Pwyllgor Rheoli Datblygu 9/4/25
10am, Rhith-Gyfarfod
1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb
2. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda.
3. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Mawrth 2025
4. Ystyried cyfarwyddyd y Cyfreithiwr ar Ddyletswyddau’r Aelodau wrth Benderfynu ar Geisiadau Cynllunio..
5. Ystyried adroddiadau’r Rheolwr Rheoli Datblygu ar y ceisiadau cynllunio canlynol:
a) NP/24/0438/FUL – Newid defnydd siop adwerthu a newid defnydd rhan o Neuadd y Farchnad a’r cyn Neuadd y Dref i Westy Sba, Bwyty a Chaffi/ Bar, yn gysylltiedig ag estyniadau a newidiadau – 12 High Street & Old Town Hall and Market Hall, Dinbych Y Pysgod, Sir Benfro, SA70 7EU
Argymhelliad y Swyddog: Dirprwyo Caniatâd
b) NP/24/0672/LBA – Newidiadau i Neuadd y Farchnad a’r Hen Neuadd y Dref ar yr un pryd â’r newid defnydd (ynghyd â’r adeilad gyferbyn) i ffurfio Gwesty Sba, Bwyty a Chaffi/ Bar – Neuadd y Farchnad, Stryd Fawr, Dinbych y Pysgod, Sir Benfro, SA70 7EU
Argymhelliad y Swyddog: Caniatâd
c) NP/23/0545/FUL – Cais cynllunio hybrid ar gyfer datblygiad eithrio tai fforddiadwy, man agored hyblyg a gwaith cysylltiedig. Gwneir cais am ganiatad cynllunio llawn ar gyfer cam cyntaf y datblygiad sy’n cynnwys anheddau rhent cymdeithasol, man agored hyblyg, tirweddu, seilwaith priffyrdd a draenio, a gwaith cysylltiedig arall. Gwneir cais am ganiatad cynllunio amlinellol ar gyfer ail gam y datblygiad preswyl (cedwir pob mater yn ol i’w hystyried yn y dyfodol) – Tir ger to Bro Dawel, Solfach, Sir Benfro, SA62 6XW
Argymhelliad y Swyddog: Caniatâd
d) NP/24/0492/FUL – Newid defnydd o siop trin gwallt (A1) i fflat (C3) – Ocean Hair, The Old Brewery, Brewery Terrace, Saundersfoot, Sir Benfro, SA69 9HG
Argymhelliad y Swyddog: Dirprwyo Caniatâd
e) NP/24/0638/FUL – Creu un safle teithwyr i gynnwys un garafan sefydlog, un garafan deithiol, un ystafell ddydd/ amlbwrpas, a gwelliannau ecolegol (rhannol ol-weithredol) – Tir ger Froghall Yard, Moreton Lane, Saundersfoot, Sir Benfro, SA69 9JG
Argymhelliad y Swyddog: Arolwg Safle
6. Ystyried adroddiadau’r Rheolwr Rheoli Datblygu ar Apeliadau.
Nodiadau:
A. Yn unol â Ddeddf Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) 1985 bydd ymatebion i ymgynghoriaethau a wneir yng nghyd-destun y ceisiadau cynllunio sy’n gynwysedig yn yr adroddiad dilynol, na fyddant wedi dod i law erbyn y dyddiad ar gyfer paratoi’r adroddiad, yn cael eu cyflwyno ar lafar yn y cyfarfod.
B. Mae’r Papurau Cefndir a ystyrir wrth dafoli’r ceisiadau cynllunio ar yr agenda hwn yn cynnwys pob un neu rai o’r eitemau canlynol. (Cynhwysir eitemau 1 – 4 yn y ffeil ar gyfer pob cais unigol):
1. Cais : yn cynnwys y ffurflen gais, tystysgrif o dan Adran 66 o’r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, cynlluniau a gwybodaeth gefnogol arall a gyflwynir gyda’r cais.
2. Gohebiaeth bellach gyda’r ymgeisydd, yn cynnwys unrhyw ddiwygiadau i’r cais: yn cynnwys unrhyw lythyron at yr ymgeisydd/asiant yn ymwneud â’r cais ac unrhyw ohebiaeth bellach a gyflwynir gan yr ymgeisydd/asiant ynghyd â manylion neu gynlluniau wedi’u diwygio.
3. Llythyrau wrth Gyrff Statudol: yn cynnwys unrhyw lythyron perthnasol at ac wrth Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned, Adrannau’r Cyngor Sir, Cyfoeth Naturiol Cyru, Dŵr Cymru a chyrff cyhoeddus eraill a chymdeithasau.
4. Llythyrau wrth Unigolion Preifat: yn cynnwys unrhyw lythyron perthnasol at ac wrth y cyhoedd yn ymwneud â’r cais oni bai bod yna gais wedi’i wneud gan yr awduron i beidio ag adrodd eu safbwyntiau’n gyhoeddus.
5. Cynlluniau Statudol a Dogfennau Polisi:
(a) Cymru’r Dyfodol – Cynllun Cenedlaethol 2040. Dyma Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Cymru ac fe’i mabwysiadwyd ar 24 Chwefror 2021.
(c) Cynllun Partneriaeth ar gyfer y Parc Cenedlaethol 2025-2029 a fabwysiadwyd ar 26 Mawrth 2025.
(d) Canllawiau Polisi Cynllunio Cymru a Nodiadau Cyngor Technegol sydd gyda’i gilydd yn ffurfio Canllawiau Polisi Cynllunio Llywodraeth Cymru.
6. Unrhyw Ddogfennau Eraill: yn cynnwys unrhyw ddogfennau perthnasol eraill megis rhybuddion penderfyniadau yn y gorffennol a rhybuddion safle.
Dylai unrhyw berson sydd am weld y Papurau Cefndir hyn gysylltu â Sue Davies, yr Awdurdod Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro (Ffôn: 01646 624800 Est.4840) e-bost: dc@pembrokeshirecoast.org.uk.