Pwyllgor Archwilio ac Adolygu Gwasanaethau Corfforaethol 19/02/25
10am, Rhith-Gyfarfod
1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb
2. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda
3. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Tachwedd 2024.
4. Nodi’r Log Gweithredu o’r cyfarfod blaenorol
5. Derbyn adroddiad y cyfarfod o’r Grŵp Iechyd a Diogelwch a gynhaliwyd ar 8 Hydref 2024
6. Ystyried yr adroddiadau canlynol:
01/25 Adroddiadau Archwilio Mewnol
Mae’r adroddiadau hyn yn rhoi diweddariad o’r cynnydd tuag at gyflawni Cynllun Blynyddol Archwilio Mewnol 2024/25, a chrynodeb o’r gwaith a wnaed hyd yn hyn, ynghyd ag adroddiadau ar Aeddfedrwydd Risg a phrosesau Llywodraethu
02/25 Log Gweithredu ar Archwilio Perfformiad Allanol ac Archwilio Mewnol (hyd at 31 Rhagfyr 2024)
Mae’r adroddiad yn gymorth i fonitro’r camau gweithredu y cytunwyd arnynt o’r adolygiadau Archwilio.
03/25 Diweddariad ar y Cynllun Archwilio gan Archwilio Cymru
Derbyn diweddariad ar y Cynllun Archwilio gan Archwilio Cymru.
04/25 Adroddiad Monitro Sicrwydd – Cydymffurfiaeth, Dyletswyddau Cyhoeddus a Statudol a Gwelliant Corfforaethol
Mae’r adroddiad hwn yn un elfen o ddulliau’r Awdurdod o reoli risg ac sy’n gymorth i’r swyddogion ac i’r Aelodau allu monitro, asesu ac ymateb i feysydd gwaith cydymffurfio a gwella
corfforaethol.
05/25 Adroddiad Perfformiad ar yr Amcanion Llesiant
Mae’r adroddiad yn nodi’r cynnydd a wnaed yn erbyn y Dangosyddion Blaenoriaeth/ Prosiectau/ Rhaglenni Gwaith am y Cyfnod sy’n Diweddu ar yr 31ain o Ragfyr 2024.
06/25 Adroddiad Chwarterol Iechyd, Diogelwch a Lles
Mae’r adroddiad hwn yn rhoi diweddariad cryno ar ddigwyddiadau Iechyd a Diogelwch Ionawr – Rhagfyr 2024 a materion eraill IaD all fod o ddiddordeb i’r Pwyllgor.
07/25 Adroddiad ar Berfformiad y Gyllideb am y 9 mis hyd at fis Rhagfyr 2024
Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno gwybodaeth am y gyllideb am y cyfnod hyd at fis Rhagfyr 2024.
7. Penderfynu eithrio’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem canlynol oherwydd ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i ddiffinir ym Mharagraff 14 o Ran 4 o
Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972
8. Ystyried yr adroddiad canlynol:
08/25 Gweithredu’r Polisi Rheoli Risg
Diweddaru’r Aelodau ar weithredu’r Polisi Rheoli Risg newydd drwy gyflwyno Cofrestr Risg drafft a Datganiad Archwaeth Risg .
9. Dirprwyo unrhyw faterion i’w hystyried gan y Grŵp Gwelliant Parhaus