Awdurdod y Parc Cenedlaethol 23/10/2024

Dyddiad y Cyfarfod : 23/10/2024

10yb, Ystafell Werdd, Swyddfa’r Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro, ac o Bell

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Medi 2024

4. Nodi’r Log Gweithredu o’r cyfarfod blaenorol

5. Cyhoeddiadau’r Cadeirydd

6. Derbyn adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar 4 Medi 2024

7. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Ieuenctid a gynhaliwyd ar 17 Medi 2024.

8. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

38/24    Adroddiad Archwilio Cyfrifon

Gwneir cyflwyniad ar yr Adroddiad Archwilio Cyfrifon.

39/24    Y bwriad i ddynodi Cei Cresswell yn Ardal Gadwraeth

Mae’r adroddiad hwn yn ceisio cymeradwyaeth i ddynodi Ardal Gadwraeth o fewn Cei Cresswell, a hefyd yn ceisio cymeradwyaeth i gyhoeddi Adroddiad Ymgynghori.

40/24    Diwygio Cynllun yr Awdurdod ar Ddirprwyo

Mae’r adroddiad hwn yn cynnig mân newidiadau i Gynllun yr Awdurdod ar Ddirprwyo materion Rheoli Datblygu o ran diwygiadau i’r polisïau presennol, i Dîm Rheoli’r Awdurdod, lle nad yw’r newidiadau hyn yn newid y nodau, amcanion cyffredinol na chyfeiriad gwneud penderfyniadau, e.e. i amlygu newid mewn arferion gwaith.

41/24    Polisi Caffael Cynaliadwy a Chymdeithasol Gyfrifol a Strategaeth Caffael sy’n Gymdeithasol Gyfrifol

Diben yr adroddiad hwn yw ceisio cymeradwyaeth ffurfiol gan yr Awdurdod Parc Cenedlaethol i Bolisi Caffael Cynaliadwy a Chymdeithasol Gyfrifol yr Awdurdod a Strategaeth Caffael Cymdeithasol Gyfrifol (2024-2029).

42/24    Polisi Ecwiti, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo’r Polisi Ecwiti, Amrywiaeth a Chynhwysiant (ein Polisi Cyfle Cyfartal yn flaenorol).

43/24    Polisi Rheoli a Chadw Cofnodion

Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo’r Polisi Rheoli a Chadw Cofnodion.

44/24    Adroddiad Blynyddol Drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2025/26

Mae’r adroddiad yn hysbysu’r Aelodau o Adroddiad Blynyddol drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (y Panel) ar gyfer ymgynghori ynglŷn â lefel arfaethedig cyflogau Aelodau am 2025/26 ac yn gofyn am eu barn ar hyn.

45/24    Cais gan yr RNLI i Gynnal Gweithgareddau Codi Arian ar Draethau’r Parc Cenedlaethol

Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo bod yr RNLI yn cynnal gweithgareddau codi arian ar chwech o draethau a reolir gan yr Awdurdod Parc tan fis Rhagfyr 2029.

46/24    Aelodaeth o Bwyllgorau Ymchwilio a Disgyblu, Cwynion ac Apeliadau

Gofynnir i’r Aelodau dderbyn yr aelodaeth o Bwyllgor Ymchwilio a Disgyblu, Pwyllgor Cwynion a Phwyllgor Apeliadau yr Awdurdod.