Awdurdod y Parc Cenedlaethol 20/03/2024
10yb, Ystafell Werdd, Swyddfa’r Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro, ac o Bell
1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb
2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes
3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 07 Chwefror 2024
4. Nodi’r Log Gweithredu o’r cyfarfod blaenorol
5. Cyhoeddiadau’r Cadeirydd
6. Derbyn adroddiad cyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar 31 Ionawr 2024 & 19 Chwefror 2024
7. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adnoddau Dynol a gynhaliwyd ar 17 Ionawr 2024
8. Ystyried adroddiad cyfarfodydd y Pwyllgor Ieuenctid a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2024 a 06 Chwefror 2024
9. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Cronfa Datblygu Cynaliadwy a gynhaliwyd ar 24 Ionawr 2024
10. Penodi Aelod(au) i lenwi’r swyddi gwag ar y Pwyllgor Archwilio ac Adolygu’r Gwasanaethau Corfforaethol, Y Fforwm Gweithwyr a’r Pwyllgor Ymgynghorol Porthladd Aberdaugleddau.
11. Ystyried yr adroddiadau canlynol:
04/24 Polisi Iechyd a Diogelwch
Diben yr adroddiad hwn yw ceisio cymeradwyaeth ffurfiol gan yr Awdurdod Parc Cenedlaethol i Bolisi Iechyd a Diogelwch yr Awdurdod.
Cymeradwyo’r Polisi Rheoli Risg.
06/24 Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2023/24
Mae’r adroddiad yn rhoi cyfle i’r Aelodau lywio’r gwaith o baratoi’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol ar gyfer 2023-24.
Mae’r adroddiad hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ganlyniad y newidiadau diweddar i fynediad i’r traeth, ac mae hefyd yn ceisio cymeradwyaeth yr Aelodau ar gyfer prosiect a glustnodwyd fyddai’n gwneud gwelliannau yn Nhraeth Mawr.
08/24 Prydles Toiledau Tyddewi
Mae’r adroddiad hwn yn rhoi gwybodaeth i’r Aelodau ar gais ffurfiol a dderbyniwyd oddi wrth Cyngor Sir Penfro ynghylch ildio’r brydles yn gynnar yn y Grove, Cyfleusterau Cyhoeddus, Tyddewi.
09/24 Cyllid Croeso Sir Benfro
Gofynnir i’r Aelodau gytuno i barhau â’r penderfyniad a wnaed fis Ionawr 2023 a rhoi cyfraniad arian parod i Croeso Sir Benfro ar gyfer blwyddyn ariannol 2024-25, yn hytrach na chyfraniad mewn da.
10/24 Calendar Cyfarfodydd 2024/2025
Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo calendr o gyfarfodydd ar gyfer y flwyddyn nesaf.
11/24 Digwyddiadau Corfforaethol
Gofynnir i’r Aelodau benderfynu a chymeradwyo’r lefel o gynrychiolaeth yn y digwyddiadau corfforaethol a nodir yn yr adroddiad.
12/24 Cydnabyddiaeth Aelod 2024/25
Mae’r adroddiad yn hysbysu’r Aelodau o benderfyniadau Panel Annibynnol Cymru ar Daliadau Cydnabyddiaeth o ran y Cyflogau Sylfaenol ac Uwch sy’n daladwy i Aelodau Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn y flwyddyn ariannol 2024/25.
12. Penderfynu eithrio’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem canlynol oherwydd ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i ddiffinir ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972
13. Ystyried yr adroddiadau canlynol:
13/24 Ailddatblygu’r Ystafell Werdd
Rhoi diweddariad i’r Aelodau yn dilyn y broses gaffael a rhoi rhestr o opsiynau i’w hystyried fel y gellir gwneud penderfyniad, a bwrw ymlaen â’r opsiwn a ffefrir.