyddio gan bobl i barcio eu cerbydau ar y traeth. Cyn prynu, cynhaliwyd cyfarfodydd i geisio atebion i’r digwyddiadau parcio ar y traeth ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Yn dilyn y prynu ac i ddarparu mynediad diogel i bawb, mae’r Awdurdod wedi cyfyngu’r mynediad i gerbydau i’r traeth i’r gwasanaethau brys a’r rhai sydd angen mynediad hanfodol. Yn yr wythnosau cyntaf yn syth ar ôl i’r Awdurdod brynu tir, bu gostyngiad dramatig yn nifer y cerbydau oedd yn gyrru ac yn parcio ar y traeth, gan amlygu ymateb modurwyr i fesurau meddal drwy ond codi negeseuon cyhoeddus ac arwyddion ar y safle. Cyn dechrau tymor yr haf go iawn, cafodd y dull meddal hwnnw ei atgyfnerthu drwy osod rhwystrau ffisegol ar y ddwy lithrfa. Mae’r rhwystrau hynny yn parhau yn eu lle ac, ers canol haf 2023, mae mynediad i’r traeth i gerbydau wedi’i gyfyngu dim ond i gerbydau sydd â chaniatâd at ddibenion gweithredol hanfodol. Yn ystod yr un cyfnod hwn mae capasiti’r maes parcio ffurfiol y mae’r Awdurdod yn ei redeg yn union uwchben y traeth wedi ateb y galw am leoedd parcio heb unrhyw dystiolaeth o gerbydau yn gorfod parcio ar y tir o gwmpas oherwydd diffyg lle yn y maes parcio presennol.

O ganlyniad i fonitro profiad y flwyddyn gyntaf honno a’r adborth gan y cyhoedd, mae’r Awdurdod wedi datblygu cynllun prosiect penodol i wella ffabrig ffisegol Traeth Mawr (Gweler yr adran Cysylltiad am fwy o fanylion).


2. Cefnogi Gweithgareddau Cymraeg, Diwylliannol, Hamdden a Chymunedol


Diwrnod Archaeoleg Blynyddol

Yn ystod mis Tachwedd 2023, cynhaliwyd ein digwyddiad Diwrnod Archaeoleg blynyddol mewn partneriaeth â Phlaned. Mae’r digwyddiad hwn yn helpu mwy o bobl i ymgysylltu ac i ddysgu am Archaeoleg. Daeth dros 180 o bobl i’r digwyddiad, gan gynnwys chwe siaradwr dros y dydd ac amrywiaeth o stondinwyr. Cafodd cyflwyniadau a roddwyd ar y diwrnod eu recordio a’u llwytho i fyny i sianel YouTube Diwrnod Archaeoleg.


Rhaglen Digwyddiadau Cyhoeddus a Chymunedol

Darparodd yr Awdurdod ystod o weithgareddau a digwyddiadau diwylliannol, hamdden a chymunedol yn 2023/24.

Roedd 3,192 o gyfranogwyr yn ein sesiynau gwirfoddoli a gweithredu cymdeithasol cymunedol yn 2023/24. Roedd hyn yn cynnwys cymysgedd o weithgareddau ymarferol yn cwmpasu treftadaeth, mynediad, safle, garddio cadwraeth a gweithgareddau eraill. Ymhlith y grwpiau cymunedol sy’n ymwneud â Grŵp Amgylchedd Moylegrove, Cyfeillion y Parc Cenedlaethol a Grŵp Llwybrau Trefdraeth.

Uchafbwynt Effaith Bositif: Sylwodd cyfranogwyr Gwreiddiau i Adferiad ar lawer o sbwriel yn Noc Penfro, felly gwnaeth y grŵp yr hyn maen nhw’n ei wneud orau a chynnig help llaw. Fe wnaethant ymuno â Chynghorwyr lleol yn ogystal â rhai aelodau gweithgar o Gymuned Doc Penfro a chynnal ymgyrch casglu sbwriel o amgylch y dref i helpu i greu lle glanach i’r cyhoedd.

Roedd 9,528 o gyfranogwyr yn ein sesiynau ymgysylltu a gweithgareddau cymunedol. Roedd hyn yn cynnwys teithiau cerdded â chymorth, gweithgareddau ymgysylltu awyr agored, diwrnodau afal gan ddefnyddio Perllan San Ffraid, amrywiaeth o sgyrsiau sy’n ymdrin â phynciau fel Archaeoleg a Rhywogaethau Ymledol, ymgysylltu mewn sioeau cymunedol gan gynnwys sioe Nanhyfer, Sioe Abergwaun, Sioe Tref Penfro a Sioe Sirol. Roedd y grwpiau cymunedol yr ymgysylltwyd â hwy yn amrywio o Ferched y Wawr, Clwb Cyfeillion Cilgeti, Oriel VC a Grŵp Ieuenctid Point.

Roedd 48,772 o gyfranogwyr yn ein rhaglenni digwyddiadau yng nghanolfannau’r Awdurdod, gan gynnwys digwyddiadau cymunedol. Parhaodd Castell Henllys i gyflawni ei ddigwyddiadau Profiad yr Oes Haearn. Cynhaliodd Oriel y Parc farchnadoedd crefft, digwyddiadau sy’n gysylltiedig â’r arddangosfa Geiriau Diflanedig a chefnogodd Gorymdaith y Ddraig Dydd Gŵyl Dewi. Roedd rhaglen digwyddiadau Caeriw yn amrywio o theatr awyr agored, teithiau adeiladu castell, teithiau cerdded ysbrydion, sesiynau adrodd straeon, saethyddiaeth a lansio’r Fagnel anferthol. Fe wnaethon nhw hefyd gynnal digwyddiadau wedi’u targedu gan y gymuned, gan gynnwys plant yn rheoli’r castell, digwyddiad tywynnu yn ystod cyfnod Nadolig a diwrnod elusennol Sandy Bear.

Roedd 1,430 o gyfranogwyr yn ein rhaglen ddigwyddiadau o amgylch y Parc, gyda 100% o’r mynychwyr a roddodd adborth yn nodi bod ein digwyddiadau yn ardderchog/da, o’i gymharu â 99.34% yn 2022/23. Roedd y digwyddiadau’n cynnwys cyfleoedd i archwilio treftadaeth, tirwedd a natur y Parc, gan gynnwys archwilio Maes Castellmartin. Parhaodd ein harweinwyr gweithgareddau gwirfoddol i chwarae rhan bwysig wrth helpu’r awdurdod i gyflawni ei raglen ddigwyddiadau.

Uchafbwynt Effaith – Adborth Digwyddiad: ““Gwnaeth gwybodaeth a brwdfrydedd yr arweinydd a’r gwirfoddolwr argraff fawr arno.”


