Pwyllgor Archwilio ac Adolygu Gwasanaethau Corfforaethol 13/11/24
10am, Rhith Gyfarfod
1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb
2. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda
3. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 31 Gorffennaf 2024.
4. Nodi’r Action log o’r cyfarfod blaenorol
5. Derbyn adroddiad y cyfarfod o’r Grŵp Iechyd a Diogelwch a gynhaliwyd ar 23 Gorffennaf 2024.
6. Ystyried yr adroddiadau canlynol:
29/24 Log Gweithredu ar Archwilio Perfformiad Allanol ac Archwilio Mewnol (hyd at 30 Medi 2024)
Mae’r adroddiad yn gymorth i fonitro’r camau gweithredu y cytunwyd arnynt o’r adolygiadau Archwilio.
30/24 Adroddiad Perfformiad ar yr Amcanion Llesiant
Mae’r adroddiad yn nodi’r cynnydd a wnaed yn erbyn y Dangosyddion Blaenoriaeth/ Prosiectau/ Rhaglenni Gwaith am y Cyfnod sy’n Diweddu ar yr 30 Medi 2024.
31/24 Adroddiad Monitro Sicrwydd – Cydymffurfiaeth, Dyletswyddau Cyhoeddus a Statudol a Gwelliant Corfforaethol
Mae’r adroddiad hwn yn un elfen o ddulliau’r Awdurdod o reoli risg ac sy’n gymorth i’r swyddogion ac i’r Aelodau allu monitro, asesu ac ymateb i feysydd gwaith cydymffurfio a gwella corfforaethol.
32/24 Adroddiad Chwarterol Iechyd, Diogelwch a Lles
Darperir diweddariad llafar ar faterion Iechyd a Diogelwch ynghyd â chyflwyniad Dangosfwrdd.
33/24 Adroddiad ar Berfformiad y Gyllideb am y 6 mis hyd at fis Medi 2024
Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno gwybodaeth am y gyllideb am y cyfnod hyd at fis Medi 2024.
8. Penderfynu eithrio’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem canlynol oherwydd ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i ddiffinir ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972
9. Ystyried yr adroddiad canlynol:
34/24 Gweithredu’r Polisi Rheoli Risg
Diweddaru’r Aelodau ar weithredu’r Polisi Rheoli Risg newydd drwy gyflwyno Cofrestr Risg drafft a Datganiad Archwaeth Risg .
10. Derbyn diweddariad llafar gan y Pennaeth Datgarboneiddio ar brofi ac adolygu’r Cynllun Parhad Busnes.
11. Dirprwyo unrhyw faterion i’w hystyried gan y Grŵp Gwelliant Parhaus.