Archif Pwyllgor Adolygu Gweithredol
Agendâu a chofnodion cyfarfodydd a gynhaliwyd rhwng 09/07/2014 a 25/03/2020.
Dydd Mercher 25 Mawrth 2020
Ni chymerwyd cofnodion/Nid yw’r cofnodion ar gael
Yn sgîl y newid yng nghanllawiau’r Llywodraeth, mae’r penderfyniad wedi’i wneud, ar ôl ymgynghori â Chadeirydd y Pwyllgor Adolygu Gweithredol, i OHIRIO’R cyfarfod oedd wedi’i drefnu i’w gynnal 25 Mawrth 2020.
Ymddiheuraf am unrhyw anghyfleustra a achosir.
1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb
2. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda
3. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Rhagfyr 2019
4. Ystyried yr adroddiadau canlynol:
01/20 Gweithio gyda’r Ysgolion – Ymateb i heriau’r Cwricwlwm newydd i Gymru
Mae’r adroddiad yn rhoi adolygiad i’r Aelodau ar waith yr Awdurdod ar addysg ac yn arbennig yn rhoi diweddariad ar y modd y mae ein gwasanaethau yn y maes hwn yn ymateb i heriau’r Cwricwlwm newydd i Gymru.
02/20 Lleihau Llygredd Golau
Mae’r adroddiad yn cyflwyno gwybodaeth i’r Aelodau ar Bartneriaeth Llygredd Golau Sir Benfro ac ar bapur y bartneriaeth ‘Awyr Serennog Sir Benfro’.
03/20 Adroddiad Perfformiad am y Cyfnod yn diweddu ar yr 31 Ionawr 2020
Mae’r adroddiad yn cyflwyno’r perfformiad hyd yn hyn hyd at yr 31 Ionawr 2020 ac yn cynnwys ystadegau chwarteri 1 – 3 (Ebrill – Rhagfyr) ar gyfer rhai setiau data.
04/20 Cofrestr Risg
Gofynnir i’r Aelodau ystyried y Gofrestr Risg ddiweddaraf.
5. Derbyn cyflwyniad ar y gweithgareddau marchnata allweddol sy’n gysylltiedig â’r Fenter Llwybrau Celtaidd
6. Dirprwyo unrhyw faterion i’w hystyried gan y Grŵp Gwelliant Parhaus.
Dydd Mercher 11 Rhagfyr 2019
1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb
2. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda
3. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Medi 2019
4. Ystyried yr adroddiadau canlynol:
13/19 Prosiect Llwybrau – Adolygiad ar ôl 2 flynedd o Gyflawni’r Prosiect
Mae’r adroddiad yn rhoi diweddariad i’r Aelodau ar y Prosiect Llwybrau.
14/19 Gwirfoddoli
Mae’r adroddiad yn rhoi diweddariad i’r Aelodau ar Wirfoddoli.
15/19 Oriel Y Parc – Blaenoriaethau i’r Dyfodol
Mae’r adroddiad yn ceisio rhoi diweddariad i’r Aelodau ar y blaenoriaethau i’r dyfodol fel y’u crisialwyd yn y cynllun busnes.
16/19 Adroddiad Perfformiad am y Cyfnod yn diweddu ar yr 31 Hydref 2019
Mae’r adroddiad yn cyflwyno’r perfformiad hyd yn hyn hyd at yr 31 Hydref 2019 ac yn cynnwys ystadegau chwarteri 1 a 2 (Ebrill – Medi) ar gyfer rhai setiau data.
17/19 Cofrestr Risg
Gofynnir i’r Aelodau ystyried y Gofrestr Risg ddiweddaraf.
