Awdurdod y Parc Cenedlaethol 09/02/22
10am, Rhith-Gyfarfod
1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb
2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes
3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Rhagfyr 2021
4. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda
5. Cyhoeddiadau’r Cadeirydd
6. Derbyn adroddiad cyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar 8 Rhagfyr 2021 a 10 Ionawr 2022
7. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adnoddau Dynol a gynhaliwyd ar 24 Tachwedd 2021
8. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Gweithredol a gynhaliwyd ar 1 Rhagfyr 2021
9. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Ieunctid a gynhaliwyd ar 7 Rhagfyr 2021
10. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Cronfa Datblygu Cynaliadwy a gynhaliwyd ar 19 Ionawr 2022
11. Ystyried y Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd P Kidney bod yr Awdurdod yn cynnal trafodaethau gyda Chyngor Cymuned Llandyfai, ac unrhyw un arall sydd â budd, naill ai i roi darn o dir yn Freshwater East fel rhodd, neu ei werthu ar gyfer darparu ardal chwarae i blant.
12. Ystyried yr adroddiadau canlynol:
01/22 Cynllunio Cyllideb Ddrafft 2022/23
Mae’r adroddiad yn cyflwyno
Y cyllidebau Refeniw a Chyfalaf Drafft ar gyfer 2022/23 a’r rhagolygon 2023/24 i 2026/27
Yr Ardoll Ddrafft 2022/23 ar Gyngor Sir Penfro
Dangosyddion Darbodus ar gyfer y Rhaglen Gyfalaf
Datganiad ar y Strategaeth Buddsoddi a’r Polisi Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2022/23.
02/22 Cynllun Corfforaethol 2022/23
Gofynnir i’r Aelodau wneud sylwadau ar Gynllun Corfforaethol drafft 2022/23.
03/22 Ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru ar ddeddfwriaeth a pholisi cynllunio ar gyfer ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr.
Mae’r adroddiad yn ceisio cytundeb ar ymateb Awdurdod Parc Cenedlaethol i’r ymgynghoriad uchod.
04/22 Y Cynllun Tai mewn Cymunedau Cymraeg
Diben yr adroddiad hwn yw cytuno ar ymateb Awdurdod Parc Cenedlaethol i’r ymgynghoriad uchod.
05/22 Adolygiad a Pholisi Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ar Wirfoddoli
Gofynnir i’r Aelodau dderbyn yr adroddiad ar yr Adolygiad Strategol o Wirfoddoli a baratowyd ar gyfer yr Awdurdod, ac i gymeradwyo Polisi’r Awdurdod ar Wirfoddoli sy’n fframwaith i’r Awdurdod o ran diwallu ei gyfrifoldeb cyfreithiol a’i ddyletswydd gofal yn ei weithgareddau gwirfoddoli, a sefydlu set o egwyddorion clir ac arfer da ar gyfer y rhai hynny sy’n ymwneud â gweithgaredd gwirfoddoli.
06/22 Strategaeth Digwyddiadau Mawr Sir Benfro 2022 – 2027
Gofynnir i’r Aelodau fabwysiadu’r Strategaeth Digwyddiadau Mawr Sir Benfro 2022-2027.
07/22 Calendar Cyfarfodydd 2022/2023
Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo calendar o gyfarfodydd ar gyfer y flwyddyn nesaf.
08/22 Polisi Gweithio Gartref a Gweithio Hybrid
Diben yr adroddiad hwn yw ceisio cymeradwyaeth yr Aelodau i fabwysiadu’r Polisi Gweithio Gartref a Gweithio Hybrid.