Cynllun ac Amcanion Cydraddoldeb 2025 – 2029
Cynnwys
- Ein Hymrwymiad a’n Dyletswyddau
- Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus – Y Ddyletswydd Gyffredinol
- Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus – Y Dyletswyddau Penodol
- Pwy sy’n cael eu diogelu o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010?
- Dyletswyddau Ychwanegol
- Prif-ffrydio a Monitro Cyflawni
- Sut y Gwnaethom Ddatblygu ein Hamcanion a Chynllun
- Y Parc – Tirwedd i Bawb
- Ein Gwasanaethau – Yn Hygyrch ac yn Gynhwysol
- Ein Gweithlu – Yn Amrywiol, Yn Gefnogol ac Yn Gynhwysol
- Llywodraethu ac Ymgysylltu – Mwy o Gyfranogiad
Fersiwn hawdd ei ddarllen o’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol.
Ein Hymrwymiad a’n Dyletswyddau
Mae Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2025-29 Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (yr Awdurdod) yn disgrifio’r modd y bwriadwn barhau â’n hymrwymiad i gydraddoldeb a’r rhwymedigaethau cyfreithiol a gynhwysir yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Mae’r cynllun hwn yn nodi Amcanion Cydraddoldeb Strategol yr Awdurdod.
Mae’r Awdurdod wedi ymrwymo i
- sicrhau bod pawb sy’n ymwneud â’r Awdurdod yn cael eu trin â pharch, tegwch, ac urddas drwy ein diwylliant cynhwysol.
- gweithio i greu cymdeithas decach drwy hyrwyddo cyfleoedd cyfartal a chysylltiadau da.
- cefnogi’r Parc i fod yn dirwedd i bawb, gan helpu mwy o bobl i fwynhau, profi a helpu i ofalu am rinweddau arbennig y Parc.
- gweithio ar y cyd ag eraill i gynorthwyo i gyflawni ein hamcanion cydraddoldeb.
Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus – Y Ddyletswydd Gyffredinol
Fel corff cyhoeddus, rhaid i ni fodloni Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Wrth wneud penderfyniadau a darparu gwasanaethau, rhaid inni roi sylw dyladwy i:
- Ddileu gwahaniaethu, aflonyddu, erledigaeth ac unrhyw ymddygiad arall a waherddir o dan y Ddeddf.
- Hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol ac eraill.
- Meithrin perthynas dda rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol ac eraill.
- Wrth ystyried sut i hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol ac eraill, mae angen inni hefyd:
- Dileu neu leihau hyd yr eithaf unrhyw anfanteision a ddioddefir gan bobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol ac sy’n gysylltiedig â’r nodwedd honno.
- Bodloni’r anghenion hynny sydd gan bobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol
sy’n wahanol i anghenion pobl eraill. - Annog pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus neu unrhyw weithgaredd arall lle mae cyfranogiad gan y bobl hynny’n anghymesur o isel.
Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus – Y Dyletswyddau Penodol
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru reoliadau oedd yn cyflwyno’r Dyletswyddau Penodol i Gymru fis Mawrth 2011 i gefnogi perfformiad gwell o’r Ddyletswydd Gyffredinol. O dan y Dyletswyddau Penodol mae’n ofynnol i’r Awdurdod gyflawni’r canlynol:
- Pennu Amcanion Cydraddoldeb a chyhoeddi Cynllun Cydraddoldeb Strategol.
- Sicrhau ein bod yn ymgysylltu â phobl sydd â diddordeb yn y modd y mae penderfyniadau’r Awdurdod yn effeithio arnynt.
- Casglu a chyhoeddi gwybodaeth sy’n berthnasol i gydymffurfio â’r Ddyletswydd Gyffredinol.
- Cynnal Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb a chyhoeddi’r canlyniadau os gwelir bod yr effaith yn sylweddol.
- Cyhoeddi gwybodaeth ar fonitro cyflogaeth yn flynyddol.
- Hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o’r Ddyletswydd Gyffredinol ymhlith ein gweithwyr, a defnyddio ein gweithdrefnau arfarnu staff i glustnodi a mynd i’r afael ag anghenion hyfforddi ein gweithwyr.
- Pennu amcan cydraddoldeb cyflog rhwng y rhywiau lle clustnodir bod gwahaniaeth cyflog rhwng y rhywiau.
- Ystyried cynnwys amodau sy’n berthnasol i’r Ddyletswydd Gyffredinol yn ein prosesau caffael.
Pwy sy’n cael eu diogelu o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010?
Mae’n anghyfreithlon gwahaniaethu yn erbyn rhywun oherwydd eu nodweddion gwarchodedig. Dyma’r term a ddefnyddir yn Neddf Cydraddoldeb 2010 i nodi’r mathau o bethau sy’n effeithio ar sut mae pobl yn cael eu trin a gall olygu y gall pobl ddioddef gwahaniaethu. Y nodweddion gwarchodedig yw:
- Oedran
- Anabledd
- Ailbennu Rhywedd
- Priodas a Phartneriaeth Sifil
- Beichiogrwydd a Mamolaeth
- Hil
- Crefydd, Cred neu Ddiffyg Cred
- Rhyw
- Cyfeiriadedd Rhywiol
Mae’r term ‘croestoriadedd’ yn cydnabod ac yn archwilio sut y gall cyfuniad o fwy nag un nodwedd warchodedig a ffactorau economaidd-gymdeithasol arwain at neu barhau â mathau gwahanol o wahaniaethu neu anfantais.[1]
[1] CCHD – Monitor Cydraddoldeb a Hawliau Dynol: A yw Cymru’n Decach? Tachwedd 2023
Dyletswyddau Ychwanegol
Y Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol a Thlodi Plant
Mae’r Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 sydd wedi’i deddfu yng Nghymru yn gosod cyfrifoldeb cyfreithiol ar yr Awdurdod pan fydd yn gwneud penderfyniadau strategol i roi sylw dyledus i’r angen i leihau anghydraddoldeb canlyniadau sy’n deillio o anfantais economaidd-gymdeithasol. Mae ein proses asesu integredig yn ystyried yr effeithiau posibl ar bobl sy’n profi anfantais economaidd-gymdeithasol.
Mae deddfwriaeth Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 wedi’i diwygio i gymryd i ystyriaeth Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae’r Ddyletswydd i gael strategaeth Tlodi Plant bellach yn cael ei chyflawni drwy gynlluniau llesiant perthnasol y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae gan Gynllun Llesiant Sir Benfro amcan ar “Weithio gyda’n cymunedau i leihau anghydraddoldeb a gwella llesiant” ac mae gan y cynllun brosiect sy’n canolbwyntio ar leihau tlodi ac anghydraddoldeb. Mae’r Grŵp Tlodi yn gyfrifol am gyflawni elfennau Tlodi ac Anghydraddoldebau Cynllun Llesiant y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae’r grŵp wedi llunio strategaeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth, Trechu Tlodi: Ein Strategaeth 2023. Mae’r Awdurdod yn cyfrannu at gyflawni’r camau gweithredu o fewn y cynllun gweithredu’r strategaeth.
Mae Llythyr Cylch Gwaith Tymor y Llywodraeth ar gyfer yr Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn nodi ei bod yn ofynnol i ni, o dan Ran 1 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, gyhoeddi amcanion i drechu tlodi plant. Rydym wedi nodi isod yn yr adran gryno pa rai o’n Hamcanion Cydraddoldeb sydd hefyd yn gweithredu fel ein Hamcanion Tlodi Plant.
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus weithredu yn unol â’r egwyddorion datblygu cynaliadwy.
