Awdurdod y Parc Cenedlaethol
Rhith-Gyfarfod 10am
1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb
2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes
3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Chwefror 2020
4. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda
5. Cyhoeddiadau’r Cadeirydd
6. Derbyn adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar 29 Ionawr 2020 a 10 Chwefror 2020.
7. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Cronfa Datblygu Cynaliadwy a gynhaliwyd ar 22 Ionawr 2020
8. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Archwilio ac Adolygu Gwasanaethau Corfforaethol a gynhaliwyd ar 12 Chwefror 2020
9. Ystyried adroddiad cyfarfodydd y Panel Penodiadau’r Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 28 Ionawr 2020 a 11 Chwefror 2020
10. Ystyried yr adroddiadau canlynol:
23/20 Rhith-Gyfarfodydd drwy’r System ‘Lifesize’
Mae’r adroddiad yn ceisio barn yr Aelodau ar gynnal rhith-gyfarfodydd yr Awdurdod ac ei Bwyllgorau drwy’r system ‘Lifesize’.
24/20 Gwneud newidiadau dros-dro yn sgîl effaith y feirws Covid 19 ar Gynllun yr Awdurdod o Ddirprwyo
Er mwyn gallu parhau â’r gwasanaeth cynllunio yn ystod y cyfnod Covid-19, awgrymir gwneud newidiadau i’r cynllun dirprwyo am gyfod dros-dro o 3 mis.
25/20 Cadarnhau Cytundeb Rheol Sefydlog 16 Ynghylch Gwarchodaeth Yswiriant yn Cychwyn 1af Ebrill 2020
Mae’r adroddiad yn chwennych cadarnhad i ddefnyddio Cytundeb Rheol Sefydlog 16 ynghylch gwarchodaeth yswiriant yr Awdurdod.
26/20 Aelodau Annibynnol o’r Pwyllgor Safonau
Gofynnir i’r Aelodau i gytuno ar benodiad dau Aelod Annibynnol o’r Pwyllgor Safonau
27/20 Cydnabyddiaeth Aelod 2020/21
Mae’r adroddiad yn hysbysu’r Aelodau o benderfyniadau Panel Annibynnol Cymru ar Daliadau Cydnabyddiaeth o ran y Cyflogau Sylfaenol ac Uwch sy’n daladwy i Aelodau Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn y flwyddyn ariannol 2020/21.
28/20 Adolygiadau Datblygiad Personol
Mae’r adroddiad yn chwennych cymeradwyaeth o fframwaith Adolygiad Datblygiad Personol ar gyfer Aelodau.