Pwyllgor Archwilio ac Adolygu Gwasanaethau Corfforaethol 13/07/22
10am, Rhith-Gyfarfod
1. Ethol Cadeirydd am y flwyddyn sy’n dod
Enwebiad derbyniedig: Dr R Heath-Davies
2. Ethol Dirprwy Gadeirydd am y flwyddyn sy’n dod
Enwebiad derbyniedig: Neb
3. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb
4. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda
5. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Mai 2022
6. Ystyried yr adroddiadau canlynol:
14/22 Adroddiad Perfformiad am y cyfnod oedd yn diweddu ar 31 Mai 2022
Mae’r adroddiad hwn yn ystyried perfformiad yn erbyn yr amcanion a nodir yn y Cynllun Corfforaethol am y cyfnod a ddaeth i ben ar 31 Mai 2022
15/22 Adroddiad ar y Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth, Ceisiadau Gwybodaeth Amgylcheddol a Cheisiadau Gwrthrych am Wybodaeth – 2021/22
Mae’r adroddiad hwn yn defnyddio data o’r gofrestr Rhyddid Gwybodaeth, y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol, Ceisiadau Gwrthrych am Wybodaeth a system yr Awdurdod o adrodd ar berfformiad i asesu tueddiadau blynyddol.
16/22 Datganiad Drafft o Gyfrifon 2021/22
Gofynnir i’r Aelodau dderbyn y Datganiad Drafft o Gyfrifon 2020/21.
17/22 Cofrestr Risg
Gofynnir i’r Aelodau ystyried y Gofrestr Risg ddiweddaraf.
7. Derbyn diweddariad llafar gan y Rheolwr Cyllid ar berfformiad y gyllideb yn y chwarter cyntaf.
8. Dirprwyo unrhyw faterion i’w hystyried gan y Grŵp Gwelliant Parhaus.