Mae’r Cynllun hwn yn ystyried y pum ffordd o weithio:
Hirdymor: Mae’r Cynllun hwn yn clustnodi camau fydd yn gymorth i roi sylfaen gref ar gyfer newid tymor hwy. Mae pob un o’n hamcanion yn dod o dan nodau tymor hwy.
Atal: Mae’r cynllun yn canolbwyntio ar gyflawni ymyriadau fydd yn ceisio atal problemau rhag digwydd na gwaethygu o ran y Parc, y gwasanaethau a ddarperir gennym, ac o ran ein gweithlu.
Integreiddio: Mae’r camau gweithredu yn y cynllun hwn wedi’u hintegreiddio o fewn ein Cynlluniau Cyflawni a’n fframweithiau sicrwydd i ategu prif ffrydio’r gwaith o gyflawni a monitro. Mae ein Hamcanion Llesiant yn cymryd i ystyriaeth Cynllun Llesiant Sir Benfro a’r asesiad o effaith ar gydraddoldeb Cynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol.
Cydweithio: O brofiad rydym yn gwybod mai dim ond drwy gydweithio ag eraill y gellir llwyddo i gyflawni newid cadarnhaol. Mae ein hamcanion a’r camau gweithredu cysylltiedig yn cydnabod y rôl bwysig y bydd cydweithio â phartneriaid yn ei chwarae.
Cynnwys: Dim ond drwy gynnwys pobl a gwrando arnynt yn rhagweithiol y gellir cyflawni ein Hamcanion. Defnyddir ymgysylltu i sicrhau ein bod yn datblygu’r ymyriadau cywir i chwalu rhwystrau i gefnogi ystod mwy amrywiol o bobl i weithredu dros natur neu brofi’r awyr agored a rhyfeddodau’r Parc. Byddwn yn cynnwys staff wrth lunio camau gweithredu yn y gweithle.
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn gosod dyletswydd ar yr Awdurdod fel corff cyhoeddus i wneud y mwyaf o’i gyfraniad at y saith nod Llesiant cenedlaethol. Mae gan yr Awdurdod gyfres o Amcanion Llesiant sy’n cynorthwyo’r Awdurdod i gyflawni yn erbyn y Nodau Llesiant. Er bod rhai o’r Nodau Llesiant yn ymwneud yn benodol â chydraddoldeb, mae’n bwysig nodi y gall yr amcanion cydraddoldeb a gynhwysir yn y cynllun hwn ategu’r Nodau Llesiant ehangach. Er enghraifft, bydd y camau sy’n chwalu rhwystrau i gynorthwyo mwy o bobl i weithredu dros fyd natur yn cyfrannu nid yn unig at ‘Gymru mwy cyfartal’, ond at ‘Gymru iachach’, ‘Cymru gydnerth,’ ‘Cymru lewyrchus ’ a ‘Chymru o gymunedau cydlynus.’
Yr Iaith Gymraeg
Mae gan yr Awdurdod Strategaeth ar wahân i Hyrwyddo’r Gymraeg, a rhaid i’r Awdurdod gydymffurfio â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.
Mae’n bwysig ystyried croestoriadedd yn y cyd-destun hwn o ran y cydadwaith rhwng cydraddoldeb, nodweddion gwarchodedig, ffactorau economaidd-gymdeithasol a’r Gymraeg. Er enghraifft, o ran anabledd mae angen i ni ddiwallu anghenion siaradwyr Cymraeg a dysgwyr sydd ag anghenion cyfathrebu hygyrch ac anghenion dysgu ychwanegol. Mae Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru yn cynnwys y nod canlynol: “Bod lleisiau siaradwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn cael eu clywed a bod eraill yn gwrando arnynt a bod rhagor yn cael ei wneud i hyrwyddo mynediad at y Gymraeg ymhlith cymunedau ethnig leiafrifol ym meysydd addysg, dysgu’r iaith, y gweithle a gweithgareddau cymunedol.”
Mae defnyddio’r dull cynnig rhagweithiol hefyd yn bwysig o ran cyflawni ein prosiectau sy’n canolbwyntio ar iechyd a chynhwysiant.
Y Ddyletswydd Caffael Cymdeithasol Gyfrifol
O dan Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 mae’n rhaid i’r Awdurdod bellach gydymffurfio â’r Ddyletswydd Caffael Cymdeithasol Gyfrifol. Mae’r Ddyletswydd hon yn ei gwneud yn ofynnol i’r Awdurdod wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ei ardal drwy gynnal caffael cyhoeddus mewn modd cymdeithasol gyfrifol. Mae cyfleoedd i’r camau gweithredu yn y maes hwn alinio â gweithgareddau ar weithredu dyletswyddau cydraddoldeb penodol i Gymru ar gaffael. Mae gan yr Awdurdod Strategaeth Caffael Gymdeithasol Gyfrifol a bydd yn helpu i gryfhau gwaith cydraddoldeb a chaffael ehangach yr Awdurdod.
Prif-ffrydio a Monitro Cyflawni
O brofiad rydym wedi clustnodi, er mwyn cyflawni camau gweithredu o fewn y cynllun cydraddoldeb strategol a rhoi amlygrwydd iddynt, bod angen eu hintegreiddio i fodelau cyflawni a pherfformiad ehangach ar gyfer ein gweithgareddau cynllunio corfforaethol. O ganlyniad, mae’r camau gweithredu a glustnodir yn y cynllun hwn yn cael eu prif ffrydio drwy’r canlynol:
- Y Cynlluniau Cyflawni sy’n ategu ein Hamcanion Llesiant a’n Cynllun Corfforaethol ac Adnoddau ehangach a’r adroddiadau perfformiad cysylltiedig.
- Yr adroddiad monitro sicrwydd a gyflwynir gerbron y Pwyllgor Archwilio a Gwasanaethau Corfforaethol.
Bydd metrigau, allbynnau a chanlyniadau perthnasol yn cael eu nodi fel rhan o’u cynnwys mewn Cynlluniau Cyflawni neu fframwaith sicrwydd. Bydd astudiaethau achos hefyd yn cael eu defnyddio i gefnogi tystiolaeth o effaith gwaith yn y maes hwn.
Bydd y camau ymlaen yn erbyn y cynllun hwn yn cael eu cyflwyno yn flynyddol yn yr Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol a bydd y data uchod yn cael eu hystyried fel rhan o hyn.
Noder y gall fod angen camau gweithredu eraill i gyflawni’r amcanion yn ystod cyfnod y cynllun, ac os felly, bydd y camau hynny yn cael eu clustnodi fel rhan o adolygiad blynyddol y Cynlluniau Cyflawni a’r adolygiad cyfnodol o Gynllun Corfforaethol ac Adnoddau yr Awdurdod.
Bydd cwmpas cyflawni rhai o’r gweithgareddau yn dibynnu ar allu’r Awdurdod i sicrhau cyllid allanol ychwanegol.
Sut y Gwnaethom Ddatblygu ein Hamcanion a Chynllun
Fe wnaethom adolygu a nodi lle gallai ein hamcanion a’n cynlluniau cydraddoldeb gael yr effaith fwyaf trwy::
1. Ystyried perfformiad yn erbyn ein cynllun a’n hamcanion cydraddoldeb blaenorol.
2. Ystyried y dystiolaeth:
-
- CCHD – Monitor Cydraddoldeb a Hawliau Dynol: A yw Cymru’n Decach? 2023.
- Llesiant Cymru a’r Dangosyddion Cenedlaethol.
