Awdurdod y Parc Cenedlaethol 11/12/2024

Dyddiad y Cyfarfod : 11/12/2024

10yb, Ystafell Werdd, Swyddfa’r Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro, ac o Bell

1.Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Hydref 2024

4. Nodi’r Log Gweithredu o’r cyfarfod blaenorol

5. Cyhoeddiadau’r Cadeirydd

6. Ystyried adroddiadau cyfarfodydd y Panel Penodiadau’r Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar

a) 31 Gorffennaf 2024

b) 20 Tachwedd 2024

7. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Archwilio ac Adolygu Gwasanaethau Corfforaethol a gynhaliwyd ar 31 Gorffennaf 2024

8. Ystyried adroddiad cyfarfod y Fforwm Gwirfoddolwyr a gynhaliwyd ar 06 Tachwedd 2024.

9. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

47/24    Diweddariad ar yr Ymgynghoriad Gwersylla a Charafanau

Cyflwyno diweddariad ynghylch yr ymgynghoriad ar Gyfarwyddyd Erthygl 4(1) arfaethedig ar gyfer defnydd 28 diwrnod o dir ar gyfer gwersylla, carafanau a/neu gartrefi symudol, a datblygu Cod Ymddygiad ar gyfer Sefydliadau Esempt.

48/24    Adroddiad Adolygu Drafft o’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) 2

Rhoi gwybod i’r Aelodau am ganfyddiadau’r adroddiad Adolygu drafft o’r CDLl 2 a cheisio cymeradwyaeth ar gyfer ymgynghori ar y ddogfen ddrafft.

49/24    Hyrwyddo Ymgynghoriad Gwasanaeth Cynllunio Cydnerth a Pherfformiad Uchel

Rhoi gwybod i’r Aelodau am ymgynghoriad cyfredol gan Lywodraeth Cymru sy’n ymwneud ag adnoddau ar gyfer cynllunio.

50/24    Ymateb Drafft i’r Ymgynghoriad ar Gynllun Datblygu Lleol (CDLl) Ail-adneuo Cyngor Sir Penfro (CSP) 2

Ceisio cymeradwyaeth i gyflwyno’r ymateb i’r ymgynghoriad ar Gynllun Ail-adneuo CDLl 2 CSP a’r dogfennau cysylltiedig.

51/24    Croeso Sir Benfro

Rhoi trosolwg i’r Aelodau o waith Croeso Sir Benfro dros y flwyddyn ddiwethaf.

52/24    Prydles Maes Parcio’r Parrog Trefdraeth a’r Odyn Galch

Ceisio cymeradwyaeth yr Aelodau i ildio prydles bresennol yr Awdurdod Parc Cenedlaethol ar faes parcio’r Parrog Trefdraeth a’r odyn galch i Gyngor Tref Trefdraeth.

53/24    Polisi Diogelu

Ceisio cymeradwyaeth ffurfiol i Bolisi’r Awdurdod ar Ddiogelu.

54/24    Grŵp Rhanddeiliaid Oriel y Parc (OYP)

Gofyn i’r Aelodau ethol dau gynrychiolydd i weithredu fel rhanddeiliaid mewn ymgynghoriadau ynglŷn â datblygu Uwchgynllun OYP ymhellach.

55/24    Polisi Teithio i’r Aelodau

Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo’r Polisi Teithio diwygiedig i’r Aelodau.

56/24    Aelodau Annibynnol y Pwyllgor Safonau

Gofynnir i’r Aelodau gadarnhau penodiad Aelod Annibynnol o’r Pwyllgor Safonau.

57/24    System Gyllid Newydd

Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo caffael datrysiad cyllid newydd ac uwchraddio’r meddalwedd EPOS cyfredol.

 

10. Derbyn diweddariad llafar ar y camau ymlaen a gymerwyd i gynnal parhad yr arlwy yn y caffi yn Oriel y Parc a rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Prif Weithredwr gwblhau’r trafodaethau gyda’r gweithredwr newydd ar gyfer y brydles newydd a’r ddogfennaeth.