Pwyllgor Craffu
Mae’r Pwyllgor hwn yn darparu fframwaith mwy ffurfiol a chadarn i alluogi’r Awdurdod i graffu’n well ar agweddau ar ei waith. Dyma’i ddibenion:
- Adolygu polisïau sydd eisoes yn bodoli, ac effeithiolrwydd eu trosglwyddiad, mewn perthynas â Strategaeth Gorfforaethol yr Awdurdod.
- Adolygu polisïau/penderfyniadau a gynigiwyd, a gyfeiriwyd at y Pwyllgor gan y tri Phwyllgor Adolygu (trwy Awdurdod y Parc Cenedlaethol).
- Adolygu unrhyw fater arall a gyfeiriwyd at y Pwyllgor gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol.
- Cynnig argymhellion ar sail tystiolaeth i Awdurdod y Parc Cenedlaethol a/neu bartneriaid, fel sy’n briodol
Sefydlwyd dau Bwyllgor, y naill a’r llall yn cynnwys 9 Aelod o’r Awdurdod, ac fe fydd y rhain yn cwrdd yn fisol, ond ni fydd y ddau ar waith ar yr un pryd, h.y. fe fydd gwaith y naill Bwyllgor yn dod i ben cyn i’r llall ddechrau.