Uchafbwynt Cydweithio: Mewn partneriaeth â Chyngor Sir Penfro, mae’r Awdurdod wedi cefnogi Ironman Cymru ers ei sefydlu. Mae’r digwyddiad yn darparu buddion economaidd sylweddol i’r ardal ac yn annog pobl leol i wella eu hiechyd a’u lles. Parhaodd yr Awdurdod i noddi Sioe Sir Benfro a chael stondin yn y digwyddiad. Darparu cymorth i ddigwyddiad cymunedol pwysig yn Sir Benfro a’i ddefnyddio fel llwyfan i ymgysylltu â’r cyhoedd a hyrwyddo gwaith yr Awdurdod.


Profi Treftadaeth a Diwylliant drwy ein Canolfannau

Mae Castell Henllys, Castell a Melin Caeriw ac Oriel y Parc yn rhoi gyfle gwych i bobl brofi treftadaeth a diwylliant.

Cafodd Oriel y Parc 111,388 o ymwelwyr yn 2023/24 cynnydd o 12% o’i gymharu â 2022/23. Cafodd Caeriw 58,132 o ymwelwyr yn 2023/24 gostyngiad o 1.7% o’i gymharu â 2022/23. Cafodd Castell Henllys 21,651 o ymwelwyr yn 2023/24 cynnydd o 13.7% o’i gymharu â 2022/23.

Graff Tuedd – Nifer ymwelwyr a’r Canolfannau. Cafodd Oriel y Parc 111,388 o ymwelwyr yn 2023/24 cynnydd o 12% o'i gymharu â 2022/23. Cafodd Caeriw 58,132 o ymwelwyr yn 2023/24 gostyngiad o 1.7% o'i gymharu â 2022/23. Cafodd Castell Henllys 21,651 o ymwelwyr yn 2023/24 cynnydd o 13.7% o'i gymharu â 2022/23.

Cynhyrchwyd £326,621.67 o dderbyniadau i Gastell Henllys a Chaeriw yn 2023/24 cynnydd o 11% ers 2022/23. Mae ein prisiau derbyn i’n canolfannau treftadaeth yn parhau i fod yn gystadleuol ac yn cynnig gwerth da am arian i deuluoedd. Mae prisiau consesiwn ar waith ar gyfer 65+ a myfyrwyr yng Nghastell Henllys a Chaeriw, gyda mynediad am ddim ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn a gofalwyr. Mae mynediad am ddim hefyd ar waith ar gyfer trigolion sy’n byw yn agos at Gastell Henllys a Chaeriw.

Mae gan bob un o’r tair canolfan gyfleusterau y gall cymunedau eu defnyddio, gan gynnwys caffis a lleoedd i’w llogi neu eu defnyddio.

Uchafbwynt Cydweithio: Cynhaliwyd Oriel y Parc mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru arddangosfa Geiriau Diflanedig / The Lost Words yn 2023/24. Daeth yr arddangosfa â’r gwaith celf gwreiddiol Geiriau Diflanedig gan Jackie Morris ynghyd â’r cerddi Saesneg gan Robert Macfarlane a cherddi Cymraeg a ysgrifennwyd gan Mererid Hopwood. Defnyddiwyd sbesimenau o gasgliadau hanes natur Amgueddfa Cymru i dynnu sylw at lefel y colledion bioamrywiaeth ac esbonio’r gwaith sy’n cael ei wneud i geisio arestio’r dirywiad hwn. Cynhaliwyd cyfres o ddigwyddiadau arbennig a gweithgareddau allgymorth yn Oriel y Parc i gefnogi ymgysylltu â’r arddangosfa. Mae’r arddangosfa wedi bod yn boblogaidd, gydag ymwelwyr oriel wedi cynyddu 74.8% o 13,259 yn 2022/23 i 23,171 yn 2023/24.


Sesiynau a Gweithgareddau Hyrwyddo’r Gymraeg

Mynychodd 1,441 o gyfranogwyr sesiynau rhaglen ddysgu a hwyluswyd yn Gymraeg yn 2023/24. Roedd hyn yn cynnwys sesiynau gydag ysgolion a oedd yn rhan o’r prosiect “Perci ni”. Mynychodd 29 o gyfranogwyr sesiynau a hwyluswyd yn ddwyieithog, mae hyn yn ymwneud â diwrnod addysg gartref ar yr Oes Haearn a gynhelir yng Nghastell Henllys.

Ni hwyluswyd unrhyw sesiynau a gweithgareddau allgymorth/cynhwysiant penodol yn Gymraeg yn 2023/24. Fodd bynnag, mynychodd 20 o gyfranogwyr sesiynau a gweithgaredd allgymorth/cynhwysiant a hwyluswyd yn ddwyieithog. Roedd hyn yn ymwneud â sesiwn Geiriau Diflanedig ar gyfer Springboard a gynhaliwyd yn Oriel y Parc.

Mynychodd 131 o gyfranogwyr sesiynau a gweithgareddau cymunedol a hwyluswyd yn Gymraeg. Roedd hyn yn cynnwys sesiynau gwirfoddoli cymunedol ymarferol a sgyrsiau gyda Merched y Wawr.

Mynychodd 5 o gyfranogwr gweithgareddau cyhoeddus ac ar gyfer ymwelwyr a hwyluswyd yn Gymraeg. Mae hyn yn ymwneud â thaith gerdded Cymraeg Craig Talfynydd. Mynychodd 31,634 o gyfranogwyr weithgareddau cyhoeddus ac ar gyfer ymwelwyr a hwyluswyd yn ddwyieithog. Roedd hyn yn ymwneud yn bennaf â sesiynau Profiad o’r Oes Haearn yng Nghastell Henllys a ddisodlodd Sesiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân a digwyddiadau a llwybrau cymunedol yn y Canolfannau.

Uchafbwynt Effaith – Adborth Digwyddiad: “Cyfle i ymarfer Cymraeg gyda siaradwyr rhugl, dysgu am hanes diddorol yr ardal , sgwrs gyda’r parcmon a oedd mor wybodus am yr ardal.” / “A chance to practise Welsh with fluent speakers, learn about the interesting history of the area, a chat with the ranger who was so knowledgeable about the area.”

Mae Castell Caeriw wedi cyflwyno taith sain ddwyieithog o’r Castell sydd wedi profi’n boblogaidd iawn.


3. Gweithio gyda chymunedau er mwyn deall a chefnogi blaenoriaethau lleol yn well


Y Genhedlaeth Nesaf a’r Pwyllgor Ieuenctid

Parhaodd cyfarfodydd y Pwyllgor Ieuenctid i gael eu cynnal yn 2023/24 gyda chofnodion wedi’u cynnwys ym mhapurau Awdurdod y Parc Cenedlaethol. Mae’r Pwyllgor yn parhau i ddatblygu Maniffesto Ieuenctid Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Maent wedi bod yn ymwneud yn gynnar ag adolygu cynllun rheoli’r Parc Cenedlaethol. Cyfrannodd y grŵp at Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Strategaeth a Chynllun Tlodi Plant Cymru.