5. Dirprwyo unrhyw faterion i’w hystyried gan y Grŵp Gwelliant Parhaus.
Dydd Mercher 25 Medi 2019
1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb
2. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda
3. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Mehefin a’r 12 Mehefin 2019
4. Ystyried yr adroddiadau canlynol:
08/19 Adroddiad Cadwraeth 2018 – 2019
Mae’r adroddiad yn nodi’r canlyniadau a gyflawnwyd ar gyfer y Parc Cenedlaethol hwn drwy ein gwaith cadwraeth yn ystod y flwyddyn ariannol 2018-2019.
09/19 Adroddiad Archaeoleg Cymunedol 2018 – 2019
Mae’r adroddiad yn nodi’r gwaith a wnaed gan adran archaeoleg Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a chanlyniadau’r gwaith hwnnw yn y flwyddyn ariannol 2018 – 2019.
10/19 Mabwysiadu Egwyddorion Diogelwch Ymwelwyr yn APCAP
Mae’r adroddiad yn nodi dulliau’r Awdurdod o ymdrin â Diogelwch Ymwelwyr, gan amlinellu’r egwyddorion allweddol sydd bellach wedi’u hymgorffori yn ei Bolisi Iechyd a Diogelwch.
11/19 Adroddiad Perfformiad am y Cyfnod yn diweddu ar yr 31ain o Orffennaf 2019.
Mae’r adroddiad yn cyflwyno’r perfformiad hyd yn hyn hyd at yr 31ain o Orffennaf 2019 ac yn cynnwys ystadegau chwarter 1 (Ebrill – Mehefin) ar gyfer rhai setiau data.
12/19 Cofrestr Risg
Gofynnir i’r Aelodau ystyried y Gofrestr Risg ddiweddaraf.
5. Dirprwyo unrhyw faterion i’w hystyried gan y Grŵp Gwelliant Parhaus.
Dydd Mercher 12 Mehefin 2019
1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb
2. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda
3. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Mawrth 2019
4. Ystyried yr adroddiadau canlynol:
05/19 Castell Henllys
Mae’r adroddiad yn rhoi diweddariad i’r Aelodau ar yr hyn sy’n digwydd ar hyn o bryd yng Nghastell Henllys, datblygiadau diweddar, cynlluniau i’r dyfodol a phrosiectau gyda phartneriaid.
06/19 Adroddiad Perfformiad am y Cyfnod sy’n diweddu ar 31 Mawrth 2019
Mae’r adroddiad canlynol yn cyflwyno’r perfformiad am y flwyddyn ariannol lawn – Ebrill i Mawrth 2018/19 – ac yn cynnwys data Cwarter 4 (Ionawr – Mawrth) ar gyfer y mwyafrif o’r setiau data
07/19 Cofrestr Risg
Gofynnir i’r Aelodau ystyried y Gofrestr Risg ddiweddaraf.
Dydd Mercher 5 Mehefin 2019
1. Ethol Cadeirydd am y flwyddyn sy’n dod
Enwebiad derbyniedig: Neb
2. Ethol Dirprwy Gadeirydd am y flwyddyn sy’n dod
Enwebiad derbyniedig: Neb
Dydd Mercher 27 Mawrth 2019
1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb
2. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda
3. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Rhagfyr 2018
4. Ystyried yr adroddiadau canlynol:
01/19 Y diweddaraf am Strategaeth Hyrwyddo Llwybr yr Arfordir
Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am y gwaith a wneir gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro i hyrwyddo Llwybr Arfordir Cymru.
02/19 Adroddiad Perfformiad am y Cyfnod sy’n diweddu ar 31 Ionawr 2019
Mae’r adroddiad yn cyflwyno’r perfformiad hyd yn hyn o ran yr amcanion a nodir yn y Cynllun Corfforaethol 2018/19.
03/19 Cofrestr Risg
Gofynnir i’r Aelodau ystyried y gofrestr risg ddiweddaraf
04/19 Cyfleuster chwilio ar-lein Rheoli Datblygu
Rhoi arddangosiad ymarferol cyflym a diweddariad i’r Aelodau o’r cyfleuster chwilio ar-lein sydd gennym ar gyfer ceisiadau cynllunio.
