Pwyllgor Archwilio ac Adolygu Gwasanaethau Corfforaethol 31/7/24
10am, Ystafell Werdd, Swyddfa’r Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro, ac o Bell
1. Ethol Cadeirydd am y flwyddyn sy’n dod
Enwebiad derbyniedig: Dr R Heath-Davies
2. Ethol Dirprwy Gadeirydd am y flwyddyn sy’n dod
Enwebiad derbyniedig: Neb
3. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb
4. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda
5. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Mai 2024
6. Nodi’r Log Gweithredu o’r cyfarfod blaenorol
7. Ystyried unrhyw faterion sy’n codi yn dilyn yr Awdurdod Parc Cenedlaethol ar 24/7/24 yn ystyried y Datganiad Cyfrifon Drafft am y Flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2024.
8. Ystyried yr adroddiadau canlynol:
20/24 – Cynllun Archwilio: Archwilio Cymru 2024
Derbyn y Cynllun Archwilio ar gyfer 2024 oddi wrth Archwilio Cymru.
21/24 – Adroddiad Archwiliad Mewnol
Derbyn adroddiadau ar Reoli Cefn Gwlad – Llwybr yr Arfordir; Gwybodaeth a Seiberddiogelwch a Diogelu Data; Adroddiad Blynyddol a Diweddariad drafft i’r Strategaeth ar Archwilio Mewnol 2024/25 – 2026/27.
22/24 – Log Gweithredu ar Archwilio Perfformiad Allanol ac Archwilio Mewnol (hyd at 30 Mehefin 2024)
Mae’r adroddiad yn gymorth i fonitro’r camau gweithredu y cytunwyd arnynt o’r adolygiadau Archwilio.
23/24 – Adroddiad Monitro Sicrwydd – Cydymffurfiaeth, Dyletswyddau Cyhoeddus a Statudol a Gwelliant Corfforaethol
Mae’r adroddiad hwn yn un elfen o ddulliau’r Awdurdod o reoli risg ac sy’n gymorth i’r swyddogion ac i’r Aelodau allu monitro, asesu ac ymateb i feysydd gwaith cydymffurfio a gwella corfforaethol.
24/24 – Adroddiad Perfformiad ar yr Amcanion Llesiant
Mae’r adroddiad yn nodi’r cynnydd a wnaed yn erbyn y Dangosyddion Blaenoriaeth/ Prosiectau/ Rhaglenni Gwaith am y Cyfnod sy’n Diweddu ar yr 31ain o Fai 2024.
25/24 – Adroddiad Chwarterol Iechyd, Diogelwch a Lles
Mae’r adroddiad hwn yn rhoi diweddariad cryno ar ddigwyddiadau Iechyd a Diogelwch Mai – Gorffennaf 2024 a materion eraill IaD all fod o ddiddordeb i’r Pwyllgor.
26/24 – Strategaeth Technoleg Gwybodaeth a Thrawsnewid Digidol 2024 – 2027.
Gofynnir i’r Aelodau ystyried Strategaeth 2024 – 2027 a ysgrifennwyd yn unol ag argymhellion archwilio mewnol a’r cynllun adfer ar ôl trychineb TGCh.
27/24 – Adroddiad ar Berfformiad y Gyllideb am y 2 mis hyd at 31 Mai 2024
Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno gwybodaeth am y gyllideb am y cyfnod hyd at fis Mai 2024.
9. Penderfynu eithrio’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem canlynol oherwydd ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i ddiffinir ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972
10. Ystyried yr adroddiad canlynol:
28/24 – Gweithredu’r Polisi Rheoli Risg
Diweddaru’r Aelodau ar weithredu’r Polisi Rheoli Risg newydd drwy gyflwyno Cofrestr Risg drafft a Datganiad Archwaeth Risg drafft.
11. Dirprwyo unrhyw faterion i’w hystyried gan y Grŵp Gwelliant Parhaus.