Pwyllgor Rheoli Datblygu 17/07/24

Dyddiad y Cyfarfod : 17/07/2024

10am, Swyddfa’r Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro, ac o Bell

1.    Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

2.    Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda.

3.   Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar:

a)    5 Mehefin 2024.

b)  19 Mehefin 2024

c) 8 Gorffennaf 2024

4.    Ystyried cyfarwyddyd y Cyfreithiwr ar Ddyletswyddau’r Aelodau wrth Benderfynu ar Geisiadau Cynllunio.

5.    Ystyried adroddiadau’r Rheolwr Rheoli Datblygu ar y ceisiadau cynllunio canlynol:

a) NP/24/0198/FUL – Adeiladu a newid defnydd yn ganolfan antur awyr agored, a stiwdio gelf a lle storio uwchben, a gwaith cysylltiedig – The Old Bus Depot, Trewyddel, Aberteifi, Sir Benfro, SA43 3BW

Argymhelliad y Swyddog: Caniatâd

b) NP/22/0621/FUL – Datblygu 72 o unedau preswyl – Tir i’r Dwyrain o Sandy Hill, Saundersfoot, Sir Benfro, SA69 9DR

Argymhelliad y Swyddog: Dirprwyo Caniatâd

c) NP/24/0213/FUL – Cais Cynllunio ol-weithredol ar gyfer ail-broffilio Wyneb Ddeheuol Chwarel Caeriw, a gwaith tirweddu cysylltiedig – Chwarel Caeriw, Carew Newton, Cilgeti, Sir Benfro, SA68 0TP

Argymhelliad y Swyddog: Dirprwyo Caniatâd

d) NP/24/0227/FUL – Maes gwersylla ar gyfer 40 o leiniau glaswellt gan gynnwys is-strwythur, draeniad, bachyn trydan – Fferm Parke, Merrion, Penfro, Sir Benfro, SA71 5DU

Argymhelliad y Swyddog: Caniatâd

e) NP/23/0622/S73 – Amrywio amod rhif 2 o NP/16/0247/S73 – Cynllluiau diwygiedig – Plot 1, Uzmaston Projects, Broadway, Hwlffordd, Sir Benfro, SA62 3HX

Argymhelliad y Swyddog: Caniatâd

f) NP/24/0160/FUL – Newid defnydd tir i leoli uned arlwyo ar ffurf fan ffrengig (A3) – tir ger Coal Building, Saundersfoot, Sir Benfro SA69 9HE

Argymhelliad y Swyddog: Caniatâd

g) NP/24/0177/FUL – Newid defnydd i eiddo preswyl ac amnewid y ffenestri ar ffrynt y ty – Dolphin House & Myrtle Cottage, High Street, Saundersfoot, Sir Benfro, SA69 9EJ

Argymhelliad y Swyddog: Caniatâd

6.      Ystyried adroddiadau’r Rheolwr Rheoli Datblygu ar Apeliadau.

NODIADAU:

A.    Yn unol â Ddeddf Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) 1985 bydd ymatebion i ymgynghoriaethau a wneir yng nghyd-destun y ceisiadau cynllunio sy’n gynwysedig yn yr adroddiad dilynol, na fyddant wedi dod i law erbyn y dyddiad ar gyfer paratoi’r adroddiad, yn cael eu cyflwyno ar lafar yn y cyfarfod.

B.    Mae’r Papurau Cefndir a ystyrir wrth dafoli’r ceisiadau cynllunio ar yr agenda hwn yn cynnwys pob un neu rai o’r eitemau canlynol.  (Cynhwysir eitemau 1 – 4 yn y ffeil ar gyfer pob cais unigol):

1.    Cais : yn cynnwys y ffurflen gais, tystysgrif o dan Adran 66 o’r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, cynlluniau a gwybodaeth gefnogol arall a gyflwynir gyda’r cais.

2.    Gohebiaeth bellach gyda’r ymgeisydd, yn cynnwys unrhyw ddiwygiadau i’r cais: yn cynnwys unrhyw lythyron at yr ymgeisydd/asiant yn ymwneud â’r cais ac unrhyw ohebiaeth bellach a gyflwynir gan yr ymgeisydd/asiant ynghyd â manylion neu gynlluniau wedi’u diwygio.

3.    Llythyrau wrth Gyrff Statudol: yn cynnwys unrhyw lythyron perthnasol at ac wrth Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned, Adrannau’r Cyngor Sir, Cyfoeth Naturiol Cyru, Dŵr Cymru a chyrff cyhoeddus eraill a chymdeithasau.

4.    Llythyrau wrth Unigolion Preifat: yn cynnwys unrhyw lythyron perthnasol at ac wrth y cyhoedd yn ymwneud â’r cais oni bai bod yna gais wedi’i wneud gan yr awduron i beidio ag adrodd eu safbwyntiau’n gyhoeddus.

5.    Cynlluniau Statudol a Dogfennau Polisi:

(a) Cymru’r Dyfodol – Cynllun Cenedlaethol 2040. Dyma Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Cymru ac fe’i mabwysiadwyd ar 24 Chwefror 2021.

(b)  Cynllun Datblygu Lleol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2 a fabwysiadwyd ar 30 Medi, 2020 a’r canllawiau cynllunio atodol cysylltiedig.

(c)   Cynllun Rheoli Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2020 – 2024 a fabwysiadwyd ar 11 Rhagfyr 2019.

(d) Canllawiau Polisi Cynllunio Cymru a Nodiadau Cyngor Technegol sydd gyda’i gilydd yn ffurfio Canllawiau Polisi Cynllunio Llywodraeth Cymru.

6.     Unrhyw Ddogfennau Eraill: yn cynnwys unrhyw ddogfennau perthnasol eraill megis rhybuddion penderfyniadau yn y gorffennol a rhybuddion safle.

Dylai unrhyw berson sydd am weld y Papurau Cefndir hyn gysylltu â Sue Davies, yr Awdurdod Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro (Ffôn:  01646 624800 Est.4840) e-bost: dc@pembrokeshirecoast.org.uk