Awdurdod y Parc Cenedlaethol 26/03/2025
10am, Rhith-gyfarfod
1.Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb
2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes
3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 05 Chwefror 2025
4. Nodi’r Log Gweithredu o’r cyfarfod blaenorol
5. Cyhoeddiadau’r Cadeirydd
6. Derbyn adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar 29 Ionawr 2025
7. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Gweithredol a gynhaliwyd ar 18 Rhagfyr 2024
8. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Gwasanaethau Pobl a gynhaliwyd ar 15 Ionawr 2025
9. Ystyried yr adroddiadau canlynol:
Ceisio cymeradwyaeth yr Awdurdod i’r Cynllun Partneriaeth Parc Cenedlaethol terfynol 2025-2029 (y Cynllun Rheoli gynt), a’r asesiadau effaith cysylltiedig.
08/25 Cynllunio Cyllideb Ddrafft 2025/26
Mae’r adroddiad yn cyflwyno’r canlynol:
Y cyllidebau Refeniw a Chyfalaf Drafft ar gyfer 2025/26 a’r rhagolygon 2026/27 i 2028/29.
Yr Ardoll Ddrafft 2025/26 ar Gyngor Sir Penfro.
Dangosyddion Darbodus ar gyfer y Rhaglen Gyfalaf.
Datganiad ar y Strategaeth Buddsoddi, y Cronfeydd wrth gefn, a’r Polisi Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2025/26.
09/25 Y Polisi a’r Strategaeth ar Reoli Asedau
Cymeradwyo’r Polisi a’r Strategaeth ar Reoli Asedau.
Mabwysiadu’r polisi a ddiweddarwyd ar ‘Gorfodaeth a Chydymffurfiaeth Cynllunio’.
11/25 Cynllun Rheoli Cei Cresswell
Cymeradwyo’r drafft o’r Cynllun Arfarnu a Rheoli Ardal Gadwraeth Cei Cresswell ar gyfer ymgynghori.
12/25 Adroddiad ar Adolygu’r Cynllun Datblygu Lleol 2
Nodi’r adroddiad ar yr ymgynghori ar Adolygu’r Cynllun Datblygu a chymeradwyo’r Adroddiad ar yr Adolygiad i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru.
13/25 Ymateb i ynni gwynt arnofiol ar y môr
Cytuno ar egwyddorion ymateb yr Awdurdod Parc Cenedlaethol i’r ymgynghoriad ar y caniatâd sy’n ofynnol ar gyfer y prosiect Fferm Wynt Arnofiol Llŷr Ar y Môr a chymeradwyo’r ymateb i’w gyflwyno i Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW).
Cymeradwyo’r datganiad o eglurhad i’w gyhoeddi.
15/25 Adroddiad Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol
Nodi Adroddiad Blynyddol y Panel am 2025/26 a phenderfynu pa swydd(i) ddylai dderbyn Uwch Gyflog.
16/25 Aelodau Annibynnol o’r Pwyllgor Safonau
Ystyried yr argymhelliad i ail-benodi Mr Phillip Davies yn Aelod Annibynnol o’r Pwyllgor Safonau am gyfnod o bedair blynedd tan y 6ed o Fai 2029.
10. Penderfynu eithrio’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem canlynol oherwydd ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i ddiffinir ym Mharagraff 16 o Ran 4 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972
11. Derbyn diweddariad llafar oddi wrth y Prif Weithredwr ynglŷn ag Adolygiad Barnwrol.
NODIR: Rhaid i unrhyw Aelod sydd wedi derbyn rhodd neu letygarwch roi gwybod am hynny i’r tîm Gwasanaethau Democrataidd gynted ag y bo modd ar ôl y digwyddiad er mwyn gallu ei gofrestru yn y Gofrestr Rhoddion a Lletygarwch