Awdurdod y Parc Cenedlaethol 21/06/23
10.30am, Ystafell Werdd, Swyddfa’r Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro, ac o Bell
1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb
2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes
3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Mai 2023
4. Nodi’r Log Gweithredu o’r cyfarfod blaenorol
5. Cyhoeddiadau’r Cadeirydd
6. Derbyn adroddiad cyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar 19 Ebrill 2023
7. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Gweithredol a gynhaliwyd ar 15 Mawrth 2023
8. Ystyried adroddiad cyfarfod y Panel Adolygu Perfformiad y Prif Weithredwr a gynhaliwyd ar 22 Mawrth 2023
9. Ystyried adroddiad cyfarfodydd y Pwyllgor Ieunctid a gynhaliwyd ar
b) 28 Mawrth 2023 a
c) 9 Mai 2023
10. Ystyried yr adroddiadau canlynol:
19/23 Adroddiad Archwilio Cymru ar Arallgyfeirio Incwm
Gofynnir i’r Aelodau dderbyn yr adroddiad gan Archwilio Cymru ar Arallgyfeirio Incwm.
20/23 Cynllun Corfforaethol ac Adnoddau drafft a’r Cynlluniau Cyflawni 2023/24 – 2026/27
Gofynnir i’r Aelodau wneud sylwadau ar y Cynllun Corfforaethol ac Adnoddau drafft ac ar y Cynlluniau Cyflawni 2023/24 – 2026/27.
21/23 Datganiad Llywodraethu Blynyddol
Gwahoddir yr Aelodau i gyfrannu i gynnwys Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2022/23 ac i lywio’r datganiad.
22/23 Darparu tocynnau tymor a chodi tâl yn y Meysydd Parcio
Gofynnir i’r Aelodau gytuno ar y datganiad polisi ar gyfer rhedeg meysydd parcio yr Awdurdod lle codir tâl a lle na chodir tâl.
11. Derbyn diweddariad llafar ar y gwaith a gyflawnir i fynd i’r afael â’r Syndrom Dirgryniad Llaw Braich (HAVS) o fewn yr Awdurdod.
12. Derbyn diweddariad llafar ar faterion Traeth Mawr Tydraeth.