5. Dirprwyo unrhyw faterion i’w hystyried gan y Grŵp Gwelliant Parhaus.
Dydd Mercher 12 Rhagfyr 2018
1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb
2. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda
3. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Medi 2018
4. Ystyried yr adroddiadau canlynol:
14/18 Safleoedd Morol Ewropeaidd o amgylch Arfordir Sir Benfro
Adroddiad ar gyfraniad yr Awdurdod Parc Cenedlaethol i reoli Safleoedd Morol Ewropeaidd o amgylch Arfordir Sir Benfro.
15/18 Gorchmynion Llwybrau Cyhoeddus a Chytundebau Creu Llwybrau Cyhoeddus
Mae’r adroddiad hwn er gwybodaeth yn rhoi diweddariad i’r Aelodau ar y Gorchmynion Llwybrau Cyhoeddus a’r Cytundebau Creu Llwybrau Cyhoeddus a wnaed gan yr Awdurdod Parc Cenedlaethol yn ystod 2018.
16/18 Adolygiad o’r Ddarpariaeth Parcmyn yr Haf yng Ngogledd a De Sir Benfro
Mae’r adroddiad yn rhoi adolygiad i’r Aelodau o rolau Parcmyn yr Haf yn y Gogledd a’r De yn ystod tymor 2018.
17/18 Adroddiad Perfformiad am y Cyfnod yn Diweddu 31 Hydref 2018
Mae’r adroddiad yn cyflwyno’r perfformiad hyd yn hyn ar gyfer yr amcanion a nodir yn y Cynllun Corfforaethol 2017/18.
18/18 Cofrestr Risg
Gofynnir i’r Aelodau ystyried y gofrestr risg ddiweddaraf.
5. Dirprwyo unrhyw faterion i’w hystyried gan y Grŵp Gwelliant Parhaus.
Dydd Mercher 26 Medi 2018
1. Ethol Cadeirydd am y flwyddyn sy’n dod
Enwebiad derbyniedig: Neb
2. Ethol Dirprwy Gadeirydd am y flwyddyn sy’n dod
Enwebiad derbyniedig: Cynghorydd S Yelland
3. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb
4. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda
5. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Mehefin 2018
6. Ystyried yr adroddiadau canlynol:
10/18 Prosiect Llwybrau – adolygu ar ôl blwyddyn o gyflwyno’r prosiect
Mae’r adroddiad yn rhoi diweddariad i’r Aelodau ar y Prosiect Llwybrau.
11/18 Gorfodi Cynllunio
Mae’r adroddiad yn cyflwyno gwybodaeth i’r Aelodau am berfformiad gorfodi cynllunio a gorfodi rhagweithiol sy’n digwydd ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
12/18 Adroddiad Perfformiad am y Cyfnod sy’n diweddu ar 31 Gorffennaf 2018
Mae’r adroddiad yn cyflwyno’r perfformiad hyd yn hyn o ran yr amcanion a nodir yn y Cynllun Corfforaethol 2017/18.
13/18 Cofrestr Risg
Gofynnir i’r Aelodau ystyried y gofrestr risg ddiweddaraf.
7. Derbyn cyflwyniad gan Steve Jones, Rheolwr Gweithrediadau, ar y Prosiect Parc Digidol fydd yn amlinellu sut ydym yn trawsnewid ein llif gwaith o bapur i ddigidol, i sicrhau bod y Tîm Rheoli Cefn Gwlad yn cyflawni yn effeithlon ac yn effeithiol, gan barhau i ateb y diben mewn byd sy’n fythol newid.
