Pwyllgor Rheoli Datblygu 05/06/24

Dyddiad y Cyfarfod : 05/06/2024

10am, Ystafell Werdd, Swyddfa’r Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro, ac o Bell

1.   Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

2. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda.

3. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Ebrill 2024.

4.  Ystyried cyfarwyddyd y Cyfreithiwr ar Ddyletswyddau’r Aelodau wrth Benderfynu ar Geisiadau Cynllunio.

5. Ystyried adroddiadau’r Rheolwr Rheoli Datblygu ar y ceisiadau cynllunio canlynol:

a) NP/22/0672/FUL – Dymchwel ac adeiladu datblygiad preswyl newydd aml-ddefnydd (Defnydd Dosbarth C3) a masnachol hyblyg (Defnydd Dosbarthau A1, A2, A3) sy’n cynnwys datblygiad preswyl gan gynnwys rhandai a thai-tref, man amwynder, seilwaith draenio, tirweddu, llefydd parcio – Tir ger Cambrian Hotel, Milford Street, Saundersfoot, SA69 9ER

Argymhelliad y Swyddog: GWRTHOD

b) NP/24/0140/FUL – Cais cynllunio ol-weithredol ar gyfer gwaith ail-broffilio ar dir i de Chwarel Carew, i gynnwys 2 treidd-dwll fonitro dros dro – tir ger south of Carew Quarry (Cricket Ground), Carew Newton, Kilgetti, Sir Benfro, SA68 0TR

Argymhelliad y Swyddog: DIRPRWYO CANIATÂD

c) NP/24/0081/FUL – Cais ol-weithredol ar gyfer adeilad lles amaethyddol – Trewern Farm, Felindre Farchog, Crymych, Sir Benfro, SA41 3XE

Argymhelliad y Swyddog: DIRPRWYO CANIATÂD

d) NP/24/0206/FUL – Storfa Maethynnau a Gwaith Cysylltiedig – Trewern, Velindre, Crymych, Sir Benfro, SA41 3XE

Argymhelliad y Swyddog: DIRPRWYO CANIATÂ

e) NP/24/0119/MOD – Modification of schedule 2 (affordable housing) retaining to section 106 Agreement – NP/18/0488/OUT – Land off Nun Street & East of Ysgol Dewi Primary School, St Davids, Pembrokeshire, SA62 6NX

Argymhelliad y Swyddog: DIRPRWYO CANIATÂD

f) NP/24/0155/FUL – Newid defnydd tir dros-dro i gadw sauna symudol – Harbwr Saundersfoot, Saundersfoot, Sir Benfro, SA69 9HE

Argymhelliad y Swyddog: CANIATÂD

g) NP/23/0600/ADV – Gosod panel deunydd esboniadol a chynllun/ tirwedd/ cynefin – St Davids Airfield, Ffos y Mynach, Tyddewi, Sir Benfro, SA62 6UE

Argymhelliad y Swyddog: CANIATÂD

h) NP/24/0151/FUL – Gwneud yr ardal eistedd y tu allan yn ardal dan do, uwchraddio’r cysgod rhag y gwynt, gosod blwch nythu adar ar y wal de ddwyreiniol, a gosod ffan echdynnu ar simnai wal y gogledd orllewin – The Shed Wine Bar & Bistro, Porthgain, Hwlffordd, Sir Benfro, SA62 5BN

Argymhelliad y Swyddog: CANIATÂD

i) NP/24/0152/LBA – Gwneud yr ardal eistedd y tu allan yn ardal dan do, uwchraddio’r cysgod rhag y gwynt, gosod blwch nythu adar ar y wal de ddwyreiniol, a gosod ffan echdynnu ar simnai wal y gogledd orllewin – The Shed Wine Bar & Bistro, Porthgain, Hwlffordd, Sir Benfro, SA62 5BN

Argymhelliad y Swyddog: CANIATÂD

j) NP/24/0198/FUL – Adeiladu a newid defnydd yn ganolfan antur awyr agored, a stiwdio gelf a lle storio uwchben, a gwaith cysylltiedig – The Old Bus Depot, Trewyddel, Aberteifi, Sir Benfro, SA43 3BW

Argymhelliad y Swyddog: AROLWG SAFLE

6.     Ystyried adroddiadau’r Rheolwr Rheoli Datblygu ar Apeliadau.

NODIADAU:

A.   Yn unol â Ddeddf Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) 1985 bydd ymatebion i ymgynghoriaethau a wneir yng nghyd-destun y ceisiadau cynllunio sy’n gynwysedig yn yr adroddiad dilynol, na fyddant wedi dod i law erbyn y dyddiad ar gyfer paratoi’r adroddiad, yn cael eu cyflwyno ar lafar yn y cyfarfod.

B.   Mae’r Papurau Cefndir a ystyrir wrth dafoli’r ceisiadau cynllunio ar yr agenda hwn yn cynnwys pob un neu rai o’r eitemau canlynol.  (Cynhwysir eitemau 1 – 4 yn y ffeil ar gyfer pob cais unigol):

1.   Cais : yn cynnwys y ffurflen gais, tystysgrif o dan Adran 66 o’r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, cynlluniau a gwybodaeth gefnogol arall a gyflwynir gyda’r cais.

2.   Gohebiaeth bellach gyda’r ymgeisydd, yn cynnwys unrhyw ddiwygiadau i’r cais: yn cynnwys unrhyw lythyron at yr ymgeisydd/asiant yn ymwneud â’r cais ac unrhyw ohebiaeth bellach a gyflwynir gan yr ymgeisydd/asiant ynghyd â manylion neu gynlluniau wedi’u diwygio.

3.   Llythyrau wrth Gyrff Statudol: yn cynnwys unrhyw lythyron perthnasol at ac wrth Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned, Adrannau’r Cyngor Sir, Cyfoeth Naturiol Cyru, Dŵr Cymru a chyrff cyhoeddus eraill a chymdeithasau.

4.   Llythyrau wrth Unigolion Preifat: yn cynnwys unrhyw lythyron perthnasol at ac wrth y cyhoedd yn ymwneud â’r cais oni bai bod yna gais wedi’i wneud gan yr awduron i beidio ag adrodd eu safbwyntiau’n gyhoeddus.

5.   Cynlluniau Statudol a Dogfennau Polisi:

(a) Cymru’r Dyfodol – Cynllun Cenedlaethol 2040. Dyma Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Cymru ac fe’i mabwysiadwyd ar 24 Chwefror 2021.

(b)  Cynllun Datblygu Lleol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2 a fabwysiadwyd ar 30 Medi, 2020 a’r canllawiau cynllunio atodol cysylltiedig.

(c)  Cynllun Rheoli Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2020 – 2024 a fabwysiadwyd ar 11 Rhagfyr 2019.

(d) Canllawiau Polisi Cynllunio Cymru a Nodiadau Cyngor Technegol sydd gyda’i gilydd yn ffurfio Canllawiau Polisi Cynllunio Llywodraeth Cymru.

6.    Unrhyw Ddogfennau Eraill: yn cynnwys unrhyw ddogfennau perthnasol eraill megis rhybuddion penderfyniadau yn y gorffennol a rhybuddion safle.

Dylai unrhyw berson sydd am weld y Papurau Cefndir hyn gysylltu â Sue Davies, yr Awdurdod Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro (Ffôn:  01646 624800 Est.4840) e-bost: dc@pembrokeshirecoast.org.uk