- Tystiolaeth ac effeithiau a nodwyd fel rhan o asesiad effaith cydraddoldeb o Gynllun Rheoli Parc Cenedlaethol diwygiedig yr Awdurdod.
- Asesiad Llesiant Sir Benfro.
- Ymchwil a data ehangach sy’n berthnasol i ardal y Parc a gwaith yr Awdurdod. Gan gynnwys data Cyfrifiad 2021.
- Perfformiad yn erbyn ein hamcanion cydraddoldeb blaenorol.
- Dadansoddiad o ddata recriwtio a gweithlu’r Awdurdod.
- Tystiolaeth a ddefnyddir i lywio’r gwaith o ddatblygu Cynllun Cydraddoldeb Strategol Cyngor Sir Benfro.
- Llywodraeth Cymru – Adroddiad tystiolaeth gwrth-hiliol Cymru: profiad o hiliaeth yn ymwneud â newid hinsawdd, yr amgylchedd a materion gwledig
3. Ystyried yr adborth o’r ymgysylltu:
-
- Arolwg ymgynghori ar-lein rhanbarthol gyda chyrff cyhoeddus eraill.
- Adborth o weithgareddau ymgynghori eraill Traeth Mawr, Arolwg Cadair Olwyn y Traeth, Adroddiad Profiadau i Bawb, Arolwg Rhinweddau Arbennig Cynllun Rheoli Parc Cenedlaethol.
- Gweithdy gyda swyddogion allweddol yr Awdurdod.
- Adborth mewnol ac allanol.
4. Ystyried sut mae’r cynllun yn integreiddio â’n cynlluniau strategol a gweithredol eraill a chanlyniad unrhyw asesiadau integredig arnynt:
-
- Cynllun Rheoli Parc Cenedlaethol (a Dibenion Parc)
- Cynllun Datblygu Lleol 2 a monitro blynyddol
- Amcanion Llesiant, Cynllun Corfforaethol ac Adnoddau a’r Cynlluniau Cyflawni cysylltiedig (gan gynnwys pethau y gellir eu cyflawni mewn Cynlluniau Cyflawni allai ategu’r gwaith o gyflawni’r amcanion).
- Strategaeth Hyrwyddo’r Gymraeg.
- Strategaeth Caffael sy’n Gyfrifol yn Gymdeithasol.
- Tirweddau Dynodedig Cymru – Cynllun Gweithredu Cynhwysiant, Amrywiaeth a Llywodraethu Rhagoriaeth.
- Maniffesto Ieuenctid Sir Benfro, sy’n nodi meysydd i’w gweithredu arnynt
- Grymuso Ieuenctid
- Byw –gan gynnwys seilwaith, fforddiadwyedd, cymuned
- Dysgu – Anelu at ysbrydoli, addysg natur, cefnogaeth
- Gweithio – Cyfleoedd Gwaith, Mwy o hyfforddiant, cyflogau isel.
5. Ystyried cysylltiadau strategol a datblygiadau polisi
-
- Rhanbarthol
- Cynllun Lles Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro, yn enwedig ei ffrwd gwaith a strategaeth ar dlodi.
- Cynllun Cydraddoldeb Strategol Cyngor Sir Benfro.
- Strategaeth Toiledau Sir Benfro.
- Datblygu Cydbwyllgor Corfforaethol ar gyfer De Orllewin Cymru a’i rôl o ran cynllunio trafnidiaeth strategol.
- Cynllun Gwella Hawliau Tramwy
- Cynllun Rheoli Cyrchfan Sir Benfro.
- Cenedlaethol
- Llythyr Cylch Gwaith Tymor y Llywodraeth ar gyfer yr Awdurdodau Parciau Cenedlaethol.
- Cynlluniau gweithredu a mentrau sy’n gysylltiedig â chydraddoldeb Llywodraeth Cymru:
- Cymru o blaid pobl hŷn: ein strategaeth ar gyfer cymdeithas sy’n heneiddio
- Cynllun Plant a Phobl Ifanc
- Tasglu Hawliau Pobl Anabl
- Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol
- Cynllun Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches (Cenedl Noddfa)
- Cynllun Hyrwyddo Cydraddoldeb Rhwng y Rhywiau
- Strategaeth Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol
- Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru
- Cymraeg 2050: miliwn o siaradwyr Cymraeg
- Rhaglen Cydlyniant Cymunedol
- Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol drafft Llywodraeth Cymru 2024-2028
- Fframwaith Pontio Teg i Gymru sy’n anelu at roi camau gweithredu ar waith i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd tra hefyd yn ystyried tegwch cymdeithasol.
- Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Presgripsiynu Cymdeithasol
- Strategaeth Ddrafft Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol 2024-2034
- Gwarant i Bobl Ifanc Llywodraeth Cymru – ymrwymiad i roi cymorth i bawb 16-24 oed sy’n byw yng Nghymru gael lle mewn addysg neu hyfforddiant, cymorth i gael gwaith neu hunangyflogaeth.
- Cyflwyno Dyletswydd Economaidd Gymdeithasol o dan y Ddeddf Cydraddoldeb.
- Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) yn cyflwyno’r ddyletswydd partneriaeth gymdeithasol a’r ddyletswydd caffael cymdeithasol gyfrifol. Hefyd mae gan Lywodraeth Cymru Y Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi.
- Rhanbarthol
Gweler y ddogfen tystiolaeth ategol am ragor o wybodaeth am y modd yr oedd yr uchod wedi dylanwadu ar y gwaith o greu ein Hamcanion Cydraddoldeb. Cwblhawyd Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb fel rhan o’r Asesiad Integredig ar gyfer y Cynllun.
Y Parc – Tirwedd i Bawb
Nod Tymor Hir: Creu Parc sy’n Dirwedd i Bawb.
Amcan Cydraddoldeb: Erbyn 2029, bydd hyrwyddo’r Parc Cenedlaethol fel cyrchfan yn cynrychioli cynulleidfaoedd mwy amrywiol, a byddwn wedi dileu rhai rhwystrau i gael mynediad i’r Parc ar gyfer grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol neu’r rhai sy’n wynebu rhwystrau penodol. [Amcan Tlodi Plant]
Pam yr Amcan hwn
- Gall cael mynediad i’r Parc Cenedlaethol fod yn heriol i rai grwpiau oherwydd amrywiol rwystrau. Ymhlith y rhwystrau hyn mae materion sy’n ymwneud â thrafnidiaeth, cost, diffyg cynrychiolaeth, pryderon diogelwch, rhwystrau ffisegol a diffyg cyfleusterau hygyrch fel toiledau a rhwystrau gwybodaeth.
- Mae’r Awdurdod eisoes wedi dechrau ar y gwaith yn y maes hwn, ond mae mwy i’w wneud. Ein dull o weithio yw targedu i ddileu rhwystrau gan ganolbwyntio ar yr hyn sy’n ymarferol o ran maint a chylch gwaith yr Awdurdod a chydweithio ag eraill i ddylanwadu ar faterion strategol megis trafnidiaeth.
- Dylai dulliau Twristiaeth Adfywiol ar gyfer Gwasanaethau a Chanolfannau Ymwelwyr yr Awdurdod ystyried cynhwysiant a hygyrchedd.
Camau Gweithredu
Datblygu Cynllun Mynd Allan yn yr Awyr Agored, yn canolbwyntio ar:
- Darparu Gwasanaeth Cadair Olwyn Traeth ac Offer Symudedd.
- Cyflwyno rhaglen wedi’u targedu o weithgareddau cerdded â chymorth, gwirfoddoli â chymorth ac ymgysylltu yn yr awyr agored.