8. Ystyried eitemau posibl ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol:
• Adolygu’r drefn o gael Parcmyn dros yr Haf
• Adroddiad blynyddol ar y Gorchmynion Creu Llwybrau Cyhoeddus
• Strategaeth Hyrwyddo Llwybr Arfordir Cymru
9. Dirprwyo unrhyw faterion i’w hystyried gan y Grŵp Gwelliant Parhaus.
Dydd Mercher 13 Mehefin 2018
1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb
2. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda
3. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Mawrth 2018
05/18 Castell Henllys
Mae’r adroddiad yn rhoi diweddariad i’r Aelodau ar yr hyn sy’n digwydd ar hyn o bryd yng Nghastell Henllys, datblygiadau diweddar, cynlluniau i’r dyfodol a phrosiectau gyda phartneriaid.
06/18 Gweithgaredd Masnachol yn y Canolfannau
Mae’r adroddiad yn rhoi diweddariad i’r Aelodau ar y gweithgaredd masnachol yn ddiweddar, ar hyn o bryd ac yn y dyfodol yn y Canolfannau.
07/18 Adroddiad ar Reoli Tir Cadwraeth 2017 – 2018
Mae’r adroddiad yn nodi pa ganlyniadau y llwyddir i’w gwireddu ar gyfer y Parc Cenedlaethol hwn drwy ein gwaith cadwraeth a’n gwaith ar yr amgylchedd hanesyddol.
08/18 Adroddiad Perfformiad am y Cyfnod sy’n diweddu ar 31 Mawrth 2018
Mae’r adroddiad yn cyflwyno’r perfformiad hyd yn hyn o ran yr amcanion a nodir yn y Cynllun Corfforaethol 2017/18.
09/18 Cofrestr Risg
Gofynnir i’r Aelodau ystyried y gofrestr risg ddiweddaraf.
5. Dirprwyo unrhyw faterion i’w hystyried gan y Grŵp Gwelliant Parhaus.
Dydd Mercher 7 Mawrth 2018
1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb
2. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda
3. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Rhagfyr 2017
4. Ystyried yr adroddiadau canlynol:
01/18 Rheoli Llwybr Cenedlaethol Arfordir Penfro
Mae’r adroddiad yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf ar gyfer yr Aelodau ynghylch rheoli Llwybr Cenedlaethol Arfordir Penfro, ac mae’n amlinellu rhai o’r heriau y mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn eu hwynebu o ran rheoli’r Llwybr Cenedlaethol.
02/18 Mentrau Iechyd a Lles
Darperir adroddiad ar yr ‘Adroddiad Drafft: Parciau Cenedlaethol Cymru: Law yn Llaw at Iechyd a Lles. Cyflawni’r Camau sy’n Flaenoriaeth ac Astudiaethau Achos, Chwefror 2018’ gyda sylw arbennig ar waith a gyflawnwyd sy’n bodloni’r Camau sy’n Flaenoriaeth.
03/18 Adroddiad Perfformiad am y Cyfnod sy’n diweddu ar 31 Ionawr 2017/18
Mae’r adroddiad yn cyflwyno’r perfformiad hyd yn hyn o ran yr amcanion a nodir yn y Cynllun Corfforaethol 2016/17.
04/18 Cofrestr Risg
Gofynnir i’r Aelodau ystyried y gofrestr risg ddiweddaraf.
5. Cael cyflwyniad gan Swyddog Cyfathrebu a Swyddog Ystadau’r Awdurdod i esbonio ymateb yr Awdurdod i geisiadau i ffilmio yn y Parc Cenedlaethol.
6. Dirprwyo unrhyw faterion i’w hystyried gan y Grŵp Gwelliant Parhaus.
Dydd Mercher 6 Rhagfyr 2017
1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb
2. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda
3. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Medi 2017
4. Ystyried yr adroddiadau canlynol:
15/17 Adroddiad Rheoli Tir Cadwraeth 2016 – 2017
Mae’r adroddiad hwn yn nodi pa ganlyniadau sy’n cael eu cyflawni ar gyfer y Parc Cenedlaethol hwn drwy ein gwaith ym maes cadwraeth a’r amgylchedd hanesyddol.
