Awdurdod y Parc Cenedlaethol 19/06/2024
10yb, Ystafell Werdd, Swyddfa’r Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro, ac o Bell
1.Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb
2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes
3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 01 Mai 2024
4. Nodi’r Log Gweithredu o’r cyfarfod blaenorol
5. Cyhoeddiadau’r Cadeirydd
6. Derbyn adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar 24 Ebrill 2024.
7. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adnoddau Dynol a gynhaliwyd ar 28 Chwefror 2024.
8. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Archwilio ac Adolygu Gwasanaethau Corfforaethol a gynhaliwyd ar 28 Chwefror 2024.
9. Ystyried adroddiad cyfarfod y Fforwm Gwirfoddolwyr a gynhaliwyd ar 18 Mawrth 2024.
10. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Cynorthwyo a Datblygu Aelodau a gynhaliwyd ar 17 Ebrill 2024.
11. Ystyried adroddiadau cyfarfod y Pwyllgor Ieuenctid a gynhaliwyd ar 16 Ebrill a 30 Ebrill 2024.
12. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Grantiau a gynhaliwyd ar 08 Mai 2024.
13. Ystyried yr adroddiadau canlynol:
20/24 Adroddiad Archwilio Cymru ar Lywodraethu
Gofynnir i’r Aelodau dderbyn yr adroddiad gan Archwilio Cymru ar Lywodraethu.
21/24 Ymgynghori ar y Cynllun Partneriaeth Drafft.
Ceisio cymeradwyaeth yr Aelodau ar nifer o ddogfennau ymgynghori drafft gan gynnwys Cynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol ar gyfer 2025-2029, cwestiynau ymgynghori ac asesiadau effaith.
22/24 Adroddiad y Pwyllgor Safonau
Yn unol â’n dyletswydd statudol, mae’r adroddiad blynyddol hwn yn amlinellu’r modd y mae swyddogaethau’r Pwyllgor Safonau wedi’u cyflawni, ac yn rhoi trosolwg o’r materion ymddygiad yn gyffredinol o fewn yr Awdurdod.
23/24 Safonau’r Gymraeg: Adroddiad Blynyddol
Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol fel cyflwyniad yr Awdurdod i Gomisiynydd y Gymraeg.
24/24 Lleoliad cyfarfodydd ar ôl Ailddatblygu’r Ystafell Werdd
Gofynnir i’r Aelodau ystyried lleoliad cyfarfodydd yr Awdurdod a’r Pwyllgor Rheoli Datblygu tra bod yr Ystafell Werdd yn cael ei hailddatblygu.
Gofynnir i’r Aelodau ystyried dosbarthu copïau papur yn y dyfodol o’r agendâu a’r papurau ar gyfer cyfarfodydd yr Awdurdod a’i Bwyllgorau.