Awdurdod y Parc Cenedlaethol 02/12/20
10am, Rhith-Gyfarfod
1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb
2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes
3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Medi 2020
4. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda
5. Cyhoeddiadau’r Cadeirydd
6. Derbyn adroddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar 2 Medi 2020 a 5 Hydref 2020
7. Nodir adroddiad cyfarfodydd y Pwyllgor Ieuenctid a gynhaliwyd ar 29 Medi a 13 Hydref 2020
8. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Gweithredol a gynhaliwyd ar 23 Medi 2020
9. Ystyried adroddiad cyfarfod y Panel Adolygu Perfformiad y Prif Weithredwr a gynhaliwyd ar 23 Medi 2020
10. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Cynorthwyo a Datblygu Aelodau a gynhaliwyd ar 21 Hydref 2020
11. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Cronfa Datblygu Cynaliadwy a gynhaliwyd ar 4 Tachwedd 2020
12. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Archwilio ac Adolygu Gwasanaethau Corfforaethol a gynhaliwyd ar 11 Tachwedd 2020
13. Ystyried Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd P Kidney:
Bod yr Awdurdod yn ystyried gwasanaeth mentor ar gyfer staff yr Awdurdod i drafod unrhyw broblemau neu orbryder yn sgîl y pwysau ychwanegol sydd ar eu hysgwyddau oherwydd y pandemig presennol.
14. Ystyried yr adroddiadau canlynol:
43/20 Ymestyn y Newidiadau Dros-dro i Gynllun yr Awdurdod o Ddirprwyo oherwydd Effaith Covid 19
Er mwyn galluogi parhad y gwasanaeth cynllunio yn ystod cyfnod parhaus Covid -19, gofynnir i’r Aelodau ymestyn y newidiadau dros-dro a wnaed i’r cynllun dirprwyo tan yr 16eg o Fehefin 2021.
44/20 Amrywio’r Safonau Ariannol ar gyfer Caffael Ymgynghorydd Rheoli Datblygu
Gofynnir i’r Aelodau gytuno i wario uchafswm o £25,000 ar wasanaeth ymgynghorydd Rheoli Datblygu er mwyn parhau i ddefnyddio Prospero Planning fel ymgynghorydd i gynorthwyo gyda’r gwaith o leihau’r ôl-groniad o geisiadau cynllunio a pharhau i brosesu ceisiadau cynllunio newydd.
Gofynnir i’r Aelodau nodi’r 2ail Adolygiad o’r Datganiad Technegol Rhanbarthol, Medi 2020, ac i awdurdodi Pennaeth Cyfarwyddyd y Parc i drafod ar ran yr Awdurdod Parc Cenedlaethol yn y gwaith o baratoi Datganiad Cydweithredu Is-Ranbarthol ar gyfer Is-Ranbarth Gorllewin Cymru.
Mae’r adroddiad yn cyflwyno argymhelliad i’r Aelodau ar brynu rhyw 30 erw o dir yn Nhrefin fel rhan o bortffolio o brosiectau Tirwedd Cynaliadwy, Lleoedd Cynaliadwy a ariennir gan Lywodraeth Cymru, i gynyddu bioamrywiaeth a dal a storio carbon.
47/20 Cysylltiadau Hynafol a Llwybrau Celtaidd – Cyllido Rhan 2
Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo cyfraniadau APCAP i Ran 2 o’r mentrau Cysylltiadau Hynafol a Llwybrau Celtaidd a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd.
48/20 Adroddiad Blynyddol Drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2021/22
Mae’r adroddiad yn cyflwyno gwybodaeth i’r Aelodau ar Adroddiad Blynyddol drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (y Panel) ar y lefel o gyflogau Aelodau a gynigir ar gyfer 2021/22, ac yn gofyn am eu barn ar hynny.
49/20 Safonau’r Gymraeg: Adroddiad Blynyddol
Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol fel cyflwyniad yr Awdurdod i Gomisiynydd y Gymraeg.
50/20 Penodi Swyddog Diogelu Data
Mae’r adroddiad i’r Aelodau yn amlinellu’r cynigion i benodi Swyddog Diogelu Data newydd.
51/20 Diweddaru Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Cronfa Datblygu Cynaliadwy
Mae’r adroddiad yn ceisio cytundeb ar Gylch Gorchwyl y Pwyllgor Cronfa Datblygu Cynaliadwy a ddiweddarwyd.
Mae’r papur hwn yn rhoi manylion am y cyllid gan Lywodraeth Cymru a ddyfarnwyd i’r Awdurdod i gyflawni prosiectau cyfalaf ychwanegol fel rhan o’r rhaglen Tirweddau Cynaliadwy, Lleoedd Cynaliadwy (SLSP) yn 2020/21. Y cyfanswm a ddyfarnwyd i APC Arfordir Penfro o dan y rhaglen SLSP yw hyd at £1,743,000.