16/17 Canolfan Ymwelwyr Oriel y Parc
Mae’r adroddiad yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am y gweithrediadau presennol yn Oriel y Parc, y datblygiadau diweddaraf, y cynlluniau at y dyfodol, a phrosiectau partneriaid.
17/17 Adolygiad o’r dull newydd o ddarparu gwybodaeth yn Ninbych-y-pysgod a Saundersfoot
Mae’r adroddiad hwn yn rhoi adolygiad i’r Aelodau o rôl Parcmyn yr Haf yn Ninbych-y-pysgod a Saundersfoot, a dreialwyd yn 2017.
18/17 Adroddiad Perfformiad am y Cyfnod sy’n diweddu ar 31 Hydref 2017
Mae’r adroddiad yn cyflwyno’r perfformiad hyd yn hyn o ran yr amcanion a nodir yn y Cynllun Corfforaethol 2016/17.
19/17 Cofrestr Risg
Gofynnir i’r Aelodau ystyried y gofrestr risg ddiweddaraf.
5. Derbyn cyflwyniad ar y Newidiadau Deddfwriaethol o ran Diogelu Data.
6. Dirprwyo unrhyw faterion i’w hystyried gan y Grŵp Gwelliant Parhaus.
Dydd Mercher 6 Medi 2017
1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb
2. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda
3. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Gorffennaf 2017
4. Ystyried yr adroddiadau canlynol:
12/17 Canolfan Ymwelwyr Trefdraeth
Mae’r adroddiad yn rhoi trosolwg i’r Aelodau o berfformiad Canolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol yn Nhrefdraeth dros y tair blwyddyn ariannol diwethaf.
13/17 Adroddiad Perfformiad am y Cyfnod sy’n diweddu ar 31 Gorffennaf 2017
Mae’r adroddiad yn cyflwyno’r perfformiad hyd yn hyn o ran yr amcanion a nodir yn y Cynllun Corfforaethol 2016/17.
14/17 Cofrestr Risg
Gofynnir i’r Aelodau ystyried y gofrestr risg ddiweddaraf.
5. Dirprwyo unrhyw faterion i’w hystyried gan y Grŵp Gwelliant Parhaus.
Dydd Mercher 5 Gorffennaf 2017
1. Ethol Cadeirydd am y flwyddyn sy’n dod
Enwebiad derbyniedig: Neb
2. Ethol Dirprwy Gadeirydd am y flwyddyn sy’n dod
Enwebiad derbyniedig: Neb
3. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb
4. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda
5. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Mawrth 2017
6. Ystyried yr adroddiadau canlynol:
06/17 Castell a Melin Lanw Caeriw
Mae’r adroddiad yn ddiweddariad i’r Aelodau ar y gweithrediadau ar safle Caeriw ar hyn o bryd, y datblygiadau diweddar a’r cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
07/17 Hyfforddeiaeth Sgiliau ar Waith – adolygu’r prosiect
Mae’r adroddiad yn diweddaru ac yn adolygu cynllun hyfforddeieth yr Awdurdod Parc Cenedlaethol, Sgiliau ar Waith.
08/17 Cynnal-a-chadw Adeiladau’r Awdurdod Parc Cenedlaethol – Adroddiad Blynyddol 2016 / 17
Mae’r adroddiad yn cyflwyno Adroddiad Blynyddol 2016/17 ac yn rhoi diweddariad i’r Aelodau ar y gwaith sydd ar y gweill ar hyn o bryd a’r blaenoriaethau ar gyfer buddsoddi yn y dyfodol.
09/17 Pwyth Mewn Pryd – Stitch in Time Diweddariad ar y Prosiect
Mae’r adroddiad hwn yn cyd-fynd â’r cyflwyniad gan y Cydlynydd Prosiectau ar y prosiect Pwyth mewn Pryd – Stitch in Time.
