Pwyllgor Rheoli Datblygu 19/10/22
10am, Ystafell Werdd, Swyddfa’r Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro, ac o Bell
1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb
2. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda.
3. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Medi 2022
4. Ystyried cyfarwyddyd y Cyfreithiwr ar Ddyletswyddau’r Aelodau wrth Benderfynu ar Geisiadau Cynllunio
5. Ystyried adroddiadau’r Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu ar y ceisiadau cynllunio canlynol: –
a) NP/21/0773/OUT – Codi Pedwar annedd – Fferm cyn-dwrci, tir ger Blockett Lane, Little Haven, Hwlffordd, SA62 3UH
Argymhelliad y Swyddog: DIRPRWYO CANIATÂD
b) NP/22/0148/FUL – Dymchwel y byngalo presennol ac adeiladu annedd newydd – Braeside, Freshwater East, Sir Benfro, SA71 5LF
Argymhelliad y Swyddog: CANIATÂD
c) NP/22/0357/FUL – Gofod ty haf ol-weithredol yn Grey Winds a ddefnyddir fel rhan o fwynhad y ty a’r ardd bywyd gwyllt lle mae coed brodorol ac ymlusgiaid yn arbennig yn ffynnu yn dilyn ailwylltio. Mae’r gofod yn lle i weithio a gorffwys yn yr ardd sydd ar lefel uwch na’r ty – Grey Winds, Trefdraeth, Sir Benfro, SA42 0QG
Argymhelliad y Swyddog: GWRTHOD
d) NP/22/0388/FUL – Adeiladu annedd newydd yn lle’r annedd presennol – Kenmore, Pen y Craig, The Glen, Saundersfoot, Sir Benfro, SA69 9NR
Argymhelliad y Swyddog: CANIATÂD
e) NP/22/0424/FUL – Dymchwel yr annedd preswyl presennol ac adeiladu tŷ a garej newydd – Ringstone, Broad Haven, Hwlfordd, Sir Benfro, SA62 3JP
Argymhelliad y Swyddog: CANIATÂD
6. Ystyried adroddiadau’r Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu ar Apeliadau.
NODIADAU:
A. Yn unol â Ddeddf Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) 1985 bydd ymatebion i ymgynghoriaethau a wneir yng nghyd-destun y ceisiadau cynllunio sy’n gynwysedig yn yr adroddiad dilynol, na fyddant wedi dod i law erbyn y dyddiad ar gyfer paratoi’r adroddiad, yn cael eu cyflwyno ar lafar yn y cyfarfod.
B. Mae’r Papurau Cefndir a ystyrir wrth dafoli’r ceisiadau cynllunio ar yr agenda hwn yn cynnwys pob un neu rai o’r eitemau canlynol. (Cynhwysir eitemau 1 – 4 yn y ffeil ar gyfer pob cais unigol):
1. Cais : yn cynnwys y ffurflen gais, tystysgrif o dan Adran 66 o’r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, cynlluniau a gwybodaeth gefnogol arall a gyflwynir gyda’r cais.
2. Gohebiaeth bellach gyda’r ymgeisydd, yn cynnwys unrhyw ddiwygiadau i’r cais: yn cynnwys unrhyw lythyron at yr ymgeisydd/asiant yn ymwneud â’r cais ac unrhyw ohebiaeth bellach a gyflwynir gan yr ymgeisydd/asiant ynghyd â manylion neu gynlluniau wedi’u diwygio.
3. Llythyrau wrth Gyrff Statudol: yn cynnwys unrhyw lythyron perthnasol at ac wrth Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned, Adrannau’r Cyngor Sir, Cyfoeth Naturiol Cyru, Dŵr Cymru a chyrff cyhoeddus eraill a chymdeithasau.
4. Llythyrau wrth Unigolion Preifat: yn cynnwys unrhyw lythyron perthnasol at ac wrth y cyhoedd yn ymwneud â’r cais oni bai bod yna gais wedi’i wneud gan yr awduron i beidio ag adrodd eu safbwyntiau’n gyhoeddus.
5. Cynlluniau Statudol a Dogfennau Polisi Anffurfiol :
b. Cynllun Rheoli Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2020 – 2024 a fabwysiadwyd ar 11 Rhagfyr 2019.
6. Unrhyw Ddogfennau Eraill: yn cynnwys unrhyw ddogfennau perthnasol eraill megis rhybuddion penderfyniadau yn y gorffennol a rhybuddion safle.
Dylai unrhyw berson sydd am weld y Papurau Cefndir hyn gysylltu â Sue Davies, yr Awdurdod Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro (Ffôn: 01646 624800 Est.4840) e-bost: dc@pembrokeshirecoast.org.uk.