- Nodi cyfleodd i wella trwy ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaeth i archwilio ein lleoliadau a’r ffordd rydym yn rhoi gwybod i bobl amdanynt.
Cyflawni/ Monitro: Cynllun Cyflawni ar Iechyd, Lles a Mynediad.
Amserlen: 2025 – 2029
Swyddogion Arweiniol: Pennaeth Ymgysylltu a Chynhwysiant. Swyddog Iechyd a Llesiant.
Cyflawni gweithgareddau a phrosiectau sy’n ymwneud ag isadeiledd sy’n gwella dyluniad/ mynediad cynhwysol ar draws safleoedd yn y Parc. Bydd hyn yn seiliedig ar yr hyn a ddysgwyd o brosiect Traeth Mawr a chanlyniadau’r astudiaeth o feysydd parcio a’r blaenoriaethau a glustnodwyd fel rhan o’r astudiaeth hon.
Cyflawni/ Monitro: Cynllun Cyflawni ar Iechyd, Lles a Mynediad.
Amserlen: 2025 – 2029
Swyddogion Arweiniol: Cyfarwyddwr Creu Lleoedd, Datgarboneiddio ac Ymgysylltu. Pennaeth Datgarboneiddio. Pennaeth Ymgysylltu a Chynhwysiant.
Ymgysylltu â phartneriaid strategol gan gynnwys Cydbwyllgor Corfforaethol De Cymru i glustnodi’r ffordd orau i ni gefnogi a, lle bo’n ymarferol, helpu i gadw ac ehangu mentrau trafnidiaeth gynaliadwy yn y Parc gan gynnwys opsiynau hygyrch a fforddiadwy.
Cyflawni/ Monitro: Cynllun Cyflawni ar Ddatgarboneiddio.
Amserlen: 2025 – 2029
Swyddogion Arweiniol: Pennaeth Polisi Strategol. Pennaeth Datgarboneiddio.
Fel rhan o ddatblygu cynlluniau gweithredu ar gyfer pob un o’r canolfannau i gefnogi’r gwaith o ddarparu twristiaeth adfywiol, datblygu cynlluniau gweithredu ar gynhwysiant/ hygyrchedd.
Cyflawni/ Monitro: Cynllun Cyflawni ar Gefnogi Twristiaeth Adfywiol drwy’r economi ymwelwyr.
Amserlen: 2025 – 2029
Swyddogion Arweiniol: Pennaeth Twristiaeth Adfywiol. Pennaeth Ymgysylltu a Chynhwysiant.
Datblygu ymgyrch wedi’i thargedu yn ystod y prif dymor i godi ymwybyddiaeth o gyfleoedd mynediad hawdd ar draws y Parc, gan gynnwys hyrwyddo’r cynllun cadeiriau olwyn traeth ac offer symudedd.
Cyflawni/ Monitro: Cynllun Cyflawni ar Gyfathrebu a Marchnata.
Amserlen: 2025 – 2026
Swyddogion Arweiniol: Pennaeth Marchnata a Chyfathrebu.
Adolygu pa mor hygyrch a chynhwysol yw ein hadnoddau cyfathrebu a dehongli i gynyddu cynrychiolaeth, amrywiaeth a chodi ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd i gael profiad o’r Parc
Cyflawni/ Monitro: Cynllun Cyflawni ar Gyfathrebu a Marchnata.
Amserlen: 2025 – 2029
Swyddogion Arweiniol: Pennaeth Marchnata a Chyfathrebu.
Amcan Cydraddoldeb: Erbyn 2029, byddwn wedi datblygu a chyflawni prosiectau a chynlluniau sydd â budd cadarnhaol i’r rhai sy’n wynebu anghydraddoldeb ac amddifadedd, yn enwedig plant a theuluoedd ifainc o ardaloedd difreintiedig. [Amcan Tlodi Plant]
Pam yr Amcan hwn
- Roedd dadansoddiad Clymblaid Dileu Tlodi Plant o ddata 2021/22 yn dangos mai Sir Benfro oedd y pumed sir â’r % uchaf o blant yn byw mewn tlodi yng Nghymru ar ôl ystyried costau tai ar 29.0%.[1]
- Mae gan yr Awdurdod brofiadau o gydweithio ag eraill i ddatblygu prosiectau wedi’u targedu. Gan gynnwys gweithio gyda MIND Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin ar y prosiect Gwreiddiau at Adferiad, a gweithio gyda lleoliadau blynyddoedd cynnar fel rhan o’r prosiect Y 1,000 Diwrnod Cyntaf.
- Wrth ddatblygu prosiectau mae’r gwaith yn seiliedig ar arweiniad y bobl gan gydnabod pa mor bwysig yw cael buddiolwyr i fod yn rhan o ddylunio’r prosiectau. Mae’n bwysig ein bod yn ymgorffori’r 5 cam at lesiant meddyliol yn ein gweithgareddau.
- Mae trafnidiaeth yn rhwystr mawr i rai grwpiau o bobl yn Sir Benfro gan eu hatal rhag manteisio ar gyfleoedd yn y Parc. Gall ein prosiectau, drwy ddarparu cludiant bws mini i weithgareddau, helpu i gael gwared ar y rhwystr hwn.
- Mae grwpiau penodol heb gynrychiolaeth ddigonol yn y sector amgylchedd, ac mae’n bwysig ein bod yn chwalu rhwystrau fel bod ystod mwy amrywiol o bobl yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau adfer byd natur a theimlo perchnogaeth o’r gweithgareddau hynny.
[1] Ystadegau Tlodi Plant – Dileu Tlodi Plant / Tlodi-Plant-AHC-amcangyfrifon-2015-2022_terfynol.xlsx (live.com)
Camau Gweithredu
Datblygu a sicrhau cyllid ar gyfer prosiectau adfer byd natur sy’n rhoi cyfle i ystod ehangach o bobl gymryd rhan mewn gweithredu i gefnogi byd natur. Adeiladu ar y dull a ddefnyddiwyd i gael cyllid ar gyfer y prosiect Llwybrau oedd yn gysylltiedig â rhoi cymorth i wirfoddolwyr gynorthwyo â’r gwaith o waredu rhywogaethau ymledol.
Cyflawni/ Monitro: Cynllun Cyflawni ar Adnoddau ac Ehangu ein Cyllid. Cynllun Cyflawni ar Iechyd, Lles a Mynediad.
Amserlen: 2025 – 2029
Swyddogion Arweiniol: Rheolwr Cyllid Allanol. Pennaeth Adfer Natur. Pennaeth Ymgysylltu a Chynhwysiant.
Defnyddio canlyniad yr ymarferiad mapio rhanddeiliaid i glustnodi grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol a grwpiau cyswllt cymunedol/ cymorth i feithrin cysylltiadau a grymuso grwpiau allanol (gan ganolbwyntio ar y rheini sy’n cefnogi grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol o ran mynediad i gyfleoedd awyr agored/ byd natur neu sy’n wynebu rhwystrau ychwanegol) i gynyddu mynediad a bod yn rhan o’r buddiannau i iechyd a lles yn y Parc.
Cyflawni/ Monitro: Cynllun Cyflawni ar Iechyd, Lles a Mynediad.
Amserlen: 2025 – 2029 (Bydd rhywfaint o weithgaredd yn dibynnu ar sicrhau cyllid ychwanegol)
Swyddogion Arweiniol: Pennaeth Ymgysylltu a Chynhwysiant.