10/17 Adroddiad Perfformiad am y Cyfnod sy’n diweddu ar 31 Mai 2017
Mae’r adroddiad yn cyflwyno’r perfformiad hyd yn hyn o ran yr amcanion a nodir yn y Cynllun Corfforaethol 2016/17.
11/17 Cofrestr Risg
Gofynnir i’r Aelodau ystyried y gofrestr risg ddiweddaraf.
7. Ystyried y blaenraglen waith ar gyfer y flwyddyn ddilynol
8. Dirprwyo unrhyw faterion i’w hystyried gan y Grŵp Gwelliant Parhaus.
Dydd Mercher 22 Mawrth 2017
1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb
2. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda
3. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Rhagfyr 2016
4. Ystyried yr adroddiadau canlynol:
01/17 Asesu Gwaith Gwasanaeth Wardeniaid y Parc Cenedlaethol
Mae’r adroddiad yn rhoi diweddariad ac asesiad i’r Aelodau o waith Tîm Wardeniaid y Parc Cenedlaethol o ran rheoli cyfleusterau ac asedau’r Parc a chyflawni rhaglen wedi’i chomisiynu o waith ymarferol ar gyfer Tîm Cyfarwyddyd y Parc.
02/17 Adolygiad o’r gwaith dehongli gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Mae’r adroddiad yn rhoi crynodeb o waith y Swyddog(ion) Dehongli sy’n gweithio i Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Bydd cyflwyniad yn cael ei wneud i Aelodau’r Pwyllgor Adolygu Gweithrediadau i ddangos amrediad a chylch y gwaith a gyflawnir.
03/17 Adroddiad Perfformiad am y Cyfnod sy’n diweddu ar 31 Ionawr 2017
Mae’r adroddiad yn cyflwyno’r perfformiad hyd yn hyn o ran yr amcanion a nodir yn y Cynllun Corfforaethol 2016/17.
04/17 Cofrestr Risg
Gofynnir i’r Aelodau ystyried y gofrestr risg ddiweddaraf.
05/17 Trosolwg o’r arddangosfa yn ddiweddar ar Constable yn Oriel y Parc
Mae’r adroddiad yn rhoi diweddariad i’r Aelodau ar lwyddiant arddangosfa Constable yn ddiweddar a gynhaliwyd yn Oriel y Parc ar y cyd ag Oriel Tate ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru.
5. Nodi’r diagram sy’m amlinellu’r cysylltiad rhwng cynlluniau’r Awdurdod
6. Adolygu cylch gorchwyl y Pwyllgor a gwneud unrhyw argymhellion ar gyfer ei ddiwygio i Awdurdod y Parc Cenedlaethol
7. Dirprwyo unrhyw faterion i’w hystyried gan y Grŵp Gwelliant Parhaus.
Dydd Mercher 7 Rhagfyr 2016
1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb
2. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda
3. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Medi 2016
4. Ystyried yr adroddiadau canlynol:
15/16 Adolygu’r gwerthusiad a wnaed gyda defnyddwyr gwasanaeth Menter ‘Dewch i Gerdded’ Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Mae’r adroddiad yn cyflwyno gwybodaeth ynglŷn â’r gwerthusiad a wnaed o’r Fenter ‘Dewch i Gerdded’ ac yn rhoi’r cefndir i gyflwyniad gan ddefnyddwyr y gwasanaeth o ran y prosiect.
16/16 Diweddariad ar weithgaredd Parcmyn Ieuenctid ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro ynghyd â chyflwyniad gan aelodau’r grŵp.
Mae’r adroddiad yn cyflwyno gwybodaeth i’r Aelodau ynglŷn â grŵp Parcmyn Ieuenctid APCAP; bydd y bobl ifanc sy’n cymryd rhan yn y grŵp yn bresennol i roi eu persbectif hwy ar gyfrannu at waith y grŵp.
