Pwyllgor Rheoli Datblygu 09 06 21
10am, Rhith-Gyfarfpd
1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.
2. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda.
3. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar:
a) 21 Ebrill 2021; a
b) 10 Mai 2021
4. Ystyried cyfarwyddyd y Cyfreithiwr ar Ddyletswyddau’r Aelodau wrth Benderfynu ar Geisiadau Cynllunio.
5. Ystyried adroddiadau’r Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu ar y ceisiadau cynllunio canlynol: –
j) NP/21/0172/TPO – Cwympo cypreswydden Monterey (Cupressus macrocarpa) i lefel y llawr, gan adael y bonyn yn ei le. (T12 ar TPO 33, a enwyd yn anghywir fel Ffynidwydden Douglas) – Beach Court, The Strand, Saundersfoot, Sir Benfro, SA69 9EU
Argymhelliad y Swyddog: CANIATAD
a) NP/17/0722/OUT – Datblygiad preswyl o hyd at 14 o anheddau preswyl (gan gynnwys darpariaeth fforddiadwy ar y safle) sy’n ymgorffori newidiadau i’r drefn ffyrdd i lunio ffordd fynedfa newydd a seilwaith sy’n gysylltiedig â’r datblygiad – Tir ger Narberth Road, Dinbych-y-pysgod
Argymhelliad y Swyddog: DIRPRWYO CANIATAD
b) NP/19/0328/S73 – Amrywio amod rhif 2 o NP/14/0014 – Residential Development Plot adjoining D, Plots adjoining Devon Court, 5 , Freshwater East, Pembroke
Argymhelliad y Swyddog: DIRPRWYO CANIATAD
c) NP/20/0574/FUL – Adeiladu ty preswyl newydd yn lle’r ty presennol – Bettws Bach, Parrog, Trefdraeth, SA42 0RX
Argymhelliad y Swyddog: CANIATAD
d) NP/21/0080/CAC – Ty preswyl newydd yn lle’r hen dy – Bettws Bach, Parrog, Trefdraeth, SA42 0RX
Argymhelliad y Swyddog: CANIATAD
e) NP/21/0044/FUL – Newid defnydd tir yn faes parcio arhosiad byr ar gyfer teithiau cwch i Ynys Dewi – parcio a theithio arfaethedig – Grove Hotel, High Street, Tyddewi, SA62 6SB
Argymhelliad y Swyddog: CANIATAD
f) NP/21/0060/FUL – Annedd newydd yn lle’r hen un – Morwennau, Poppit, SA43 3LP
Argymhelliad y Swyddog: CANIATAD
g) NP/21/0102/FUL – Dymchwel y ty preswyl a’r garej presennol. Adeiladu ty preswyl a garej newydd – Ringstone, Haroldstone Hill, Broad Haven, SA62 3JP
Argymhelliad y Swyddog: GWRTHOD
h) NP/21/0110/FUL – Codi ty newydd yn lle’r hen dy – Pen-castell, Moylegrove, SA43 3BU
Argymhelliad y Swyddog: GWRTHOD
i) NP/21/0130/FUL – Dymchwel yr eiddo a’r garej presennol ac yn eu lle adeiladu eiddo a garej newydd gan gynnwys gwaith draenio a thirweddu. Caniatâd i’r ty mas presennol – Rhigian, Dinas Cross, Trefdraeth, SA42 0SS
Argymhelliad y Swyddog: CANIATAD
k)NP/21/0177/FUL – Ychwanegu estyniad unllawr i dalcen y ty dros y dramwyfa bresennol, a darparu lle parcio ychwanegol i ffrynt yr eiddo – 7, Green Meadow Close, Marloes, SA62 3AF
Argymhelliad y Swyddog: CANIATAD
l) NP/21/0215/FUL – Addasu ac estyniad i’r sgubor bresennol i greu annedd tair ystafell wely. Gwaredu’r garafan breswyl sefydlog bresennol. Adleoli’r sied wair bresennol ac yn ei lle adeiladu stabl – Bower Farm, Broad Haven, SA62 3TY
Argymhelliad y Swyddog: GWRTHOD
6. Ystyried adroddiadau’r Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu ar Apeliadau.
NODIADAU:
A. Yn unol â Ddeddf Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) 1985 bydd ymatebion i ymgynghoriaethau a wneir yng nghyd-destun y ceisiadau cynllunio sy’n gynwysedig yn yr adroddiad dilynol, na fyddant wedi dod i law erbyn y dyddiad ar gyfer paratoi’r adroddiad, yn cael eu cyflwyno ar lafar yn y cyfarfod.
B. Mae’r Papurau Cefndir a ystyrir wrth dafoli’r ceisiadau cynllunio ar yr agenda hwn yn cynnwys pob un neu rai o’r eitemau canlynol. (Cynhwysir eitemau 1 – 4 yn y ffeil ar gyfer pob cais unigol):
1. Cais : yn cynnwys y ffurflen gais, tystysgrif o dan Adran 66 o’r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, cynlluniau a gwybodaeth gefnogol arall a gyflwynir gyda’r cais.
2. Gohebiaeth bellach gyda’r ymgeisydd, yn cynnwys unrhyw ddiwygiadau i’r cais : yn cynnwys unrhyw lythyron at yr ymgeisydd/asiant yn ymwneud â’r cais ac unrhyw ohebiaeth bellach a gyflwynir gan yr ymgeisydd/asiant ynghyd â manylion neu gynlluniau wedi’u diwygio.
3. Llythyrau wrth Gyrff Statudol: yn cynnwys unrhyw lythyron perthnasol at ac wrth Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned, Adrannau’r Cyngor Sir, Cyfoeth Naturiol Cyru, Dŵr Cymru a chyrff cyhoeddus eraill a chymdeithasau.
4. Llythyrau wrth Unigolion Preifat: yn cynnwys unrhyw lythyron perthnasol at ac wrth y cyhoedd yn ymwneud â’r cais oni bai bod yna gais wedi’i wneud gan yr awduron i beidio ag adrodd eu safbwyntiau’n gyhoeddus.
5. Cynlluniau Statudol a Dogfennau Polisi Anffurfiol :
b. Cynllun Rheoli Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2020 – 2024 a fabwysiadwyd ar 11 Rhagfyr 2019.
6. Unrhyw Ddogfennau Eraill: yn cynnwys unrhyw ddogfennau perthnasol eraill megis rhybuddion penderfyniadau yn y gorffennol a rhybuddion safle.
Dylai unrhyw berson sydd am weld y Papurau Cefndir hyn gysylltu â Sue Davies, yr Awdurdod Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro (Ffôn: 01646 624800 Est.4840) e-bost: dc@pembrokeshirecoast.org.uk