Awdurdod y Parc Cenedlaethol 08/02/23
10am Ystafell Werdd, Swyddfa’r Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro, ac o Bell
1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb
2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes
3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr 2022
4. Nodi’r Log Gweithredu o’r cyfarfod blaenorol (Adroddiad 01/23)
5. Cyhoeddiadau’r Cadeirydd
6. Derbyn adroddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar 7 Rhagfyr 2022 a’r 18 Ionawr 2023
7. Ystyried adroddiad cyfarfodydd y Pwyllgor Ieuenctid a gynhaliwyd ar 22 Tachwedd 2022, 20 Rhagfyr 2022 a 10 Ionawr 2023
8. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adnoddau Dynol a gynhaliwyd ar 23 Tachwedd 2022
9. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Gweithredol a gynhaliwyd ar 30 Tachwedd 2022
10. Ystyried yr adroddiadau canlynol:
02/23 Cynllunio Cyllideb Ddrafft 2023/24
Mae’r adroddiad yn cyflwyno’r canlynol:
Y cyllidebau Refeniw a Chyfalaf Drafft ar gyfer 2023/24 a’r rhagolygon 2024/25 i 2027/28.
Yr Ardoll Ddrafft 2023/24 ar Gyngor Sir Penfro.
Dangosyddion Darbodus ar gyfer y Rhaglen Gyfalaf.
Datganiad ar y Strategaeth Buddsoddi, y Cronfeydd wrth gefn, a’r Polisi Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2023/24.
03/23 Diweddariad ar y Cynllun Corfforaethol ac Adnoddau a Datblygu Cynlluniau Cyflawni
The report provides an update on the Corporate and Resources Plan and the development of Delivery Plans
04/23 Croeso Sir Benfro
Mae’r adroddiad yn ceisio cytundeb i ddiwygio’r cyfraniad y cytunodd yr Awdurdod arno i gefnogi gwaith Croeso Sir Benfro.
05/23 Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Daliadau Meysydd Parcio
Mae’r papur hwn yn ceisio cytundeb ar Gylch Gorchwyl Grŵp Tasg a Gorffen i ystyried darparu tocynnau tymor a’r taliadau meysydd parcio ar draws meysydd parcio’r Awdurdod yn y dyfodol.
11.Penderfynu eithrio’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem canlynol oherwydd ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i ddiffinir ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972
12. Ystyried yr adroddiadau canlynol:
06/23 Adolygiad o’r Mesurau Rheoli Hamdden ar Draeth Trefdraeth.
Mae’r adroddiad yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am y camau ymlaen yn dilyn penderfyniad yr Awdurdod Parc Cenedlaethol yn ei gyfarfod ar 26 Hydref 2022.