Awdurdod y Parc Cenedlaethol 24/07/2024
10yb, Ystafell Werdd, Swyddfa’r Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro, ac o Bell
1.Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb
2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes
3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar:
a) 19 Mehefin 2024 Cyfarfod Cyffredinol
b) 19 Mehefin 2024 Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol
4. Nodi’r Log Gweithredu o’r cyfarfod blaenorol
5. Cyhoeddiadau’r Cadeirydd
6. Derbyn adroddiad cyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar:
7. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 01 Mai 2024.
8. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adnoddau Dynol a gynhaliwyd ar 15 Mai 2024.
9. Ystyried adroddiad cyfarfodydd y Pwyllgor Ieuenctid a gynhaliwyd ar:
10. Ystyried yr adroddiadau canlynol:
26/24 Datganiad Cyfrifon drafft am y flwyddyn ddaeth i ben ar yr 31ain o Fawrth 2024.
Cyflwyno’r Datganiad Cyfrifon Drafft i’r Aelodau
27/24 Adroddiad Monitro’r Fframwaith Partneriaeth 2023/24.
Mae hwn yn adroddiad blynyddol newydd i’r Aelodau ar Fonitro’r Fframwaith Partneriaeth, sy’n rhoi trosolwg o’r partneriaethau strategol allweddol y mae’r Awdurdod yn ymwneud â hwy i ategu ei flaenoriaethau strategol ehangach.
28/24 Y Bwriad i Ddynodi Cei Cresswell yn Ardal Gadwraeth
Mae’r adroddiad hwn yn ceisio cymeradwyaeth i gychwyn ymgynghoriad cyhoeddus ar ddynodi Cei Cresswell yn Ardal Gadwraeth.
29/24 Polisi’r Gymraeg ar Ddyfarnu Grantiau
Gofyn i’r Aelodau gymeradwyo Polisi’r Gymraeg ar Ddyfarnu Grantiau.
30/24 Prydles ‘Y Shed Bistro’ ar dalcen adeilad Tŷ Mawr
Gofyn i’r Aelodau gymeradwyo cais i ymestyn prydles ‘Y Shed Bistro’.
11. Penderfynu eithrio’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem canlynol oherwydd ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i ddiffinir ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972
12. Ystyried yr adroddiadau canlynol:
31/24 Ymateb i Archwilio Cymru ar yr Adroddiad Llywodraethu
Cytuno ar yr Ymateb Sefydliadol i Archwilio Cymru ar Lywodraethu’r Awdurdodau Parciau Cenedlaethol.