Awdurdod y Parc Cenedlaethol 11/09/2024
10yb, Ystafell Werdd, Swyddfa’r Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro, ac o Bell
1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb
2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes
3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Gorffennaf 2024
4. Nodi’r Log Gweithredu o’r cyfarfod blaenorol
5. Cyhoeddiadau’r Cadeirydd
6. Derbyn adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar 17 Gorffennaf 2024
7. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Archwilio ac Adolygu Gwasanaethau Corfforaethol a gynhaliwyd ar 15 Mai 2024.
8. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Gweithredol a gynhaliwyd ar 12 Mehefin 2024
9. Ystyried adroddiad cyfarfod y Fforwm Gwirfoddolwyr a gynhaliwyd ar 17 Gorffennaf 2024
10. Penodi Aelod(au) i lenwi’r swyddi gwag ar y Pwyllgor Adolygu Gweithredol a’r Grŵp Cynghori Parth Cadwraeth Morol Skomer
11. Ystyried yr adroddiadau canlynol:
31/24 Adroddiad Monitro Blynyddol ar Gynllun Datblygu Lleol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2
Gofynnir am gymeradwyo’r Adroddiad Monitro Blynyddol (a’r atodiadau) i’w cyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn yr 31ain o Hydref 2024.
32/24 Adroddiad Blynyddol ar Gyflawni Amcanion Llesiant 2023/24
Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu’r cynnydd yn erbyn y rhaglen waith a gynigiwyd yng Nghynllun Corfforaethol ac Adnoddau’r Awdurdod am y flwyddyn 2023/24.
33/24 Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb
Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb am y flwyddyn 2023/24.
34/24 Cynllun ac Amcanion Drafft ar Gydraddoldeb
Gofynnir i’r Aelodau roi eu sylwadau ar y Cynllun Cydraddoldeb Drafft 2025-29 cyn i’r Cynllun gael ei gyflwyno am ymgynghoriad mewnol ac allanol.
35/24 Adroddiad ar y Mesurau Diogelu
Rhoi diweddariad ar y Mesurau Diogelu sy’n berthnasol i waith Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
36/24 Adroddiad Blynyddol ar Iechyd a Diogelwch
Gofynnir i’r Aelodau nodi’r Adroddiad blynyddol ar Iechyd a Diogelwch am y flwyddyn 2023/24.
Gofynnir i’r Aelodau am eu caniatâd i amrywio’r Rheolau Sefydlog sy’n ymwneud â chaffael i adnewyddu cytundeb yr Awdurdod i brynu ei System GIS, ac i Reol Sefydlog 16 mewn perthynas â phrynu Offer hanfodol ar Fonitro Iechyd a Diogelwch, ac i brynu offer i ddatrys problem â’r Gweinydd Cyfnewid Technoleg Gwybodaeth.