Enillodd aelodau’r Pwyllgor gyllid ar gyfer gwaith murlun ac maent wedi defnyddio’r murlun i ymgysylltu â phobl ifanc eraill gyda materion sy’n effeithio ar y Parc.

Roedd gweithgareddau ehangach y Genhedlaeth Nesaf yn cynnwys sesiynau ymarferol ac ymgysylltu yn yr awyr agored, gan gynnwys y Parcmyn Ifanc.

Uchafbwynt Cydweithio: Yn ystod 2023/24 cynhaliwyd sesiynau ar y cyd rhwng cyfranogwyr y Genhedlaeth Nesaf yr Awdurdod a Gwardeiniaid Ieuenctid Bannau Brycheiniog. Roedd y digwyddiadau yn cynnwys ymweliad â’r Garn Goch ardal o goetir sy’n eiddo i’r Bannau, sesiwn sgiliau prysgoedio a rheoli coetiroedd yn Ne Sir Benfro a phreswylfa yn y Bannau. Fel rhan o’r preswyl, siaradodd y bobl ifanc am lais ieuenctid a maniffesto, mynd am dro yng Ngwlad y Rhaeadr a chyfarfod swyddog y Gylfinir.


Fforwm Gwirfoddolwyr

Mae Fforwm Gwirfoddolwyr yn ei le, a darperir cofnodion ym mhapurau Awdurdod y Parc Cenedlaethol. Darparwyd cyflwyniad i’r fforwm ar adolygiad Cynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol, gan annog gwirfoddolwyr i gymryd rhan mewn ymgynghoriad.

Mae gwaith wedi’i wneud i gyflwyno system rheoli gwirfoddolwyr newydd Better Impact yn ystod y flwyddyn.


Cynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol

Roedd gweithgareddau ar y gweill yn 2023/24 i gefnogi’r adolygiad o Gynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol. Gan gynnwys lansio Arolwg Rhinweddau Arbennig ar-lein. Gofynnodd yr arolwg gwestiynau i’r cyfranogwyr ar yr hyn sy’n gwneud y Parc Cenedlaethol yn arbennig iddyn nhw a beth sydd angen ei wneud i amddiffyn ac adfer y rhinweddau arbennig hyn. Cysylltodd swyddogion ag ystod o bartneriaid a phartneriaethau ym mis Chwefror a Mawrth 2024 i lywio’r gwaith o ddatblygu Cynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol ar gyfer ymgynghori. Roedd y rhain yn cynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (Natur, Datgarboneiddio a’r Hinsawdd), Y Genhedlaeth Nesaf – Pwyllgor Ieuenctid, , Partneriaeth Natur Sir Benfro, Fforwm Gwirfoddolwyr, a Chyfeillion Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.


Fframwaith Partneriaeth

Fel rhan o adolygiad ehangach o adroddiadau sy’n gysylltiedig â pherfformiad, penderfynwyd y byddai adroddiad partneriaeth flynyddol yn cael ei gynhyrchu i roi trosolwg o’n gweithgareddau partneriaeth. Bydd gwaith ehangach yn cael ei wneud i adolygu’r fframwaith partneriaeth ar ôl cymeradwyo Cynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol diwygiedig yn 2024/25.


Archaeoleg Gymunedol

Mae archeolegydd cymunedol yr Awdurdod wedi parhau i gefnogi mentrau archaeoleg yn y gymuned. Fis Gorffennaf cyflwynwyd sesiwn lidar cymunedol mewn partneriaeth â thîm prosiect CUPHAT yn y Preseli. Cefnogwyd CBHC a Phrifysgol Southampton i gyflwyno hyfforddiant i fyfyrwyr mewn technegau tirfesur 3D ar Benrhyn Dewi. Fis Medi, cefnogodd yr Awdurdod brosiect UCL ar gloddio Cerrig Côr y Cewri yn y Preseli. Roedd hyn yn cynnwys benthyca offer cloddio a recriwtio gwirfoddolwyr. Yn ogystal, cyflwynodd yr archaeolegydd cymunedol deithiau tywys o gwmpas y gwaith cloddio i’r cyhoedd. Mae fersiwn ddwyieithog o arweinlyfr Castell Nanhyfer wedi’i gwblhau, mae hwn wedi bod yn gydweithrediad rhwng yr Awdurdod, Cyfeillion Castell Nanhyfer a Phrifysgol Durham.


Cynlluniau Cymunedol ar Gyfer Natur

.Roedd y tîm Parcmyn wedi dechrau ar y gwaith yn 2023/24 i gwblhau dau gynllun peilot natur gymunedol ar gyfer Aberllydan a Chaeriw. Gellir defnyddio’r rhain, unwaith y byddant wedi’u cwblhau fel cynlluniau templed ar gyfer meysydd eraill os oes potensial i wneud hynny. Mae’n anodd amserlennu’r cynnydd oherwydd bod y cynlluniau’n golygu dod â chymunedau at ei gilydd i gydweithio, felly mae’r gymuned yn penderfynu cyflymder.


Cefnogi Creu Lleoedd – Polisi a Gwasanaeth Cynllunio

Canllawiau Cynllunio Atodol

Mabwysiadwyd y Canllawiau Cynllunio Atodol canlynol ym mis Medi 2023, ar ôl i Aelodau ystyried ymatebion i’r ymgynghoriad:

  • Morluniau (a baratowyd ar y cyd â Chyngor Sir Penfro)
  • Coed a Choetir
  • Colli Gwestai a Thai Gwestai

Gwaith Paratoi Ymgynghori – Erthygl 4

Gwnaed gwaith paratoi yn 2023/24 i gefnogi papur i’w gyflwyno i Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn 2024/25 ar gael cymeradwyaeth i ymgynghori ynghylch a ddylid gwneud Cyfarwyddyd ffurfiol Erthygl 4 i eithrio rhai hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer gwersylla a charafanio. Mae hyn er mwyn darparu fframwaith cynllunio a fydd yn caniatáu i Awdurdod y Parc Cenedlaethol hyrwyddo twristiaeth adfywiol mewn modd cynaliadwy. Fel rhan o’r paratoad hwn ystyriwyd amrywiaeth o opsiynau trwy weithdai a chyfarfodydd gydag Aelodau Awdurdod y Parc Cenedlaethol, Swyddogion Rheoli Datblygu’r Awdurdod, Swyddogion Cynllunio o Gyngor Sir Penfro, Gweithdy rhanddeiliaid gydag asiantau ac ymgymerwyr statudol, rhanddeiliaid twristiaeth, diogelu’r cyhoedd Cyngor Sir Penfro, Llywodraeth Cymru a Ymwelwch â Sir Benfro.


