Pwyllgor Rheoli Datblygu 7/12/22
10am, Ystafell Werdd, Swyddfa’r Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro, ac o Bell
1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.
2. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda.
3. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar:
a) 19 Hydref 2022;
b) 16 Tachwedd 2022
4. Ystyried cyfarwyddyd y Cyfreithiwr ar Ddyletswyddau’r Aelodau wrth Benderfynu ar Geisiadau Cynllunio.
5. Ystyried adroddiadau’r Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu ar y ceisiadau cynllunio canlynol:
a) NP/22/0148/FUL – Dymchwel y byngalo presennol ac adeiladu annedd newydd – Braeside, Freshwater East, Sir Benfro, SA71 5LF
Argymhelliad y Swyddog: CANIATÂD
b) NP/22/0176/FUL – Cais an 3 twnel polythen, mynedfa newydd, llwybr ac arwyneb solet, pyllau dwr, ac annedd o dan y polisi Datblygiad Un Planed – Land to the north of Castell Cadw known as Parc Calch, Felindre, Crymych, Sir Benfro, SA41 3XA
Argymhelliad y Swyddog: DIRPRWYO CANIATÂD
c) NP/22/0240/FUL– Dymchwel yr adeiladau fferm modern, a’u disodli gan annedd newydd gan gynnwys yn rhannol addasu’r ysguboriau hanesyddol presennol, tirweddu, arae o baneli solar, clwydfan nos ystlumod a gwaith cysylltiedig – Lower Ripperston Farm, St. Brides, Hwlffordd, Sir Benfro, SA62 3AH
Argymhelliad y Swyddog: AROLWG SAFLE
d) NP/22/0388/FUL – Adeiladu annedd newydd yn lle’r annedd presennol – Kenmore, Pen y Craig, The Glen, Saundersfoot, Sir Benfro, SA69 9NR
Argymhelliad y Swyddog: CANIATÂD
e) NP/22/0424/FUL – Dymchwel yr annedd preswyl presennol ac adeiladu tŷ a garej newydd – Ringstone, Broad Haven, Hwlfordd, Sir Benfro, SA62 3JP
Argymhelliad y Swyddog: AROLWG SAFLE
f) NP/22/0462/FUL – Dymchwel yr annedd presennol a’i ddisodli gan annedd newydd – Tar House, Knapp Farm Lane, Llangwm, Hwlffordd, Sir Benfro, SA62 4HN
Argymhelliad y Swyddog: CANIATÂD
g) NP/22/0464/FUL – Creu lle parcio a lle troi’n ol pwrpasol oddi ar y stryd a gwaith tirweddu i liniaru’r effaith – 131, Castle Way, Dale, Hwlffordd, Sir Benfro, SA62 3RN
Argymhelliad y Swyddog: CANIATÂD
h) NP/22/0482/FUL– Ailfodelu’r wal ffrynt a newid y to gwastad presennol i ffurfio to teras Goscar House, Crackwell Street, Dinbych y Pysgod, Sir Benfro, SA70 7BY
Argymhelliad y Swyddog: GWRTHOD
i) NP/22/0483/FUL – Ailfodelu’r wal ffrynt a newid y to gwastad presennol i ffurfio to teras Sea House, Crackwell Street, Dinbych y Pysgod, Sir Benfro, SA70 7BY
Argymhelliad y Swyddog: GWRTHOD
j) NP/22/0513/FUL – Dymchwel yr adeilad toiledau/cawodau/storfa/golchdy presennol, a gwaredu’r cyfleuster i garafanau teithiol ar gyfer derbynfa i safle arall y tu allan i’r parth llifogydd ac ehangu’r lle, adeiladu toiledau/cawodau/storfa/golchdy newydd, derbynfa/swyddfa ac ystafell gyfarfod, creu 12 o lefydd i godi pebyll ar laswellt (ol-weithredol), codi polyn i ddal teledu cylch cyfyng, addasu’r hen adeilad toiledau yn gaffi/parlwr hufen-ia, ac estyniad bach i greu toiled cyhoeddus, a gwaith cysylltiedig – Newgale Camping Site, Niwgwl, Hwlffordd, Sir Benfro, SA62 6AS
Argymhelliad y Swyddog: AROLWG SAFLE
6. TYstyried adroddiadau’r Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu ar Apeliadau.
NODIADAU:
A. Yn unol â Ddeddf Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) 1985 bydd ymatebion i ymgynghoriaethau a wneir yng nghyd-destun y ceisiadau cynllunio sy’n gynwysedig yn yr adroddiad dilynol, na fyddant wedi dod i law erbyn y dyddiad ar gyfer paratoi’r adroddiad, yn cael eu cyflwyno ar lafar yn y cyfarfod.
B. Mae’r Papurau Cefndir a ystyrir wrth dafoli’r ceisiadau cynllunio ar yr agenda hwn yn cynnwys pob un neu rai o’r eitemau canlynol. (Cynhwysir eitemau 1 – 4 yn y ffeil ar gyfer pob cais unigol):
1. Cais : yn cynnwys y ffurflen gais, tystysgrif o dan Adran 66 o’r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, cynlluniau a gwybodaeth gefnogol arall a gyflwynir gyda’r cais.
2. Gohebiaeth bellach gyda’r ymgeisydd, yn cynnwys unrhyw ddiwygiadau i’r cais: yn cynnwys unrhyw lythyron at yr ymgeisydd/asiant yn ymwneud â’r cais ac unrhyw ohebiaeth bellach a gyflwynir gan yr ymgeisydd/asiant ynghyd â manylion neu gynlluniau wedi’u diwygio.
3. Llythyrau wrth Gyrff Statudol: yn cynnwys unrhyw lythyron perthnasol at ac wrth Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned, Adrannau’r Cyngor Sir, Cyfoeth Naturiol Cyru, Dŵr Cymru a chyrff cyhoeddus eraill a chymdeithasau.
4. Llythyrau wrth Unigolion Preifat: yn cynnwys unrhyw lythyron perthnasol at ac wrth y cyhoedd yn ymwneud â’r cais oni bai bod yna gais wedi’i wneud gan yr awduron i beidio ag adrodd eu safbwyntiau’n gyhoeddus.
5. Cynlluniau Statudol a Dogfennau Polisi:
(a) Cymru’r Dyfodol – Cynllun Cenedlaethol 2040. Dyma Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Cymru ac fe’i mabwysiadwyd ar 24 Chwefror 2021.
(c) Cynllun Rheoli Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2020 – 2024 a fabwysiadwyd ar 11 Rhagfyr 2019.
(d) Canllawiau Polisi Cynllunio Cymru a Nodiadau Cyngor Technegol sydd gyda’i gilydd yn ffurfio Canllawiau Polisi Cynllunio Llywodraeth Cymru.
6. Unrhyw Ddogfennau Eraill: yn cynnwys unrhyw ddogfennau perthnasol eraill megis rhybuddion penderfyniadau yn y gorffennol a rhybuddion safle.
Dylai unrhyw berson sydd am weld y Papurau Cefndir hyn gysylltu â Sue Davies, yr Awdurdod Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro (Ffôn: 01646 624800 Est.4840) e-bost: dc@pembrokeshirecoast.org.uk.