17/16 Y Rhaglen Cysylltedd a Rheoli Tir
Mae cysylltedd tirweddau yn cyfeirio at y graddau y mae’r dirwedd yn caniatáu i rywogaethau symud o fan i fan. Mae’r adroddiad hwn yn rhoi diweddariad ar y gofynion deddfwriaethol ynglŷn â chysylltedd a’r modd y mae rhaglen rheoli tir yr APC yn cymryd cysylltedd i ystyriaeth wrth ddewis a rheoli safleoedd.
18/16 Adroddiad Perfformiad am y Cyfnod sy’n diweddu ar 31 Hydref 2016
Mae’r adroddiad yn cyflwyno’r perfformiad hyd yn hyn o ran yr amcanion a nodir yn y Cynllun Corfforaethol 2016/17.
1916 Cofrestr Risg
Gofynnir i’r Aelodau ystyried y gofrestr risg ddiweddaraf.
5. Dirprwyo unrhyw faterion i’w hystyried gan y Grŵp Gwelliant Parhaus.
6. Derbyn cyflwyniad ar yr Arolwg o Farn Defnyddwyr y Llwybr Cefn Gwlad 2015-16 (Adroddiad 20/16)
Dydd Mercher 21 Medi 2016
1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb
2. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda
3. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Mehefin 2016
4. Ystyried yr adroddiadau canlynol:
10/16 Adroddiad Perfformiad am y cyfnod yn Terfynu 31 Gorffennaf 2016
Mae’r adroddiad yn cyflwyno’r perfformiad hyd yma am bedwar mis cyntaf y flwyddyn ariannol newydd o ran yr amcanion a osodwyd allan yn y Cynllun Corfforaethol 2016/17
11/16 Adolygiad o Wasanaethau Addysg yr Awdurdod Parc Cenedlaethol
Mae’r adroddiad yn darparu adolygiad o waith addysgol yr Awdurdod ac yn nodi’r hyn a wnaed mewn ymateb i newidiadau yn y sector addysg yn lleol ac yn genedlaethol, gan sicrhau fod ein darpariaeth yn parhau’n briodol ar gyfer y gynulleidfa arfaethedig ac ar yr un pryd yn adlewyrchu amcanion Awdurdod y Parc wrth gyfathrebu â’r gymuned ddysgu.
12/16 Gwaith Partneriaeth mewn Cysylltiad â Rheoli Hamdden, gan Ganolbwyntio ar Waith yng Nghastellmartin
Mae’r adroddiad yn darparu diweddariad i’r Aelodau ynghylch Partneriaeth Parcmon Castellmartin, a reolir gan yr Awdurdod a’i ran-gyllido gan Gronfa Stiwardiaeth Cadwraeth y Weinyddiaeth Amddiffyn a Chydbartneriaeth Waith gyda Chyfoeth Naturiol Cymru.
13/16 Adroddiad Rheoli Tir Cadwraeth 2015 – 2016
Mae’r Adroddiad amgaeedig yn gosod allan y deilliannau sy’n cael eu cyflawni ar gyfer y Parc Cenedlaethol hwn trwy ein gwaith rheoli tir cadwraeth.
14/16 Cofrestr risg
Gofynnir i’r Aelodau ystyried y gofrestr risg ddiweddaraf.
5. Dirprwyo unrhyw faterion i’w hystyried gan y Grŵp Gwelliant Parhaus.
Dydd Mercher 29 Mehefin 2016
1. Ethol Cadeirydd am y flwyddyn sy’n dod
2. Ethol Dirprwy Gadeirydd am y flwyddyn sy’n dod
3. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb
4. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda
5. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Ebrill 2016
6. Derbyn cyflwyniad gan y Fforwm Arfordir Sir Benfro
7. Ystyried yr adroddiadau canlynol:
06/16 Prosiect SDF 0343: Pwyth Mewn Pryd/Stitch in Time – Diweddariad
Mae’r adroddiad hwn yn rhoi diweddariad i’r Aelodau ar y prosiect Pwyth mewn Pryd/Stitch in Time, a reolir gan yr Awdurdod ac a ariennir gan y Gronfa Datblygu Cynaliadwy.