Cyngor Cyn Ymgeisio a Chytundebau Perfformiad Cynllunio

 Yng nghyfarfod Awdurdod y Parc Cenedlaethol ym mis Chwefror cytunodd yr Aelodau i gyflwyno gwasanaeth cyn-ymgeisio dewisol newydd, yn ogystal â’r gwasanaeth cyn-ymgeisio statudol presennol. Cefnogwyd hefyd gyflwyno cytundebau perfformiad cynllunio a fyddai’n cefnogi’r gwasanaeth cynllunio wrth ymateb i geisiadau mwy cymhleth.
Mae’r cynnig yn adlewyrchu’r dull y mae llawer o Awdurdodau Cynllunio eisoes wedi’i fabwysiadu, ac roedd y taliadau arfaethedig yn seiliedig ar fodel a ddefnyddiwyd gan Gyngor Sir Penfro er mwyn sicrhau cysondeb ar draws Sir Benfro.


Ymgysylltu â Chynghorau Cymuned

The Authority delivered two training events for Community Councils in October and November 2023. The online event had good attendance, however only one person attended the in-person event.


Gwasanaeth Gorfodi

Cafodd cynorthwyydd gorfodi newydd ei recriwtio yn ystod y flwyddyn. Maen nhw’n helpu i gau a chwblhau achosion o ôl-groniad a adawyd gan swyddogion blaenorol a covid. Bydd gwaith yn cael ei wneud yn 2024/25 i adolygu sut mae data yn cael ei gofnodi ar y system, er mwyn sicrhau bod ein ffigurau gorfodi yn adlewyrchu’n gywir y gwaith a wnaed gan swyddogion. Bydd swyddogion hefyd yn dechrau proses o adolygu’r polisi gorfodi a chydymffurfio yn 2024/25.


Y Tai Fforddiadwy a Gwblhawyd

Gosododd polisi 48 y Cynllun Datblygu Lleol darged i gyflawni 362 o anheddau fforddiadwy dros gyfnod y cynllun 2016 i 2031. Mae hyn yn cyfateb i darged blynyddol o 23 annedd fforddiadwy.  Mae’r data o’r Adroddiad Monitro Blynyddol diweddaraf ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol yn dangos:

  • Cwblhawyd 27 o dai fforddiadwy yn 2023/24.
  • Ers 2015, mae 210 o dai fforddiadwy wedi’u cwblhau, sy’n uwch na’r targed o 207.

Perfformiad Cynllunio – Cynllun Datblygu Lleol

Mae perfformiad yn erbyn Cynllun Datblygu Lleol 2 yn cael ei gofnodi yn adroddiad monitro blynyddol y cynllun datblygu lleol. Mae’r adroddiad hwn yn cael ei gyflwyno i Awdurdod y Parc Cenedlaethol a’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru.


Perfformiad Cynllunio – Dangosyddion Llywodraeth Cymru

Mae data meincnodi perfformiad cynllunio ar gyfer awdurdodau cynllunio eraill ar gael ar dudalennau Cynllunio Llywodraeth Cymru fel rhan o’r arolwg chwarterol rheoli datblygu.

Yn ystod 2023/24 mae’r gwasanaeth Rheoli Datblygu wedi canolbwyntio ar fynd i’r afael â cheisiadau cynllunio hŷn ac mae wedi gwneud cynnydd da gyda hyn.  Mae’r tîm wedi’i ailstrwythuro drwy greu dau dîm ardal sy’n adrodd i ddau Brif Swyddog Cynllunio yn ogystal â chreu rôl Cynorthwyydd Cadwraeth a Gorfodi newydd sydd wedi cryfhau tîm gorfodi yr Awdurdod. Mae’r elfennau hyn wedi’u cyflwyno i wella cydnerthedd a’r canlyniadau o fewn y gwasanaeth Rheoli Datblygu.

Mae’n braf nodi bod ystadegau Ch4 yn dangos perfformiad cynyddol o ran ceisiadau a benderfynir o fewn amserlenni y cytunwyd arnynt.

Roedd gwaith mawr i uwchraddio’r gronfa ddata ddiwedd Chwarter 4 ac ymlaen i ddechrau Chwarter 1 2024/25 wedi achosi oedi sylweddol o ran penderfynu ar geisiadau a rhai materion adrodd sy’n dal i gael eu datrys. Mae hyn yn debygol o fod wedi effeithio ar y ffigurau perfformiad am Chwarter 1 2024/25 ac yn golygu nad yw ffigurau gorfodi am Chwarter 4 ar gael eto. Rydym yn gweithio ar y mater hwn fel mater o flaenoriaeth.

Mae gwybodaeth o’r Adroddiad Monitro Blynyddol yn parhau i ddangos lefelau uchel o ddarparu tai fforddiadwy, ac mae’r penderfyniadau apêl gan PEDW wedi aros ar lefel 100% o wrthod apêl yn ystod y flwyddyn, sy’n dangos bod PEDW yn cefnogi rhesymau’r Awdurdod dros wrthod cais, ac sy’n arwydd o ansawdd mewn gwneud penderfyniadau. Y ffocws am 2024/25 yw parhau i gyflawni canrannau yn unol â chyfartaleddau Cymru am benderfyniadau y cytunwyd arnynt o fewn yr amserlen, a gwella’r amserlen ar gyfer gwneud penderfyniadau.


Llwyth Gwaith Ceisiadau Cynllunio

Derbyniwyd 526 o geisiadau cynllunio yn 2023/24. Cafodd 459 o geisiadau cynllunio ei penderfyni. Tynnwyd 44 cais cynllunio yn ôl neu eu trosglwyddo.

Ceisiadau cynllunio wedi eu penderfynu o fewn amserlenni statudol ac a gytunwyd

Chwarter Nifer y penderfynwyd o fewn amser Nifer na penderfynwyd o fewn amser Canran penderfynwyd o fewn amser Cyfartaledd Cymru
Ch1 58 29 67% 84%
Ch2 98 36 73% 85%
Ch3 68 55 55% 83%
Ch4 100 15 87% 87%

 

Amser cyfartalog i wneud penderfyniad ynghylch ceisiadau

Chwarter Amser cyfartalog i wneud penderfyniad ynghylch ceisiadau Cyfartaledd Cymru
Ch1 121 105
Ch2 123 110
Ch3 123 114
Ch4 139 116

 

 Gwrthod Apeliadau

Chwarter % yr apeliadau a wrthodwyd
Ch1 100
Ch2 100
Ch3 100
Ch4 100

 

Penderfyniadau a wneir yn groes i Argymhelliad y Swyddog

Ni wnaed unrhyw benderfyniadau yn groes i argymhelliad y swyddog yn 2023/24.

