Pwyllgor Adolygu Archwilio a Gwasanaethau Corffora
Mae’r Pwyllgor hwn yn edrych ar risgiau a pherfformiad yn y meysydd canlynol:
- Cyllid
- Adnoddau Dynol
- Technoleg Gwybodaeth
- Rheoli Perfformiad
- Cyfathrebu
Mae hefyd yn:
- monitro perfformiad yr Awdurdod yn erbyn Cynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol, Y Llythyr Grant Strategol blynyddol a Safonau Gwasanaeth a fabwysiadwyd
- goruchwylio cynhyrchiad y Datganiad Llywodraethu Blynyddol ac yn monitro perfformiad yr Awdurdod yn erbyn y Cynllun Gweithredu cysylltiedig
- ystyried adroddiadau gan Swyddfa Archwilio Cymru (e.e. Yr Adroddiad Blynyddol ar Welliant, y Llythyr Archwilio Blynyddol) ac yn monitro perfformiad yr Awdurdod mewn perthynas â hwy
- ystyried adroddiadau gan yr Archwiliad Mewnol ar systemau a rheolyddion ariannol yr Awdurdod.
Mae’r Pwyllgor yn cynnwys naw Aelod o’r Awdurdod ac yn cwrdd yn chwarterol.