Mae’r Awdurdod a’i Bwyllgorau yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd i drafod materion amrywiol sy’n effeithio ar weithrediadau Awdurdod y Parc Cenedlaethol, ac yn wir y Parc Cenedlaethol, ac i bleidleisio arnynt.
O geisiadau cynllunio i’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy, mae pob agwedd ar waith yr Awdurdod, yn cael eu goruchwylio gan Aelodau a etholir gan Gyngor Sir Penfro ac a benodir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. I ddarganfod pwy ydyn nhw, rhowch glir ar ein tudalen Aelodau. I ddarganfod pa Aelodau sydd yn eistedd ar bob Pwyllgor, rhowch glic ar Aelodaeth o Bwyllgorau a Sefydliadau Allanol 2024-2025.
Yn yr adran hon, mae mwy o wybodaeth ynghylch cyfarfodydd yr Awdurdod a’i bwyllgorau, ac fe allwch lawrlwytho copïau o agendâu cyfarfodydd a phapurau cysylltiedig ar y tudalen Papurau Pwyllgorau. Os na fyddwch chi’n gallu dod o hyd i’r hyn yr ydych yn chwilio amdano, cofiwch gysylltu â ni.
Os hoffech chi wybod pryd fydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn y dyfodol, rhowch glic ar y Calendr Cyfarfodydd ar gyfer 2024/25. Fe allwch bori trwy gylch gwaith Awdurdod y Parc Cenedlaethol a’i Bwyllgorau hefyd, trwy ddarllen y Cylch Gorchwyl.
Ble mae'r cyfarfodydd yn cael eu cynnal?
Cynhelir pob cyfarfod yn ein pencadlys yn Noc Penfro oni nodir yn wahanol:
Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Parc Llanion
Doc Penfro
Sir Benfro
SA72 6DY
Agendâu
- Fe fydd agendâu ar gael am tua un wythnos cyn y cyfarfod ar y tudalen Papurau Pwyllgorau. Os nad ydych am eu lawrlwytho o’r wefan hon, fe allwch edrych arnynt yn ein pencadlys.