 

Gorfodi a Chamau Gweithredu Cadarnhaol a Gymerwyd

Chwarter Nifer yrachosion a ymchwiliwyd o fewn 84 diwrnod neu lai Nifer yr achosion yr ymchwiliwyd iddynt mewn mwy nag 84 diwrnod Cyfanswm yr achosion gorfodi yr ymchwiliwyd iddynt
Ch1 24 3 27
Ch2 25 7 32
Ch3 24 9 33
Ch4 10 20 30

 

Chwarter Amser cyfartalog a gymerir i ymchwilio i achosion gorfodi mewn diwrnodau
Ch1 91
Ch2 466
Ch3 139
Ch4

 

Chwarter Amser cyfartalog a gymerir i gymryd camau gorfodi mewn diwrnodau
Ch1 118
Ch2 532
Ch3 98
Ch4

Yn Ch2 nodwyd rhai achosion a ddylai fod wedi cau ond na chawsant eu cau o’r blaen ar y system a’u cau wedi hynny. Mae hyn wedi clirio ôl-groniad o achosion ar y system. Ond cafodd effaith sylweddol ar nifer y diwrnodau ar gyfer Ch2 o ran y mesurau hyn. Mae rheolwyr yn adolygu prosesau gyda staff i sicrhau bod achosion yn cael eu cau yn briodol wrth symud ymlaen. Mae gweithgareddau mudo ar gyfer y system gynllunio wedi golygu nad yw ffigyrau gorfodi chwarter pedwar ar gael.


Perfformiad Cynllunio – Dangosyddion Ychwanegol

Cafodd 32 cais am waith i goed gwarchodedig eu penderfynu yn 2023/24, o’i gymharu â 26 yn 2022/23. Gwnaed 1 Gorchymyn Cadw Coed newydd yn 2023/24 o’i gymharu â dim yn 2022/23. Gostyngodd canran yr adeiladau sydd mewn perygl, yn seiliedig ar arolwg Cadw o 5.5% yn 2022/23 i 5% yn 2022/23. Penderfynwyd ar 25 cais adeilad rhestredig o dan gynllun dirprwyedig CADW yn 2023/24, o’i gymharu â 19 yn 2022/23.


Meysydd Newid Corfforaethol

Camau gwella a nodwyd yn y Datganiad Llywodraethu Blynyddol:

  • Camau gwella a nodwyd yn y Datganiad Llywodraethu Blynyddol
  • Cynlluniau Cyflenwi ar:
    • Llywodraethu a Gwneud Penderfyniadau
    • Datblygu Sgiliau a Hyfforddiant
    • Adnoddau ac Ehangu ein Cyllid
    • Cyfathrebu a Marchnata
    • Trawsnewid Digidol
  • Rheoli Risg a monitro sicrwydd yn erbyn meysydd cydymffurfio a gwella corfforaethol
  • Adroddiadau Archwilio Cymru ac Archwilio Mewnol

Effeithiau Ardaloedd Newid Corfforaethol 2023/24

Nodyn: Mae ardaloedd sy’n ymwneud â Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd yn cael eu cynnwys o dan Amcanion Llesiant Cadwraeth a Hinsawdd.


Creu Cynlluniau Cyflawni

Cymeradwyodd yr Awdurdod y Cynllun Corfforaethol ac Adnoddau 2023/24 – 2026/27 a set o Gynlluniau Cyflawni cysylltiedig yn APC mis Gorffennaf. Mae’r Cynlluniau Cyflawni hyn yn troi ein huchelgeisiau yn gamau gweithredol i gefnogi eu cyflawni.


Fframwaith Perfformiad Newydd

Datblygwyd fframwaith perfformiad newydd yn dilyn creu cynlluniau cyflawni. Cafodd set newydd o adroddiadau eu treialu mewn pwyllgorau perthnasol.


Rheoli Risg

Yn dilyn argymhellion gan archwiliad mewnol fe wnaeth yr Awdurdod gymeradwyo Polisi Rheoli Risg newydd. Cyflwynodd y polisi diwygiedig elfennau sicrwydd newydd i adlewyrchu’r arfer da a ddarperir gan y model tair llinell ac mae’n cyflwyno dull o roi awydd risg. Penodwyd Astari fel archwilwyr mewnol newydd yr Awdurdod yn ystod 2023/24. Maent wedi darparu dull o archwilio mewnol sy’n canolbwyntio mwy ar risg. Bydd dull gwell o reoli risg yn cefnogi’r Awdurdod gyda sganio gorwelion ac ystyried risgiau tymor hwy.


Parhad Busnes ac Adfer Trychineb

Rhoddwyd Cynllun Parhad Busnes a Chynllun Adfer Trychineb diwygiedig ar waith a’u cyflwyno i’r Pwyllgor Archwilio a Gwasanaethau Corfforaethol. Sefydlwyd grŵp Parhad Busnes ochr yn ochr â thîm Microsoft. Mae ymarfer parhad busnes gyda swyddogion perthnasol wedi’i gynllunio ar gyfer Hydref 2024/25.


Cylch Archwilio

Bu oedi cyn llofnodi’r cyfrifon am 2022/23 oherwydd colli staff allweddol a gwybodaeth gorfforaethol ac amserlen archwilio ddiweddarach a gyhoeddwyd gan Archwilio Cymru. Cyhoeddwyd Hysbysiad o Ardystio Cwblhau’r Archwiliad ar 20 Tachwedd. Mae’r Awdurdod yn gweithio gydag Archwilio Cymru o ran dod â’r amserlen archwilio yn ôl i’r amserlen arferol. Fodd bynnag, bydd hyn yn cymryd nifer o gylchoedd archwilio.

Roedd oedi yn Archwilio Cymru yn gwneud ei waith archwilio perfformiad arfaethedig yn ystod 2022/23. Fodd bynnag, mae’r gwaith hwn bellach wedi’i drefnu i’w gwblhau yn 2024/25.


Rheoli a Chyfathrebu Polisi Corfforaethol

Mae’r Awdurdod yn adolygu ei holl bolisïau ac yn eu symud i dempledi newydd gyda gwell rheolaeth ar y fersiwn. . Mae proses rheoli dogfennau newydd wedi’i chyflwyno i helpu gyda rheoli dogfennau yn y dyfodol. Datblygwyd hwb polisi corfforaethol ar fewnrwyd newydd i staff. Bydd gwaith yn mynd rhagddo yn 2024/25 i adolygu a chyhoeddi polisïau wedi’u diweddaru i’r fewnrwyd staff. Mae Xpert HR yn cael ei ddefnyddio i gefnogi adolygu polisïau Adnoddau Dynol ac mae tîm AD yn cynnal yn rheolaidd sesiynau adolygu polisi.


Gwerthoedd

Mewn blynyddoedd blaenorol, gwnaed gwaith ymgysylltu â staff i lywio’r gwaith o ddatblygu set newydd o werthoedd. Fodd bynnag, yn dilyn gweithgareddau ailstrwythuro a newidiadau i bersonél cafodd y gwaith hwn ei ohirio yn 2023/24. Bydd y gwaith ar hyn yn ailgychwyn yn 2024/25, gan gynnwys edrych ar sut y gallai set newydd o werthoedd gydgysylltu ag adolygu Cod Ymddygiad Gweithwyr.