Datblygu a chael cyllid ar gyfer prosiect olynol i Gwreiddiau at Adferiad gan weithio mewn partneriaeth â MIND Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin
Cyflawni/ Monitro: Cynllun Cyflawni ar Iechyd, Lles a Mynediad.
Amserlen: 2025 – 2029 (Yn dibynnu ar sicrhau cyllid ychwanegol)
Swyddogion Arweiniol: Arweinydd y Tîm Dysgu a Chynhwysiant.
Cyflawni’r prosiect Y 1,000 Diwrnod Cyntaf a defnyddio canlyniadau’r prosiect i ddatblygu rhaglen gymorth i deuluoedd ifanc a phlant. Gan gynnwys gweithio gyda grwpiau sy’n cynorthwyo teuluoedd a phobl yn Sir Benfro sy’n wynebu tlodi – sy’n gysylltiedig â gwaith Is-grŵp Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro ar Strategaeth Tlodi yn Sir Benfro.
Cyflawni/ Monitro: Cynllun Cyflawni ar Iechyd, Lles a Mynediad. Monitro gan Fwrdd Gwasanaethau Sir Benfro o’r Cynllun Gweithredu Trechu Tlodi, Ein Strategaeth 2023.
Amserlen: 2025 – 2029 2029 (Yn dibynnu ar sicrhau cyllid ychwanegol)
Swyddogion Arweiniol: Pennaeth Ymgysylltu a Chynhwysiant. Arweinydd y Tîm Dysgu a Chynhwysiant.
Datblygu fframwaith ar gyfer arolwg blynyddol o gyfranogwyr i dargedu cyfranogwyr rheolaidd yn ein gweithgareddau gwirfoddoli, prosiectau ac ati. Gydag adroddiad blynyddol ar ddefnyddwyr y gwasanaeth yn cael ei gynhyrchu yn amlinellu’r hyn ddywedodd pobl / beth fyddwn yn ei wneud a beth rydym wedi’i wneud a pham.
Cyflawni/ Monitro: Cynllun Cyflawni ar Ymgysylltu, Cynnwys a Dysgu am y Parc.
Amserlen: 2025 – 2026 (Datblygu a threialu – yn parhau ar ôl hyn).
Swyddogion Arweiniol: Pennaeth Ymgysylltu a Chynhwysiant.
Cyflwyno rhaglen o gyfleoedd ar draws ein gwaith allgymorth yn cefnogi pobl i ddefnyddio’r Gymraeg a datblygu eu Sgiliau Iaith Gymraeg.
Cyflawni/ Monitro: Cynllun Cyflawni ar Fywyd yn Sir Benfro. Strategaeth Hybu’r Gymraeg.
Amserlen: 2025- 2029
Swyddogion Arweiniol: Pennaeth Ymgysylltu a Chynhwysiant.
Cynnig cyfleoedd i blant a phobl ifanc elwa o addysg awyr agored, gan gynnwys cyfleoedd i brofi, dysgu am y Parc a chymryd camau ymarferol i gefnogi’r Parc a’i Rinweddau Arbennig.
Cyflawni/ Monitro: Cynllun Cyflawni ar Ymgysylltu, Cynnwys a Dysgu am y Parc.
Amserlen: 2025 – 2029
Swyddogion Arweiniol: Pennaeth Ymgysylltu a Chynhwysiant.
Archwilio cyfleoedd gyda phartneriaethau iechyd i gyfrannu at eu cyflawni (presgripsiynau cymdeithasol, iechyd y cyhoedd) trwy archwilio ffynonellau cynaliadwy o gyllid ar gyfer mentrau. Edrych ar iechyd corfforol, iechyd meddwl a phenderfynyddion economaidd-gymdeithasol iechyd.
Cyflawni/ Monitro: Cynllun Cyflawni ar Iechyd, Lles a Mynediad.
Amserlen: 2025 – 2029 (Bydd rhywfaint o weithgaredd yn dibynnu ar sicrhau cyllid ychwanegol)
Swyddogion Arweiniol: Pennaeth Ymgysylltu a Chynhwysiant. Swyddog Iechyd a Llesiant.
Amcan Cydraddoldeb: Erbyn 2029, bydd gweithio ar y cyd a chydweithredu ag amrywiaeth o bartneriaid yn gymorth i’r tirweddau dynodedig fod yn dirweddau i bawb.
Pam yr Amcan hwn
- Y ffordd orau o fynd i’r afael â rhai o’r rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu rhag cael mynediad i’r Parc ac ymgysylltu â’r Parc yw drwy ddatblygu dulliau ac atebion ar y cyd.
- Mae’r Awdurdod, drwy’r Ymgynghorydd Strategol ar Ragoriaeth Llywodraethu, Cynhwysiant ac Amrywiaeth, a Thirweddau Cymru eisoes yn gweithio i ddatblygu a chyflawni prosiectau cydweithredol sy’n cefnogi tirweddau dynodedig i fod yn dirweddau i bawb.
Camau Gweithredu
1. Gweithio gyda Tirweddau Cymru, yr Ymgynghorydd Strategol ar Ragoriaeth Llywodraethu, Cynhwysiant ac Amrywiaeth a phartneriaid eraill i ddatblygu a chyflawni prosiectau cydweithredol sy’n cefnogi tirweddau dynodedig i fod yn dirweddau i bawb. Gyda ffocws arbennig ar:
- Gwaith ar y cyd i ymgysylltu â phobl ifanc.
- Gweledigaeth a rennir.
- Ymatebion i’r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol a chynlluniau gweithredu ehangach Llywodraeth Cymru ar gydraddoldeb.
- Ymatebion i bontio teg sydd â’r nod o sicrhau bod y daith i sero net yn deg, ac ymateb i effeithiau annheg newid yn yr hinsawdd.
- Cryfhau cysylltiadau, megis â’r Mudiad Pride (Pride Cymru/ Pride Sir Benfro.)
Cyflawni/ Monitro: Tirweddau Dynodedig Cymru – Cynllun Gweithredu Cynhwysiant, Amrywiaeth a Llywodraethu Rhagoriaeth. a monitro’r cynllun. Bydd prosiectau partneriaeth a ddatblygwyd lle mai’r Awdurdod yw’r partner arweiniol yn cael eu hymgorffori mewn Cynlluniau Cyflawni perthnasol.
Amserlen: 2025- 2029
Swyddogion Arweiniol: Pennaeth Ymgysylltu a Chynhwysiant. Pennaeth Gwasanaethau Pobl.
Amcan Cydraddoldeb: Erbyn 2029, mae’r Awdurdod drwy ei weithgareddau creu lleoedd yn cefnogi cynnydd yn y nifer o dai fforddiadwy sydd ar gael yn ardal y Parc. [Amcan Tlodi Plant]
Pam yr Amcan hwn
- Mae darparu tai fforddiadwy yn arbennig ar gyfer pobl ifanc a theuluoedd, yn parhau i fod yn fater a glustnodir ar lefel genedlaethol a lleol. Mae costau tai yn chwarae rhan mewn cyfraddau tlodi plant yn y sir.
Camau Gweithredu
Gweithredu polisi cynllunio i gefnogi’r gwaith o gyflawni targedau’r Awdurdod o ran tai fforddiadwy i’w hadeiladu dros gyfnod y Cynllun Datblygu Lleol. Sicrhau cytundebau A106.
Cyflawni/ Monitro: Adroddiad Monitro Blynyddol Cynllun Datblygu Lleol 2. Cynllun Cyflawni ar Fywyd yn Sir Benfro.
