Pwyllgor Rheoli Datblygu 07/09/22
10am, Ystafell Werdd, Swyddfa’r Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro, ac o Bell
1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.
2. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda.
3. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Gorffennaf 2022
4. Ystyried cyfarwyddyd y Cyfreithiwr ar Ddyletswyddau’r Aelodau wrth Benderfynu ar Geisiadau Cynllunio.
5. Ystyried adroddiadau’r Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu ar y ceisiadau cynllunio canlynol:
a) NP/22/0104/FUL – Newidiadau ac estyniadau i’r dafarn gan gynnwys darparu 3 uned gwely a brecwast, newidiadau mewnol i’r llety rheolwr ar y llawr cyntaf ac addasu’r storfa allanol bresennol yn weithdy cynnal a chadw beiciau – Milton Brewery, Milton, Dinbych y Pysgod, Sir Benfro, SA70 8PH
Argymhelliad y Swyddog: GWRTHOD
b) NP/22/0193/FUL -Adnewyddu a chodi estyniad i’r bwyty a’r fflat presennol yn Anchor House – 13, Main Street, Solfach, Hwlffordd, Sir Benfro, SA62 6UU
Argymhelliad y Swyddog: GWRTHOD
c) NP/21/0614/FUL – Rhannu’r llain bresennol yn ddau i adeiladu ty newydd 1 a ½ llawr 4 ystafell wely, a gwaith allanol cysylltiedig a rhannu mynedfa i gerbydau – Oratava, Maenorbyr SA70 7TE
Argymhelliad y Swyddog: CANIATÂD
d) NP/22/0083/FUL – Datblygiad Un Blaned gan gynnwys ty a thwnelau polythen – Land formerly part of Penrallt, Velindre, Crymych, Sir Benfro, SA41 3XW
Argymhelliad y Swyddog: DIRPRWYO CANIATÂD
e) NP/22/0192/FUL – Codi adeilad newydd yn lle’r hen un – Penlan Farm, Trewyddel, Aberteifi, Sir Benfro, SA43 3BS
Argymhelliad y Swyddog: CANIATÂD
f) NP/21/0720/FUL – Dymchwel y garej bresennol a rhannu’r ardd gefn i greu plot ar gyfer annedd tair ystafell wely – Manor House, 14 Grove Place, Aber Bach, Hwlffordd, Sir Benfro, SA62 3UG
Argymhelliad y Swyddog: CANIATÂD
g) NP/22/0222/RES – Mynedfa, gwedd, tirweddu, cynllun a graddfa – Land off Nun Street and East of Ysgol Dewi, Tyddewi, Sir Benfro, SA62 6NU
Argymhelliad y Swyddog: CANIATÂD
h) NP/22/0096/FUL – Llety un ystafell wely i’r perchennog/rheolwr uwchben y caffi – Beach House Cafe, Gas Lane, Dinbych y Pysgod, Sir Benfro, SA70 8AG
Argymhelliad y Swyddog: CANIATÂD
i) NP/22/0294/FUL – Newidiadau a gwelliannau i’r anhedd-dy presennol ynghyd ag addasu’r sied storio cwch yn stiwdio arlunydd at defnydd ategol parhaus, ynghyd ag adeiladu sied gardd newydd yn lle’r tanc olew mawr presennol – Y Fagal, Trewyddel, Aberteifi, Sir Benfro, SA43 3BU
Argymhelliad y Swyddog: CANIATÂD
6. Ystyried adroddiad yr Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu ar faterion sy’n ymwneud â gorfodi. – EC19/0007 – The Pool House, Hasguard Cross.
7. Ystyried adroddiadau’r Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu ar Apeliadau.
NODIADAU:
A. Yn unol â Ddeddf Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) 1985 bydd ymatebion i ymgynghoriaethau a wneir yng nghyd-destun y ceisiadau cynllunio sy’n gynwysedig yn yr adroddiad dilynol, na fyddant wedi dod i law erbyn y dyddiad ar gyfer paratoi’r adroddiad, yn cael eu cyflwyno ar lafar yn y cyfarfod.
B. Mae’r Papurau Cefndir a ystyrir wrth dafoli’r ceisiadau cynllunio ar yr agenda hwn yn cynnwys pob un neu rai o’r eitemau canlynol. (Cynhwysir eitemau 1 – 4 yn y ffeil ar gyfer pob cais unigol):
1. Cais : yn cynnwys y ffurflen gais, tystysgrif o dan Adran 66 o’r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, cynlluniau a gwybodaeth gefnogol arall a gyflwynir gyda’r cais.
2. Gohebiaeth bellach gyda’r ymgeisydd, yn cynnwys unrhyw ddiwygiadau i’r cais: yn cynnwys unrhyw lythyron at yr ymgeisydd/asiant yn ymwneud â’r cais ac unrhyw ohebiaeth bellach a gyflwynir gan yr ymgeisydd/asiant ynghyd â manylion neu gynlluniau wedi’u diwygio.
3. Llythyrau wrth Gyrff Statudol: yn cynnwys unrhyw lythyron perthnasol at ac wrth Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned, Adrannau’r Cyngor Sir, Cyfoeth Naturiol Cyru, Dŵr Cymru a chyrff cyhoeddus eraill a chymdeithasau.
4. Llythyrau wrth Unigolion Preifat: yn cynnwys unrhyw lythyron perthnasol at ac wrth y cyhoedd yn ymwneud â’r cais oni bai bod yna gais wedi’i wneud gan yr awduron i beidio ag adrodd eu safbwyntiau’n gyhoeddus.
5. Cynlluniau Statudol a Dogfennau Polisi Anffurfiol :
b. Cynllun Rheoli Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2020 – 2024 a fabwysiadwyd ar 11 Rhagfyr 2019.
6. Unrhyw Ddogfennau Eraill: yn cynnwys unrhyw ddogfennau perthnasol eraill megis rhybuddion penderfyniadau yn y gorffennol a rhybuddion safle.
Dylai unrhyw berson sydd am weld y Papurau Cefndir hyn gysylltu â Sue Davies, yr Awdurdod Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro (Ffôn: 01646 624800 Est.4840) e-bost: dc@pembrokeshirecoast.org.uk.