Monitro Cwynion

Cafodd 16 o gwynion ffurfiol eu gwneud i’r Awdurdod yn 2023/24, mae hyn yn ostyngiad ar y 24 cwyn a wnaed yn 2022/23

Cyfeiriwyd 1 gŵyn at yr Ombwdsmon a’i chadarnhau yn 2023/24. Roedd y gŵyn yn ymwneud â methu ag ymateb i gŵyn mewn modd amserol na rhoi diweddariadau i’r achwynydd. Roedd yr Awdurdod yn cydnabod bod angen rhoi diweddariadau mwy cyson i achwynwyr yn y dyfodol. Dylai’r newidiadau a wnaed fis Medi 2023 i weithdrefn yr Awdurdod o wneud cŵyn helpu i wella’r prosesau a’r rheolaeth ar gyfathrebu ag achwynwyr yn y dyfodol.


Asesiadau Integredig

Yn 2023/24 cynhaliwyd asesiad integredig ar y canlynol:

  • Cynllun Corfforaethol ac Adnoddau a’r Cynllun Cyflawni
  • Strategaeth y Gymraeg
  • Gorchymyn (Llefydd Parcio Oddi ar y Stryd) Cyngor Sir Penfro / Parc Cenedlaethol Penfro
  • Canllawiau cyn ymgeisio a chytundeb perfformiad cynllunio.

Yn ogystal, ychwanegwyd atodiad i’r asesiad integredig ar weithredu’r arferion newydd o reoli Traeth Mawr Trefdraeth i atal yr arfer o Barcio ar y Traeth (yn dilyn prynu rhan o’r twyni a’r traeth). Roedd yr atodiad hwn yn ystyried y camau gweithredu a gymerwyd yn dilyn ymgynghori â’r cyhoedd a’r ymgysylltu ynglŷn â’r cynnig ar gyfer Traeth Mawr. Roedd mynd i’r afael â’r bylchau yn y data ac yn yr ymgysylltu o ran yr asesiad gwreiddiol yn helpu i wella’r camau o liniaru’r effeithiau a glustnodwyd, yn arbennig ar gyfer pobl anabl, o ran mynediad.

Cyfarfu grŵp o staff i edrych ar ddatblygu rhestr wirio prosiectau sy’n gysylltiedig â dull asesu integredig. Mae gwaith pellach wedi’i gynllunio i ddatblygu rhestr wirio’r prosiect yn 2024/25 ochr yn ochr â diweddaru canllawiau, sbardun a thempledi dogfennau ar gyfer asesiadau llawn.


Ymgysylltu Aelodau

Roedd presenoldeb yr Aelodau mewn Pwyllgorau yn 2023/24 yn 84.81%, o gymharu â 89.61% yn 2022/23. Bu gostyngiad ym mhresenoldeb yr Aelodau ar hyfforddiant i 56.25%, sy’n is na’r targed o 65%, a gostyngiad o 72.92% yn 2022/23. Mae presenoldeb is mewn sesiynau ar y safle a chan amseriad gwael rhai sesiynau a drefnir yn allanol, wedi effeithio ar y ffigurau. Roedd presenoldeb da ar y cyfan mewn sesiynau wyneb yn wyneb a sesiynau rhithiol yn 2023/24.

Derbyniwyd 8 cynllun datblygu personél gan yr Aelodau i lywio cynllun hyfforddi’r Aelodau. Cynhaliwyd adolygiadau Perfformiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar gyfer penodiadau Llywodraeth Cymru.


Ymgysylltu â’r Cyfryngau ac Ar-lein

Mae’r Awdurdod wedi gweld gostyngiad o 33% mewn golygfeydd gwe-ddarlledu o 296 yn 2022/23 i 197 yn 2023/24.

Roedd 96.67% o’r sylw yn y cyfryngau yn 2023/24 yn niwtral neu’n gadarnhaol, mae hyn yn cymharu â 99.52% yn 2022/23.

Roedd 476,516 o ddefnyddwyr prif wefan yn 2023/24 o’i gymharu â 290,110 yn 2022/23. Roedd 1,374,007 o olygfeydd tudalen prif wefan yn 2023/24 o’i gymharu â 936,219 yn 2022/23. Fodd bynnag, mae’r ffigur hwn wedi’i gamliwio gan nifer uchel o ymweliadau â thudalennau hafan yr Awdurdod ac nid y wefan gyfan.


Cyllidebu Seiliedig ar Sero

Cynhaliwyd ymarfer ar sail sero yn 2023 ond nid yw’n cael ei adlewyrchu yng nghyllideb 2024/25 oherwydd newidiadau yn y tîm cyllid. Bydd proses newydd yn cael ei chwblhau ar gyfer cyllideb 2025/26. Dechreuodd aelodau’r Tîm Rheoli ddatblygu opsiynau ar gyfer delio â gostyngiad o 25% o arian dros y ddwy flynedd nesaf. Mae hyn yn cynnwys cynhyrchu incwm ac opsiynau torri costau. Bydd y wybodaeth hon yn bwydo i mewn i sefyllfaoedd gosod cyllideb dros y ddwy flynedd nesaf.


Arallgyfeirio Incwm

Yn ystod gweithdy cafodd rhestr wirio hunan arfarnu Archwilio Cymru ei chwblhau gan Aelodau a Swyddogion. Defnyddir elfennau perthnasol o’r rhestr wirio i asesu gweithgareddau arallgyfeirio incwm yn y dyfodol a llywio datblygiad strategaeth arallgyfeirio incwm yn 2024/25. Sefydlwyd grŵp arallgyfeirio incwm gydag Aelodau.

Gan ddefnyddio cyllid gan Lywodraeth Cymru, mae’r Awdurdod wedi cyflogi ymgynghorydd i gyfrannu at greu syniadau ac opsiynau i gynhyrchu incwm ychwanegol. Bydd yr ymgynghorydd yn ymgysylltu ag unigolion ar draws yr Awdurdod ac yn llunio adroddiad yn 2024/25 i helpu i ddatblygu strategaeth


Strategaeth Codi Arian

Mae strategaeth codi arian ddrafft wedi’i datblygu gan y tîm codi arian. Mae’r tîm hefyd wedi bod yn gweithio gydag adrannau i nodi anghenion a chyfleoedd cyllido a defnyddio’r adolygiad o gynlluniau cyflawni i helpu i lywio penderfyniadau gydag ymagwedd flaengar at 2025/26.