Amserlen: 2025 – 2029
Swyddogion Arweiniol: Cyfarwyddwr Creu Lleoedd, Datgarboneiddio ac Ymgysylltu. Rheolwr Polisi Strategol. Rheolwr Rheoli Datblygu.
Ein Gwasanaethau – Yn Hygyrch ac yn Gynhwysol
Nod Tymor Hir: Mae ein gwasanaethau a’n prosiectau wedi’u cynllunio i fod yn hygyrch ac yn gynhwysol.
Amcan Cydraddoldeb: Erbyn 2029, bydd staff, Aelodau a gwirfoddolwyr wedi’u hyfforddi, a bydd ganddynt y sgiliau sydd eu hangen i ddylunio, caffael a darparu gwasanaethau hygyrch a chynhwysol.
Pam yr Amcan hwn
- Er mwyn darparu gwasanaethau cynhwysol a hygyrch, mae angen i staff, Aelodau a gwirfoddolwyr gael y wybodaeth, yr ymwybyddiaeth, y sgiliau a’r dulliau priodol.
- Mae cyflwyno’r Ddyletswydd Caffael Cymdeithasol Gyfrifol a chreu strategaeth gysylltiedig yn gyfle i ni adolygu a gwella ein dulliau o weithredu ar gydraddoldeb a chaffael.
- Mae Safonau Gwasanaeth Digidol Cymru yn nodi’r disgwyliadau o ran hygyrchedd y we, gan gynnwys bodloni’r gofynion o dan y Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol).
Camau Gweithredu
Integreiddio anghenion hyfforddi ar ddarparu gwasanaethau hygyrch a chynhwysol yn rhan o ddatblygu cynlluniau ehangach i hyfforddi staff, Aelodau a gwirfoddolwyr gan gynnwys dod o hyd i hyfforddiant arbenigol ar gyfer staff a gwirfoddolwyr perthnasol.
Cyflawni/ Monitro: Cynllun Cyflawni Datblygu Sgiliau a Hyfforddiant.
Amserlen: 2025 – 2029 (Adolygiad blynyddol yn seiliedig ar ganlyniad adolygiadau lles a datblygu yn y gweithle.)
Swyddogion Arweiniol: Pennaeth Gwasanaethau Pobl.
Gweithredu camau o fewn y Strategaeth Caffael Cymdeithasol Gyfrifol sy’n ategu’r amcan o wella arferion gwaith teg a chydraddoldeb a fabwysiadwyd gan gyflenwyr.
Cyflawni/ Monitro: Monitro Sicrwydd Cydraddoldeb/ Caffael Cyfrifol yn Gymdeithasol.
Amserlen: 2025 – 2029
Swyddogion Arweiniol: Pennaeth Datgarboneiddio. Pennaeth Ariannol a Chodi Arian.
I gefnogi ystyriaethau ‘Gwaith teg’ a cheisio achrediad cyflog byw, rhoi cynllun ar waith i dalu’r cyflog byw gwirioneddol i gontractwyr yr Awdurdod.
Cyflawni/ Monitro: Monitro Sicrwydd Cydraddoldeb/ Caffael Cyfrifol yn Gymdeithasol.
Amserlen: 2025 – 2026
Swyddogion Arweiniol: Pennaeth Gwasanaethau Pobl. Prif Weithredwr.
Gweithredu disgwyliadau Safonau Gwasanaeth Digidol Cymru o ran hygyrchedd y we, gan gynnwys bodloni’r gofynion o dan y Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus 2018 (diwygiwyd 2022). Cynyddu nifer y dogfennau a gyhoeddir fel tudalennau HTML yn ddiofyn yn hytrach na ffeiliau PDF, nad ydynt mor hygyrch.
Cyflawni/ Monitro: Monitro Sicrwydd Cydraddoldeb.
Amserlen: 2025 – 2029
Swyddogion Arweiniol: Pennaeth Marchnata a Chyfathrebu.
Sicrhau bod y broses ddiwygiedig o ddatblygu prosiectau ar gyfer adnoddau TG neu unrhyw gaffael gwefan/ap, yn ystyried gofynion cydymffurfio â hygyrchedd cynnwys y we
Cyflawni/ Monitro: Cynllun Cyflawni ar Drawsnewid Digidol.
Amserlen: 2025-2029
Swyddogion Arweiniol: Pennaeth Datgarboneiddio. Swyddog Perfformiad a Chydymffurfiaeth.
Datblygu rhestr wirio prosiectau i gynnwys ystyriaethau cydraddoldeb i sicrhau bod prosiectau a ddatblygir yn gynhwysol, yn hygyrch ac yn ystyried rhwystrau posibl neu ystyriaethau cynrychiolaeth ehangach.
Cyflawni/ Monitro: Cynllun Cyflawni ar Lywodraethu a Gwneud Penderfyniadau.
Amserlen: 2025 – 2026
Swyddogion Arweiniol: Swyddog Perfformiad a Chydymffurfiaeth. Pennaeth Ymgysylltu a Chynhwysiant.
Ymrwymo i’r polisi dim goddefgarwch i hiliaeth a grëwyd gan Dim Hiliaeth Cymru. Mae pob sefydliad sy’n ymrwymo i’r polisi yn cytuno i gymryd safiad yn erbyn hiliaeth a hyrwyddo gweithle a chymdeithas fwy cynhwysol a chyfartal, sy’n rhoi’r hawl i bob unigolyn yng Nghymru deimlo’n ddiogel, yn cael ei werthfawrogi a’i gynnwys.
Cyflawni/ Monitro: Monitro Sicrwydd Cydraddoldeb.
Amserlen: 2025
Swyddogion Arweiniol: Prif Weithredwr
Ein Gweithlu – Yn Amrywiol, Yn Gefnogol ac Yn Gynhwysol
Nod Tymor Hir: Bod ein gweithlu yn amrywiol, ein bod yn gyflogwr o ddewis a bod y staff yn teimlo eu bod yn cael cefnogaeth mewn amgylchedd gwaith sy’n gynhwysol ac yn deg.
Amcan Cydraddoldeb: Erbyn 2029, bydd gennym mwy o lwybrau posibl i gyflogaeth ar gyfer grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu.
Pam yr Amcan hwn
- Mae’r Awdurdod wedi gweld cynnydd yn nifer y gweithwyr dan 40 oed, sydd wedi cynyddu o 21% yn 2019/20 i 32% yn 2023/24. Cymerodd yr Awdurdod ran yn y Cynllun Kickstart ac roedd wedi datblygu swyddi dan hyfforddiant mewn Cynllunio ac Adnoddau Dynol. Fodd bynnag, mae angen gwaith ehangach i edrych ar lwybrau at gyfleoedd cyflogaeth drwy ddatblygu sgiliau, hyfforddiant a chyfleoedd prentisiaeth.
- Mae tan-gynrychiolaeth ehangach ar gyfer rhai grwpiau o ran tirweddau dynodedig a sector yr amgylchedd yn effeithio ar y gronfa o ymgeiswyr posibl. Gan weithio gyda phartneriaid gan gynnwys darparwyr addysg, gallwn gefnogi’r sector i ddod yn gyflogwr deniadol o ddewis i bawb.
- Dylai ein harferion recriwtio ddilyn arferion gorau, gan gynnwys mynd i’r afael â materion megis rhagfarn ddiarwybod a’n bod yn parhau i fod yn sefydliad sy’n hyderus o ran anabledd.
Camau Gweithredu
Parhau i fod yn sefydliad hyderus o ran anabledd, gan gynnwys gwneud cais am lefel 2 y cynllun a hyrwyddo ein cyfranogiad.
