Pwyllgor Rheoli Datblygu
10am, Rhith-Gyfarfod
1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.
2. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda.
3. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar:
a) 10 Mehefin 2020; a
4. Ystyried cyfarwyddyd y Cyfreithiwr ar Ddyletswyddau’r Aelodau wrth Benderfynu ar Geisiadau Cynllunio.
5. Ystyried adroddiadau’r Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu ar y ceisiadau cynllunio canlynol:
a) NP/20/0222/FUL – Ceblau HVDC Parhaol – Dau gebl trydan HVDC parhaol, wedi’u gosod dan ddaear o’r safle glanio yn Freshwater West i’r ffin a CSP yn Fferm Neath dros ardal o rhyw 3.2km gan gynnwys baeau uniadau dan ddaear bob hyn a hyn ar hyd y llwybr ac un piler cyswllt uwc – Linear site extending from the intertidal sand flats at Freshwater West to Neath Farm, Rhoscrowther, Penfro, Sir Benfro
Argymhelliad y Swyddog: DIRPRWYO CANIATAD
6. Ystyried adroddiadau’r Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu ar Apeliadau
Agenda Atodol
Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Mehefin 2020
NODIADAU:
A. Yn unol â Ddeddf Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) 1985 bydd ymatebion i ymgynghoriaethau a wneir yng nghyd-destun y ceisiadau cynllunio sy’n gynwysedig yn yr adroddiad dilynol, na fyddant wedi dod i law erbyn y dyddiad ar gyfer paratoi’r adroddiad, yn cael eu cyflwyno ar lafar yn y cyfarfod.
B. Mae’r Papurau Cefndir a ystyrir wrth dafoli’r ceisiadau cynllunio ar yr agenda hwn yn cynnwys pob un neu rai o’r canlynol. Cynhwysir eitemau 1 – 4 yn y ffeil ar gyfer pob cais unigol.
1. Cais : yn cynnwys y ffurflen gais, tystysgrif o dan Adran 66 o’r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref, 1990, cynlluniau a gwybodaeth gefnogol arall a gyflwynir gyda’r cais.
2. Gohebiaeth bellach gyda’r ymgeisydd, yn cynnwys unrhyw ddiwygiadau i’r cais : yn cynnwys unrhyw lythyron at yr ymgeisydd/asiant yn ymwneud â’r cais ac unrhyw ohebiaeth bellach a gyflwynir gan yr ymgeisydd/asiant ynghyd â manylion neu gynlluniau wedi’u diwygio.
3. Llythyrau wrth Gyrff Statudol : yn cynnwys unrhyw lythyron perthnasol at ac wrth Gynghorau cymuned, Adrannau Cyngor Sir, Asiantaeth yr Amgylchedd, Dŵr Cymru a chyrff cyhoeddus eraill a chymdeithasau.
4. Llythyrau wrth Unigolion Preifat : yn cynnwys unrhyw lythyron perthnasol at ac wrth y cyhoedd yn ymwneud â’r cais oni bai bod yna gais wedi’i wneud gan yr awduron i beidio ag adrodd eu safbwyntiau’n gyhoeddus.
5. Cynlluniau Statudol a Dogfennau Polisi Anffurfiol :
a Cynllun Datblygu Lleol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a fabwysiadwyd Medi 29, 2010.
b. Cynllun Rheoli Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2015 – 2019 fabwysiadwyd 17 Rhagfyr 2014..
6. Unrhyw Ddogfennau Eraill: yn cynnwys unrhyw ddogfennau perthnasol megis rhybuddion penderfyniadau yn y gorffennol a rhybuddion safle.
Dylai unrhyw berson sy am weld y Papurau Cefndir hyn gysylltu â Sue Davies, Awdurdod y Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro (Ffôn: 01646 624800 Est.4840).