07/16 Y Defnydd a Wneir o Gyfraniadau Adran 106 Tai Fforddiadwy yn Sir Benfro
Gofynnir i’r Aelodau nodi fframwaith Cyngor Sir Penfro ar y defnydd a wneir o Gyfraniadau Tai Fforddiadwy.
08/16 Cofrestr risg
Gofynnir i’r Aelodau ystyried y gofrestr risg ddiweddaraf.
09/16 Adroddiad Perfformiad am y Cyfnod sy’n diweddu Mai 2016
Mae’r adroddiad hwn yn ystyried perfformiad y Timau Cyfarwyddo, Cyflawni a Darganfod am y cyfnod sy’n diweddu Mai 2016.
8. Derbyn cyflwyniad gan y Tîm Cyfathrebu ar fonitro’r cyfryngau.
9. Cytuno ar eitemau i’w hystyried yn y cyfarfod nesaf.
10. Dirprwyo unrhyw faterion i’w hystyried gan y Grŵp Gwelliant Parhaus.
Dydd Mercher 20 Apr 2016
1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb
2. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda
3. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Rhagfyr 2015
4. Ystyried yr adroddiadau canlynol:
01/16 Adolygu a gwerthuso’r prosiect Eich Parc (a ariannwyd o fis Mehefin 2012 i fis Mawrth 2016 gan y Loteri Fawr).
Mae’r adroddiad yn rhoi adolygiad i’r Aelodau o’r prosiect Eich Parc a ariannwyd gan y Loteri Fawr yn dilyn ei gwblhau fis Mawrth 2016 ar ôl mwy na thair blynedd a hanner o gyflawni gwaith y prosiect.
02/16 Prosiect Ail Greu Cynefin Penlan: Arolwg Estynedig Cam 1, Asesiad o Gyflwr ac Argymhellion ar gyfer Rheolaeth yn y Dyfodol
Yn 2015, ddeng mlynedd ers cwblhau’r prosiect, comisiynwyd ymgynghorydd allanol i gynnal arolwg o’r llystyfiant ac asesiad bioamrywiaeth y cynefinoedd oedd newydd eu creu yn ardal y prosiect. Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno’r canfyddiadau hynny ynghyd â thrafodaeth ar yr opsiynau ar gyfer rheoli Penlan yn y dyfodol.
03/16 Adroddiad ar y Rhaglen Cadw Golwg ar y Frân Goesgoch 2015
Mae’r Awdurdod Parc Cenedlaethol wedi chwarae rhan allweddol yn y rhaglen flynyddol o gadw golwg ar y frân goesgoch sy’n bridio yn y Parc Cenedlaethol. Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau’r Rhaglen Flynyddol o Gadw Golwg ar y Frân Goesgoch 2015 sy’n cyflwyno darlun o gynnydd parhaus yn nifer yr aderyn hwn yn dilyn gaeafau gwael yn 2009/10 ac yn 2010/11.
04/16 Cofrestr risg
Gofynnir i’r Aelodau ystyried y gofrestr risg ddiweddaraf.
05/16 Adroddiad Perfformiad am y Cyfnod sy’n diweddu 31 Mawrth 2016
Mae’r adroddiad hwn yn ystyried perfformiad y Timau Cyfarwyddo, Cyflawni a Darganfod am y cyfnod sy’n diweddu ar yr 31ain o Fawrth 2016.
5. Cytuno ar eitemau i’w hystyried yn y cyfarfod nesaf.
6. Dirprwyo unrhyw faterion i’w hystyried gan y Grŵp Gwelliant Parhaus.