Pwyllgor Rheoli Datblygu 18/05/22
10am, Rhith-Gyfarfod
1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.
2. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda.
3. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 9 Mawrth 2022
4. Ystyried cyfarwyddyd y Cyfreithiwr ar Ddyletswyddau’r Aelodau wrth Benderfynu ar Geisiadau Cynllunio.
5. Ystyried adroddiadau’r Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu ar y ceisiadau cynllunio canlynol:
a) NP/21/0399/FUL – Adeiladu sgubor ôl-weithredol ar gyfer da byw a gwaith ar gladdfa silwair i gynorthwyo’r fferm allu gweithredu fel fferm waith -Land opposite Middle Broadmoor, Talbenny, Hwlffordd, Sir Benfro SA62 3XD
Argymhelliad y Swyddog: CANIATÂD
b) NP/21/0653/FUL – Newidiadau ac estyniad i gefn y tŷ gan gynnwys proffil to newydd a ffenestri dormer, newidiadau i’r ffenestri, ac ystafell ychwanegol sy’n swyddfa i’r cartref/ ystafell yn yr ardd/ ystafell ymwelwyr, a sied ychwanegol i’r tŷ – 5, Woodside, Blue Anchor Way, Dale, Hwllfordd, Sir Benfro, SA62 3RG
Argymhelliad y Swyddog: GWRTHOD
c) NP/21/0743/FUL – Datblygiad preswyl o 15 o dai a gwaith cysylltiedig – Land adjacent to the Primary School, Trewarren Road, St. Ishmael’s, Sir Benfro, SA62 3SZ
Argymhelliad y Swyddog: DIRPRWYO CANIATÂD
d) NP/22/0092/FUL – Adeiladu pâr newydd o lifftiau mynediad i gadair olwyn – Riverslea, Golf Course Road, Trefdraeth, Sir Benfro, SA42 0NR
Argymhelliad y Swyddog: CANIATÂD
6. Ystyried adroddiadau’r Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu ar Apeliadau.
NODIADAU:
A. Yn unol â Ddeddf Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) 1985 bydd ymatebion i ymgynghoriaethau a wneir yng nghyd-destun y ceisiadau cynllunio sy’n gynwysedig yn yr adroddiad dilynol, na fyddant wedi dod i law erbyn y dyddiad ar gyfer paratoi’r adroddiad, yn cael eu cyflwyno ar lafar yn y cyfarfod.
B. Mae’r Papurau Cefndir a ystyrir wrth dafoli’r ceisiadau cynllunio ar yr agenda hwn yn cynnwys pob un neu rai o’r eitemau canlynol. (Cynhwysir eitemau 1 – 4 yn y ffeil ar gyfer pob cais unigol):
1. Cais : yn cynnwys y ffurflen gais, tystysgrif o dan Adran 66 o’r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, cynlluniau a gwybodaeth gefnogol arall a gyflwynir gyda’r cais.
2. Gohebiaeth bellach gyda’r ymgeisydd, yn cynnwys unrhyw ddiwygiadau i’r cais: yn cynnwys unrhyw lythyron at yr ymgeisydd/asiant yn ymwneud â’r cais ac unrhyw ohebiaeth bellach a gyflwynir gan yr ymgeisydd/asiant ynghyd â manylion neu gynlluniau wedi’u diwygio.
3. Llythyrau wrth Gyrff Statudol: yn cynnwys unrhyw lythyron perthnasol at ac wrth Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned, Adrannau’r Cyngor Sir, Cyfoeth Naturiol Cyru, Dŵr Cymru a chyrff cyhoeddus eraill a chymdeithasau.
4. Llythyrau wrth Unigolion Preifat: yn cynnwys unrhyw lythyron perthnasol at ac wrth y cyhoedd yn ymwneud â’r cais oni bai bod yna gais wedi’i wneud gan yr awduron i beidio ag adrodd eu safbwyntiau’n gyhoeddus.
5. Cynlluniau Statudol a Dogfennau Polisi Anffurfiol :
b. Cynllun Rheoli Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2020 – 2024 a fabwysiadwyd ar 11 Rhagfyr 2019.
6. Unrhyw Ddogfennau Eraill: yn cynnwys unrhyw ddogfennau perthnasol eraill megis rhybuddion penderfyniadau yn y gorffennol a rhybuddion safle.
Dylai unrhyw berson sydd am weld y Papurau Cefndir hyn gysylltu â Sue Davies, yr Awdurdod Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro (Ffôn: 01646 624800 Est.4840) e-bost: dc@pembrokeshirecoast.org.uk