Pwyllgor Rheoli Datblygu 19/04/23
10am, Ystafell Werdd, Swyddfa’r Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro, ac o Bell
1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.
2. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda.
3. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Mawrth 2023
4. Ystyried cyfarwyddyd y Cyfreithiwr ar Ddyletswyddau’r Aelodau wrth Benderfynu ar Geisiadau Cynllunio.
5. Ystyried adroddiadau’r Rheolwraig Rheoli Datblygu ar y ceisiadau cynllunio canlynol:
a) NP/21/0593/FUL – Dymchwel yr adeilad presennol ac adeiladu 34 o unedau preswyl sy’n ymgorffori arwynebedd llawr dosbarth A1/A2/A3 a D2 ar lefel y llawr a phob datblygiad cysylltiedig – Former Royal Mail Delivery Office, Warren Street, Dinbych y Pysgod, Sir Benfro, SA70 7JR
Argymhelliad y Swyddog: DIRPRWYO CANIATÂD
b) NP/21/0594/CAC – Dymchwel yr adeilad presennol yn unol a’r bwriad i adeiladu 34 o unedau preswyl sy’n ymgorffori arwynebedd llawr dosbarth A1/A2/A3 a D2 ar lefel y llawr, a phob datblygiad cysylltiedig – Former Royal Mail Delivery Office, Warren Street, Dinbych y Pysgod, Sir Benfro, SA70 7JR
Argymhelliad y Swyddog: CANIATÂD
c) NP/22/0684/S73 – Amrywio amodau rhif 5 a 6 o NP/21/0431/FUL – Newid yr amser cau a defnyddio’r ardd gefn fel llefydd eistedd y tu allan – Ye Old World Cafe, Bosherston, Penfro, Sir Benfro, SA71 5DN
Argymhelliad y Swyddog: CANIATÂD
d) NP/22/0647/FUL – Ad-drefnu’r lleiniau parcio i alluogi adeiladu storfa biniau – Beach Court, The Strand, Saundersfoot, Sir Benfro, SA69 9EU
Argymhelliad y Swyddog: CANIATÂD
e) NP/22/0695/FUL – Gorchudd newydd i’r to a hongian llechi ar y to dormer presennol, gorchuddion ar do gwastad y gegin newydd, y strwythur a’r ffenestri to, disodli’r panel gwydr ar y to a ffenestr to, diddosi’r ardal lle gwaredwyd y simnai – Gwalia, East Street, Trefdraeth, Sir Benfro, SA42 0SY
6. Ystyried adroddiadau’r Cyfarwyddwr Creu Lleoedd, Datgarboneiddio ac Ymgysylltu ar ar faterionsy’n ymwneud a gorfodi – Highlands View Fold, The Ridgeway, Manorbier Newton
7. Ystyried adroddiadau’r Rheolwraig Rheoli Datblygu ar Apeliadau.
NODIADAU:
A. Yn unol â Ddeddf Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) 1985 bydd ymatebion i ymgynghoriaethau a wneir yng nghyd-destun y ceisiadau cynllunio sy’n gynwysedig yn yr adroddiad dilynol, na fyddant wedi dod i law erbyn y dyddiad ar gyfer paratoi’r adroddiad, yn cael eu cyflwyno ar lafar yn y cyfarfod.
B. Mae’r Papurau Cefndir a ystyrir wrth dafoli’r ceisiadau cynllunio ar yr agenda hwn yn cynnwys pob un neu rai o’r eitemau canlynol. (Cynhwysir eitemau 1 – 4 yn y ffeil ar gyfer pob cais unigol):
1. Cais : yn cynnwys y ffurflen gais, tystysgrif o dan Adran 66 o’r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, cynlluniau a gwybodaeth gefnogol arall a gyflwynir gyda’r cais.
2. Gohebiaeth bellach gyda’r ymgeisydd, yn cynnwys unrhyw ddiwygiadau i’r cais: yn cynnwys unrhyw lythyron at yr ymgeisydd/asiant yn ymwneud â’r cais ac unrhyw ohebiaeth bellach a gyflwynir gan yr ymgeisydd/asiant ynghyd â manylion neu gynlluniau wedi’u diwygio.
3. Llythyrau wrth Gyrff Statudol: yn cynnwys unrhyw lythyron perthnasol at ac wrth Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned, Adrannau’r Cyngor Sir, Cyfoeth Naturiol Cyru, Dŵr Cymru a chyrff cyhoeddus eraill a chymdeithasau.
4. Llythyrau wrth Unigolion Preifat: yn cynnwys unrhyw lythyron perthnasol at ac wrth y cyhoedd yn ymwneud â’r cais oni bai bod yna gais wedi’i wneud gan yr awduron i beidio ag adrodd eu safbwyntiau’n gyhoeddus.
5. Cynlluniau Statudol a Dogfennau Polisi:
(a) Cymru’r Dyfodol – Cynllun Cenedlaethol 2040. Dyma Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Cymru ac fe’i mabwysiadwyd ar 24 Chwefror 2021.
(c) Cynllun Rheoli Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2020 – 2024 a fabwysiadwyd ar 11 Rhagfyr 2019.
(d) Canllawiau Polisi Cynllunio Cymru a Nodiadau Cyngor Technegol sydd gyda’i gilydd yn ffurfio Canllawiau Polisi Cynllunio Llywodraeth Cymru.
6. Unrhyw Ddogfennau Eraill: yn cynnwys unrhyw ddogfennau perthnasol eraill megis rhybuddion penderfyniadau yn y gorffennol a rhybuddion safle.
Dylai unrhyw berson sydd am weld y Papurau Cefndir hyn gysylltu â Sue Davies, yr Awdurdod Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro (Ffôn: 01646 624800 Est.4840) e-bost: dc@pembrokeshirecoast.org.uk.