Mae’r timau codi arian yn gweithio ar gais i gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol ar gyfer y prosiect Cysylltu Natur 25×25, sef menter sy’n ceisio llwyddo i hybu adfer byd natur ar draws 25% o ran ogleddol y Parc Cenedlaethol erbyn 2025. Sicrhawyd grant o £244,450 o’r gronfa gyda £5,000 ychwanegol yn cael ei ddarparu gan Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro. Mae dull y prosiect hwn sy’n cyfuno gwaith cadwraeth gyda chyfleoedd i bobl o grwpiau a dangynrychiolir a chymunedau difreintiedig i gymryd rhan mewn gweithgareddau cadwraeth natur yn dangos sut y gall prosiectau sydd wedi’u hadeiladu’n dda gyfrannu at gyflawni mwy nag un o Amcanion Llesiant yr Awdurdod.


Cynllun Cydraddoldeb

Cynhaliwyd gweithgareddau cynllunio cychwynnol gan gynnwys gweithdy gyda swyddogion i lywio’r adolygiad o’r Cynllun Cydraddoldeb a fydd yn digwydd yn 2024/25.

Yn dilyn cyngor gan y CCHD, bydd yr adroddiad cydraddoldeb blynyddol nawr yn adroddiad ar wahân i’r Adroddiad Blynyddol ar Gyflawni Amcanion Llesiant. Mae Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol 2023/24 yn rhoi rhagor o fanylion o ran cynnydd yn erbyn dyletswyddau cyffredinol a chynllun cydraddoldeb. Mae hefyd yn nodi ein data monitro cydraddoldeb gweithlu a recriwtio ar gyfer y flwyddyn.


Strategaeth a Safonau’r Gymraeg

Cymeradwywyd Strategaeth Hybu’r Gymraeg 2023-28 ddiwygiedig gan yr Aelodau yn yr APC ym mis Rhagfyr. Pob blwyddyn mae’r Awdurdod yn cyhoeddi. Adroddiad Blynyddol Safonau’r Gymraeg.

Roedd Comisiynydd y Gymraeg wedi cadarnhau cwyn a wnaed iddynt nad oedd y fersiwn print o Coast to Coast yn gyhoeddiad dwyieithog. Mewn ymateb, cynhyrchwyd fersiwn print O Lan i Lan 2024 fel cyhoeddiad dwyieithog yn unol â gofynion Safonau’r Gymraeg. Bydd holl fersiynau print O Lan i Lan / Coast to Coast yn y dyfodol yn ddwyieithog.


Diogelu

Ni chafwyd unrhyw ddigwyddiadau diogelu yn 2023/24 gan barhau â’r duedd o 2021/22 a 2022/23.

Bu oedi wrth weithredu camau archwilio mewnol ar gyfer diogelu gan gynnwys gweithredu mân newidiadau i bolisi diogelu. Mae un o’r camau archwilio mewnol yn ymwneud â’r adroddiad Diogelu blynyddol a’r nod yw y bydd adroddiad blynyddol yn cael ei ddarparu i Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn 2024/25.


Trawsnewid Digidol a Rheoli Cofnodion

Lansiwyd safle mewnrwyd staff newydd ar Sharepoint, gan gynnwys creu adran dogfennau corfforaethol newydd.

Cyflwynodd TG nifer o sesiynau hyfforddi Microsoft 365 ar gyfer staff yn ystod y flwyddyn. Bydd anghenion hyfforddi TG ehangach staff yn cael eu codi drwy adolygiadau Llesiant a Datblygu gorffenedig gyda staff.

Dechreuodd Prosiect Rheoli Cofnodion yn ystod y flwyddyn, gan weithio gydag adrannau i ailstrwythuro’r F Drive i adlewyrchu adrannau newydd y sefydliad a thrafod sut y gallant ddefnyddio Microsoft Teams ar gyfer gwelliannau.

Mae gwaith ehangach yn cael ei wneud i gefnogi dogfennau atebolrwydd rheoli cofnodion, gyda’r nod o ddatblygu’r gwaith hwn ymhellach yn 2024/25. Sefydlwyd grŵp rheoli cofnodion mewnol i helpu i gefnogi’r gwaith hwn ac mae Swyddog Diogelu Data’r Awdurdod yn aelod o’r grŵp.

Adolygwyd camau gweithredu o fewn y cynllun Trawsnewid Digidol ym mis Mawrth 2023/24 a’u diweddaru i ystyried heriau, risgiau, blaenoriaethau ac argymhellion archwilio mewnol ehangach TG.


Diogelu Data

Cofnodwyd yn fewnol 8 achos o dorri rheolau diogelu data. Adroddwyd yr Awdurdod 1 o’r achosion hyn i’r ICO, ac yn seiliedig ar wybodaeth a ddarparwyd ni chymerwyd unrhyw gamau gorfodi ffurfiol gan yr ICO. Roedd 1 o’r achosion hyn yn ymwneud â chwyn a wnaed yn uniongyrchol i’r ICO ynghylch rhannu data personol gydag ymgynghorydd trydydd parti heb sail gyfreithiol. Roedd yr ICO yn fodlon â’r sail gyfreithlon yr oeddem yn dibynnu arni o dasg gyhoeddus. Adolygodd yr Awdurdod ei hysbysiad preifatrwydd cynllunio yn dilyn y gŵyn. Gofynnodd yr Awdurdod am eglurhad ynghylch pa mor aml y mae angen i staff gwblhau hyfforddiant diogelu data, gydag ICO yn argymell bod hyfforddiant yn cael ei gynnal yn flynyddol. Mewn ymateb datblygwyd fideo hyfforddi gloywi gan ein Swyddog Diogelu Data a gweithredwyd rhaglen hyfforddi gloywi. Cwblhawyd asesiadau effaith Diogelu Data ar system archebu E-feiciau a phrosiect F Drive.


Llywodraethu Gwybodaeth

Roedd gan yr Awdurdod 12 o Geisiadau Rhyddid Gwybodaeth yn 2023/24, o’i gymharu â 10 yn 2022/23 a 14 yn 2021/22. Darparwyd 100% ohonynt o fewn yr amserlenni gofynnol, gwelliant ar 90% yn 2022/23. Roedd gan yr Awdurdod 26 o Geisiadau Gwybodaeth Amgylcheddol yn 2023/24, o’i gymharu â 21 yn 2022/23 ac 16 yn 2021/22. Darparwyd 100% ohonynt o fewn yr amserlenni gofynnol, gwelliant ar 85.71% yn 2022/23. Roedd gan yr Awdurdod 4 o geisiadau Mynediad i Wybodaeth Bersonol yn 2023/24, o’i gymharu â 4 yn 2022/23 a 2 yn 2021/22. Darparwyd 75% ohonynt o fewn yr amserlenni gofynnol, gostyngiad o’i gymharu â 100% yn 2022/23. Fodd bynnag, mae hyn yn adlewyrchu bod gan yr Awdurdod nifer o Geisiadau Mynediad i Wybodaeth Bersonol cymhleth yn chwarter 1. Mae’r cyfrifoldeb am ymatebion bellach yn cael eu rheoli gan y Gwasanaethau Democrataidd ac nid ydynt bellach wedi’u rhannu â Gwasanaethau Cwsmeriaid. Ymatebwyd y Ceisiad Mynediad i Wybodaeth Bersonol a dderbyniwyd yn chwarter 4 mewn pryd. Mae Uwch Dîm Rheoli hefyd wedi cytuno y gellir cynnig oriau achlysurol ychwanegol yn y dyfodol i ddelio â Cheisiadau Mynediad i Wybodaeth Bersonol cymhleth os oes angen.