Cyflawni/ Monitro: Monitro Sicrwydd Cydraddoldeb.
Amserlen: 2025 – 2029
Swyddogion Arweiniol: Pennaeth Gwasanaethau Pobl.
Cynnal adolygiad cynhwysfawr o broses recriwtio a dethol yr Awdurdod i sicrhau tegwch o fewn y prosesau recriwtio, gan gynnwys edrych ar rwystrau posibl i ymgeiswyr iau neu’r rhai o grwpiau eraill sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu.
Cyflawni/ Monitro: Monitro Sicrwydd Cydraddoldeb.
Amserlen: 2025 – 2029
Swyddogion Arweiniol: Pennaeth Gwasanaethau Pobl.
Archwilio llwybrau newydd i gyfleoedd cyflogaeth drwy gyfleoedd datblygu sgiliau/ hyfforddiant/ prentisiaeth. Asesu dichonoldeb, gwneud cysylltiadau â darparwyr perthnasol a datblygu cynllun lle bo’n briodol.
Cyflawni/ Monitro: Cynllun Cyflawni Datblygu Sgiliau a Hyfforddiant.
Amserlen: 2025 – 2029
Swyddogion Arweiniol: Pennaeth Gwasanaethau Pobl.
Adolygu ein harlwy ar gyfer myfyrwyr addysg bellach ac addysg uwch gyda fframwaith yn ei le i gefnogi cyfleoedd ymchwil a cheisiadau am leoliadau myfyrwyr.
Cyflawni/ Monitro: Cynllun Cyflawni Datblygu Sgiliau a Hyfforddiant.
Amserlen: 2025 – 2029
Swyddogion Arweiniol: Pennaeth Gwasanaethau Pobl.
Datblygu Cynllun Sefydliad a Gweithlu, i fabwysiadu ymagwedd strategol at gynllunio olyniaeth a chyfleoedd i ddatblygu mecanweithiau i fynd i’r afael â than-gynrychiolaeth yn ein gweithlu.
Cyflawni/ Monitro: Cynllun Cyflawni Datblygu Sgiliau a Hyfforddiant.
Amserlen: 2025 – 2029
Swyddogion Arweiniol: Pennaeth Gwasanaethau Pobl.
Amcan Cydraddoldeb: Erbyn 2029, byddwn drwy fentrau llesiant, hyfforddiant a pholisïau cysylltiedig yn darparu gweithle sy’n gefnogol ac yn gynhwysol.
Pam yr Amcan hwn
- I gael y gorau o’n gweithwyr mae angen diwylliant gweithle sy’n ddiogel ac yn gynhwysol i bawb. Mae straen, pryder, iselder yn parhau i fod yn brif achos absenoldeb o’r gweithle i’r Awdurdod, yn yr un modd â sefydliadau eraill. Gall pobl sydd â nodweddion gwarchodedig wynebu ystod o ffactorau ychwanegol all effeithio ar eu llesiant a’u profiad yn y gwaith.
- Mae rheolwyr llinell yn chwarae rhan hanfodol o ran meithrin amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol ac mae angen cymorth arnynt i ddatblygu’r wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol i gyflawni hyn.
Camau Gweithredu
Cynnal adolygiad o’n holl weithgareddau llesiant a gweithio gyda chynrychiolwyr staff ac undeb i ddatblygu cynnig llesiant sy’n adlewyrchu arfer gorau cyfredol.
Cyflawni/ Monitro: Monitro Sicrwydd Cydraddoldeb.
Amserlen: 2025 – 2029
Swyddogion Arweiniol: Pennaeth Gwasanaethau Pobl.
Parhau i adolygu polisïau Adnoddau Dynol i sicrhau eu bod yn adlewyrchu’r arfer gorau cyfredol o ran hyrwyddo arferion gweithle a recriwtio cynhwysol.
Cyflawni/ Monitro: Monitro Sicrwydd Cydraddoldeb.
Amserlen: 2025 – 2029.
Swyddogion Arweiniol: Pennaeth Gwasanaethau Pobl.
Dod o hyd i gyfres o hyfforddiant i reolwyr llinell, a datblygu’r gyfres, i’w harfogi i reoli timau amrywiol a hyrwyddo diwylliant cynhwysol.
Cyflawni/ Monitro: Monitro Sicrwydd Cydraddoldeb.
Amserlen: 2025 – 2029
Swyddogion Arweiniol: Pennaeth Gwasanaethau Pobl.
Parhau i fonitro cydraddoldeb yn y gweithle ac mewn recriwtio, gan wella lefelau data a dadansoddi data a mynd i’r afael â bylchau data mewn meysydd megis hyfforddiant.
Cyflawni/ Monitro: Monitro Sicrwydd Cydraddoldeb.
Amserlen: 2025 – 2029
Swyddogion Arweiniol: Pennaeth Gwasanaethau Pobl. Swyddog Perfformiad a Chydymffurfiaeth.
Amcan Cydraddoldeb: Erbyn 2029, byddwn wedi adolygu canlyniad yr adolygiad cyflogau a graddfeydd a’i ddadansoddiad o’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, ac wedi datblygu a rhoi cynllun gweithredu ar waith mewn ymateb, os bydd angen.
Pam yr Amcan hwn
- Yn 2024/25, pan oedd y cynllun hwn yn cael ei adolygu, roedd yr Awdurdod yn cynnal adolygiad cyflogau a graddfeydd, ac roedd dadansoddiad o’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau i’w gynnal fel rhan o’r gwaith hwnnw. Yn dilyn canlyniad yr adolygiad hwn bydd angen i’r Awdurdod asesu, ac os oes angen, gweithredu cynllun gweithredu ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau.
Camau Gweithredu
Adolygu canlyniad yr adolygiad cyflogau a graddfeydd a’r dadansoddiad o’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, a datblygu a rhoi cynllun gweithredu ar waith mewn ymateb, os bydd angen.
Cyflawni/ Monitro: Monitro Sicrwydd Cydraddoldeb.
Amserlen: 2025 -2026 (nodi a oes angen cynllun gweithredu bwlch cyflog rhwng y rhywiau).
Swyddogion Arweiniol: Pennaeth Gwasanaethau Pobl.
Llywodraethu ac Ymgysylltu – Mwy o Gyfranogiad
Nod Tymor Hir: Bod ystod amrywiol o bobl yn gallu dylanwadu ar waith yr Awdurdod ac ar y penderfyniadau sy’n effeithio ar ardal y Parc.
Amcan Cydraddoldeb: Erbyn 2029, byddwn yn creu cyfleoedd i’r grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol o fewn ein llywodraethiant a’n strwythurau ehangach i’w galluogi i ddylanwadu ar benderfyniadau am y Parc ac am waith yr Awdurdod.
Pam yr Amcan hwn
- Mae’r Aelodau yn chwarae rhan ganolog wrth arwain gwaith yr Awdurdod a gwneud penderfyniadau sy’n effeithio ar y Parc. Mae’n bwysig ein bod yn parhau i ymgysylltu â rhaglenni cymorth a chynlluniau i gynyddu cynrychiolaeth mewn gwleidyddiaeth leol ac ym mhrosesau Penodiadau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru.
- Mae ein Fforwm Gwirfoddolwyr yn gyfle i wirfoddolwyr o bob rhan o’r Awdurdod, gan gynnwys gwirfoddolwyr â chymorth, rannu, dysgu a dylanwadu hefyd ar waith ac ar arlwy’r Awdurdod i wirfoddolwyr.
