Awdurdod y Parc Cenedlaethol 26/10/22
10am, Ystafell Werdd, Swyddfa’r Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro, ac o Bell
1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb
2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes
3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Gorffennaf 2022
4. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda
5. Cyhoeddiadau’r Cadeirydd
6. Derbyn adroddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar 20 Gorffennaf 2022 a’r 7 Medi 2022
7. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Gweithredol a gynhaliwyd ar 29 Mehefin 2022
8. Ystyried adroddiad cyfarfodydd y Pwyllgor Adnoddau Dynol a gynhaliwyd ar 29 Mehefin 2022 a’r 27 Gorffennaf 2022
9. Ystyried adroddiad cyfarfodydd y Pwyllgor Ieuenctid a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf 2022 a 11 Hydref 2022
10. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Archwilio ac Adolygu Gwasanaethau Corfforaethol a gynhaliwyd ar 13 Gorffennaf 2022
11. Ystyried adroddiad cyfarfodydd y Panel Recriwtio ar gyfer Cyfarwyddwr a gynhaliwyd ar 27 Gorffennaf 2022 a’r 8 Awst 2022
12. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Cronfa Datblygu Cynaliadwy a gynhaliwyd ar 5 Hydfref 2022
13. Ystyried yr adroddiadau canlynol:
29/22 – Adroddiad Blynyddol ar Gyflawni Amcanion Llesiant 2021/22
Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu’r cynnydd yn erbyn y rhaglen waith a gynigiwyd yng Nghynllun Corfforaethol ac Adnoddau’r Awdurdod am y flwyddyn 2021/22
30/22 – Adroddiad Monitro Blynyddol 2022 ar Gynllun Datblygu Lleol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2
Gofynnir am gymeradwyo’r Adroddiad Monitro Blynyddol (a’r atodiadau) i’w cyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn yr 31ain o Hydref 2022
31/22 – Cynllun Datblygu Lleol 2: Yr Ymgynghori ar y Canllawiau Cynllunio Atodol
Mae’r adroddiad hwn yn gofyn i’r Aelodau ystyried yr ymatebion a dderbyniwyd ar yr ymgynghori a gynhaliwyd ar y Canllawiau Cynllunio Atodol drafft. Gofynnir i’r Aelodau fabwysiadu’r dogfennau Canllawiau Cynllunio Atodol newydd ac a ddiweddarwyd yn amodol ar y newidiadau a gynigir mewn ymateb i’r ymatebion a dderbyniwyd i’r ymgynghori.
32/22 – Cynllun Datblygu Lleol 2 Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro – Canllawiau Cynllunio Atodol
Mae’r adroddiad yn gofyn am gymeradwyo’r ddwy ddogfen ar ganllawiau cynllunio atodol ar gyfer ymgynghori.
33/22 – Cyllid Cyfleusterau Cyhoeddus
Mae’r adroddiad yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ar y trafodaethau gyda Chyngor Sir Penfro ar eu cais am gyllid i gynorthwyo’r gwaith o reoli’r cyfleusterau cyhoeddus, ac yn ceisio barn yr Aelodau ar y camau nesaf.
34/22 – Cod Llywodraethu Corfforaethol
Mae’r adroddiad hwn yn gofyn am gymeradwyo Cod Llywodraethu Corfforaethol diwygiedig yr Awdurdod
35/22 – Adroddiad Blynyddol Drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2023/24
Mae’r adroddiad yn cyflwyno gwybodaeth i’r Aelodau ar Adroddiad Blynyddol drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar y lefel o gyflogau Aelodau a gynigir ar gyfer 2023/24, ac yn gofyn am eu barn ar hynny.
36/22 – Strategaeth y Gymraeg
Sefydlu Gweithgor Aelodau/Swyddogion i lunio drafft o ail Strategaeth y Gymraeg i’r Awdurdod
37/22 – Y Pwyllgor Safonau: Ailbenodi Aelod Annibynnol
Diben yr adroddiad yw cadarnhau ailbenodiad Mr John Daniels yn Aelod Annibynnol o Bwyllgor Safonau’r Awdurdod.
38/22 – Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Cronfa Datblygu Cynaliadwy
Mae’r adroddiad yn ceisio cytundeb ar gylch gorchwyl a ddiweddarwyd y Pwyllgor Cronfa Datblygu Cynaliadwy.
14. Penderfynu eithrio’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem canlynol oherwydd ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i ddiffinir ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972
15. Ystyried yr adroddiadau canlynol:
39/22 – Bythynnod Sgowtiaid Sain Ffraid a’r Ardd Furiog
Mae’r adroddiad yn cyflwyno gwybodaeth i’r Aelodau ynglŷn â’r camau ymlaen yn ystod y cyfnod ers i’r Sgowtiaid adnewyddu eu prydles alwedigaethol yn 2018 hyd at ac yn cynnwys y presennol
40/22 – Adolygu Rheoli Hamdden ar Draeth Trefdraeth
Mae’r adroddiad yn cyflwyno achos cychwynnol i’r Aelodau sy’n amlinellu’r dulliau hanesyddol o reoli Traeth Trefdraeth a’r heriau a wynebir heddiw