Adolygiad Talu a Graddio

Cynhaliodd AD waith sylweddol i symud ymlaen yr adolygiad cyflog a graddio yn dilyn newidiadau mewn personél a effeithiodd ar y gwaith hwn yn gynharach yn y flwyddyn. Drwy weithio gyda staff perthnasol, cyflwynwyd disgrifiadau swydd a gwybodaeth ategol i’r ymgynghorwyr a oedd yn cynnal yr adolygiad. Mae’r ymgynghorwyr wedi bod yn datblygu strwythur sy’n seiliedig ar bwyntiau hierarchaidd ar gyfer swyddi. Mae swyddi ychwanegol a oedd yn newydd i’r Awdurdod ers hydref 2023 hefyd wedi’u hychwanegu at y broses graddio ac mae hyn wedi cael effaith bellach ar yr amserlen. Rhannwyd yr hierarchaeth pwyntiau cychwynnol oedd yn dod i’r amlwg, a chafodd swyddi eu paru â gweithwyr i sicrhau bod pob swydd wedi’i gwerthuso. Cytunwyd cymedroli sampl o 10%, a threfnwyd 2 ddiwrnod cymedroli ar gyfer mis Mawrth 2024. Mae cwblhau’r gwaith hwn yn faes blaenoriaeth i AD ar gyfer 2024/25.


Diweddaru’r Broses Sefydlu

Dechreuodd AD weithio ar gwmpasu proses newydd gan gynnwys casglu deunydd presennol y gellid ei ddefnyddio a nodi arfer gorau. Bydd y gwaith yn parhau yn 2024/25.


Arfarniad a Hyfforddiant

Crëwyd ffurflen llesiant a datblygu diwygiedig yn chwarter pedwar 2023/24 yn barod i’w defnyddio yn chwarter 1 2024/25. Bydd yr wybodaeth a gynhwysir mewn adolygiadau gorffenedig yn cael ei defnyddio i nodi bylchau sgiliau a chytuno ar yr ymyriad hyfforddiant mwyaf priodol i ddiwallu anghenion staff. Bydd hyn yn llywio datblygiad cynllun hyfforddi ar gyfer staff gan gynnwys ystyried anghenion hyfforddi’r Tîm Rheoli newydd.


 Llwybrau at Gyflogaeth

Mae’r Awdurdod wedi datblygu rolau hyfforddeion am gynllunio ac adnoddau dynol. Mae swyddogion wedi bod yn mynychu digwyddiadau gyrfaol. Bydd gwaith pellach yn y maes hwn yn cael ei wneud unwaith y bydd gwaith ar adolygu cyflogau a graddio wedi’i gwblhau.


Iechyd a Diogelwch

Newidiwyd Cylch Gorchwyl y Grŵp Iechyd a Diogelwch i amlygu amgylchiadau’r Awdurdod yn well yn dilyn yr ailstrwythuro. Cafodd y digwyddiadau, achosion fu bron â digwydd, a risgiau iechyd a diogelwch eu hadolygu yn y cyfarfodydd diogelwch, a rhannu’r gwersi a ddysgwyd ar draws yr adrannau lle bo’n berthnasol. Yn 2024, bydd gweithgor llai yn ffurfio i adolygu a chynnal adolygiadau i’w dwyn gerbron y Grŵp Iechyd a Diogelwch i gynorthwyo i flaenoriaethu’r gwersi a ddysgwyd.
Mae polisïau Iechyd a Diogelwch wedi cael eu hadolygu a’u diweddaru o fersiynau hanesyddol. Mae templed a phroses asesu risg newydd, gyda hyfforddiant mewnol fel cymorth, wedi’i gyflwyno i safoni’r fethodoleg rheoli risg.

I ategu’r prosesau rheoli risg newydd, roedd uwch reolwyr wedi mynychu cwrs IOSH Arwain yn Ddiogel, tra bod rheolwyr canol wedi mynychu cwrs IOSH Rheoli’n Ddiogel. Cynhaliwyd arolwg o’r diwylliant diogelwch yn 2023/24 i sefydlu gwaelodlin ar gyfer canfyddiadau o ddiogelwch o fewn yr Awdurdod.

Yn 2023/2024, adroddwyd am 67 o ddigwyddiadau iechyd a diogelwch, gydag 1 ohonynt wedi’i ddosbarthu fel RIDDOR a’i adrodd i’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch. Roedd y RIDDOR yn achos lle’r oedd aelod o’r cyhoedd wedi’i anafu wrth ddringo grisiau. Daeth yr ymchwiliad mewnol i’r casgliad bod yr Awdurdod wedi gwneud popeth rhesymol ymarferol o ran cynnal a chadw’r grisiau, ac mai damwain llithro ydoedd.

Bydd adroddiad Iechyd a Diogelwch Blynyddol yn cael ei ddarparu i Awdurdod y Parc Cenedlaethol.


Absenoldebau ac Iechyd

Mae lles wedi parhau i fod yn ffocws allweddol i’r sefydliad, gyda phwyslais ar iechyd corfforol a lles meddyliol. Mae’r tîm Gwasanaethau Pobl yn parhau i weithio ar y cyd ac mewn partneriaeth â’n darparwr Iechyd Galwedigaethol. Gan sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei hadolygu’n rheolaidd ac mae unrhyw dueddiadau sy’n dod i’r amlwg yn cael eu nodi.

731 (Tymor Hir: 269. Tymor Byr: 462) diwrnod o absenoldeb ar gyfer 2023/24 o’i gymharu â 1028 yn 2022/23 (Tymor Hir: 380. Tymor Byr: 648.) Yn dangos gostyngiad o 28.9% rhwng 2022/23 a 2023/24. Straen, Pryder, Iselder (SPI) yw’r prif achos o absenoldeb o’r gweithle o hyd, yn gyffredin â sefydliadau eraill. Bydd hyn yn cael ei adolygu yn 2024 gyda pholisi a gweithdrefn ddiwygiedig i nodi’r ffactorau achosol i geisio lleihau’r absenoldebau SPI.Annwyd, ffliw a chlefydau heintus yw’r ail achos uchaf o absenoldebau gwaith. Mae COVID wedi bod yn ffactor ac mae’n parhau i fod yn achos absenoldeb er nad i’r graddau a welwyd mewn blynyddoedd blaenorol a dim ond lle na all gweithwyr weithio gartref.