- Mae barn y Genhedlaeth Nesaf yn bwysig i ni. Mae’r Genhedlaeth Nesaf a’r Pwyllgor Ieuenctid yn fecanwaith pwysig i bobl ifanc gael dweud eu dweud am y Parc ac am waith yr Awdurdod, gan gynnwys drwy eu gweithgareddau Maniffesto Ieuenctid.
Camau Gweithredu
Cefnogi rhaglenni a chynlluniau i gynyddu cynrychiolaeth mewn gwleidyddiaeth leol ac ym mhrosesau Llywodraeth Cymru ar Benodiadau Cyhoeddus.
Cyflawni/ Monitro: Monitro Sicrwydd Cydraddoldeb. Tirweddau Dynodedig Cymru – Cynllun Gweithredu Cynhwysiant, Amrywiaeth a Llywodraethu Rhagoriaeth. a monitro’r cynllun.
Amserlen: 2025 – 2029
Swyddogion Arweiniol: Prif Weithredwr. Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd. Pennaeth Gwasanaethau Pobl.
Cyflawni rhaglenni’r Genhedlaeth Nesaf a’r Pwyllgor Ieuenctid. Gan gynnwys adolygiad parhaus a hyrwyddo Maniffesto Ieuenctid APCAP a chwyddo Llais Ieuenctid wrth fynd i’r afael â materion sy’n ymwneud â’r Parc Cenedlaethol a’r meysydd blaenoriaeth gweithredu.
Cyflawni/ Monitro: Cynllun Cyflawni ar Ymgysylltu, Cynnwys a Dysgu am y Parc.
Amserlen: 2025 -2029
Swyddogion Arweiniol: Pennaeth Ymgysylltu a Chynhwysiant. Arweinydd y Tîm Dysgu a Chynhwysiant.
Cyflwyno Fforwm Gwirfoddolwyr sy’n amlygu amrywiaeth y gwirfoddolwyr.
Cyflawni/ Monitro: Cynllun Cyflawni ar Ymgysylltu, Cynnwys a Dysgu am y Parc.
Amserlen: 2025 -2029
Swyddogion Arweiniol: Swyddog Datblygu Gwirfoddoli.
Amcan Cydraddoldeb: Erbyn 2029, byddwn yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth i Aelodau a Swyddogion i ystyried ystyriaethau cydraddoldeb wrth wneud penderfyniadau.
Pam yr Amcan hwn
- Gall cyfleoedd dysgu i’r Aelodau ategu mwy o graffu effeithiol ar waith yr Awdurdod ar faterion cydraddoldeb a chynhwysiant.
- Mae Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb fel rhan o’n prosesau asesu integredig yn rhoi cyfle i Aelodau’r Awdurdod a Swyddogion ystyried gwahanol safbwyntiau ac effeithiau polisïau a phenderfyniadau ar bobl â nodweddion gwarchodedig.
Camau Gweithredu
Darparu cyfleoedd hyfforddi a dysgu sy’n gysylltiedig â chydraddoldeb a chynhwysiant i’r Aelodau.
Cyflawni/ Monitro: Monitro Sicrwydd Cydraddoldeb. Tirweddau Dynodedig Cymru – Cynllun Gweithredu Cynhwysiant, Amrywiaeth a Llywodraethu Rhagoriaeth. a monitro’r cynllun.
Amserlen: 2025 – 2029
Swyddogion Arweiniol: Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd Pennaeth Gwasanaethau Pobl.
Parhau i ddefnyddio Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb fel rhan o’r broses Asesiadau Integredig i roi’r wybodaeth sydd ei hangen ar Aelodau ac Uwch Reolwyr i asesu effaith polisïau a phenderfyniadau ar nodweddion gwarchodedig. Fel rhan o’r broses hon, archwilio sut y gallwn ddefnyddio’r prosesau ehangach o ymgysylltu i gasglu safbwyntiau gwahanol i lywio’r asesiadau.
Cyflawni/ Monitro: Monitro Sicrwydd Cydraddoldeb.
Amserlen: 2025 – 2029
Swyddogion Arweiniol: Swyddog Perfformiad a Chydymffurfiaeth.
Amcan Cydraddoldeb:. Erbyn 2029, bydd gennym fecanweithiau ar waith i alluogi ystod eang o grwpiau a phobl i gymryd rhan mewn sgwrs barhaus am y Parc.
Pam yr Amcan hwn
- Bob pum mlynedd mae’n ofynnol i’r Awdurdod gynhyrchu Cynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol sy’n nodi sut yr hoffai weld y Parc Cenedlaethol yn cael ei reoli, nid yn unig gan yr Awdurdod ei hun, ond gan yr asiantaethau a’r sefydliadau eraill y gallai eu gweithgareddau effeithio ar y Parc. Mae’n bwysig ein bod yn datblygu mecanweithiau i gefnogi sgwrs barhaus am y Parc, gan gynnwys cyfleoedd i gasglu safbwyntiau a phersbectif ehangach gan grwpiau y mae eu lleisiau yn cael eu tangynrychioli yn sector yr amgylchedd ehangach.
- Mae cynllunio yn bwnc cymhleth sy’n chwarae rhan bwysig wrth ddiogelu’r Parc Cenedlaethol. Mae’n bwysig i’r Awdurdod archwilio ffyrdd o gefnogi rhanddeiliaid a’r cyhoedd i ddeall ac ymgysylltu â’r broses gynllunio a pholisi cynllunio ac i wella cynhwysiant yn y maes hwn.
Camau Gweithredu
Darparu amrywiaeth o ffyrdd i gymryd rhan, gan ganolbwyntio’n benodol ar ddarparu ystod o gyfleoedd gwirfoddoli a gweithredu cymdeithasol.
Cyflawni/ Monitro: Cynllun Cyflawni ar Ymgysylltu, Cynnwys a Dysgu am y Parc.
Amserlen: 2025 – 2029
Swyddogion Arweiniol: Pennaeth Ymgysylltu a Chynhwysiant. Swyddog Datblygu Gwirfoddoli.
Drwy ein gwaith ymgysylltu a phartneriaeth byddwn yn ceisio datblygu cyfleoedd i gasglu safbwyntiau a phersbectif ehangach gan grwpiau y mae eu lleisiau yn cael eu tangynrychioli yn sector yr amgylchedd ehangach. Yn arbennig o ran edrych ar feysydd megis Adfer Byd Natur a sicrhau Pontio Teg o ran Datgarboneiddio.
Cyflawni/ Monitro: Cynllun Cyflawni ar Ymgysylltu, Cynnwys a Dysgu am y Parc. Cynllun Cyflawni Adfer Byd Natur. Cynllun Cyflawni ar Ddatgarboneiddio.
Amserlen: 2025 – 2029
Swyddogion Arweiniol: Pennaeth Ymgysylltu a Chynhwysiant. Arweinydd y Tîm Dysgu a Chynhwysiant. Swyddog Iechyd a Llesiant. Rheolwr Polisi Strategol.
Archwilio cyfleoedd i helpu rhanddeiliaid a’r cyhoedd i ddeall ac ymgysylltu â’r broses gynllunio a pholisi cynllunio i wella cynhwysiant yn y maes hwn.
Cyflawni/ Monitro: Cynllun Cyflawni ar Ymgysylltu, Cynnwys a Dysgu am y Parc. Monitro Sicrwydd Cydraddoldeb a Chynllunio.
Amserlen: 2025 – 2029
Swyddogion Arweiniol: Cyfarwyddwr Creu Lleoedd, Datgarboneiddio ac Ymgysylltu.